diff options
Diffstat (limited to '14547.txt')
| -rw-r--r-- | 14547.txt | 4180 |
1 files changed, 4180 insertions, 0 deletions
diff --git a/14547.txt b/14547.txt new file mode 100644 index 0000000..ee0cf7f --- /dev/null +++ b/14547.txt @@ -0,0 +1,4180 @@ +The Project Gutenberg eBook, Gwaith Mynyddog. Cyfrol II, by Mynyddog, +Edited by Owen M. Edwards + + +This eBook is for the use of anyone anywhere at no cost and with +almost no restrictions whatsoever. You may copy it, give it away or +re-use it under the terms of the Project Gutenberg License included +with this eBook or online at www.gutenberg.org + + + + + +Title: Gwaith Mynyddog. Cyfrol II + +Author: Mynyddog + +Release Date: December 31, 2004 [eBook #14547] + +Language: Welsh + +Character set encoding: ISO-646-US (US-ASCII) + + +***START OF THE PROJECT GUTENBERG EBOOK GWAITH MYNYDDOG. CYFROL II*** + + + + + +Transcribed from the 1915 Ab Owen edition by David Price, email +ccx074@coventry.ac.uk + + + + + +GWAITH MYNYDDOG. CYFROL II. + + +[Picture of Mynyddog: myn0.jpg] + + + + +RHAGAIR. + + +Ail gyfrol yw hon o'r caneuon ganai Mynyddog heb feddwl eu cyhoeddi +hwyrach. Canodd hwy fel y can aderyn. Y maent yn aros yng nghof pawb +a'u clywodd, er hynny. Ac oni ddylai pobl ieuainc na chlywsant Fynyddog +eu cael? Oni ddylent redeg drwy fywyd ein cenedl fel y rhed aber y +mynydd trwy'n cymoedd? + +Oherwydd, yn un peth, y maent yn ganeuon cyfeillgarwch a chymdeithas +fwyn. Y mae i gwmniaeth, yn gystal ag unigedd, ei le ym mywyd ein +henaid. O'r aelwyd i'r Eisteddfod hoffai Mynyddog ei bobl,-- + + "Rwy'n caru hen wlad fy nhadau + Gyda'i thelyn, ei henglyn, a'i hwyl, + Rwy'n caru cael bechgyn y bryniau + Gyda than yn y gan yn eu gwyl." + +Cadwant, hefyd, naturioldeb ieuenctid gyda doethineb profiad. Dyna nerth +Mynyddog. + +Y mae gwythien o synwyr cyffredin cryf yn rhedeg trwy ei holl ganeuon. Y +mae hon yn rhoi gwerth arhosol ar y gan ysgafnaf fedd. Hyd yn oed wrth +ddarlunio carwriaeth rhydd ergyd na roddodd yr un pulpud ei grymusach. + +Y mae'r synwyr cyffredin hwn yn gwneud ei hynawsedd mor ddoeth, ei +ddigrifwch mor naturiol, ei bartiaeth mor henffel, fel y tybiwn ei fod yn +codi uwchlaw ymrysonau ei ddydd, ac yn aros gyda'i genedl, gan dyfu gyda +hi. A hawdd i genedl hoffus ddarllen ei meddwl i ganeuon Mynyddog, fel y +derllyn tad ei feddyliau dyfnaf i afiaith parablus ei blentyn. + +Nid direidi a mwyniant yn unig sydd yng nghan Mynyddog. Y mae islais o +brudd-der ynddi, oherwydd fod hynny yn y natur ddynol hefyd. + +Y mae ei wladgarwch, hefyd, yn ddoeth ac yn angerddol ar yr un pryd. +Carodd fynyddoedd a nentydd ei wlad heb eu hysbrydoli fel Islwyn, carodd +hwynt er eu mwyn eu hunain. + +Ac uwchlaw popeth, canodd mor glir oherwydd ei fod mor anhunanol. Canodd, +nid gan feddwl am dano ei hun, ei gelfyddyd a'i ddelfrydau, ei uchelgais +a'i anfarwoldeb, ond am y bobl yr oedd yn canu iddynt. Angylion +gwasanaethgar iddo ef oedd ffurf ac athroniaeth. Ac nid oes yng Nghymru +heddyw fardd a'i arddull mor gain, a'i feddwl mor ddwfn, na wna les iddo +efrydu symlder Mynyddog, ac achos y symlder hwnnw. + +OWEN M. EDWARDS. + +Llanuwchllyn. + + + + +DARLUNIAU. + + +Y mae y darluniau oll, ond y darlun o of Dinas Mawddwy, o waith y +diweddar John Thomas, Cambrian Gallery, Liverpool. + +MYNYDDOG + +PEN Y MYNYDD + + "O dewch tua'r moelydd, + Lle mae grug y mynydd +Yn gwenu yn ei ddillad newydd grai." + +Y MELINYDD. + +"'Rwy'n caru swn yr olwyn ddwr + A droir gan ffrwd y nant." + +MYNWENT EGLWYS LLANBRYNMAIR. + +Y GOF. + +"Yng nghanol haearn, mwg, a than, + Mae'r gof yn gwneud ei waith, +Ar hyd y dydd, gan ganu can + O fawl i'w wlad a'i iaith." + +AWEL Y BORE. + +"A charu 'r wyf yr awel wynt + A hed dros Gymru gu." + +HEN GAPEL LLANBRYNMAIR. + +"Bydd llygaid engyl gyda llygaid mam +Draw'n gwylio dros dy hun rhag it' gael cam." + + + + +MYNYDDOG. + + +[Pen y Mynydd. "Ac yma nid oes dim a ddaw +Cydrhwng y dyn a Duw.": myn8.jpg] + + + +HEN ADGOFION. + + +O na chawn fynd yn ol ar hynt + Drwy'r adeg ddedwydd, iach, +I brofi y breuddwydion gynt + Pan oeddwn blentyn bach; +Cawn syllu eilwaith oriau hir + Ar flodau gwanwyn oes, +Ac ail fwynhau ei awyr glir + Heb gwmwl du na loes. + +O na chawn dreulio eto'n llawn + Yr adeg lon, ddi-gur, +Pan gylch fy llwybrau fore a nawn + 'Roedd blodau cariad pur; +Nid yw ond megis ddoe o'r bron + Im gofio ienctid ffol; +Ond dyma sydd yn rhwygo 'mron, + Ddaw'r adeg byth yn ol. + + + +CHWI FEIBION DEWRION. + + +(Geiriau i'r "Marseillaise.") + +Chwi feibion dewrion gwlad y bryniau, + Clywch, clywch yr udgorn croch o draw, +Llywelyn sydd yn chwifio'i ddreigiau + A'i gleddyf gloew yn ei law; +Mae dagrau baban gwan a'r weddw + Yn gwaeddi'n uwch na chorn y gad, + Fod rhyddid hoff ein hanwyl wlad +O dan ei chlwyf ymron a marw; + Ymlaen! ymlaen i'r gad, + Dadweinied pawb ei gledd, + Ni awn, ni awn dros freiniau'n gwlad + I ryddid neu i'r bedd! + +Ystormydd rhyfel sy'n ymruo, + Yr holl awyrgylch sydd yn ddu, +Mae cledd dialedd wedi deffro, + Gwae, gwae i'r holl elynol lu; +Ni allwn edrych ar gelanedd + Estroniaid yn arteithio'n gwlad, + Gan ddwyn aneddau'n mam a'n tad +A gwneud ein gwlad i gyd yn garnedd; + Ymlaen! + +Deffroed ysbryd hyf ein teidiau + I danio mynwes ddewr pob dyn, +Mae'r ddraig yn edrych lawr o'r bryniau + Gan ddisgwyl gweled Cymru'n un; +Bu'n gwlad am oesau'n araf waedu, + Ond sych dy ddagrau, Walia Wen, + Mae seren gobaith uwch dy ben, +Daeth cledd Llywelyn i'th waredu. + Ymlaen! + + + +CYMRU, GWLAD Y GAN. + + +Pa beth sy'n Nghymru, gwlad y gan,-- +Ai diliau glwys, ai dolydd glan, +Ai gwastad diroedd heb eu hail, +Yn dwyn eu blodau teg a'u dail? +Na, na, nid dyna'r harddwch sydd +Yn teg addurno Gwalia rydd. + +Pa beth sy'n Nghymru, gwlad y gan? +Rhaeadrau gwyllt a nentydd glan, +Clogwyni serth a chreigiau ban, +A harddwch. Eden ym mhob man! +Ac O! mae yno fwthyn cu +Sy'n werth palasau'r byd i mi. + +Mae tyrrau cestyll Gwalia Wen +Yn pwyntio i fyny tua'r nen, +Gan ddweyd mai anfarwoldeb sydd +Yn eiddo dewrion Cymru rydd; +O boed i mi gael byw yn hon, +A beddrod yn ei thyner fron. + +Mae adsain bloedd y dewrion fu, +Heb farw rhwng ein bryniau cu, +Ac ysbryd ym mhob awel wynt +Yn adrodd hanes Cymru gynt; +O boed i mi gael byw yn hon, +A beddrod yn ei thyner fron. + + + +SIOM SERCH. + + +Daeth ef i geisio denu'r ferch, + A phlannu'i galon yn ei bron; +Cyn iddi ddysgu pwyso serch, + Fe ddysgodd garu'r llencyn llon; +Aeth ef a'r lili dyner, wen, + Oedd ar ei bron, angyles ne, +A phlannai'n ol ar galon Gwen + Hardd rosyn cariad yn ei lle. + +Rhodd iddo'r cyfan feddai'n awr, + Ei geiriau mel a'i gwenau drud, +Rhodd iddo hefyd galon fawr + Yn llawn o gariad byw i gyd; +Cydwylai hi fel gwlith y nef + Pan wylai ef o dan ryw gur, +A chwarddai pan y chwarddai ef, + A'r cyfan er mwyn cariad pur. + +Ond oerodd bron y llanc cyn hir, + Ac ymaith aeth gan adael hon, +Heb feddwl fawr fel treiddiai cur + Fel saeth i lawr i'w gwaedlyd fron; +Diangai gobaith teg ei wawr + 'Run fath a'r lili oddiar y ferch, +Gan adael iddi hi yn awr + Wywedig ros twyllodrus serch. + + + +TARO YR HOEL AR EI PHEN. + + +Mae ambell i saer gyda'i forthwyl + Yn taro yr hoelen yn gam, +Ac ambell i un sydd mor drwsgwl + A phe bai'n rhoi'r morthwyl i'w fam; +Ond hyn sydd yn iawn a dymunol, + Pan godi dy forthwyl i'r nen, +Gofala wrth daro, 'n wastadol, + I daro yr hoel ar ei phen. + +Mae llawer areithiwr go ddoniol, + 'Nol dodi y testyn i lawr, +Yn dwedyd pob peth amgylchiadol, + Heb son am ei destyn am awr; +Siarada mor ddiflas a phlentyn, + A thry wyn ei lygaid i'r nen, +Paham nad ai'r dyn at ei destyn, + A tharo yr hoel ar ei phen? + +Aeth bardd i wneud pryddest anghomon, + A'r testyn oedd ci Ty'n y March, +Dechreuodd yng nghwymp yr angylion, + A'r cwn aeth at Noah i'r arch; +'Rol canu pum mil o linellau, + Gwnaeth bennill i'r ci yn y pen; +Paham na bae beirdd y pryddestau + Yn taro yr hoel ar ei phen? + +Aeth llencyn am dro gyda'i gariad, + A soniai mor braf oedd yr hin, +A'i bod hi mor bethma yn wastad + Os na fyddai'r tywydd yn flin; +Pam na fuasai'r llelo anghelfydd + Yn gofyn addewid gan Gwen, +A siarad am fodrwy lle'r tywydd, + A tharo yr hoel ar ei phen? + +Ebrill 19, '75. + + + +CYMRU FU, A CHYMRU FYDD. + + +"I'r gad!" "I'r gad!" ddaw gyda'r gwynt +O faesydd gwaedlyd Cymru gynt, +I'r gad i gyd, i'r gad ar goedd, +Ar creigiau'n clecian gan y floedd; +Er treiglo am fil o oesau chwith, +Mae'r floedd "I'r gad" heb farw byth; +Mae fel yn adsain nos a dydd, +Mai "Cymru fu a Chymru fydd." + +Ar faesydd gwaedlyd Cymru fu +Fe dyfa blodau cariad cu; +"I'r gad" yn awr heb saeth na chledd, +"I'r gad" dan faner glaerwen hedd; +Mae'r cleddyf dur mewn hun di-fraw, +Ac arfau rhinwedd ar bob llaw; +Pelydra heulwen hanner dydd +Ar Gymru fu a Chymru fydd. + + + +PERTHYNASAU'R WRAIG. + + +Mi wnes beth unwaith yn fy oes + Na wnaf mo hono mwy, +Priodais gyda geneth lan, + Y lanaf yn y plwy; +Mi wyddwn eisoes fod gan hon + Berthnasau yn y byd, +Ond chydig a feddyliais am + Briodi'r rhain i gyd; + Dyna'i hewyrth, dyna'i modryb, &c., &c. + +Pan b'wyf yn gofyn i ryw ffrynd + I droi i mewn i'r ty, +I gael ymgom am hanner awr + O hanes dyddiau fu, +Cyn dechreu siarad gylch y tan, + Na phrofi unrhyw saig, +Fe gymer imi hanner awr + I introdiwsio'r wraig. + Dyna'i hewyrth, &c. + +Mi eis i'r dref yn fore ddoe + Yng nghwmni Sion y Graig, +A dyma'm hunig neges i + Oedd prynnu watch i'r wraig; +Pan rois yr oriawr yn ei llaw, + Dywedai 'mhen rhyw hyd,-- +"A brynsoch chwi ddim pob 'i watch + I'm perthynasau i gyd?" + Prynnu watch i'r lot i gyd? + +Wrth weld fod pethau'n troi fel hyn, + Dechreuais fynd o 'ngho', +A dywedais yn fy natur ddrwg + Na wnai hi byth mo'r tro; +Dechreuai 'i thafod hithau fynd + I drin a hel o hyd, +Ac nid yn unig hi ei hun, + Ond unai'r lleill i gyd. + "Peidiwch byth rhoi y goreu iddo," meddai ei thad, &c., &c. + +Medi 13, '75. + + + +GORNANT FECHAN. + + +(Goethe). + +Gornant fechan, loew, dlos, +Treiglo'r wyt y dydd a'r nos; +Beth yw'th neges? Beth yw'th nod? +I ble yn mynd?--O ble yn dod? + +"'Rwy'n dod dros greigiau erchyll draw, +'Rwy'n gadael dolydd ar bob llaw, +Gan dynnu darlun ar fy mron +O'r cwmwl gwyn a'r nefoedd lon. + +"Yn llawn plentynaidd ffydd 'rwy'n mynd, +Ond i ba le, nis gwn, fy ffrynd; +Yr Hwn rodd fod i'm dafnau llaith +Yw'r Hwn a'm harwain hyd fy nhaith. + +Mai 18, 1877. + + + +Y DERYN YSGAFNAF YN UCHAF. + + +Mae ambell aderyn lled fychan, + Mae ambell aderyn lled fawr, +Mae rhai yn ehedeg yn uchel, + Ac ereill yn ymyl y llawr; +Ceir rhai ddigon ysgafn i hedeg + I ymyl y lleuad mor llon, +A'r lleill sydd yn llawer rhy drymion + I hedeg 'run dwylath o'r bron; +Ond dyma'r gwirionedd yn hanes y byd, +Mai'r deryn ysgafnaf yw'r uchaf o hyd. + +Os gwelwch ysgogyn go wyntog + Yn chwyddo'n anferthol o fawr, +O'r braidd y mae gan ei ysgafnder + Yn cyffwrdd ei draed yn y llawr; +'Does ryfedd ei fod yn ymgodi + I fyny fel pluen i'r nen, +'Does ganddo ddim pwysau'n ei boced, + Na gronyn o bwysau'n ei ben. +Ond dyma'r gwirionedd, &c. + +Ceir ambell i eneth benchwiban + Yn gwerthu gwyleidd-dra a moes, +Ysgafnder yw nodwedd ei meddwl, + Ysgafnder yw nodwedd ei hoes; +Nid rhaid iddi bluo ei bonnet, + Na llenwi ei gwallt gyda charth, +Mae digon o bluf yn ei henaid + I'w chario i amharch a gwarth. +Ond dyma'r gwirionedd, &c. + +Edrychwch i'r ffair ac i'r farchnad, + Ysgafnder sydd yno'n mhob man, +Ynghanol brefiadau y lloiau + Mae'n codi yr uchaf i'r lan; +Mae Satan yn pluo adenydd + Rhai dynion i'w codi am awr; +Ond cofiwch mai eu codi mae Satan + Er mwyn cael eu taro i lawr. +Ond dyma'r gwirionedd, &c. + +Medi 24, '75. + + + +PURDEB. + + +(Arddull T. Carew). + +Y sawl a fynn y rudd sydd goch + A gwefus gwrel, llygad du, +Y gwddw gwyn, y rhosawg foch + I gynneu fflam ei gariad cu,-- +Daw amser hen i wywo'r gruddiau, +A diffydd fflam ei lygad yntau. + +Ond y meddwl tawel, pur, + Gyda ffyddlon dwyfron lan, +Calon gara fel y dur, + Hyn sy'n cynneu bythol dan; +Lle na cheir hyn, peth eithaf annghall +Yw caru llygad, boch, na grudd, nac arall. + + + +DDAW HI DDIM. + + +Yr o'wn i 'n hogyn gwirion gynt, + Yn destyn gwawd y plwy, +Awn gyda phawb yn llon fy hyttt, + Pwy bynnag fyddent hwy; +Ond os ceisia dyn fy nhwyllo'n awr, + 'Rwy'n edrych llawn mor llym, +A rhoddaf daw ar fach a mawr + Wrth ateb,--"Ddaw hi ddim." + +'Rwy'n adwaen ffrynd, a'i arfer yw + Benthyca pres yn ffol; +Ond dyna'r drwg, 'dyw'r llencyn gwiw + Ddim byth yn talu'n ol; +Ryw dridiau'n ol, mi cwrddais ef + Wrth fyned tua'r ffair, +Gofynnodd im' cyn mynd i'r dref + Am fenthyg tri a thair. + Ond os ceisia dyn, &c. + +Fe ddwedodd cyfaill wrthyf fi + Y gwyddai hanes merch, +A wnaethai'r tro i'r dim i mi + I fod yn wrthrych serch; +Gwraig weddw oedd, yn berchen stor + O bopeth, heb ddim plant, +A chanddi arian lond dwy dror, + Ac yn ddim ond hanner cant. + Ond os ceisia dyn, &c. + +Bum i ryw dro ers blwydd neu ddwy, + Ar bwynt priodi un; +Cyn mynd at allor llan y plwy, + Fel hyn gofynnai'r fun,-- +"Mae gennyf fam a phedair chwaer + Sy'n anwyl iawn gen i, +A gaiff y rhain, wrth fegio'n daer, + I gyd fyw gyda ni?" + Ond os ceisia dyn, &c. + + + +AWN, AWN I'R GAD. + + +(Canig gan Gwilym Gwent). + +Awn, awn i'r gad, + Awn, awn yn awr; +Awn dros ein gwlad, + Awn, awn yn awr; +Calon y dewr + Gura yn gynt, +Baner a chledd + Sy'n chwyfio yn y gwynt; +Blaenor y llu + Sy'n arwain i glod, +A geiriau o dan + O'i enau yn dod. + +Seren y goncwest sy'n gwenu fry + Dros ein hanwyl wlad; +Cael tynnu'r cledd sydd wledd i ni. + + + +EISTEDD MEWN BERFA. + + +Tra'r oeddwn yn rhodio un diwrnod, + A'r haul yn tywynnu mor llon, +Mi ddaethum 'nol hir bererindod + I bentref ar ochr y fron; +A gwelwn ryw hogyn segurllyd + Yn eistedd mewn berfa fel dyn, +Gan wneud pob ymdrechion a allai + Ar ferfa i yrru ei hun; +Fel hwnnw yn union mae ambell i ddyn +Yn eistedd mewn berfa i yrru ei hun. + +Os gwelwch chwi grefftwr go gywrain + Yn gadael ei fwyall neu'i ordd, +I sefyll tu allan i'w weithdy + I siarad a phawb ar y ffordd; +Neu holi am weithdai'r gymdogaeth + A hanes y gweithwyr bob un, +Heb feddwl am weithio ei hunan + Y gwaith sy'n ei weithdy ei hun; +Mae hwnnw'n lled debyg bob amser i ddyn +Sy'n eistedd mewn berfa i yrru ei hun. + +Ceir ambell amaethwr dioglyd + Na welwyd erioed arno frys, +Mae'n well ganddo orwedd pythefnos + Na cholli dyferyn o chwys; +Ni chreda mewn cael ei gynhaeaf + Tra'r haul yn tywynnu ar fryn, +Ond creda mewn gadael ei feusydd + I ofal y gweision a'r chwyn; +Mae ffarmwr fel yna bob amser yn ddyn +Sy'n eistedd mewn berfa i yrru ei hun. + +Pan welir masnachydd neu siopwr + Yn gadael eu masnach trwy'r dydd, +I ofal prentisiaid a chlercod, + Nid 'chydig y difrod a fydd; +Ond odid na chlywir yn fuan + Am feili yn dod i roi stop, +A'r writ mae'n ei roi i'r