summaryrefslogtreecommitdiff
path: root/14547.txt
diff options
context:
space:
mode:
authorRoger Frank <rfrank@pglaf.org>2025-10-15 04:44:47 -