perchennog + Sy'n dweyd, "Aeth yr hwch trwy y siop;" +Mae siopwr fel yna bob amser yn ddyn +Sy'n eistedd mewn berfa i yrru ei hun. + +Mawrth 2, '76. + + + +Y FRWYDR. + + +Clywch, clywch + Y fyddin yn dod i'r gad, +Uwch, uwch + Y cenir i gledd ein gwlad; +Calon a chleddyf i gyd yn ddur, + Rhyddid yn rhoi + Gelynion i ffoi +O flaen ein gwyr. + +Clywch y tabwrdd yn awr + Yn adseinio sydd, +Clywch floedd fychan a mawr + Wedi cael y dydd; +Mae gwawr eto'n dod yn y dwyrain dir, + Daw haul ar ein gwlad + Mewn hwyl a mwynhad, +Cawn heddwch cyn hir. + + + +ENWAU. + + +Mi ganaf gan mewn cywair llon, + Os gwrendy pawb yr un, +Rhyw gan ar enwau ydyw hon, + Ond heb gael enw ei hun; +Mae rhai'n rhoi enwau mawrion, hir, + Ar hogiau bychain, man, +Ond dyma'r enwau sy'n mhob sir + Trwy Gymru yw Sion a Sian,-- + Sian Jones, &c. + +Mae'r Sais yn chwerthin am ein pen + Fod Taffy i'r back bones, +Am alw plant hen Gymru wen + Yn John a Jenny Jones; +Mae Smith a Brown a John a Jane + Yn Lloegr bron mor llawn, +Ac O! mae enwau'r Saeson glan + Ag ystyr ryfedd iawn. + +'Roedd Mr. Woodside gynt yn byw + Yn High Street Number Ten, +Cyfieithwch hynny i'r Gymraeg + Mae'n Meistar Ochor Pren; +'Roedd Squiar Woodall gynt yn byw + Ym mhalas Glan y Rhyd, +Os trowch chwi hynny i'r Gymraeg, + Mae'n Sgwiar Pren i Gyd. + +'Dwy'n hoffi dim o'r arfer hon + A geir yng Nghymru iach, +Rhoi'r taid yn Sion a'r tad yn John, + A'r wyr yn Johnny bach; +A galw mam y wraig yn Sian, + A'r wraig yn Jeanny ni, +A galw'r wyres fechan, lan, + Yn Jeanny No. 3. + Sian Jones, &c. + +Chwef 10, '74. + + + +YR HEULWEN. + + +(Y Gerddoriaeth gan D. Emlyn Evans). + +Daw yr heulwen a'i gusanau, + Iechyd chwardda yn y gwynt, +Cymyl sydd fel heirdd lumanau + Bron a sefyll ar eu hynt; +Gawn ni fynd a'r haf o'r gweunydd, + Dwyn cusanau'r haul yn llu, +Ar ein bochau gwridog beunydd, + I addurno cartref cu? + +Dringwn fry i gartre'r hedydd, + Chwarddwn, neidiwn megis plant, +Lle mae'r cwmwl yn cael bedydd + Yng ngrisialaidd ddwfr y nant; +Canwn gerddi a dyriau, + Casglwn flodau gwyllt y wlad, +Ac mi gadwn y pwysiau + Harddaf oll i'n mam a'n tad. + + + +FFUGENWAU. + + +Ceir llawer i glefyd ar hyd ein hen wlad, +Rhai'n berygl ryfeddol a hir eu parhad; +Mae clefyd Eisteddfod yn dod yn ei dro, +A chlefyd excursions a chanu Soh, Doh; +Ond clefyd ffugenwau yw'r gwaethaf a gaed, +Mae'n drymach na chlefyd y genau a'r traed. + +Mae Eos y Weirglodd ac Eos y Bryn, +Ac Eos yr Afon, ac Eos y Llyn, +A llewod ac arthod, eryrod a brain, +Ac ambell i fwnci ynghanol y rhain. + +Os digwydd i hogyn wneud pennill o gan, +A'i anfon i'r print ac oddiyno i'r tan, +Dechreua droi gwyn ei ddau lygad i'r nen, +A'i fam yn ochneidio dan ysgwyd ei phen; +Rhaid ei gipio i'r orsedd pe bai yn ei glocs, +A'i blastro ag enw fel label ar focs. + Mae Eos y Weirglodd, &c. + +Rhaid gwneud dyn yn bencerdd os gwelodd o don, +Mae Pencerdd Sir Benfro a Phencerdd Sir Fon, +Os delir i urddo fel hyn ym mhob sir, +Cawn afael ar Bencerdd Caergwydion cyn hir; +'Rwy'n cynnyg cael urddo hen geiliog fy nhad, +A'i alw yn bencerdd ceiliogod y wlad. + Mae Eos y Weirglodd, &c. + +Y ffasiwn ddiweddaf a ddaeth fel mae son, +Dweyd enw a ffugenw a'r surname yn y bon, +Dweyd John Arfon Jones a dweyd Rhys Meirion Rhys, +A Lloyd Maldwyn Lloyd, gyda Prys Teifi Prys, +A chyda'r rhai yna daw Morris-- + Llanfairmathafarn eithaf + Rhosllanerchrugog, + Llanrhaiadr Mochnant, + Hugh, +A William Carey Williams a Dafydd-- + Llanfairpwllgwyngyll gogerychwyrndrobwll + Dysilio gogo goch + Pugh. + +Ebrill 29, '76. + + + +FY NGHALON FACH. + + +Fy nghalon fach, paham mae'r wawr + I'w gweld fel hwyr y dydd, +A'r hedydd llon uwchben y llawr, + A'i gan mewn sain mor brudd? +Ateba fy chwyddedig fron,-- +Mae rhywun ffwrdd tudraw i'r donn. + +Fy nghalon lawn, mae'r rhod yn troi, + A'r rhew a'r eira'n dod, +Er hyn mae gwg y gaea'n ffoi + Er oered yw yr od; +Mae'r gwynt yn sibrwd dros y ddol +Fod rhywun hoff yn dod yn ol. + + + +TYSTEBAU. + + +Fu 'rioed y fath oes yn yr oesau, + A'r oes 'rydym ynddi yn byw, +Fe'i gelwir yn oes y peiriannau, + Ac oes rhoddi'r mellt dan y sgriw; +Mae'n oes i roi tanllyd gerbydau + I chwiban dan fynydd a bryn, +'Rwy'n meddwl mai oes y tystebau + Y dylid ei galw er hyn. + +Os bydd dyn yn myned o'i ardal, + Rhaid rhoi iddo dysteb lled fawr, +Neu'n aros,--rhaid gwneud un llawn cystal + I rwymo ei draed wrth y llawr; +Rhoir tysteb am waith ac am ddiogi, + Rhoir tysteb i'r du ac i'r gwyn, +Ceir tysteb am gysgu'n y gwely, + Os pery tystebau fel hyn. + +Gwneud tysteb o nod genedlaethol + A wneir i bob crwtyn yn awr, +Argreffir colofnau i'w ganmol, + A'i godi'n anferthol o fawr; +Mae'r gair cenedlaethol yn barod,-- + A helpo y genedl, a'r gair, +Er mwyn cael cyfodi corachod + A llenwi eu llogell ag aur. + +Mae mul yn hen felin Llanodol, + 'Rwy'n cynnyg cael tysteb i hwn, +A honno'n un wir genedlaethol, + Am gario ar ei gefn lawer pwn; +Paham na chai dysteb ragorol + I'w rwystro am byth gadw nad? +Mae'r mul yn hen ful cenedlaethol, + A haedda ei weld gan y wlad. + +Mae'n cario yr yd mor ddigyffro + Dros fynydd, a dyffryn, a dol, +Ac wedyn caiff eisin i'w ginio + I aros i'r blawd fynd yn ol; +Rhag c'wilydd i genedl y Cymry + Am fod eu syniadau mor gul, +Fe ddylid gwneud ymdrech o ddifri + I gychwyn y dysteb i'r mul. + +Mae'i glustiau'n mynd lawr dros ei lygaid, + O! clywch ef yn codi ei gri, +Mae'n g'wilydd fod tad y ffyddloniaid + Heb dysteb pryd hyn ddyliwn i; +Oferedd im' fyddai ei ganmol, + Mae gweithio i'w wlad bron a'i ladd, +Rhowch dysteb i'r mul cenedlaethol,-- + Nid ef fydd y cyntaf a'i ca'dd. + +Ebrill 29, '76. + + + +RHOWCH BROC I'R TAN. + + +Ar ol bod trwy'r dydd yn llafurio + A'r morthwyl, y trosol, neu'r rhaw, +A dioddef eich gwlychu a'ch curo + Gan genllysg a gwyntoedd a gwlaw; +'Rol cyrraedd eich bwthyn eich hunan, + Mor ddifyr fydd cau'r drws yn hy, +A'r oerfel a'r t'w'llwch tu allan, + A'r cariad a'r tan yn y ty; + Rhowch broc i'r tan, + A chanwch gan, + I gadw cwerylon o'r aelwyd lan. + +Pan fyddo y gwr wedi monni, + A'i weflau'n lled lipa i lawr, +A'i lygaid gan dan yn gwreichioni, + A'i drwyn braidd yn hir ac yn fawr; +Edryched y gwragedd dan wenu, + A pheidiwch dweyd gair wrtho fe, +Daw amser a'r gwr at ei ganu, + A'r gweflau a'r llygaid i'w lle. + Rhowch, &c. + +Os bydd rhai o'r gwragedd ar brydiau + Yn edrych yn sarrug a sur, +A'u llygaid fel cwmwl taranau + Yn lluchio y mellt at y gwyr; +Mae cariad yn well yn y diwedd + Ar ol bod mewn helbul ei hun, +'Dyw'r mellt sydd yn llygaid y gwragedd + Erioed wedi lladd yr un dyn. + Rhowch, &c. + +Pan fyddo yr aelwyd yn oeri, + A'r anwyd yn dyfod i'r gwaed, +Pan fyddo y trwyn wedi rhewi, + A'r winrhew ar fysedd y traed, +Pan fo Catherine Anne wedi briwo, + A Dafydd y gwas ddim yn iach, +A'r babi yn nadu a chrio, + A'r gath wedi crafu John bach, + Rhowch, &c. + +Ion. 3, '73. + + + +MI SAETHAIS GAN. + + +(O Longfellow). + +Mi saethais gan i fyny i'r ne', +A disgyn wnaeth nas gwyddwn ple, +Can's ni fu 'rioed un llygad llym +All ddilyn saeth ar hediad chwim. + +Anadlais gan i wynt y ne', +Aeth gyda'r gwynt nas gwyddwn ple, +Oblegid nid oes llygad glan +All ddilyn llwybrau adlais can. + +'Mhen blwyddau hir mewn calon pren +Y saeth a gefais ar ei phen, +A'r gan a gefais wedi mynd +A glynu i gyd mewn calon ffrynd. + + + +WELWCH CHWI FI? + + +Mi glywsoch y testyn a welwch chwi V, +A chan arno hefyd cyn clywed f'un i; +Os ydyw y pwnc yn un diflas a thrist, +Rhoed pawb sy'n diflasu ei fys yn ei glust; +Os na fydd y gan o un diben i chwi, +Trowch yma a sylwch a welwch chwi V. + A welwch, &c. + +Mae ambell i sgogyn yn tramwy trwy'r fro, +A balchder a hunan yn byw arno fo, +Mae starch yn ei gefn, a rhew yn ei warr, +A chuddia ei hunan yn mwg ei sigar; +Ysgydwa'i ffon geiniog wrth gerdded mewn bri, +A thala am fwg i ddweyd welwch chwi V. + A welwch chwi V, +Uchelgais ei fywyd yw "Welwch chwi fi?" + +Mae hithau'r ferch ieuanc yn gwneud gwallt ei phen +Fel math o ryw golofn fry fry yn y nen, +A het ar ben hynny, a rhosyn ar hon, +A phluen ar hynny i fyny fel ffon; +Prin gwelir y top heb gael telescop cry', +Ond gwelir mai'r diben yw "Welwch chwi fi?" + A welwch chwi fi? +Arwyddair y ffasiwn yw "Welwch chwi fi?" + +"A welwch chwi fi?" meddai llawer gwr mawr, +"A welwch chwi finnau?" medd y bychan ar lawr; +Mae hynny yn dangos yn amlwg, wrth gwrs, +Mai nid yn y dillad ac nid yn y pwrs +Mae gwreiddyn y drwg am gael dringo i fri, +Ond calon y dyn sy'n dweyd "Welwch chwi V?" + A welwch chwi V? +Y galon yw cartref y "Welwch chwi V," +Gocheled y galon rhag "Welwch chwi V." + +Awst 24, '72. + + + +"WILLIAM." + + +" * * * Her lover died, and she wept a song over his grave." + +Ddoi di yn ol ataf, William, William, + Gyda'r sirioldeb oedd gynt gennyt ti? +Mi fyddwn am byth iti'n berffaith ffyddlon, + William, William,--anwyl i mi. + +Byth ni ro'wn air i dy ddigio, William, + Gwenwn fel angel o'r nef arnat ti; +Fel yr oe't ti pan yn gwenu yn hawddgar, + William, William,--anwyl i mi. + +Cofio yr wyf am y dyddiau hynny, + Cyn dy gymeryd i'r nefoedd fry; +A wyddost ti 'nawr fel 'rwyf fi'n dy garu? + William, William,--anwyl i mi. + +Nid oeddwn yn deilwng o honot, William, + Oer oedd fy nghalon yn ymyl d'un di; +Ond wedi dy golli, mae'r byd fel cysgod, + William, William,--anwyl i mi. + +Estyn dy law i mi, William, William,-- + Dyfera faddeuant fel gwlith oddi fry, +Mae nghalon yn gorwedd ym medd fy William; + William, William,--anwyl i mi. + +[Y Melinydd. "'Roedd hen felinydd llawen iawn yn byw ar fin y nant, +Yn malu yd o fore i nawn i fagu gwraig a phlant.": myn32.jpg] + + + +GEIRIAU LLANW. + + +Mae llawer o hen eiriau llanw + I'w cael ym mhob Llan a phob lle, +Yn debyg i bethma a hwnnw, + Fel tau ac fel tase, yn te, +Yn te meddai'r dyn sydd yn holi, + Fel tase, yn te, meddai'r llall, +Yn ddigon a gwneud dyn i daeru + 'Dyw hanner y byd ddim yn gall. + Fel tau, fel tase, yn te, + Ofnatsen gynddeirus, yn te, + Peth hwnnw yw gweled rhai'n bethma + Fel tase, fel tau, yn te. + +Ym Mon chwi gewch glywed miawn mynyd, + A llawer o siarad a stwr, +A phawb fel pe tae yn dywedyd + Cymraeg o'r "sort oreu reit siwr." +Pan ddeuwch chwi drosodd i Arfon, + Cewch "firi di-wedd" ym mhob lle, +A'r enw roir yno ar feddwon + Yw "chwil ulw beipan" yn te. + Fel tau, &c. + +Os ewch tua Meirion a morol, + Cewch giasag i fynd ar ei thraws, +A ciariad, a ciarag, a cianol, + A ciamu, a ciamfa, a ciaws; +Ac yno fel pobman trwy'r gogledd, + Mae'r pla wedi taenu'n mhob lle, +Yn te ydyw'r dechreu a'r diwedd, + Yn te ydyw'r bethma yn te. + Fel tau, &c. + +Os ewch chwi i lawr tua'r Deheu, + 'Run siwt mae hi obry yn awr, +Mae pawb gan ta pun ar ei oreu + Yn dishgwl yn ffamws i lawr; +Mae pawb yno'n grwt neu yn grotan, + Yn whleia a'u giddil o hyd, +Wy'n sposo taw dyna y bachan + Sy'n cwnni yn awr yn y byd. + Fel tau, &c. + +Chwef., '73. + + + +GWRANDO'N RASOL AR EIN CRI. + + +(EMYN). + +Groesaw'n awr! I Iesu'n brawd, + Ar liniau Mair mewn natur dyn, +Ac ar y groes cymerai'n gwawd + A'n beiau trymion arno'i hun; + Clyw ein gweddi, Geidwad cu, + Gwrando'n rasol ar ein cri. + +Dros bechadur, rhedai'n lli + Waed a dwfr, o'i anwyl fron. +Dyma'r ffynnon! Boed i ni + Olchi'n beiau i ffwrdd yn hon; + Clyw ein gweddi, Geidwad cu, + Gwrando'n rasol ar ein cri. + + + +Y MEDLEY CYMRAEG. + + +Fel 'roeddwn yn rhodio ar doriad y wawrddydd, + Pan ganai yr adar yn felus a llon, +Pan dyfai'r blodionos ar gloddiau y dolydd, + A'r gwlith ar eu gruddiau o amgylch Llwyn Onn, +'Roedd geneth yn godro yn ddifyr tan ganu, + A nesais i weled pwy ydoedd y ferch, +A gwelwn + +Ferch Megan ei hun + Mor iached a'r rhosyn, +A'i llygaid yn dan o fywyd a serch; + 'Roedd adar y llwyn +Yn tewi i wrando +Er clywed y gan a ganai fel + +Hen ferch yn gwau ei hosan, + Ar hyd y nos, +A'i gweill bach glic glic yn clecian + Ar hyd y nos, +Canai'r gath ar ben y pentan, +Canai hithau ganig ddiddan, +Tra y canai'r gwynt tu allan + Ar hyd y nos; +Rhedai'i meddwl tra yn canu +At wroldeb yr hen Gymry + +Pan oedd gwaedlyd y gyflafan, +Gan wyr Harlech ruthrent allan +Nes adseiniai bryniau anian + Floedd y rhain i'r gad; +Benyr grogent ar hen greigiau, +A neuaddoedd y mynyddau +Ail ddywedent y bloeddiadau + Dros ein hanwyl wlad; + Rhuthrent tua'r dyffryn, + Gledd yng nghledd a'r gelyn, +Gwyr mewn gwaedd oedd gylch eu traed + Ynghanol braw a dychryn, +Nes y + +Gelyn giliai ar Nos Galan, + Fa la la, &c., +Ac aeth pawb i'w fwth ei hunan, + Fa la la, &c., +Tynnu diliau tannau'r delyn, + Fa la la, &c., +Wnaent i'w gilydd heb un gelyn, + Fa la la, &c. + +Chwef. 18, '72. + + + +DYCHWELIAD Y MORWR. + + +Trwy'r tonnau y llong ddaw yn nes i'r lan-- +Dacw y foel a dacw y fan; +'Rwy'n gweld y pant a'r gornant gu, +'Rwy'n gweld y coed, 'rwy'n gweld y ty; +Mae adlais anwyliaid yn dod i'r llong, +A swn hen gloch y llan, ding dong. + + + +DYSGWCH DDWEYD "NA." + + + Fe ddysgir dweyd llawer o eiriau + Na ddylid dim dysgu eu dweyd, + Ac hefyd anghofir rhai geiriau + Y dylid eu dysgu a'u gwneud; + Beth bynnag a ddysgwch wrth ddysgu yr iaith, + Beth bynnag a gofiwch drwy droion y daith, + Faint bynnag o eiriau a ddysgwch yn dda, + Gofalwch bob amser am ddysgu dweyd "Na;" + Dysgwch ddweyd "Na," + 'Does dim sydd mor ddiogel a dysgu dweyd "Na." + + Os gwelwch chwi gwmni afradlon + Yn mynd i oferedd yn ffol, + Gan wawdio rhinweddau'u cymdogion, + A gadael pob moesau ar ol; + Mae trwst y rhai yma wrth gadw eu rhoch + Mor wag a diafael ag adsain y gloch, + 'Ran hynny, mae pennau y clychau a rhain + Yn wag fel eu gilydd, 'blaw tafod bach main; +Ac os daw y giwaid hon rywdro i geisio tynnu rhai o honoch i ddinistr, + Dysgwch ddweyd "Na," &c. + + Os gwelwch chwi eneth brydweddol + Yn gwisgo yn stylish dros ben, + Cyn son am y pwnc priodasol, + Rhowch brawf ar gynhwysiad ei phen, + Os ffeindiwch chwi allan wrth chwilio'r fath yw, + Ei bod hi fel clomen o ran dull o fyw, + A'i llygaid, a'i gwddw, a'i haden, a'i phlu', + Yn loewach o lawer na dim sy'n ei thy, +Ac os bydd rhywun o honoch am roi cynnyg ar Miss, + Dysgwch ddweyd "Na," &c. + + Mae gennyf un gair i'r genethod + Wrth ddechreu eu taith drwy y byd, + Mae llanciau ar brydiau i'w canfod + Heb fod yn lan galon i gyd; + Mae'n bosibl cael gwr fydd a'i galon yn graig, + Mae'n bosibl cael gwr fydd yn gas wrth ei wraig, + Heb gym'ryd yn bwyllus, mae'n bosibl i Gwen + Gael gwr heb na chariad, na phoced, na phen, +A'r cyngor sydd gennyf i'r ladies (hynny yw, os na fyddant, dyweder, +oddiar 35 oed), + Dysgwch ddweyd "Na," &c. + + + +GEIRIAU CYDGAN GYSEGREDIG. + + +Doed holl drigolion daear lawr + I ateb llef y nef yn awr, +Nes byddo tan eu moliant hwy + Yn eirias mwy i'r Iesu mawr. + +Dyma'r un oddefodd bwysau + Holl bechodau dynol ryw, +Ac o'i fodd oddefodd loesau + Miniog gledd dialedd Duw; +Ac a ddrylliodd deyrnas angau + Pan y daeth o'i fedd yn fyw. + + + +OWEN TUDUR. {39} + + +(Cantawd). + +Mae Owen Glyndwr yn ei fedd, + Ar ol tymhestlog ddiwrnod, +A'r gwaed a erys ar ei gledd + I ddweyd ei hanes hynod; +Y rhosyn gwyllt wrth glywed hyn + Ar fedd y gwron hwnnw +Sydd fel rhyw angel yn ei wyn + Yn gwenu dros y marw. + +Dewch, delynorion, cenwch don + Ar ol cael hir orffwyso, +Mae gwr yn byw'n Mhenmynydd Mon + A gyfyd Gymru eto; +Er fod priddellau Cymru wen + Yn feddrod i'w thrigolion, +Hil Cymro glan fydd bia'r pen + Gaiff eto wisgo'r goron. + +Dyma delyn anwyl Cymru, +Dyma fysedd eto i'w chanu, +Er fod gormes bron a llethu + Ysbryd pur y gan; +Byw yw'n hiaith a byw yw'r galon +Gura ym mynwesau'n dewrion, +Mae gan Gymru eto feibion + A'u teimladau'n dan; +Pan fo'r cledd yn deffro, +Ac eisiau llaw i'w chwyfio, + Mae hon i'w chael o oes i oes +Wrth ysgwydd hael pob Cymro. + +Fflamia'i lygad, chwydda'i galon, +Pan y gwel ormesdeyrn creulon, +Cadw'i wlad rhag brad yr estron + Yw ei bennaf nod; +Mae llwch ein hanwyl dadau, +Sy'n nghadw dan garneddau, + Yn dweyd yng nghlust pob Cymro dewr +Am gadw ei iawnderau; +Ac mae'n bryniau uchel beilchion, +A'n hafonydd gwyllt a gloewon, +Yn rhoi awgrym cryf mai rhyddion + Ydym byth i fod. + +Y GENNAD,-- + +At bendefigion Cymru + Sy'n hannu o uchel fon, +Mae gennyf genadwri + O blas Penmynydd Mon; +Cynygiodd Owen Tudur + Ei galon gyda'i law +I Catherine, y frenhines, + Mae hithau'n dweyd y daw. +Os na ddaw rhyw atalfa, + Priodant yn ddioed, +Mae'r ddau mor hoff o'u gilydd + Ag unrhyw ddau fu 'rioed; +Ai tybed bydd 'run Cymro, + Pan ddaw y dydd i ben, +Heb roi hawddamor iddo + Nes crynno'r Wyddfa wen? + +PENDEFIG,-- + +Fel un sy'n teimlo gwaed Cymreig + Yn berwi yn fy mynwes, +'Rwy'n methu'n glir a chael boddhad + Wrth wrando ar yr hanes; +Mae gwaed brenhinol Brython hyf + Yn curo'n mynwes Owen, +A dylid cadw hwn mor bur + Ag awyr Ynys Brydain. + +PENDEFIG ARALL,-- + +Gadewch rhwng cariad a Rhagluniaeth + A phriodi dynol ryw, +Mae gwaed y Sais a gwaed y Cymro + Bron 'run drwch a bron 'run lliw; +Feallai bydd yr uniad yma, + Pan ry'r olwyn dro i ben, +Yn agor ffordd i gerbyd heddwch + Dramwy drwy yr Ynys Wen. + +Gwened blodau gwylltion Cymru + Ar eu modrwy loew dlos, +A boed haul yn gwenu arni, + Gwened lloer a ser y nos; +Gwened Sais a gwened Cymro, + Na foed gwg ar unrhyw ael, +A gwened nef uwch law y cyfan, + Mae gwen o'r nef yn werth ei chael. + +PENDEFIGES,-- + +Heblaw gweniadau'r lleuad wen, +A gwenau'r haul o fynwes nen, +Heblaw gweniadau'r nefoedd fry, +Cant wen rhianedd Cymru gu; +Boed meibion Gwalia ddydd yr wyl +Yn dyrchu banllef lawn o hwyl, +Anadlwn ninnau weddi wan +I glustiau'r nefoedd ar eu rhan; +Pob bryn fo'n dal ei faner wen, +Pob cloch fo'n canu nerth ei phen, +Ni daenwn ninnau flodau fyrdd +A dail byth-wyrddion ar eu ffyrdd. + +CYDGAN,-- + +Mae gwawr yn torri dros sir Fon, + A Chymru'n gwenu arni, +Mae swn llawenydd yn y don, + A diolch yn y weddi; +Mae'r clychau'n effro ym mhob llan + Yn prysur ddweyd y newydd, +A'r awel fach yn gwneud ei rhan + I'w gludo draws y gwledydd. + +Y BARDD,-- + +Methodd Owen Glyndwr rwymo + Teimlad pawb mewn rhwymau hedd, +Megis tonn mewn craig yn taro + Oedd dylanwad min ei gledd; +Ond mae Owen Tudur dirion + Wedi uno'r ynys lon, +Gwnaeth i'r Cymry dewr a'r Saeson + Wenu'n nghylch y fodrwy gron. + +CYDGAN,-- + +Chwyther yr udgorn ar lethrau'r Eryri + Nes bo'r clogwyni'n dafodau i gyd, +Bannau Brycheiniog fo'n llawn o goelcerthi + Er mwyn gwefreiddio y wlad ar ei hyd; +Llonned y delyn bob treflan a phentref, + Heded y cerddi ar ddiwrnod yr wyl, +Ar flaen adenydd alawon y Cymry, + Nes bo pob ardal yn eirias o hwyl. + + Fe gwympodd ein gwrolion + Wrth gadw hawl ein coron, + Rhag iddi fynd o Walia Wen + I harddu pen rhyw estron. + + Mae llef oddiwrth y meirw + Sy'n dweyd yn ddigon croew, + Yn adlais glir ar lan pob bedd, + Na fedrai'r cledd mo'i chadw. + + Deallodd Owen Tudur + Athroniaeth bennaf natur, + Ein coron trwyddo ef a gawn + Heb nemawr iawn o lafur. + +CYDGAN,-- + +Mae modrwy a chariad yn curo y cledd + Heb aberth o fywyd nac eiddo, +Ca'r bwa a'r bicell gyd-huno mewn hedd, + A heddwch ac undeb flodeuo; +Teyrnwialen a choron ein hynys bob pryd + A ddelir gan hil meibion Gwalia, +A chryma teyrnwiail brenhinoedd y byd + Yn ymyl teyrnwialen Britannia. + +Ar ddydd y briodas cenhinen y Cymry + Wisgwyd gan Owen i harddu ei fron, +A rhosyn y Saeson osodwyd i harddu + Bron ei anwylyd edrychai mor llon; +A byth wedi hynny mae'r ddau'n un blodeuglwm, + Mae'r rhos a'r genhinen yn harddu'r un fron; +Bu bysedd dwy genedl yn gosod y cwlwm, + A thyfa y ddau yn y fodrwy fach gron. + +Os hoffech gael gwybod effeithiau'r briodas, + Holwch briddellau maes Bosworth yn awr, +Yno coronwyd dymuniad y deyrnas, + Ac yno y syrthiodd gormesdeyrn i lawr; +Mae adsain y fanllef fuddugol trwy'r oesau + Yn gwibio o glogwyn i glogwyn trwy'n gwlad, +Bydd clod Harri Tudur a dewrder ein tadau + Ar ol y fath ymdrech mewn bythol fawrhad. + +Esgynnwn i'n mynyddau, +A holwn hen garneddau +Sy'n cadw llwch ein tadau + Ar ol blinderus hynt; +Ateba'u llwch o'r beddau +Fod gwaed ar hyd eu llwybrau, +A myrdd o orthrymderau + Yn blino Cymru gynt. + +Ond wedi i'r Tuduriaid +Gael dod yn benaduriaid, +Cyduna'r holl Brydeiniaid + I ufuddhau i'w pen; +Mae aeron per y blodau +Yn tyfu'n meusydd brwydrau, +A heddwch lond calonnau + Hen deulu'r Ynys Wen. + +Ar orsedd bena'r ddaear, + Dan goron hardda'r byd, +Eistedda Buddug hawddgar + Dan wenau'r nef bob pryd; +Mae gwaed brenhinol Owain + Yn llifo trwy'r llaw sydd +Yn dal teyrnwialen Prydain + Uwchben miliynnau rhydd. + +Y fesen a blanwyd ar ddydd y briodas + Dyfodd yn dderwen gadarna'n y byd, +Dau begwn y ddaear yw terfyn y deyrnas, + A chariad yn rhwymo y deiliaid ynghyd; +Gogledd a deau sy'n dangos eu miloedd + O ddeiliaid i orsedd Victoria a dwng,-- +"Mae gan ein Brenhines ddigonedd o diroedd + I'r llew mawr Brytanaidd i ysgwyd ei fwng." + +Na foed adseiniau'n cymoedd + Yn cael eu deffro mwy +I ateb swn rhyfeloedd + Ar hyd eu llethrau hwy; +Tywysog gwlad y bryniau + A ddalio tra bo byw, +Yn noddwr i rinweddau + Dan nodded llaw ei Dduw. + + + +Y DDRAENEN WEN. + + +Eisteddais dan y ddraenen wen + Pan chwarddai bywyd Ebrill cu +Mewn mil o ddail o gylch fy mhen, + A myrdd o friall o bob tu; +Eisteddai William gyda'i Wen, + Ac Ebrill yn ei ruddiau gwiw, +Tra canai'r fwyalch uwch ein pen + Ei chalon yn ei chan i Dduw; +Rhoi William friall ar fy mron, + A modrwy aur yn llaw ei Wen; +Mi gofiaf byth yr adeg hon + Wrth eistedd dan y ddraenen wen. + + + +IFAN FY NGHEFNDER. + + + Dyma godl yn dwbl odli; + 'E wnes y prawf o ran spri. + +Aeth Ifan fy nghefnder yn ysgafn ei droed, + Ryw noson i hebrwng ei Fari; +A phan wrth y gamfa sy'n troi at Ty'n Coed, + Fe daflodd ei fraich am ei gwarr hi. + +Ond cyn iddo prin i gael amser i ddweyd,-- + "Pa bryd caf dy weled di eto?" +Na gwybod yn hollol pa beth oedd o 'n wneud, + Aeth awel o wynt gyda'i het o. + +A phan oedd o 'n rhedeg a dim am ei ben, + I geisio, a ffaelu dal honno, +Fe welai ar ol dod yn ol at ei wen + Fod y ci wedi dianc a'i ffon o. + +Heb hidio rhyw lawer am het nag am ffon, + Siaradai a Mari'n ddi-daro; +Ond cyn iddo ddechreu cynhesu ei fron, + Fe drawodd rhyw stitch yn ei warr o. + +"A ddoi di, f'anwylyd," dywedai yn syn, + "I chwilio am fodrwy'n ddioedi?" +Ac er mwyn rhoi sel ar ddywediad fel hyn, + Fe sangodd y brawd ar ei throed hi. + +"A wnei di roi ateb, O Mari, fy mun?" + A'i gruddiau ddechreusant a chochi; +Ac Ifan nesaodd at Mari fel dyn, + A rhoddodd ddau gus ar ei boch hi. + +Wrth weled rhyw hyfdra fel hyn yn y brawd, + Ni ddarfu'r cusanu ei swyno; +Dywedodd "Nos da" gyda dirmyg a gwawd, + A rhedodd i ffwrdd dan ei drwyn o. + +Aeth Ifan i'r gwely yn sobr a syn, + A dwedai fel dyn wedi monni,-- +"Gwyn fyd na f'ai serch rhyw hogenod fel hyn + Yn cadw am byth o fy mron i." + +Er hynny, tae Mari'n dod heibio ei dy, + Ac Ifan ar ganol breuddwydio; +Mae cariad yn meddu atyniad mor gry', + Ni synwn un blewyn na chwyd hi o. + + + +YR HWN FU FARW AR Y PREN. + + +Yr Hwn fu farw ar y pren + Dros euog ddyn o'i ryfedd ras, +O! agor byrth y nefoedd wen + I'n dwyn uwchlaw gelynion cas. + +Y diolch byth, y clod a'r mawl + Fo i'r anfeidrol Un yn Dri, +Gwna ni yn etifeddion gwawl + Y Ganan nefol gyda Thi. + +[Hen Fynwent Llanbrynmair: myn48.jpg] + + + +CHWEDL Y TORRWR BEDDAU. + + +Roedd y lleuad yn ieuanc, a'r flwyddyn yn hen, +A natur gan oerfel yn colli ei gwen, +Fe rewai'r dwfr fel gweren oer, +Tra prudd edrychai yr ieuanc loer + Cydrhwng canghennau'r coed; +Yng ngolau'r nos, mewn mynwent laith, +'Roedd torrwr beddau wrth ei waith; +Un hen oedd ef, ac wrth ei ffon, +A'i esgyrn oeddynt cyn syched bron + A'r esgyrn dan ei droed. + +Ymgodai'r gwynt,--a'i anadl ef +A fferrai lwynau natur gref, +A'r torrwr beddau yn ddifraw, +Wrth bwyso'n bruddaidd ar ei raw, + Besychai am ryw hyd, +Ryw "beswch mynwent" dwfn a blin; +'Roedd ei groen a'i gob yn rhy deneu i'r him, +Ac yna fe dynnodd ryw botel gron +O'i logell,--ond potel wag oedd hon; + A churai 'i ddaint ynghyd. + +Ond llawen oedd pawb yn yr "Eryr Mawr," +Y dafarn hyna'n y dref yn awr, +Fe chwyrnai'r tegell ar y tan, +A chwyrnai'r gath ar yr aelwyd lan + Tra'n gorwedd ar gefn y ci. +'Roedd mab yr yswain yno mor hyf, +Yr hwn oedd yn llencyn gwridog, cryf, +A gwr Tyddyn Uchaf, ynghyd a'r aer, +A'r gof, a'r teiliwr, a'r crydd, a'r saer, +Cyn dewed a dau o'r rhai tewa'n y wlad + Yn siarad a dau neu dri. + +Y torrwr beddau edrychai'n glau, +A gwelai y goleu, a'r drws heb ei gau, +Ac yntau'n hen wr go lon yn ei ddydd +Yn hoffi pibell, ae yfed fel hydd, + 'Doedd ryfedd fod arno fo flys;-- +"Waeth i mi roi fyny," ebe'r sexton yn syn,-- +"Peth caled yw tirio trwy esgyrn fel hyn, +A ch'letach fyth pan deimlwch chwi'ch hun +Yn taro ynghyd ag asgwrn pen dyn! +Felly 'rwy am fynd i'r 'Eryr Mawr,' +Mae'r gwynt yn ddigon a tharo dyn lawr." + Ac i mewn ag ef ar frys. + +Fe wenai pawb wrth ei weled e' +Y torrwr beddau yn cymeryd ei le +O dan y fantell simnai fawr, +(A chwarddai y tan dan ruo'n awr), +Oblegid 'roedd pawb yn ei garu ef, +O fab yr yswain i'r tlota'n y dref. + +"Wel, dowch a stori," ebe gwr y ty, +"Rhyw chwedl ddifyr am bethau a fu." +'Roedd pawb yn gwybod mai ef oedd tad +Adroddwr chwedlau yr holl wlad. +Fe wyddai am bob yspryd bron +Fu'n tramwy hyd y ddaear hon; +Fe fedrai ddychryn calon wan, +A'i gwneud yn ysgafn yn y fan; +Fe allai gau ac agor clwy', +A medrai ddynwared pawb yn y plwy'. + +"Mae'r torrwr beddau mewn syched braidd, +Rhowch iddo gornied o gwrw brag haidd," + Ebe gwr y ty yn awr; +"Mae stori sych yn ddigon o bla +Os na fydd llymaid o ddiod dda + Yn helpu y stori lawr." + + + +Y CHWEDL. + + +I. + +Ar nos Nadolig oer a llaith, +Ers deugain o flynyddau maith, +Bu farw Harri Huws;--'roedd ef +Yn cael ei garu gan bawb trwy'r dref. +Bu ef i mi yn gyfaill pur. +A chalon gywir fel y dur, +A diwrnod tywyll, prudd ei wedd, +Oedd y dydd rhoed Harri yn ei fedd. + +Gadawodd eneth ysgafn droed +O'i ol,--yn un ar bymtheg oed; +'Roedd iechyd ar ei gruddiau cu, +A chwarddai serch o'i llygad du. +Bum i yn dysgu'r eneth hon +I ddweyd A B yn blentyn llon, +Ac wrth ei dysgu, credais i +Y dysgai'r ferch fy ngharu fi; +Ond ffoledd oedd i'r eneth dirion +I feddwl caru hen wr gwirion. + +Daeth morwr llon i siarad a hi, +A dygodd fy Elen oddi arnaf fi, +Ond dd'wedais i air erioed wrth hon +O'r hyn a deimlais dan fy mron; +Na gair yn erbyn y morwr chwaith, +Oblegid hwy fuont am flynyddau maith +Yn chwareu a'u gilydd fel y mae plant +Ar ochr y bryn neu lan y nant; +Ond waeth tewi na siarad, ryw noson ddu +Aeth y morwr ymaith ag Elen gu! + +Nis gallaf ddirnad byth er hyn +Pa fodd yr aeth bore'i bywyd gwyn +O dan fath gwmwl, na pha fodd +Y daeth amheuaeth ag y todd + Gymeriad oedd mor bur; +'Doedd neb yn meddwl yn y wlad +Y buasai impyn tyner, mad, + Yn dwyn fath ffrwythau sur. + +Agorai'r wawr ei hamrant clau, +Ac ymaith a fi ar ol y ddau, +A digwydd wnaethum fynd 'run ffordd, +Tra curai'm calon megis gordd, + Dan bwys briwedig fron; +Mi cefais hwy. Nis gallaf ddweyd +Pa un ai gofid oedd yn gwneud +I'm dagrau redeg dros fy ngrudd, +Ai ynte ryw lawenydd prudd; +Ond rhedeg wnaethant fel y lli' +Pan ddaeth y newydd gynta 'i mi + Fod Mari'n wraig i John. + +II. + +Pan gwrddodd Mari gyda fi, +Ei dagrau redent fel y lli; +Hi deimlai'n ddedwydd ar un llaw, +Ac o'r tu arall, ofn a braw +A lanwai'i bron. Hi ddwedai'r oll +Oedd yn ei theimlad yn ddigoll; +Agorai'i bron, can's roeddwn i +Yn gyfaill mebyd iddi hi. + +Datodai glo ei chalon fawr, +A dwedai'i thywydd imi'n awr, +A'r fath onestrwydd yn ei phryd +Nes teimlwn i'm teimladau i gyd +Yn toddi'n llwyr; a gwenau hon +A wnaent i minnau wenu'n llon, +A gweld ei dagrau'n treiglo'n lli +A sugnent ddagrau 'nghalon i. + +Ond pan yn tynnu tua phen +Ei chwedl brudd, fy ngeneth wen +A ddwedai, gyda'i llygad du +Yn saethu teimlad ar bob tu,-- +"O fel yr ofnwn wg fy mam, +Yr hon a'm gwyliodd ar bob cam: +A balchder gyda thanllyd serch +A'i gwnaeth yn ffol uwch ben ei merch. + +"Priodi a wnaethum heb wybod i mam-- +'Roedd hynny, 'rwy'n addef, yn bechod a cham; +Ond beth oedd i'w wneud, a pheth ddaethai i'm rhan, +Pan oedd cariad mor gryf, a minnau mor wan? +Ni allwn gyfaddef i mam er y byd, +Ond wedi priodi, ni aethom ynghyd +I ofyn maddeuant ei mynwes dinam, +Ond serch wedi'i gloi erbyn hyn oedd gan mam. + +"Hi allodd gau y drws a'i gloi +Ar ol ei merch, a medrodd droi +Clust fyddar at fy ymbil taer, +A dweyd yng ngolen'r lleuad glaer,-- +'Gan iti fynnu'th ffordd bob cam, +A chroesi 'wyllys gref dy fam, +Dos gydag ef, yr hoeden ffol, +A phaid a dychwel byth yn ol.'" + +Fe wylai Mari'n hidl fan hon, +Agorodd holl argaeau'i bron, +A d'wedai,--"'Nawr, fy nghyfaill pur, +Cyn darfod adrodd chwedl fy nghur, +A wnewch chwi addaw'r funud hon +I gloi y chwedl yn eich bron + O wydd pob dyn trwy'r byd; +Er imi dynnu arnaf gam, +Ac er im' ddigio mynwes mam, + Fy mam oedd hi o hyd. + +"Aeth heibio flwyddyn gron, fy ffrynd, +A holl dafodau'r lle yn mynd +Yn gyflym gyda'm hanes prudd, +A mam rhy falch o ddydd i ddydd +I geisio clirio'i geneth wen, +A cheisiai gadw i fyny'i phen +Drwy fynd i'r eglwys yn ei du, +Fel pe buasai'i geneth gu +Yn gorwedd yn ei thawel fedd, +Lle gorffwys pawb mewn hun a hedd." + +Un noson oer, mewn gaeaf du, +Eisteddwn ar fy aelwyd gu, +Gan wylio'r marwor mawn a choed +Yn syrthio'n lludw wrth fy nhroed, +Yn ddrych o ddynion llon eu gwedd +Yn goleu i ddiffodd yn y bedd. +Fy meddwl grwydrai'n rhydd a ffol. +Pan yn ddisymwth o'm tu ol +'Roedd swn cerddediad!--pan y trois, +Mi glywn fy enw mewn acen gyffrous, +A phwy oedd yno ger fy mron +Ond Mari a'i baban ar ei bron! + +Ei llygaid gloewon, gleision, mawr, +A safent yn ei phen yn awr;-- +Edrychai i'r tywyllwch prudd +Fel pe buasai'n gweld ynghudd +Ysbrydion ei mwynderau gynt +Yn gwibio o'i chylch ar gyflym hynt! +Dechreuai ddweyd ei chwyn a'i chais +Mewn math o anaearol lais, +A theimlwn fel pe buasai ddelw o faen +Yn sefyll,--yn edrych,--a siarad o'm blaen. + +"Mi eis at ddrws fy mam yr ail waith, + Ac eilwaith trodd fi ffwrdd; +Yr unrhyw galed, oeraidd iaith, + Oedd yno yn fy nghwrdd. + +"Mi ddaliais hyn fel arwr glew, +Can's 'roedd fy nghalon fel y rhew, +Ond pan y gwgodd f'anwyl fam +Wrth wel'd fy maban baeh dinam, +Aeth cleddyf trwy fy mron yn syth-- +Mae'r archoll hwnnw yno byth. + +"Ac am fy ngwr--fy anwyl John, +'Roedd ef ar wyllt bellderau'r donn; +Un dydd wrth fynd am dro o'r dref, +Ni gawsom ffrae, a ffwrdd ag ef. +Nis gallswn weithio yn fy myw, +Na phlygu'm glin o flaen fy Nuw; +'Doedd dim ond troi yr adeg hon +A'm baban tyner ar fy mron +At mam;--ond honno, er fy nghur, +Oedd fel y garreg yn y mur. +Fy Nuw a wyr fel snddais i +O dan ei geiriau cerrig hi; +A'r oll o'm serch yr adeg hon +Oedd yn fy maban ar fy mron." + +Fe beidiai Mari lefaru yn awr, +A minnau yn edrych yn syn ar y llawr; +Ac fel mewn eiliad--'roedd fy ffrynd +A'i baban serchus wedi mynd! + +Deallais wedyn iddi droi + Ei gwyneb tua Llundain bell, +Pan nad oedd mam na neb i roi + I'w mab a hithau gynnes gell. +O! pwy all ddweyd na meddwl chwaith +Ei theimlad ar y brif-ffordd faith, +Heb ddillad cynnes am ei chefn, +A'i chalon FU'n llawn serch drachefn, +Gan chwerw drallod, honno wnaed +Mor oer a'r brif-ffordd dan ei thraed. + +'Roedd pob anadliad roddai hon +Yn sugno ochenaid ddofn o'r bron, +A phob cam roddai 'n tynnu gwaed +O'i thyner flin ddolurus draed. +O gam i gam, o awr i awr +Cyrhaeddyd wnaeth i'r ddinas fawr; +Ac ar y palmant caled, oer, +Llewygu wnaeth yng ngolau'r lloer. + +Yr oedd hi'n nos, ac nid oedd neb +A sychai chwys ei dwyrudd wleb +Heblaw y gwynt, ac ni wnai ef +Ond chwiban heibio hyd y dref. +Ond pan oreurai'r wawr y ne' +Daeth rhyw Samaritan i'r lle, +A chodai hi fel delw wen, +A rhoddai bwys ei thyner ben + +Ar fron tosturi,--a'r baban bach +A gysgai hun ddiniwaid iach, +Ar hyd y nos flinderus faith +Ar fron mor oer a'r garreg laith. + +Aeth ef a'r ddau yn ol i'w dy, +A'i wraig drugarog, serchus, gu, +A'u hymgeleddai gyda serch +A chydymdeimlad calon merch, +Gwreichionen olaf bywyd brau +Gyneuai'n ol dan law y ddau. + +Deffroai Mari gyda hyn +I gael ei hun mewn gwely gwyn, +A gwen trugaredd uwch ei phen +Yn edrych ar ei dwyrudd wen. + +Nid oedd gan wr a gwraig y ty +(Lle dodwyd Mari),--blentyn cu, +A gall mai dyna'r rheswm pam +Y carai'r rheiny gael y fam, +Er mwyn cael gwylio'i baban bach +Yn tyfu'n llencyn gwridog, iach. + +Dechreuai'r bychan chwareu'n rhydd, +A rhosyn iechyd ar ei rudd, +A gweithiai'r fam a chalon rwydd +Wrth weld ei gobaith yn ei gwydd +Yn tyfu'n hogyn gwyneb crwn, +A'i serch ymglymai o gylch hwn. + +* * * * * + +Awn heibio i flynyddau maith,-- +Fe dyfai'r llanc,--gwnai'r fam y gwaith, +Ac ni fu'r blwyddau meithion hyn +Heb ambell smotyn hafaidd, gwyn. + +Edrycha'i llanc yn hoew a chryf, +A'i natur fywiog, hoenus, hyf, +A godai awydd yn ei fron +I fynd yn forwr nwyfus, llon; +Dychmygai nad oedd unrhyw ddor +Yn agor iddo ond y mor. + +Fe deimlai'i fam, a theimlai'n flin, +Ond ni ddaeth gair dros drothwy'i min, +A'r bore ddaeth i'r llanc dinam +I rwygo'i hun oddiwrth ei fam. + +III. + +Y storm a aeth heibio, a'r dwylaw wnaent gwrdd +I gyfarch eu gilydd yn llon ar y bwrdd; +"Mae'r cyfan yn fyw," ebe'r Capten yn llon, +A diolch a gweddi yn llanw ei fron: +"Na!--arhoswch; pa le y mae William ddinam, +Y llencyn oedd newydd roi ffarwel i'w fam?" +Ond dwedai rhyw un ag ochenaid ddofn, ddofn, +"Nid ydwyf yn sicr, ond y mae arnaf ofn +Fod drwg wedi digwydd, pan ruai y gwynt, +Gan luchio a thaflu y llong ar ei hynt," +'Roedd William yn mrigyn yr hwylbren, hir, praff, +Yn ceisio ategu yr hwyl gyda rhaff; +Fe ruthrai y gwynt, ac mewn eiliad neu ddwy +'Roedd y llanc wedi myned na welwyd ef mwy. + +Y tu ol i'r llestr, draw, draw ar y donn, +Yn ymladd am fywyd, 'roedd llanc a fu'n llon, +A'i obaith a'i nerth ar ddiffygio yn llwyr, +A'r t'w'llwch yn dechreu cau amrant yr hwyr; +Ar hyn, dacw gwch yn nesau ato ef, +A'i hwyliau fel edyn rhyw angel o'r nef; +A phan yr oedd William yn suddo i lawr, +Wele forwr yn estyn ei ddeheu law fawr +I safn y dyfnderau, glafoerllyd, di rol, +Gan godi y bachgen i fywyd yn ol. + +Am oriau bu'n hollol ddideimlad fan hon, +Ond rhith weledigaeth oedd fel ger ei fron; +Fe welai ei fam yn sylldremio o'r lan, +A chlywai'i hochenaid yn esgyn yn wan; +A gwelai ofidiau gordrymion a phrudd +Yn tynnu eu herydr ar hyd ei dwy rudd; +A gwelai ei gartref yn ymyl y nant, +A'r pentref, a'r felin, a'r ysgol, a'r plant, +Ac yntau ei hunan yn chwareu'n ddinam-- +A deigryn yn treiglo o lygad ei fam. + +Gofynnai'n ei freuddwyd,--"Mam, pam yr ydych chwi +Yn wylo eich dagrau cariadus yn lli?" +A hithau yn ateb fel hyn yn y fan,-- +"'Rwy'n cofio fy machgen yn faban bach gwan, +Ac wedyn yn tyfu mewn nerth ac mewn oed +I neidio a chwareu o amgylch fy nhroed." +Ar hyn daeth rhyw niwl dros ei feddwl yn chwim, +A'i fam a ddiflannodd fel cysgod yn ddim; +A gwelai len arall yn lledu o'i flaen, +A breuddwyd mewn breuddwyd yn agor o'i flaen. + +Ymhellach yn ol, fe welai ei fam +Yn suo a hwian ei baban dinam, +Ar hyn, dyna rywun yn cnocio yn hy, +A morwr cryf, barfog, yn dyfod i'r ty, + A safai cyn dechreu llefaru; +Nid hir y bu yno cyn gweled ei wraig, +A deigryn a safai ar rudd oedd fel craig, +Ymgrymai i roddi ei gusan i hon, +A'r cwbl a ddwedodd a'i ben ar ei bron,-- + "Fy Mari, O fy Mari!" + +Ond William ddeffroai yn raddol ar hyn, +A bywyd ail wridai ei wyneb gwyn, gwyn, +A gwybu yn fuan mai morwr cryf, llon, +A'i cipiodd mor wyrthiol o afael y donn; +'Roedd hwnnw ac ereill yn dianc o Ffrainc, +Pan oedd yr hen Boni yn llywydd y fainc. + +A phan y daeth William i fywyd yn ol, +'Roedd y wawr yn ymgodi a'r haul yn ei chol, +Gan chwalu y t'w'llwch a'r caddug ar daen, +A bryniau hen Gymru 'n ymgodi o'i flaen. + +Edrychai'n fyfyriol ymlaen tua'r tir, +A'i freuddwyd yn gwibio trwy'i feddwl mor glir, +A syllai bob 'nail ar y morwr hardd, cryf, +Yr hwn a achubodd ei fywyd mor hyf; +A chofiai ei freuddwyd, ei gartref, a'r dyn +Yn curo y drws, ac yn agor ei hun, +Ac nis gall anghofio y dyn yn ei fyw, +Wrth weled y morwr yn gweithio y llyw. + +"Paham yr edrychwch i'm gwyneb o hyd?" +Gofynnai y morwr, tra gwrol ei bryd; +"Myfyrio yr oeddwn ar freuddwyd tra ffol," +Medd William, gan syllu i'r glannau yn ol, +"Lle gwelais fy hunan yn blentyn di-nam, +Yn chwareu o amgylch i liniau ei fam;-- +Lle clywais i rywun yn curo yn hy', +A morwr o rywle yn dyfod i'r ty, +A synnu yr oeddwn, mor debyg i chwi +Oedd hwnnw a welais yn dod i'n ty ni." + +"Dywedwch i mi," ebe'r morwr yn awr, +Gan syllu drwy bellder goleuni y wawr, +"A oes gan eich mam lygad glas yn ei phen +Sy'n ganmil disgleiriach na glesni y nen? +Oes ganddi hi ruddiau, dywedwch yn rhwydd, +A wrident yr eira pe bae yn eu gwydd? +Oes ganddi hi wallt fel y nos ar ei phen +Yn disgyn fel cwmwl ar hyd ei grudd wen? +Ond gall, o ran hynny, fod main gennych chwi +Yn ateb i'r darlun a dynnir gen i, +A mi heb ei gweled mewn llan nac mewn llys, +Ond,--welsoch chwi fodrwy ryw dro ar ei bys, +A math o lun calon mewn perlau yn hon, +A gwallt yn ei chanol yn ddolen fach gron?" + +"Mae gan fy mam lygaid fel glesni y nen, +A gwallt sydd fel hanner y nos ar ei phen, +Mae harddwch yn byw ar ei gwefus a'i gen, +Ac ysbryd serchawgrwydd yn dawnsio'n ei gwen; +Ac hefyd, wrth feddwl, mae adgof gen i +Am fodrwy 'run fath a'r un hon ddwedsoch chwi, +A math o lun calon mewn perlau yn hon, +A gwallt yn ei chanol yn ddolen fach gron!" + +"Ai breuddwyd yw hyn?" ebe'r morwr yn rhydd, +A'i deimlad a'i galon yn neidio i'w rudd, +"Ai'm mab a achubais o afael y donn? +Ai delw fy Mari yw'r llygad byw, llon, +A welaf o'm blaen? 'Rwyf yn diolch i'r Nef, +Mae Mari yn fyw, a fy machgen yw ef!" + +IV. + +"Roedd annedd fy Mari a minnau a'r ddor +A'i gwyneb i waered at lan y mor, +Ac ni fu dedwyddach dau yn y byd +Na Mari a minnau tra buom yn nghyd. +Ryw noson anhapus--mi cofiaf hi byth-- +Daeth ysbryd anghydfod dros drothwy ein nyth, +A Mari a minnau a gawsom air croes,-- +Y cyntaf a gawsom erioed yn ein hoes. + +"Eis allan yn sydyn, a chauais y ddor, +A chrwydro y bum ar hyd erchwyn y mor, +Yn gwylio y tonnau yn chwareu'n y fan +Ym mynwes eu gilydd hyd ymyl y lan; +Dan chwerthin a neidio o amgylch fy nhroed, +Yn orlawn o fywyd fel plant deuddeg oed. +Meddyliais mor ffol y bum i gyda'r fun +A garwn yn fwy na fy enaid fy hun; +Ac eistedd a wnaethum mewn myfyr tra syn, +A chenais gan fechan yn debyg i hyn,-- + +"'Mari anwyl, wnei di faddeu + Fy ymadrodd creulon, ffol, +Gaf fi yfed gwin dy wenau + Pan y deuaf yna'n ol? +Pam y rhaid i gariad cywir + Fod yn llanw ac yn drai? +Arnaf fi, fy Mari anwyl, + Arnaf fi yr oedd y bai. + +"'Mynnaf brynnu gown o sidan + Goreu fedd yr hollfyd crwn, +I'w roi i Mari a'm llaw fy hunan, + I wneud fyny'r cweryl hwn; +Gwn y medr Mari faddeu + Holl ffaeleddau cariad gwir, +A thrawsffurfio gyda'i gwenau + Gwmwl du yn awyr glir.' + +"Pan oeddwn yn dychwel a'r gown i fy mun, +Gan deimlo yn ddig wrth fy ffoledd fy hun, +A theimlo y mynnwn i wneuthur fy rhan +I garu y cweryl o'r ty yn y fan; +Ar hynny! mi deimlwn ryw law nerthol, fawr, +O'm hol yn fy nhynnu yn llegach i'r llawr, +A phedwar o forwyr a'm rhwyment mewn brad, +Ac ymaith y'm cipiwyd i lawr at y bad! +Un cilgwth!--un floedd a drywanai fy mron, +A dyna ni'n nofio ar wyneb y donn. + +"Llong ryfel angorai draw, draw ar y donn, +A rhwyfai y morwyr yn union at hon, +A mi, fel mewn breuddwyd, a gefais fy hun +(Yn lle bod yn gofyn maddeuant fy mun) +Yn nghanol y milwyr, a'r morwyr llawn brad +Yn hwylio i ryfel yn syth o fy ngwlad." + +V. + +Ryw fore, rhoi'r postman ddau guriad i ddor +Y bwthyn bach hwnnw yn ymyl y mor, +A Mari a glybu, ond teimlai ryw fraw +Yn mynd at ei chalon, a chrynnai ei llaw, +A methai gan ofnau a myned ymlaen, +'Roedd blwyddau er pan gadd hi lythyr o'r blaen. + +Hi gafodd y llythyr ar drothwy y ddor, +A gwelai ei fod wedi dod dros y mor; +Llawysgrif pwy ydoedd? O ba wlad y daeth? +Ai William sy'n glaf, neu a oes newydd gwaeth? +Agorodd y sel, a darllennodd--ond och! +'Roedd gwaed y cynhyrfiad yn rhewi ar ei boch; +Y capten a'i gyrrodd i ddweyd fel y bu-- +Fod storm wedi codi, fod corwynt a'i ru +Bron wedi achosi llongddrylliad tra erch, +Ac hefyd fod William, canolbwynt ei serch, +Yng nghanol y ddrycin, a'r storm, wedi cwrdd +A damwain, a syrthio i'r mor dros y bwrdd. + +Fe dorrodd y newydd ar deimlad y fam +Fel taranfollt erchyll, a'i chalon rodd lam; +Mor hynod ddisymwth bu'r ergyd i hon, +Nes clodd y fath newydd ei dagrau'n ei bron; +Ni wyddai p'le i droi, na pha beth i'w wneud, +Ond teimlai lais distaw'n ei mynwes yn dweyd,-- +"Feallai fod gobaith, feallai i'th Dduw +Ofalu am William, a'i fod ef yn fyw." + +Hi syrthiodd ar ei gliniau +A chodai fyny ei llef, +Trwy'r storm o orthrymderau, +At un sydd yn y nef; +Ond ofnai fod ei gweddi +Yn gofyn gan yr Ior +Am achub un oedd wedi +Ei gladdu yn y mor. + +Daeth eilwaith adlais distaw +O fewn i'w mynwes wyw, +I ddweyd er hyn y gallai +Fod William eto'n fyw; +A'r adlais hwnnw roddodd +Ail nerth i'w gweddi gref, +Nes gyrrodd mewn ochenaid +Ei chalon tua'r nef. + +VI. + +Ust! ust! dyna gnoc! pwy sy'n curo mor hy? +O diolch--a William yn dyfod i'r ty! +Pwy draetha'u teimladau pan syrthiodd y ddau +Ar yddfau eu gilydd i gyd lawenhau? + +Dechreuai William ddweyd yn awr +Ei hanes prudd, pan syrthiodd lawr, +Ac fel 'r achubwyd ef mor hyf +Gan law ddieithr morwr cryf; + +"O na chawn ei weled," atebai y fam, +"Y morwr achubodd fy mhlentyn rhag cam, +Cai ddiolch fy nghalon am achub o'r lli. +Yr hwn sy'n anwylach na mywyd i mi." +"Myfi yw y gwr," ebe llais yn y ddor, +"Achubodd y bachgen rhag marw'n y mor,"-- +"Fy Nuw!"--ebe Mari, pan welodd y dyn, +A syrthiodd i freichiau ei phriod ei hun. +Dechreuwyd a holi ac adrodd mor hy, +A'r tri yn cydwylo wrth ddweyd sut y fu, +Y tad yn rhoi darlun o droion y daith, +A'r fam yn rhoi darlun o'i phryder tra maith. + +'Mhen awr, fe ddaeth cenad i'r bwthyn dinam +At Mari yn dweyd fel bu farw ei mam; +Y clefyd ddadglodd gloion rhydlyd ei serch, +A phwnc ei myfyrdod oedd Mari ei merch, +"Rwy'n maddeu i Mari fy merch," ebe hi, +A deigr edifeirwch yn treiglo yn lli; +A neidiodd o'i gwely, ac allan yr aeth, +A chodi ei dwylaw i'r nefoedd a wnaeth, +Ar drothwy y drws lle cilgwthiodd ei merch, +Am roi ei deheulaw lle rhoddodd ei serch; +Gweddiodd yn daer am faddeuant yr Ior, +Ac yno bu farw ar drothwy y ddor. + +Bu'r morwr a Mari am flwyddau hir, hir, +Yn byw mewn dedwyddwch dan awyr serch clir, +A William a dyfodd yn addurn i'w wlad, +Yn eilun ei fam, ac yn bopeth ei dad. + +* * * * * + +Y sexton ar hynny eisteddodd i lawr, +A'r tan oedd yn llosgi yn isel yn awr; +Aeth pawb tuag adref 'rol cael y fath wledd, +Aeth yntau i'r fynwent i dorri y bedd. + +[Y Gof. "Gewynnau ei fraich sydd mor galed a'r dur, +Ei galon, er hynny, sydd dyner a phur.": myn64.jpg] + + + +SYR WATCYN WILLIAMS WYNN. + + +Ym mhlith yr holl foneddwyr + A geir yng Nghymru lan, +Mae rhai boneddwyr mawrion, + A'r lleill yn od o fan; +Ond gwnewch un bwndel anferth + O fonedd Cymru 'nghyd, +Syr Watcyn, brenin Cymru, + Sy'n fwy na'r lot i gyd. + +Lle bynnag tyfa glaswellt, + Lle bynnag t'wynna haul, +Fel tirfeddiannwr hynaws + Ni welwyd un o'i ail; +Mae'n frenin gwlad y bryniau, + A chyda hyn o ran, +Mae'n frenin yng nghalonnau + Ei ddeiliaid ym mhob man. + +Ewch at y weddw unig, + Ewch at amddifad tlawd, +Syr Watcyn yw eu noddwr, + Syr Watcyn yw eu brawd; +Trwy ddagrau diolchgarwch + Ar ruddiau llawer un +Argraffwyd yr ymadrodd,-- + "Syr Watcyn ydyw'r dyn." + +Mae ef yn wir foneddwr, + 'Does neb all ameu hyn, +Mae'i glod fel llanw'n llifo + Dros lawer bro a bryn; +Ac nid yn unig hynny,-- + Mae'n Gymro pur o waed, +A Chymro glan bob modfedd + O'i goryn hyd ei draed. + +Hir oes i'r mwyn bendefig, + Medd calon myrdd pryd hyn, +A byw ddwy oes a hanner + A wnelo Lady Wynn; +Hir oes i'r holl hiliogaeth, + A chyfoeth heb ddim trai, +A bendith nef fo'n aros + Ar deulu hen Wynnstay. + + + +LILI CWM DU. + + +Rhwng hafnau'r bryn uchel mae'r awel erioed +Yn smalio a chwareu yn ysgafn ei throed; +A mynd gyda'r awel i bob cornel gu +Mae adgof i feddwl am Lili Cwm Du. + +Mae lili y dwfr yn ymddyrchu o'r llyn, +Gan gym'ryd goleuni i sychu'i phen gwyn; +Mae hithau fel pe bai yn edrych bob tu +I feddwl a meddwl am Lili Cwm Du. + +Mae gwlithos yr hwyrddydd yn dyfod bob nos +A'u diod gwsg dyner i anian fawr dlos; +Yn ol yn siomedig ant gyda'r wawr gu +Am na chawsant gusan gan Lili Cwm Du. + +Oferedd i'r gwlithos i ddyfod i lawr +I chwilio am hon ymysg blodau y llawr; +I fyny mae hi, ac ni fedd y nef gu +Un lili brydferthach na Lili Cwm Du. + + + +FFARWEL Y FLWYDDYN. + + +Ar noson ddrychinog, a gwyntog, ac oer, +Ysgubai'r ystormydd dros wyneb y lloer; +'Roedd delw y gaeaf ar ddaear a nen, +A thymor y flwyddyn yn dyfod i ben. + +"Ffarwel," ebe'r flwyddyn, "fe ddarfu fy ngwen, +Fy meibion, y misoedd, a'm gwnaethant yn hen; +Ces amdo yn barod, o lwydrew yn haen, +A dor tragwyddoldeb sy'n agor o'm blaen. + +"Ffarwel," ebe'r flwyddyn, "'rwy'n estyn fy llaw, +A honno yn wleb gan y ddrycin a'r gwlaw; +'Rwy'n mynd i fyd arall i gloddio fy medd, +A'm chwaer sydd yn dyfod wrth droedfainc fy sedd. + +"Pan anwyd fi gyntaf, 'roedd gwywder ar daen, +A mynwent prydferthwch o'm hol ac o'm blaen; +Daeth gwanwyn 'rol hynny, a'r blodyn morgun +A gododd ei sedd ar ei feddrod ei hun. + +"Fe chwarddai y ddaear, a gwridai yr haul, +A minnau'n ysmalio mewn glesni a dail; +A chanai y gog ei Sol-ffa y fan draw, +A'r fronfraith a ganai'r hen nodiant gerllaw. + +"Daeth Mai gyda hynny a hirddydd a haf, +Ar fynwent y gaeaf daeth gerddi mor braf; +Priodais a harddwch gan gredu yn siwr +Fod llawnder Mehefin yn gyfoeth i'm gwr. + +"Pryd hynny, agorai'r amaethwr ei geg, +A dywedai,--''Nawr, flwyddyn, mae eisieu hin deg;' +Ond er iddo waeddi, y gwlaw oedd yn dod, +A'r m'linydd yn diolch am ddwr ar ei rod. + +"Mi gefais fy meio am wlawio cyhyd, +A gwneuthur cryn niwed i'r gwair ac i'r yd; +Ond cofiwch chwi, ddynion, beth bynnag fu'r drefn, +'Roedd Duw a Rhagluniaeth o hyd wrth fy nghefn. + +"O ddiwrnod i ddiwrnod, aeth haf ar ei hynt,-- +Gostyngodd yr heulwen, a chododd y gwynt; +Daeth llwydrew fel lleidr, pan giliai yr haul, +Rhodd wenwyn ym mywyd y blodau a'r dail. + +"Dechreuais cyn nemawr a wylo yn hallt,-- +Dechreuodd y stormydd a thynnu fy ngwallt; +Aeth haf a'i brydferthwch i mi yn ddi goel, +'Rwy' heno yn marw yn dlawd ac yn foel. + +"Mi glywais y clychau yn canu mor llon, +Wrth weled babanod yn dod at y fron; +Bum i gyda'r mamau yn siriol eu pryd +Yn gwenu a siglo uwch ben llawer crud. + +"Mi glywais y clychau,--daeth mab a daeth merch +At allor yr eglwys i roi cwlwm serch; +Ar ol i mi farw, d'wed gwragedd di ri',-- +'Wel hon oedd y flwyddyn ro'dd fodrwy i mi.' + +"Mi glywais y clychau yn brudd lawer gwaith,-- +Mi welais yr elor yn myned i'w thaith; +Ar filoedd ar filoedd ce's weld yn ddiau +Y beddrod yn agor,--yn derbyn,--a chau! + +"Ffarwel iti, ddaear,--ffarwel iti, ddyn, +Ffarwel yr hen bobol,--ffarwel, fab a mun; +Mae'n rhaid i ni 'madael, 'rwy'n marw, fy ffrynd,-- +'Rwyt tithau yn dod os y fi sydd yn mynd. + +"Ffarwel iti, Gristion, mae'm llyfrau ar gael, +Mae'm cyfrif fan honno i'r gwych ac i'r gwael; +'Rwy' wedi 'sgrifennu yn rhad ac yn rhydd, +MADDEUANT ar gyfer dy enw bob dydd. + +"Ffarwel, ddyn annuwiol, mae gennyf ar lawr +Hen fill yn dy erbyn sy'n hynod o fawr; +'Rwy' heno'n rhy wanllyd i ddweyd yr amount, +Cawn oleu byd arall i setlo'r accmmt!" + + + +CORN Y GAD. + + +(Y miwsig gan D. Emlyn Evans). + +Mae corn y gad yn galw'n hyf, + A'n nghalon innau'n ateb hwnnw, +Mae'n galw ar y dewr a'r cryf + I fuddugoliaeth neu i farw,-- +Ffarwel, f'anwylyd! Ail-adseinia'r nen +I gorn y gad--ffarwel fy Ngwen. + +"Ti wyddost nad yw'n iawn i ferch + I dynnu cledd ar faesydd gwaedlyd, +Er hyn gall anfon gweddi serch + At Dduw i'r nef dros ei hanwylyd; +Cei di fy mendith, Arthur, ar dy ben, +A'r nefoedd deimlo gweddi Gwen." + +'Does neb ond y dewr yn haeddu cael bod +Yn deilwng i'w caru, yn deilwng o glod; +Na neb ond gwladgarol a ffyddlon hoff fun +Yn haeddu cael calon y milwr a'r dyn. + + + +GWYL DEWI SANT. + + +Da gan Gymry gydgyfarfod, + Wyl Dewi Sant, +A iaith y Cymry ar bob tafod, + Wyl Dewi Sant; +Son am Gymru gynt a'i hanes +Gyda gwen a chalon gynnes, +A chalon Cymro ym mhob mynwes, + Wyl Dewi Sant. + +Gwened haul ar ben y Wyddfa, + Wyl Dewi Sant, +Chwardded ffrydiau gloewon Gwalia, + Wyl Dewi Sant; +Gwyl hudolaidd, gwyl y delyn, +Gwyl y canu, gwyl y cenin, +Nyddu can a phlethu englyn, + Wyl Dewi Sant. + +Cadwn hen ddefodan Cymru, + Wyl Dewi Sant, +Cinio cynnes cyn y canu, + Wyl Dewi Sant; +Llawer Cymro calon gynnes +Wisga genin ar ei fynwes, +A'r lleill ro'nt genin yn eu potes, + Wyl Dewi Sant. + +Mae pob Sais yn hanner gwallgo, + Wyl Dewi Sant, +Eisieu o galon bod yn Gymro, + Wyl Dewi Sant; +Dwed y Sais dan wisgo'i faueg,-- +"Fi yn leicio'r Welsh bob adeg, +Ag fi ddim dweyd un gair o Sasneg," + Wyl Dewi Sant. + +Y ganwyll frwyn fo'n goleu'n siriol, + Wyl Dewi Sant, +A'r tanllwyth mawn fo'n twymo'r gongol, + Wyl Dewi Sant; +Ac wrth oleu mawn y mynydd, +Pur wladgarwch elo ar gynnydd, +A'n serch fo'n ennyn at ein gilydd, + Wyl Dewi Sant. + + + +'RWY'N DISGWYL Y POST. + + +'Rwy'n disgwyl y post gyda llythyr i mi, + 'Rwy'n disgwyl ei guriad bob awr wrth y ddor, +Ond nid oes un adsain na churiad yn dod, + Ond curiad fy nghalon a snad y mor; +Mac'r awel yn dyner, ac weithiau yn gref, + 'Rwy'n disgwyl, yn disgwyl am air gyda hi, +Ond ofer yw disgwyl wrth awel y nef, + Ac ofer yw disgwyl wrth donnau y lli; +Gwneud storm yn fy mynwes mae storm yn y nen, + A thynnu fy nagrau mae dafnau y gwlaw, +O eisieu bod rhywun yn cofio ei Wen, + Ac eisieu cael gweled ysgrifen ei law. + Daw'r mellt mewn trugaredd + Drwy swynol gyfaredd, + A newydd i rai dros y gwyrddlas li, + Ond llawn o gynddaredd + Yw'r mellt a'r taranau uwchben ein ty ni; +Mi rois iddo 'nghalon, a rhois iddo'm llaw, +'Rwy'n disgwyl, 'rwy'n disgwyl, a disgwyl nes daw. + + + +CLYWCH Y FLOEDD I'R FEWYDR. + + +("Cambrian War Song," gan Mr. Brinley Richards). + +Clywch y floedd i'r frwydr, + Bloedd dros ryddid Cymru, +Ar y mynydd uchel draw + Llysg tafodau tan; +Clywch gleddyfau'n tincian, +A banerau'n clecian, +Cymry sydd yn dyfod allan, + Dros hen wlad y gan; +Er fod rhengau'r gelyn +Yn ymgau i'n herbyn, +Mynnwn weled Cymru'n rhydd, + Neu farw yn y gad; +Fyny a'r banerau, +Chwifiwn ein cleddyfau, +Codwn floedd nes rhwygo'r nen, + Cymru ddaw yn rhydd. + +Swn y gwynt pruddglwyfus + Sua yn y coed, +Hithau'r gornant nwyfus, + Chwery wrth fy nhroed; +Huno y mae popeth + Dan y cwrlid rhew, +Tra ffarwelia geneth + Gyda'i milwr glew. + +Clywch y floedd yn codi,-- +Bloedd dros ryddid Cymru, +Mynnwn weled Cymru'n rhydd + Neu farw dros ein gwlad; +Rhyddid ddaw i'n gwenau +Gyda gwawr y borau +Gwaedda ysbryd Cymru gynt,-- + "Awn ymlaen i'r gad." +Fyny a'r banerau, +Chwifiwn ein cleddyfau, +Codwn floedd nes rhwygo'r nen, + Cymru ddaw yn rhydd; +Clywch y floedd yn codi, + Mynnwn weld hen Gymru'n rhydd. + + + +DYMA BEDWAR GWEITHIWR. + + +Dyma bedwar gweithiwr dedwydd + Gyda chydymdeimlad llwyr, +Gydgychwynant gyda'r wawrddydd, + Gyd-ddychwelant gyda'r hwyr; +Maent yn meddu gwragedd hawddgar, + Gyda phedwar bwthyn iach, +Ae mae gan bob un o'r pedwar + Bob i bedwar plentyn bach. + +Dringa'r pedwar aeliau'r creigydd, + Tyllant gernau'r clogwyn cas, +Ac a'r pedwar dan y mynydd + Ar ol gwythi'r lechen las; +Pedwar diben sydd i'r pedwar, + Tra mae'r pedwar yn cydfyw, +Caru'u gwaith, eu gwragedd hawddgar, + Caru'u gwlad, a charu Duw. + +(Caneuon y Chwarelwyr, ar ymor yn agos i'r Werddon, Mawrth 10fed, '77). + + + +HEN AWRLAIS TAL Y TEULU. + + +Glywch chwi gloch yr awrlais + Sydd yn taro awr 'rol awr? +Mal "un, dau, tri, pedwar, pump, chwech," + Medd hen awrlais tal y teulu; +Ar y pared yma bu + Yn amser ein hen deidiau, +Fel rhyw fynach yn ei ddn + Yn rhifo en munudau; +Dyma ddwed o bryd i bryd,-- +"Byrr yw'ch amser yn y byd, +'Rwy'n dweyd 'r un peth o hyd o hyd," + Medd hen awrlais tal y teulu. + +Darnio amser yw ei waith, +A thra'n darnio oesau maith, +Mal "un, dau, tri, pedwar, pump, chwech," + Medd hen awrlais tal y teulu; +Canodd gloch uwch ben y orud + Pan anwyd llawer babi; +Canu bu o bryd i bryd + Ar lawer dydd priodi; +"Clywch y gloch fu uwch y crud +Yn canu cnul o bryd i bryd, +I lawer oes fn yn y byd," + Medd hen awrlais tal y tenlu. +"'Rwy'n dweyd 'run peth o hyd o hyd," + Medd hen awrlais tal y tenlu. + + + +HEN GYMRY OEDD FY NHADAU. + + +Hen Gymry oedd fy nhadau gynt, + A Chymro glan wyf fi, +A charu'r wyf yr awel wynt + A hed dros Gymru gu; +'Rwy'n caru'r wlad a'm magodd, + Ei rhyddid pur a'i chlod, +Ac yn y wlad bu farw nhad + 'Rwyf finnau fyth am fod; +Mi glywais am ryw wledydd + Sydd yn uwch mewn parch a bri, +Ond Cymru,--anwyl Gymru, + Sydd yn ddigon hardd gen i. +A'r sawl sy'n dewis gadael hon, + 'Rwy'n dwedyd i ti, ffrynd, +Os cei di'n rhywle wlad sydd well, + Mae croesaw i ti fynd. + +Feallai nad yw'n Gwyddfa ni + Mor uchel yn y nen, +A gallai nad oes cymaint trwch + O eira ar ei phen; +Feallai fod mynyddau mwy + I'w cael mewn gwledydd pell, +A gallai fod eu dolydd hwy + Yn frasach ac yn well; +Ond gennym ni mae'r cymoedd, + Gyda'u nentydd gloewon, glan, +Lle cenir tonau heddwch pur + Ar fil o dannau man; +Mae yno ryddid ar bob bryn + Yn chwareu yn y gwynt, +A hen adgofion ym mhob glyn + Am ddewrder Cymry gynt. + +Mae llynges Prydain ar y mor + Yn ben llynghesau'r byd, +Gall Prydain gau ac agor dor + Yr eigion ar ei hyd; +Mae llawer Cymro ar ei bwrdd + A chalon fel y llew, +Yn barod ar bob pryd i gwrdd + A'r gelyn mwyaf glew; +Ni gadwn undeb calon, + Gyda modrwy aur y gwir, +Tra fyddo modrwy loew'r mor + Yn amgylchynu'n tir; +Os rhaid, ni godwn gleddyf dur, + Ac unwn yn y gad +Dros ryddid hoff a chrefydd bur, + A gorsedd aur ein gwlad. + +Mawrth, 1877. + + + +DYFODIAD YR HAF. + + +Mi glywais fronfraith yn y llwyn + Yn canu bore heddyw, +A dwedai yn ei hanthem fwyn,-- + "Mae'r gaeaf wedi marw." +Tra cana'r fronfraith beraidd glod, + Mae'r haul yn gwenu'n llon uwchben, +A'r briaill man wrth fon y pren + Yn edrych fyny tua'r nen, + I weld yr haf yn dod. + + + +DALEN CYFAILL. + + +Nis gallaf alw'r ddalen hon + Yn ddalen i athrylith, +Ni hoffwn fritho'i gwyneb llon + A gweigion eiriau rhagrith; +Addurno'u dail ag ysgrif hardd + Adawaf i rai ereill, +Os caf fi alw dalen bardd + Yn ddalen cywir gyfaill. + +Paid byth a meddwl, gyfaill mwyn, + Am gyfeillgarwch trylen, +Y gall yr awen byth ei ddwyn + I bennill ar un ddalen; +Na, na, mae cyfeillgarwch byw + Yn uwch, yn is ei syniad, +Mae'n hirach, lletach, dyfnach yw + Na holl ddalennau'r cread. + +Ond un peth yn y ddalen hon + Sy'n hynod debyg iddo, +Mae'n berffaith wyn a phur ei bron + Cyn i fy llaw ei britho; +Peth arall yn y ddalen wen + A ddeii gymhariaeth eto, +Mae cyfeillgarwch pur fel llen + Yn hawdd i weled trwyddo. + +Gall llaw ddiystyr ddod ryw dro + I rwygo hyn o ddalen, +Pan fyddwn ni ein dau'n y gro + Heb fywyd, gwres, nac awen; +Gall dwylaw malais ddod ryw bryd + I aflonyddu'n heddwch, +Ond gofyn gwaetha dwylaw'r byd + I rwygo'n cyfeillgarwch. + + + +DEWCH I GNEUA. + + +GEIRIAU RHANGAN (Part Song). + +(Y Gerddoriaeth gan Mr. D. Lewis, Llanwrtyd). + +O dewch i gneua tua'r coed, + Fa, la, la, +Yn llawen galon, ysgafn droed, + Fa, la, la; +Cawn eistedd dan y gwyrddion ddail, +A chwareu ym mhelydrau'r haul, +A thorri cneuen bob yn ail, + Fa, la, la. +Cawn weld dedwyddwch 'deryn bach, + Fa, la, la, +Yn trwsio pluf ei aden iach, + Fa, la, la; +A'i weld yn esgyn fry i'r nen, +Neu'n canu ar y gainc uwchben, +A ninnau'n canu wrth fon y pren, + Fa, la, la. +Ar ol yspeilio'r llwyni cyll, + Fa, la, la, +Cawn ddychwel adref gyda'r gwyll, + Fa, la, la; +Cawn gydymdwymno a mwynhau +Wrth danllwyth mawn y bwthyn clau, +A chanu can, a thorri cnau, + Fa, la, la. + + + +LOLIAN A LILI. + + +O'r anwyl, y mae fy rhieui +Am imi roi 'mwriad ar Mari, + Tra gwyddant eu dau + Nad allaf fwynhau +Fy hunan heb lolian a Lili. + +Be waeth am athroniaeth rhieni? +Anghariad yw ceisio 'nghynghori, + Mae rheswm mor bwl + Yn siarad fel ffwl +Er pan eis i lolian a Lili. + +Gofynwyd im' gynnyg ar Gweni, +Sy' a dwyfil o wyn ar lan Dyfi; + Pob parch i Gwen fwyn + A'i defaid a'i hwyn, +Ond gwell gen i lolian a Lili. + +Fe drinir fy mod yn pendroni, +A mod i 'n rhoi 'nhraed yn y rhwydi; + Mae 'nhraed ddigon rhydd,-- + Fy nghalon i sydd +Mewn rhwyd ar ol lolian a Lili. + +Gwyn fyd na fa'i'r rhaeadr yn rhewi +I atal ei gan i'r clogwyni, + Er mwyn im' gael awr + O eistedd i lawr +Yn dawel i lolian a Lili. + +Pe bai gennyf ddawn i farddoni, +Anadlwn fy serch wrth fwyn odli; + Cae'r awen fad rydd + Bob nos a phob dydd, +Ddigonedd o lolian a Lili. + +[Awel Y Bore. "Rhwng hafnau'r bryn uchel mae'r awel erioed +Yn smalio a chwareu yn ysgafn ei throed.": myn80.jpg] + + + +Y FFARMWR. + + +Y ffarmwr yw bywyd y gwledydd, + Rhwng dau gorn yr aradr mae'n byw, +Efe yw tywysog y meusydd, + Ni phlyga i neb ond ei Dduw; +Os ydyw yn chwysu'r cynhaeaf, + Ynghanol ei lafur fe gan, +Ca wledda yn oerni y gaeaf, + A chanu yn ymyl y tan. + +Pan rua y gwyntoedd a'r stormydd, + A phan y daw gwanwyn dilyth, +Pan chwery yr wyn ar y dolydd, + A robin yn gwneuthur ei nyth, +A'r ffarmwr i'r maes gyda'r hadau, + A haua ei had yn ei bryd, +Er llenwi ei holl ysguboriau + A bara i borthi y byd. + +Pan gasgla ei wenith i'w ydlan, + A'i wartheg i'r beudy gerllaw, +Fe eistedd yn ymyl y pentan, + A chwardda 'r y gwyntoedd a'r gwlaw; +Ni wyr am uchelgais na balchder, + Ond gwna ei ddyledswydd fel dyn, +A cheidw ei feddwl bob amser + Ynghanol ei fusnes ei hun. + + + +O DEWCH TUA'R MOELYDD. + + + O dewch tua'r moelydd, + Lle mae grug y mynydd + Yn gwenu yn ei ddillad newydd grai, + Mae glesni yr entrych + Yn gwenu mor geinwych, + Wrth syllu lawr ar geinion mwynion Mai; + Dewch i gyd, + Dewch tua bro'r grug a'r brwyn, + Mae'r dolydd yn deilio, + A'r byd yn blodeuo, + A'r adar yn llonni yn y llwyn. + + Ar bennau'r mynyddoedd + Mae awel y nefoedd, +Yn siarad wrth y nef yng nghlustiau y llawr, + Mae dylif o iechyd + A ffrwd bur o fywyd, + Yng nghol awelon iach y mynydd mawr, + Dewch i gyd, &c. + + Dewch, gwelwch y clogwyn + Fel pe bae'n ymestyn + Gan godi'i law i'n gwahodd ar ei gefn, + Cawn redeg a chwareu + Fel iyrchod y creigiau, + A chanu can drachefn ar ol trachefn; + Dewch i gyd, &c. + +Mehefin 22, '69, + + + +Y GOF. + + +(Y gerddoriaeth gan Proffeswr Parry). + +Ynghanol haearn, mwg, a than, + Mae'r gof yn gwneud ei waith, +Ar hyd y dydd, gan gann can + O fawl i'w wlad a'i iaith. + +Gewynau ei fraich sydd mor galed a'r dur, +Ei galon, er hynny, sydd dyner a phnr; +Mae cyrn ar ei ddwylaw mor gelyd a'r graiw, +A dwedir fod corn ar dafod ei wraig. + +Dechreua holi + Sion Jones Ty'n y Nant,-- +"Oes eisieu pedoli? + Pa sut mae y plant?" +Sion Jones yw'r mwyaf gwrol + Am daro i wneuthur pedol,-- + "On'd yw hi'n dywydd od o bethma, + Weithiau'n wlaw, ac weithiau'n eira,-- + Chwytha'r tan yn gryfach, Mocyn, + Paid a chysgu wrth y fegin,-- + Dacw gawod ar y bryniau, + 'Does dim coel ar almanaciau,-- + Sefwch o ffordd y gwreichion, blant, + Cliriwch le i wr Ty'n Nant." + + Dacw Rolant Tyddyn Einion, + Eisieu rhwymo par o olwynion, + A dyma Dafydd o Blas Iolyn + Eisieu peg yn nhrwyn y mochyn; +Gwyn fyd na f'ai peg yn ei drwyn ef ei hun, +I'w rwystro i'w stwffio i fusnes pob dyn. + +"Dyma aradr yn dod, a dacw og, +Chwytha'r tan, Mocyn, on'd wyt ti'n hen rog,-- +Huw Huws, Blaen y Ddol, a fu yma ers tro, +Eisieu gwneud blaen ar y big-fforch o'i go', +'Does neb yn y byd all wneud blaen arno fo. + +"Holo! dacw Sian Ty'n y Canol, +Hi gollodd bedolau ei chlocs ar yr heol, +Gwyn fyd na fa'i thafod yn colli'i phedolau, +Er mwyn iddi gloffi yn lle cario chwedlau; +Chwytha'r tan, Mocyn, ymhell y bo'th galon,-- +Sefwch 'nol, Mr. Jones, rhag ofn y gwreichion, +Chwi welwch, Sion Jones, fod digon o waith +Yn dyfod i'r Efel i chwe gof neu saith." + +Fel hyn, ynghanol mwg a than, + Mae'r gof yn gwneud ei waith, +Ar hyd y dydd, gan ganu can + O fawl i'w wlad a'i iaith. + +Mawrth 30, '76. + + + +CLYWCH Y FLOEDD I'R GAD. + + +(Geiriau Cymraeg ar ymdeithdon newydd Mr. B. Richards, "Let ihe hills +resound.") + +Clywch y floedd i'r gad--i'r gad! + Yn adseinio bryniau'r wlad; + Ymdonna'r ddraig + Ar ben bob craig, + Fry yn y nen; +Tra saif yr ieuanc wawr +I orenro'r Wyddfa fawr, + Fe saif y Cymro dewr + Dros ei Walia wen. + + Dewrder pur + A lanwo'r galon ddur; + O dewch yn llu + Dros Gymru fu + A Chymru fydd; +Rhyw hawddfyd llon +Gorona'r ymdrech hon; + A chanu wnawn, + A'n bronnau'n llawn + 'Nol cael y dydd. + Clywch y floedd, &c., &c. + + Anwyl wlad, fy anwyl wlad, + Nefoedd o fwynhad + Ydyw byw a marw + Yn bur i ti; + Rhydd dy nentydd bach, + A dy awyr iach, +Nerth yn fy mraich + A fy nghalon i: + Trig cerdd a chan + Rhwng dy fryniau glan, +A chaniadau mwyn dy delynau mad; + Ac mae'r awen wir + Yn llenwi'th dir-- + Gwynfa y byd yw fy anwyl wlad. + Clywch y floedd, &c., &c. + + + +Y DDWY BRIODFERCH. + + +(Efelychiad). + +Mi welais yn yr eglwys + Ddwy eneth heirdd eu gwedd; +'Roedd un mewn gwisg priodas, + A'r llall yng ngwisg y bedd. + +Darllenwyd y gwasanaeth,-- + "I'r byw, i fyw," aeth un; +A'r llall yng nglynn marwolaeth + Briododd Angeu'i hun. + +Fe aeth y ddwy i'w cartref + Yn ieuanc iawn en gwedd; +Aeth un i'r palas gorwych, + A'r llall i'r tywyll fedd. + +Deffroai un y bore + Mewn byd llawn poen a chlwy; +Y llall oedd fil mwy dedwydd, + Cael peidio deffro mwy. + + + +BETH SYDD ANWYL? + + +Pan yn nyddiau ie'netid cu, + Beth sy'n anwyl? +Cael pleserau, a chariadau, + Hyn sy'n anwyl: +Crwydro drwy y coed a'r dail, +Son am gariad bob yn ail; +Gwneuthur coron flodan hardd +I f' anwylyd yn yr ardd, +Pan yn nyddiau ie'enctid cu, + Hyn sydd anwyl. + +Pan y tyfa'r llanc yn ddyn, + Beth sy'n anwyl? +Tyrru elw--gwneuthur enw-- + Hyn sy'n anwyl; +Cario'n faich ofidiau gant, +Casglu eyfoeth, magu plant, +Codi cestyll yn y gwynt, +Cestyll breuddwyd dyddiau gynt, +Pan y tyfa'r llanc yn ddyn, + Hyn sydd anwyl. + +Ar brydnawnddydd byrr yr oes, + Beth sydd anwyl? +Hyder gwastad, ffydd a chariad, + Hyn sy'n anwyl; +Troi y cefn ar ofal byd, +Gweddi daer, a chartref clyd; +Cael cydwybod heb un briw, +Heddwch bron, a ffydd yn Nuw, +Ar brydnawnddydd byrr yr oes, + Hyn sy'n anwyl. + + + +Y GLOWR A'R CHWARELWR. + + +(Geiriau deuawd i leisiau gwrywaidd). + +Y DDAU. + +Pan fyddo'r rhew yn gwydro'r llyn, + A gwywo'r meillion mad, +A'r disglair od fel arian gwyn + Ar hyd bob glyn a gwlad; +Pan fyddo'r gwynt yn chwythu'n gry' + A'r storm yn tramwy'r fro, +Mae'n dda cael glo i dwymno'r ty, + A llechi ar y to. + +Y GLOWR. + +Myfi yw'r glowr du ei liw, + Sy'n mynd i lawr, i lawr, +I agor cistiau gwerthfawr Duw, + Sy'n nghroth y ddaear fawr; +O! cofiwch weithiau am fy mhoen + Tra'n twymno gylch y tan; +Os aflan yw fy ngwisg a nghroen, + Mae gennyf galon lan. + +Y DDAU. + +Cydweithiwn megis Cymry glan + I godi Gwalia wen, +I'r byd i gyd ni roddwn dan + A chysgod uwch ei ben. + +Y CHWARELWR. + +Chwarelwr siriol ydwyf fi + Yn byw ar ddant y graig, +I dynnu dail o'i chalon hi + I gadw ty a gwraig; +Os rhuo clod mae'r fflamau tan + I'r glowr am y glo, +Dadganu clod chwarelwr glan + Mae'r cenllysg ar y to. + +Y DDAU. + +Cydweithiwn megis Cymry glan + I godi Gwalia wen; +I'r byd i gyd ni roddwn dan + A chysgod uwch ei ben. + + + +BAD-GAN. + + +Rhwyfwn, rhwyfwn yn ein badau, + Canwn gyda bron ddiglwyf, +Tynnwn, tynnwn drwy y tonnau,-- + Cadwn amser gyda'r rhwyf; +Dacw faner gwawr y borau + Yn ymdorri ar y bryn, +Ac yn taflu rhes o'r bryniau + Ar eu pennau i lawr i'r llyn. + Rhwyfwn, rhwyfwn, &c., &c. + +Dyfnach, dyfnach, a y tonnau, + A'r cysgodion yn fwy clir, +Gloewach, gloewach a'r wybrenau + Fel yr awn oddiwrth y tir; +Ar y lan mae'r lili swynol + Yn ymbincio yn ei gwyn, +Ac mae'r cymyl gloewon siriol +Fel rhyw elyrch gwynion nefol + Yn ymdrochi yn y llyn. + Rhwyfwn, rhwyfwn, &c., &c. + + + +Y FRENHINES A'R GLOWR. + + +(Er cof am waredigaeth y Ty Newydd. Cyfansoddwyd i Mr. D. Emlyn Evans). + +Y FRENHINES. + +Brysiwch, fellt, ar hyd y gwifrau, + Saethwch dros y bryn a'r ddol, +Treiddiwch lawr i'r erch ddyfnderau, + Dewch a'r newydd i ni'n ol, +A oes gobaith i'r gwroniaid + Gipio yspail angau du, +A rhoi goleu i'r trueiniaid + O glaer lusern gobaith cu. + +Y GLOWR. + +Ofnadwy fu'r pryder,--y dychryn oedd fawr, +Ar drothwy bytholfyd yn disgwyl yr awr, +Ond pan ddaeth curiadau'n cydweithwyr i'n clyw, +Deallem fod tan cydymdeimlad yn fyw; +A bron ein brenhines o'i gorsedd wen, fawr, +Yn toddi o serch dros y glowyr yn awr. + +Y FRENHINES. + +Gwisga'r eurdlos ar dy ddwyfron, +Gyda llawryf werdd y gwron + Cana'r ddaear oll dy fawl. + +Y GLOWR. + +Cymer dithau, Buddug dirion, +Ddiolchgarwch glowr ffyddlon, +I wladgarwch pura'i galon + Y mae gennyt gyflawn hawl. +Daeth teimlad dyngarol fel tan nef ei hun +I rwymo brenhines a glowr yn un, +Mae gorsedd a thlodi'n diflannu draw, draw, +I rinwedd a chariad gael cydysgwyd llaw. + + + +DYCHYMYG HEDA. + + +Dychymyg heda uwch y bedd + Lle claddwyd priod anwyl, +Ac yno mynn gael gwneud ei sedd + I ddisgwyl, ac i ddisgwyl; +A gwaeddi'i henw a fynn ef + Gan ddisgwyl iddi ateb, +Ond ni adseinia dynol lef + Yn awyr tragwyddoldeb. + +Lle gwraig sy'n wag trwy'r oll o'r ty, + A gwraig heb ail yn unman; +Lle mam sy'n wag--"y man lle bu" + Adseinia'r gwagle'n mhobman; +Ac uwch ei llun y serch a ddaw + I sylweddoli'r cyfryw; +Ond adlais rheswm dd'wed o draw, + "Y llun yn unig ydyw!" + +Pwy geidw'r plant rhag derbyn cam,-- + Pwy wylia dros y rhei'ny? +I'r tair sy'n galw am eu mam-- + Gair gwag am byth yw "mami!" +Ond hyn sy'n gysur, onid yw, + Tra'n wylo uwch y marw, +Fod Tad amddifaid eto'n fyw-- + MAE EF YN LLOND EI ENW! + + + +OS DU YW'R CWMWL. + + +(Llinellau er coffadwriaeth am Mrs. Sarah Davies, 153, St. George Street +East, Llundain). + +Os du yw'r cwmwl uwch eich pen, + Wrth golli'ch anwyl briod, +Os nad oes rhwygiad yn y llen + I weld pa beth sydd uchod; +Mae Tad y gweddwon eto'n fyw, + A'r cwmwl a symuda, +Cewch weld fod gwenau wyneb Duw + Tu ol i'r cwmwl yna. + +Y teimlad ddwed,--"Mae niwl y glyn + Yn oeraidd i'm hanwylyd, +Mor gas i serch yw'r amdo gwyn, + Yr arch, a phridd y gweryd:" +Ond ffydd sy'n edrych dros y bedd + Draw, draw, i'r nefol hafan, +Lle mae eich priod byth mewn bedd + Mor bur a Duw ei human. + +Gofyna teimlad eto'n brudd,-- + "Beth wna'r amddifaid heddyw? +Pwy sycha'r deigryn ar y rudd + Ar ol y fam fu farw?" +Ond yn y nef uwch ben y glyn + Mae aur lythrennau telaid +Yn ffurfio'r geiriau melus hyn,-- + "MAE DUW YN DAD AMDDIFAID." + +Os ydyw cwpan galar du + Yn llawn o chwerw wermod, +Mae'n rhaid ei yfed, gyfaill cu,-- + Cewch fel cyn dod i'r gwaelod; +Mae olwyn fawr Rhagluniaeth Duw + Yn llawn o lygaid goleu, +A gweld mae'r Hwn sydd wrth y llyw + Y diwedd cyn y dechreu. + +Mae'r holl sirioldeb yn y nef, + A'r dagrau ar y ddaear,-- +Mae yno'n foliant "Iddo Ef," + Ac yma'n llawn o alar; +Mae hwn yn fyd i gario'r groes, + Mae yno'n gario'r goron, +Mae'r wylo i lawr ym myd y loes, + A'r gan tu hwnt i'r afon. + +Chwef., 1875. + + + +CWSG, FILWR, CWSG. + + +("Rest, warrior, rest,"--SIR W. SCOTT). + +(Y gerddoriaeth gan Mr. J. H. Roberts, Mus. Bac., Cantab). + +Cwsg, filwr, cwsg, aeth heibio'th gur, + Cwsg yr hun na wyr am ddeffro, +Darfu tynnu'r cleddyf dur + Ddydd a nos mewn gwaed a chyffro; +Taena dwylaw duwies hedd + Esmwyth flodau ar dy galon, +Ac o gylch dy dawel fedd, + Clywir adsain can angylion; +Nid oes gyffro yn dy fron, + Darfu rhu a thwrf magnelau, +Ond mae ar dy wyneb llon + Gysgod adgyfodiad golau. + + + +AR GANOL DYDD. + + +(Er cof am Mrs. James, Ynyseidiol). + +"Yr hyn a allodd hon, hi a'i gwnaeth."--MARC xiv. 8. + +Ar ganol dydd ei bywyd cu, + Ar ganol llwybr crefydd, +O ganol serch cyfeillion cu, + O ganol cartref dedwydd; +Ynghanol defnyddioldeb llawn, + Ar ganol gwaith ei bywyd, +Hi ga'dd ei hun yn ddedwydd iawn + Ynghanol cylch y gwynfyd. + +Nid oedd ei thaith ar hyd y glyn,-- + Y glyn rhwng byd a bywyd, +Ca'dd groesi'r lleoedd tywyll hyn + Heb brofi fawr o'u hadfyd; +Y t'w'llwch sy'n y glyn, nid yw + I'r sawl mae'r Iesu'n garu, +Ond cysgod aden dyner Duw + Yn dod i'w diogelu. + +Na choder colofn ar ei bedd,-- + Na cherfier gair i'w chofio, +Bydd dagrau'r eglwys drist ei gwedd + Yn ddisglair byth fan honno; +Ac ar y bedd yn alar byw, + Y tlawd ollynga berlau, +Mor ddisglair, fel y cenfydd Duw + Ei hunan yn y dagrau. + +Ion. 20, 1873. + + + +RHYWUN. + + +(O'r Saesneg). + +Mae rhywun yn dod bore fory, + Ond pwy--eich gwaethaf i ddweyd, +'Rwy' am fynd i'w gwrdd bore fory, + Fy nghalon ddwed rhaid i mi wneud; +Nid ydyw yn unrhyw berthynas, + Nid oes ganddo gyfoeth na chlod, +Ond rhywun sy'n dod bore fory, + Gwyn fyd na bae fory yn dod. + +Ces lythyr ers echdoe gan rywun, + Agorais y sel yn y fan, +Yn hwnnw fe sonnir gan rywun + Am gariad, a modrwy, a llan; +Mae'i eiriau'n felusach na'r diliau, + A'i lygad fel awyr las, glir, +Mae'n dwedyd y car fi hyd angeu, + A gwn nad all ddweyd ond y gwir. + +Mae rhywun yn dod bore fory, + Mae'n sicr o ddod yn ddi-feth, +Mae rhywun a finnau'n priodi, + Ond pwy ydyw rhywun yw'r peth; +Ie, pwy ydyw rhywun yw'r cwestiwn, + Mae'i ruddiau cyn hardded a'r rhos, +Os daw bore fory, mi fyddaf + 'Run enw a rhywun cyn nos. + + + +YSGYDWAD Y LLAW. + + +(Can. Y gerddoriaeth gan Mr. Jos. Parry Mus. Doc.). + +Bum yn ysgwyd fy llaw a llawer, + A'u gafael yn oer ddi-fraw; +Nid ydoedd y galon gynnes + I'w theimlo yn dod i'r llaw; +Mae ereill ymron ag ofni + I'w llaw gael llychwino'i gwawr, +Ond caraf gael llaw i'w hysgwyd + A galedwyd gan lafur mawr. + +Bum yn ysgwyd y llaw wen, dyner, + Pe buasai y rhos di-ail +Rhwng bysedd y llaw wen honno + Ni buasai yn siglo'i ddail; +Ond teimlais guriadau'r galon + Yn rhedeg i ben pob bys, +A theimlais onestrwydd yno + Fel yn gwefrio y fron ar frys. + +Fe ddywedir fod iaith y galon + I'w darllen ar ruddiau dyn, +Ac y saetha o'r llygaid gariad, + Sydd yn gryfach na nerth ei hun; +Ond gwelais fod twyll mewn gwenau, + Edrychant yn deg o draw, +Ond ni cha'dd fy mron ei thwyllo + Erioed pan yn ysgwyd llaw. + + + +GRUFFYDD AP CYNAN. + + +Ar fore teg flynyddau'n ol, + Ffarweliodd Gruffydd gyda fi, +Wrth ysgwyd llaw dros gamfa'r ddol, + Ein dagrau redent fel y lli; +Ysgydwai'i gledd yn nhrofa'r ffordd + I ddwedyd wrthyf ffarwel mud, +Tra'm calon innau megis gordd + Yn curo'n gynt, yn gynt o hyd. + +Cychwynnai ef i'r rhyfel trwm, + I ganol erch elynol lu, +A chyda chalon fel y plwm, + Cychwynnais innau'n ol i'r ty; +Ond gyrrodd Gruffydd weddi fyw + Gynhwysai f'enw i i'r nef, +A chlywodd clust agored Duw + Fy ngweddi innau drosto ef. + +Ar ddydd y frwydr trwy'r prynhawn, + Tra'r o'wn yn synfyfyrio'n ffol, +Breuddwydiais freuddwyd rhyfedd iawn,-- + Fod Gruffydd wedi dod yn ol; +Y bore ddaeth, a daeth y post, + Gan gludo newydd prudd dros ben, +Fod Gruffydd wedi'i glwyfo'n dost, + Ag eisieu gweld ei eneth wen. + +Cychwynais ato yn y fan,-- + Ce's edrych ar ei welw rudd,-- +Cyn hedeg o'i anfarwol ran + I weld ei Dduw mewn gwlad o ddydd; +"Ffarwel, fy ngeneth," ebai ef, + "Mae telyn yn fy nisgwyl i, +A honno, meddai engyl nef, + Y nesaf un i'th delyn di." + + + +Y BLODYN GWYWEDIG. + + +Tra'n eistedd fy hunan un hwyr dinam, + Yn ymyl y ffenestr at fachlud haul, +Yn fy llaw yr oedd llyfr ges gan fy mam, + Ac yno dechreuais a throi ei ddail; +Cyn hir, syrthiai blodyn gwywedig i lawr; + Rhwng y dail y bu am flynyddau maith, +A gweled y blodyn gwywedig yn awr + Dynnai'r dagrau yn lli o'm llygaid llaith; +A chofio a wnawn am y dyddiau gynt + Pan wyliai fy mam dros ei phlentyn bach, +A phan redwn i yn rhydd fel y gwynt, + Heb ofal am ddim, a fy nghalon yn iach. + +Edrychais i weled y ddalen gu + Lle dodwyd y blodyn gwywedig, gwan, +Gwelais yno eiriau a'm toddai i, + Geiriau gweddi f'anwylaf fam ar fy rhan; +Meddyliais fod mam wedi dianc draw + I ardal lle nad yw y blodau yn wyw, +Os syrthiodd ei chorff lawr i'r bedd gerllaw, + Anfarwoldeb flodeua yng ngardd fy Nuw; +Mi godais y blodyn oedd wrth flaen fy nhroed, + Ac ar weddi fy mam y dodais ef, +A gollyngais fry un ochenaid fawr + Am gael mynd cyn hir at fy mam i'r nef. + + + +WYLWN! WYLWN! + + +(Requiem,--Y gerddoriaeth gan Mr. J. Parry, Mus. Bac). + + Wylwn, wylwn! cwympa'r cedyrn, + Cwympa cedyrn Seion wiw, + Wylwn, wylwn! dianc adref + Y mae cewri Mynydd Duw; + Cydalarwn dan y stormydd, + Crogwn ein telynau'n syn,-- + Crogwn hefyd ein llawenydd + Ar hen helyg prudd y glyn: +Y cadarn a syrthiodd! Mae bwlch ar y mur, +A Seion ar suddo mewn tristwch a chur. + +Ond ndgorn Duw a rwyga feddau'r llawr, +A syrth y ser yn deilchion ar un awr;-- +Dydd dial Duw!--dydd gwae i fyrddiwn fydd, +A dydd gollyngdod teulu'r Nef yn rhydd. + +Clywaf lais o'r Ne'n llefaru, + Treiddia trwy hen niwl y glyn, +"Rhai sy'n meirw yn yr Iesu + Gwyn eu byd y meirw hyn;" +Diolch am yr enfys nefol + Sydd fel bwa am y bedd, +Dyma yr addewid ddwyfol + Gaed o wlad yr hedd. + + Moliannwn,--Gorfoleddwn,-- +Cawn gwrdd i gyd-ganu,--cyd-foli,--cyd-fyw, +Mae allwedd marwolaeth wrth wregys ein Duw. + + + +MAM. + + +Eisteddai geneth lwyd ei gwedd + I ddweyd ei chwyn a'i cham, +Ar noson oer yn myl bedd, + A hwnnw'n fedd ei mam; +Hi syllai fyny tua'r nen, + A'i llygaid prudd yn llyn, +Ac yng ngoleuni'r lleuad wen, + Hi wylai gan fel hyn,-- + "Mam! mam, O fy mam! + 'Does neb yn y byd + Mor anwyl a mam. + +"Ai llygad mam yw'r seren dlos + Sydd yn y nefoedd fry, +Yn wincio arnaf yn y nos + I esgyn ati hi? +Ai llais fy mam yw'r awel iach + Sy'n hedeg dros y tir, +Yn dwedyd wrth ei geneth fach,-- + "Cei ddod i'r nef cyn hir?" + Mam! mam, O fy mam! + Pa bryd caf fi fynd + I fynwes fy mam?" + + + +Y LLYGAID DUON. + + +(Y gerddoriaeth gan D. Emlyn Evans). + +Mae gloewder hanner dydd + Mewn llygaid gleision iach, +Ond llygaid duon sydd + Yn loewach dipyn bach; +Ac O! mae edrych arnynt hwy +Yn clwyfo ac yn gwella'r clwy'. + +Fel mae y seren dlos + Yn wincio fry uwchben, +Trwy d'w'llwch hanner nos, + Yn fantell dros y nen; +Fe wincia seren cariad cu +Trwy hanner nos y llygaid du. + +Mae beirdd pob gwlad ac oes + Yn rhyfedd iawn fel hyn, +Yn gweld pob peth yn groes,-- + Yn gweld y du yn wyn; +Pa dduaf bo y llygaid hardd, +Goleuaf yw yng ngolwg bardd. + +Medi 21, '71. + + + +CWYNAI CYMRU. + + +Cwynai Cymru pan yn colli + Mil o ddewrion gloewon gledd, +Cwynai Cymru wedi hynny + Roi Llywelyn yn ei fedd; +Ond ar feddau'r dewrion hynny + Mae angylion hedd yn llu, +Er ys oesau yn dadganu + Cydgan rhyddid Cymru gu. + +Cwynai Cymru weld cyfeillion + Yn ei gwawdio yn ei chefn, +Cwynai hefyd weld ei meibion + Yn bradychu'u hiaith drachefn; +Ond mae heulwen wodi codi + Ar ein hiaith ac ar ein gwlad, +Ac mae pawb yn uno i foli + Iaith a moesau Cymru fad. + +Cwynai Cymru weld ei thelyn + Heb un llaw i ddeffro'i thant, +Gweld yr awen gyda deigryn + Ar ei grudd am fyrdd o'i phlant; +Ond mae'r deigryn wedi'i sychu, + Hen delynau'n fyw o gan, +Gyda mil o leisiau'n canu + Hen alawon Cymru lan. + + + +GALAR! GALAR! GALAR! + + +Galar, galar, galar, + Mae cewri y cysegr yn cilio o'r byd, + Galar, galar, galar, + A chenedl hiraethus yn ddagrau i gyd, +Seion a wisga'i galarwisg mewn braw, +A thannau ei thelyn yn ddarnau'n ei llaw. + +Doder serch cerddorion, bellach, + Yn goronbleth uwch y bedd, +Cafodd ef goronbleth harddach + Gan gerddorion gwlad yr hedd, +Darfu swn hen delyn daear + Megis dan ei swynol law, +Hedodd yntau uwch pob galar + At aur delyn Gwynfa draw. + +Huna, huna, blentyn Iesu, + Gorffwys wedi llafur maith, +Melus rhoi y cledd o'r neilldu + A chael llawryf pen y daith; +Cymysg oedd y cur a'r moliant + Tra yn rhodio 'r dyffryn du, +Mawl yw'r oll yng ngwlad gogoniant, + Mawl i enw'r Ceidwad cu. + + + +MAES GARMON. {104} + + +(Harlech). + +Codwn faner hedd a gwynfyd + Fry i hofran trwy'r nen hyfryd, +Chwifiwn ein cleddyfau gwaedlyd + Pan yn troi o'r gad; +Garmon fawr gyhoedda arwest +Wedi troi o faes yr ornest, +Bloeddiwn ninnau gan y gonewest + Nes y crynna'r wlad; +Adsain Haleliwia +Darfai fron y dewra, + Haleliwia dynnai'r nef +I ddilyn cleddyf Gwalia; +Bloeddiwn Haleliwia eilwaith, +Wedi cael yr oruchafiaeth, +Nes adseinio'r dywysogaeth + Gyda nerth ein llef; +Os yw'r gwaed yn llifo,-- +Os yw'r meirw'n rhifo + Fel y glaswellt ger ein bron +Ar hyd Faes Garmon heno, +Pwy all rifo y bendithion +Ddaw trwy frwydr fawr Maes Garmon, +Pan aeth Haleliwia'n dewrion + Fry i glustiau'r nef! + +Marw mae gwaeddiadau rhyfel +Yn y pellder gyda'r awel, +Ac mae gwawrddydd heddwch tawel + Yn ymgodi draw; +Gormes drengodd ar Faes Garmon, +Yno gorwedd gyda'r meirwon, +A daw rhyddid gyda'i rhoddion + Yn ei deheu law; +Canwn gerddi heddwch +Wedi nos o dristwch, +Aed ein Haleliwia glir +Ar aden gwir ddedwyddwch +Dros y bryniau, trwy'r dyffrynnoedd, +Hyd y glannau, trwy y glynnoedd, +Ac i fyny hyd y nefoedd + Fel taranau'r Ior; +Crogwn ein banerau +Gyda'n dur bicellau, +Sychwn wrid y gwaed heb goll + Oddiar ein holl gleddyfau; +Rhed y newydd trwy bob talaeth + Am ein teilwng oruchafiaeth, +Nes adseinia Buddugoliaeth + Draw o for i for. + + + +Y DYN HANNER PAN. + + +Fe safai'r hanner pan a'i fys yn ei geg, + I edrych ar bobl yn myned heibio, +A phawb a gyd-ddwedent, 'nol barnu yn deg, + Fod diffyg go fawr i'w weld arno; +Er hynny ceid ganddo ryw fath o ffraethineb +Tu hwnt i'r cyffredin mewn ambell i ateb. + +Ryw ddiwrnod fe welai ysmociwr lled hy' + Yn pasio dan fygu'n aruthrol, +A dywedai'r hanner pan,--"Peth od, ddyliwn i, + Na buasai ei sifnai ar y canol; +Mae arogl tra rhyfedd ar hwn gallwn dybied, +Gan y rhaid iddo fygu i atal y gwybed." + +Rhyw dri crach foneddwr a basient y fan + Lle'r oedd yr hanner pan yn sefyll, +Gofynnodd un iddo, oedd Gymro go wan,-- + "Ers pryd 'rwyt ti yma, yr ellyll?" +"Mi glywais gan rywun y pasiai tri mwnci, +Mi redais i edrych ai gwir oedd y stori." + +Dyn meddw a ddaeth o'r naill ochr i'r llall, + Gan dyngu a rhegu'n erwinol; +Arllwysai ei wawd ar y dyn hanner call, + Gan dybio ei hun yn synwyrol; +"Mi glywais ddiareb," atebai'r hanner pan, +"Fod padell yn danod ei dduwch i'r crochan." + +Fe basiai merch ieuanc brydweddol a theg, + Yn troi mewn rhyw gylchoedd tra phwysig; +Ar ol iddi basio rhyw naw llath neu ddeg, + Fe waeddai'r hanner pan yn ffyrnig,-- +"Oes peryg', my dear, i chwi ddadgymalu?-- +Pwy ydyw y cooper a fu yn eich cylchu!" + +Un arall a basiai 'mhen dwy awr neu dair, + A chwpl o blu' ar ei hetan, +Ro'wn innau yn gwrando, fel mochyn mewnhaidd, + I glywed sylwadau'r hanner pan; +A dywedai,--"Mi glywais fod merched yn wylltion, +Mae nhw'n magu plu'--ant i 'hedeg yn union." + + + +O DEWCH I BEN Y MYNYDD. + + +(Y gerddoriaeth gan Mr. D. Emlyn Evans). + +O dewch i ben y mynydd draw, + I weld yr haul yn machlud, +A natur gyda'i thyner law + Yn cau amrantau bywyd. + +Fel arwr dan ei glwyf yr huan cun +Orwedda'n bruddaidd yn ei waed ei hun, +A'r llen sy'n derfyn rhwng y nos a'r dydd +A deflir dros ei wyneb prudd. + +Ond wele'r ser yn filoedd + Ar hyd yr wybren dlos, +Mor ddisglair y cabolwyd + Botymau gwisg y nos; +Os yw yr haul yn dangos + Prydferthion daear gref, +Mae'r nos, er twylled ydyw, + Yn dangos mwy o'r nef. + + + +OS YDYM AM FYND TRWY Y BYD. + + +Os ydym am fynd trwy y byd + Heb gwrdd a phrofedigaeth, +A chael yr haul uwch ben o hyd, + Heb gwmwl siomedigaeth; +A throi gofidiau o bob rhyw, + I gyd yn fel a menyn, +Y ffordd i ni yw dysgu byw + I gyd 'run fath a'r gwenyn. + +Awn fel y gwenyn at ein gwaith, + Pan d'wyna haul y borau, +Bydd melus dod yn ol o'r daith + Dan lwyth o'r golud gorau; +Dos, ddyn, i'r maes, ac yno gwel + Ryw gyfoeth ar bob cangen, +Mae Duw yn dangos lle mae'r mel + I'r sawl sydd arno'i angen. + +Os gwlawia'r nen drallodion lawr, + Paid bod yn llwfrddyn claear, +A phaid a gwneud rhyw fynydd mawr + O dwmpath pridd twrch daear; +Os gweli rywdro yspryd syn, + Wel, paid a mynd i grynu, +Sylldremia yn ei wyneb gwyn, + Mae'n sicr o ddychrynu. + +Os daw ynfydion ar eu taith + I gynnyg dy hyfforddi, +Dos di ymlaen i wneud dy waith + Ynghanol eu baldorddi; +Os daw celwyddau gyda'r gwynt, + 'Run fath a'r gwynt darfyddant, +Mae rhaffau celwydd ym mhob hynt + Yn crogi'r rhai a'u nyddant. + +Mae'n rhaid i'r storm gael rhuo'n brudd, + A ffyliaid fod yn ffyliaid, +Er hynny, synwyr wel y dydd + I gladdu pennau byliaid; +Gan hynny rhwym dy wregys cryf + Pan fflachia'r mellt yn d'ymyl, +Ac edrych am yr haul yn hyf-- + Mae ef tu ol i'r cymyl. + +Os wyt am gadw ar ffordd y gwir + A gochel bradus heidiau, +Gwell iti gadw'th draed o dir + Gwleidyddiaeth a'i holl bleidiau; +Mae "A. B. C." gwleidyddwyr tynn + A "V" ar ben y wyddor, +Ond main yw'r lle a geir i'r hyn + A elwir yn egwyddor. + +Paid gwisgo'th galon ar dy fraich + Os na fydd eisieu hynny, +A phaid a chrymu dan dy faich, + Ond cwyd dy ben i fyny; +Boed gwres ymroddiad yn dy waed, + A dywed trwy bob tywydd, +Fod daear rhyddid dan dy draed, + A Duw uwch ben yn llywydd. + + + +MIL MWY HUDOL. + + +Byron enwog fu'n darlunio + Merch a blodau yn ei llaw, +Y peth tlysaf a fedd natur, + Er ei chwilio drwyddi draw; +A! ti fethaist, Byron ddawnus, + Er dy fost, dy glod, a'th fri, +Swyn i'r llygad sydd yn unig + Yn dy arlun clodfawr di. + +Mil mwy liudol i fy nghalon + Clywed merch, cartrefle swyn, +Fel yn arllwys ei llais treiddgar + Am ben llais piano mwyn; +Seiniau natur yn ymblethu + Gyda sain offeryn hardd,-- +Dawn a dysg yn ymgofleidio + Dodda galon dyner bardd. + +Wrth im' weld ei bysedd meinion + Fel yn dawnsio gyda hoen, +Ar allweddau yr offeryn-- + Ffoai gofid, ciliai poen; +Teimlwn fysedd cudd tynerwch + Ar holl dannau'm calon wan, +Bron na syrthiais i ber-lewyg + Gan y swyn oedd yn y fan. + +Anwyl eneth, wrth im' wrando + Ar eich llais, oedd imi'n wledd-- +Gweled delw gwir brydferthwch + Fel yn eistedd ar eich gwedd, +Dychymygais mewn mynydyn + Fod angylion Gwynfa lan, +Rhwng eich dysg, eich moes, a'ch doniau, + Yn eiddigus wrth eich can. + + + +O! DEDWYDD BOED DY HUN. + + +("Oh! happy be thy dreams"). + +O! dedwydd, dedwydd, bo dy hun, + Llawn o ddedwyddwch fo'th freuddwydion di; +Y bryniau aur sydd byth dan heulog hin, + A'r awyr las sy'n ddwyfol glir i ti; +Fry, fry, mae ysbryd pur dy fam, +Draw'n gwylio dros dy hun rhag it' gael cam, +Mor bur a'r ser sy'n gwylio dros dy lun, +O! dedwydd, dedwydd, bo dy hun. + +O! dedwydd, dedwydd, bo dy fywyd di, + Mae'th fam yn gwylio'th gwsg o'r nef yn awr; +A'r llaw fu'n arwain hon i'r gwynfyd fry + Fo eto i'th arwain di trwy'r cystudd mawr; +Bydd llygaid engyl gyda llygad mam +Byth, byth, i'th gadw rhag cael unrhyw gam, +Cwsg tra mae'r ser yn gwylio uwch dy lun, +O! dedwydd, dedwydd, bo dy hun. + + + +'RWY'N DOD, 'RWY'N DOD. + + +(Just as I am). + +Er mwyn y gwaed, fy Iesu hael, +Mae gobaith i bechadur gwael; +Ac fel yr un aflana'n bod, +At orsedd gras--'rwy'n dod, 'rwy'n dod. + +Ni oedaf funud awr yn hwy +Heb guddio f' hun mewn marwol glwy', +Wrth droed dy groes yw'r fan i fod, +Fy Nghrist, fy Nuw,--'rwy'n dod, 'rwy'n dod. + +Er cael fy nhaflu ar bob llaw, +Gan ofn gelynion yma a thraw; +Ac er fod ofnau cas yn bod, +O fewn fy mron,--'rwy'n dod, 'rwy'n dod. + +Er mod i 'n ddall, yn noeth, yn dlawd, +Mae'r Hollgyfoethog imi'n frawd, +A thrysor penna'r nef sy'n bod, +Yng nghroes fy Nuw,--'rwy'n dod, 'rwy'n dod. + +'Rwy'n credu'r hen addewid wiw, +Fod maddeu'n nghalon dyner Duw; +Cael claddu'm meiau yw fy nod, +Yng nghlwyfau'r Oen,--'rwy'n dod, 'rwy'n dod. + +Gwnaeth cariad Crist y ffordd yn rhydd, +O wlad y nos i wlad y dydd; +Mae miloedd yno'n canu 'i glod, +'Rwyf finnau'r gwan, yn dod, yn dod. + +DIWEDD. + + + + +Footnotes: + + +{39} Ymddengys fod Cymru, tua'r amser y priododd Syr Owen Tudur a'r +frenhines Catherine, a'i rhagolygon yn dra thywyll. Yr oedd Owen Glyndwr +yn ei fedd ers llawer o flynyddoedd, wedi oes o ymdrech deg i gadw +annibyniaeth ei genedl, a'r ymdrech honno wedi troi yn fethiant. Cynllun +y Gantawd ydyw fod cynhadledd o uchelwyr a phendefigion a phendefigesau +Cymru wedi ymgynnull mewn man penodol i ymdrin ac i drafod sefyllfa +ddirywiedig y wlad. Dychmygir hefyd fod yno fardd a cherddor yn +bresennol, fel y byddai braidd bob amser mewn cynhulliadau o'r fath yn yr +oesau hynny. Pan oedd y bardd a'r telynor yn canu y pennill cyntaf yn y +Gantawd, y mae cennad yn dyfod i mewn yn hysbysu fod Syr Owen Tudur yn +myned i'w briodi a'r frenhines Catherine. Danghosir ychydig o wahaniaeth +barn rhyngddynt yn y mater ar yr olwg gyntaf. + +Y mae llawer o benhillion diweddaf y Gantawd at ryddid y cerddorion i'w +rhannu yn unawdau, deuawdau, neu gydganau, fel y bo eu barn a'u chwaeth. + +{104} Cyhoeddir trwy ganiatad Mr. Isaac Jones, Treherbert. + + + +***END OF THE PROJECT GUTENBERG EBOOK GWAITH MYNYDDOG. CYFROL II*** + + +******* This file should be named 14547.txt or 14547.zip ******* + + +This and all associated files of various formats will be found in: +https://www.gutenberg.org/dirs/1/4/5/4/14547 + + + +Updated editions will replace the previous one--the old editions +will be renamed. + +Creating the works from public domain print editions means that no +one owns a United States copyright in these works, so the Foundation +(and you!) can copy and distribute it in the United States without +permission and without paying copyright royalties. Special rules, +set forth in the General Terms of Use part of this license, apply to +copying and distributing Project Gutenberg-tm electronic works to +protect the PROJECT GUTENBERG-tm concept and trademark. Project +Gutenberg is a registered trademark, and may not be used if you +charge for the eBooks, unless you receive specific permission. If you +do not charge anything for copies of this eBook, complying with the +rules is very easy. You may use this eBook for nearly any purpose +such as creation of derivative works, reports, performances and +research. They may be modified and printed and given away--you may do +practically ANYTHING with public domain eBooks. Redistribution is +subject to the trademark license, especially commercial +redistribution. + + + +*** START: FULL LICENSE *** + +THE FULL PROJECT GUTENBERG LICENSE +PLEASE READ THIS BEFORE YOU DISTRIBUTE OR USE THIS WORK + +To protect the Project Gutenberg-tm mission of promoting the free +distribution of electronic works, by using or distributing this work +(or any other work associated in any way with the phrase "Project +Gutenberg"), you agree to comply with all the terms of the Full Project +Gutenberg-tm License (available with this file or online at +https://gutenberg.org/license). + + +Section 1. General Terms of Use and Redistributing Project Gutenberg-tm +electronic works + +1.A. By reading or using any part of this Project Gutenberg-tm +electronic work, you indicate that you have read, understand, agree to +and accept all the terms of this license and intellectual property +(trademark/copyright) agreement. If you do not agree to abide by all +the terms of this agreement, you must cease using and return or destroy +all copies of Project Gutenberg-tm electronic works in your possession. +If you paid a fee for obtaining a copy of or access to a Project +Gutenberg-tm electronic work and you do not agree to be bound by the +terms of this agreement, you may obtain a refund from the person or +entity to whom you paid the fee as set forth in paragraph 1.E.8. + +1.B. "Project Gutenberg" is a registered trademark. It may only be +used on or associated in any way with an electronic work by people who +agree to be bound by the terms of this agreement. There are a few +things that you can do with most Project Gutenberg-tm electronic works +even without complying with the full terms of this agreement. See +paragraph 1.C below. There are a lot of things you can do with Project +Gutenberg-tm electronic works if you follow the terms of this agreement +and help preserve free future access to Project Gutenberg-tm electronic +works. See paragraph 1.E below. + +1.C. The Project Gutenberg Literary Archive Foundation ("the Foundation" +or PGLAF), owns a compilation copyright in the collection of Project +Gutenberg-tm electronic works. Nearly all the individual works in the +collection are in the public domain in the United States. If an +individual work is in the public domain in the United States and you are +located in the United States, we do not claim a right to prevent you from +copying, distributing, performing, displaying or creating derivative +works based on the work as long as all references to Project Gutenberg +are removed. Of course, we hope that you will support the Project +Gutenberg-tm mission of promoting free access to electronic works by +freely sharing Project Gutenberg-tm works in compliance with the terms of +this agreement for keeping the Project Gutenberg-tm name associated with +the work. You can easily comply with the terms of this agreement by +keeping this work in the same format with its attached full Project +Gutenberg-tm License when you share it without charge with others. + +1.D. The copyright laws of the place where you are located also govern +what you can do with this work. Copyright laws in most countries are in +a constant state of change. If you are outside the United States, check +the laws of your country in addition to the terms of this agreement +before downloading, copying, displaying, performing, distributing or +creating derivative works based on this work or any other Project +Gutenberg-tm work. The Foundation makes no representations concerning +the copyright status of any work in any country outside the United +States. + +1.E. Unless you have removed all references to Project Gutenberg: + +1.E.1. The following sentence, with active links to, or other immediate +access to, the full Project Gutenberg-tm License must appear prominently +whenever any copy of a Project Gutenberg-tm work (any work on which the +phrase "Project Gutenberg" appears, or with which the phrase "Project +Gutenberg" is associated) is accessed, displayed, performed, viewed, +copied or distributed: + +This eBook is for the use of anyone anywhere at no cost and with +almost no restrictions whatsoever. You may copy it, give it away or +re-use it under the terms of the Project Gutenberg License included +with this eBook or online at www.gutenberg.org + +1.E.2. If an individual Project Gutenberg-tm electronic work is derived +from the public domain (does not contain a notice indicating that it is +posted with permission of the copyright holder), the work can be copied +and distributed to anyone in the United States without paying any fees +or charges. If you are redistributing or providing access to a work +with the phrase "Project Gutenberg" associated with or appearing on the +work, you must comply either with the requirements of paragraphs 1.E.1 +through 1.E.7 or obtain permission for the use of the work and the +Project Gutenberg-tm trademark as set forth in paragraphs 1.E.8 or +1.E.9. + +1.E.3. If an individual Project Gutenberg-tm electronic work is posted +with the permission of the copyright holder, your use and distribution +must comply with both paragraphs 1.E.1 through 1.E.7 and any additional +terms imposed by the copyright holder. Additional terms will be linked +to the Project Gutenberg-tm License for all works posted with the +permission of the copyright holder found at the beginning of this work. + +1.E.4. Do not unlink or detach or remove the full Project Gutenberg-tm +License terms from this work, or any files containing a part of this +work or any other work associated with Project Gutenberg-tm. + +1.E.5. Do not copy, display, perform, distribute or redistribute this +electronic work, or any part of this electronic work, without +prominently displaying the sentence set forth in paragraph 1.E.1 with +active links or immediate access to the full terms of the Project +Gutenberg-tm License. + +1.E.6. You may convert to and distribute this work in any binary, +compressed, marked up, nonproprietary or proprietary form, including any +word processing or hypertext form. However, if you provide access to or +distribute copies of a Project Gutenberg-tm work in a format other than +"Plain Vanilla ASCII" or other format used in the official version +posted on the official Project Gutenberg-tm web site (www.gutenberg.org), +you must, at no additional cost, fee or expense to the user, provide a +copy, a means of exporting a copy, or a means of obtaining a copy upon +request, of the work in its original "Plain Vanilla ASCII" or other +form. Any alternate format must include the full Project Gutenberg-tm +License as specified in paragraph 1.E.1. + +1.E.7. Do not charge a fee for access to, viewing, displaying, +performing, copying or distributing any Project Gutenberg-tm works +unless you comply with paragraph 1.E.8 or 1.E.9. + +1.E.8. You may charge a reasonable fee for copies of or providing +access to or distributing Project Gutenberg-tm electronic works provided +that + +- You pay a royalty fee of 20% of the gross profits you derive from + the use of Project Gutenberg-tm works calculated using the method + you already use to calculate your applicable taxes. The fee is + owed to the owner of the Project Gutenberg-tm trademark, but he + has agreed to donate royalties under this paragraph to the + Project Gutenberg Literary Archive Foundation. Royalty payments + must be paid within 60 days following each date on which you + prepare (or are legally required to prepare) your periodic tax + returns. Royalty payments should be clearly marked as such and + sent to the Project Gutenberg Literary Archive Foundation at the + address specified in Section 4, "Information about donations to + the Project Gutenberg Literary Archive Foundation." + +- You provide a full refund of any money paid by a user who notifies + you in writing (or by e-mail) within 30 days of receipt that s/he + does not agree to the terms of the full Project Gutenberg-tm + License. You must require such a user to return or + destroy all copies of the works possessed in a physical medium + and discontinue all use of and all access to other copies of + Project Gutenberg-tm works. + +- You provide, in accordance with paragraph 1.F.3, a full refund of any + money paid for a work or a replacement copy, if a defect in the + electronic work is discovered and reported to you within 90 days + of receipt of the work. + +- You comply with all other terms of this agreement for free + distribution of Project Gutenberg-tm works. + +1.E.9. If you wish to charge a fee or distribute a Project Gutenberg-tm +electronic work or group of works on different terms than are set +forth in this agreement, you must obtain permission in writing from +both the Project Gutenberg Literary Archive Foundation and Michael +Hart, the owner of the Project Gutenberg-tm trademark. Contact the +Foundation as set forth in Section 3 below. + +1.F. + +1.F.1. Project Gutenberg volunteers and employees expend considerable +effort to identify, do copyright research on, transcribe and proofread +public domain works in creating the Project Gutenberg-tm +collection. Despite these efforts, Project Gutenberg-tm electronic +works, and the medium on which they may be stored, may contain +"Defects," such as, but not limited to, incomplete, inaccurate or +corrupt data, transcription errors, a copyright or other intellectual +property infringement, a defective or damaged disk or other medium, a +computer virus, or computer codes that damage or cannot be read by +your equipment. + +1.F.2. LIMITED WARRANTY, DISCLAIMER OF DAMAGES - Except for the "Right +of Replacement or Refund" described in paragraph 1.F.3, the Project +Gutenberg Literary Archive Foundation, the owner of the Project +Gutenberg-tm trademark, and any other party distributing a Project +Gutenberg-tm electronic work under this agreement, disclaim all +liability to you for damages, costs and expenses, including legal +fees. YOU AGREE THAT YOU HAVE NO REMEDIES FOR NEGLIGENCE, STRICT +LIABILITY, BREACH OF WARRANTY OR BREACH OF CONTRACT EXCEPT THOSE +PROVIDED IN PARAGRAPH F3. YOU AGREE THAT THE FOUNDATION, THE +TRADEMARK OWNER, AND ANY DISTRIBUTOR UNDER THIS AGREEMENT WILL NOT BE +LIABLE TO YOU FOR ACTUAL, DIRECT, INDIRECT, CONSEQUENTIAL, PUNITIVE OR +INCIDENTAL DAMAGES EVEN IF YOU GIVE NOTICE OF THE POSSIBILITY OF SUCH +DAMAGE. + +1.F.3. LIMITED RIGHT OF REPLACEMENT OR REFUND - If you discover a +defect in this electronic work within 90 days of receiving it, you can +receive a refund of the money (if any) you paid for it by sending a +written explanation to the person you received the work from. If you +received the work on a physical medium, you must return the medium with +your written explanation. The person or entity that provided you with +the defective work may elect to provide a replacement copy in lieu of a +refund. If you received the work electronically, the person or entity +providing it to you may choose to give you a second opportunity to +receive the work electronically in lieu of a refund. If the second copy +is also defective, you may demand a refund in writing without further +opportunities to fix the problem. + +1.F.4. Except for the limited right of replacement or refund set forth +in paragraph 1.F.3, this work is provided to you 'AS-IS', WITH NO OTHER +WARRANTIES OF ANY KIND, EXPRESS OR IMPLIED, INCLUDING BUT NOT LIMITED TO +WARRANTIES OF MERCHANTIBILITY OR FITNESS FOR ANY PURPOSE. + +1.F.5. Some states do not allow disclaimers of certain implied +warranties or the exclusion or limitation of certain types of damages. +If any disclaimer or limitation set forth in this agreement violates the +law of the state applicable to this agreement, the agreement shall be +interpreted to make the maximum disclaimer or limitation permitted by +the applicable state law. The invalidity or unenforceability of any +provision of this agreement shall not void the remaining provisions. + +1.F.6. INDEMNITY - You agree to indemnify and hold the Foundation, the +trademark owner, any agent or employee of the Foundation, anyone +providing copies of Project Gutenberg-tm electronic works in accordance +with this agreement, and any volunteers associated with the production, +promotion and distribution of Project Gutenberg-tm electronic works, +harmless from all liability, costs and expenses, including legal fees, +that arise directly or indirectly from any of the following which you do +or cause to occur: (a) distribution of this or any Project Gutenberg-tm +work, (b) alteration, modification, or additions or deletions to any +Project Gutenberg-tm work, and (c) any Defect you cause. + + +Section 2. Information about the Mission of Project Gutenberg-tm + +Project Gutenberg-tm is synonymous with the free distribution of +electronic works in formats readable by the widest variety of computers +including obsolete, old, middle-aged and new computers. It exists +because of the efforts of hundreds of volunteers and donations from +people in all walks of life. + +Volunteers and financial support to provide volunteers with the +assistance they need, is critical to reaching Project Gutenberg-tm's +goals and ensuring that the Project Gutenberg-tm collection will +remain freely available for generations to come. In 2001, the Project +Gutenberg Literary Archive Foundation was created to provide a secure +and permanent future for Project Gutenberg-tm and future generations. +To learn more about the Project Gutenberg Literary Archive Foundation +and how your efforts and donations can help, see Sections 3 and 4 +and the Foundation web page at https://www.gutenberg.org/fundraising/pglaf. + + +Section 3. Information about the Project Gutenberg Literary Archive +Foundation + +The Project Gutenberg Literary Archive Foundation is a non profit +501(c)(3) educational corporation organized under the laws of the +state of Mississippi and granted tax exempt status by the Internal +Revenue Service. The Foundation's EIN or federal tax identification +number is 64-6221541. Contributions to the Project Gutenberg +Literary Archive Foundation are tax deductible to the full extent +permitted by U.S. federal laws and your state's laws. + +The Foundation's principal office is located at 4557 Melan Dr. S. +Fairbanks, AK, 99712., but its volunteers and employees are scattered +throughout numerous locations. Its business office is located at +809 North 1500 West, Salt Lake City, UT 84116, (801) 596-1887, email +business@pglaf.org. Email contact links and up to date contact +information can be found at the Foundation's web site and official +page at https://www.gutenberg.org/about/contact + +For additional contact information: + Dr. Gregory B. Newby + Chief Executive and Director + gbnewby@pglaf.org + +Section 4. Information about Donations to the Project Gutenberg +Literary Archive Foundation + +Project Gutenberg-tm depends upon and cannot survive without wide +spread public support and donations to carry out its mission of +increasing the number of public domain and licensed works that can be +freely distributed in machine readable form accessible by the widest +array of equipment including outdated equipment. Many small donations +($1 to $5,000) are particularly important to maintaining tax exempt +status with the IRS. + +The Foundation is committed to complying with the laws regulating +charities and charitable donations in all 50 states of the United +States. Compliance requirements are not uniform and it takes a +considerable effort, much paperwork and many fees to meet and keep up +with these requirements. We do not solicit donations in locations +where we have not received written confirmation of compliance. To +SEND DONATIONS or determine the status of compliance for any +particular state visit https://www.gutenberg.org/fundraising/donate + +While we cannot and do not solicit contributions from states where we +have not met the solicitation requirements, we know of no prohibition +against accepting unsolicited donations from donors in such states who +approach us with offers to donate. + +International donations are gratefully accepted, but we cannot make +any statements concerning tax treatment of donations received from +outside the United States. U.S. laws alone swamp our small staff. + +Please check the Project Gutenberg Web pages for current donation +methods and addresses. Donations are accepted in a number of other +ways including including checks, online payments and credit card +donations. To donate, please visit: +https://www.gutenberg.org/fundraising/donate + + +Section 5. General Information About Project Gutenberg-tm electronic +works. + +Professor Michael S. Hart was the originator of the Project Gutenberg-tm +concept of a library of electronic works that could be freely shared +with anyone. For thirty years, he produced and distributed Project +Gutenberg-tm eBooks with only a loose network of volunteer support. + +Project Gutenberg-tm eBooks are often created from several printed +editions, all of which are confirmed as Public Domain in the U.S. +unless a copyright notice is included. Thus, we do not necessarily +keep eBooks in compliance with any particular paper edition. + +Most people start at our Web site which has the main PG search facility: + + https://www.gutenberg.org + +This Web site includes information about Project Gutenberg-tm, +including how to make donations to the Project Gutenberg Literary +Archive Foundation, how to help produce our new eBooks, and how to +subscribe to our email newsletter to hear about new eBooks. + |
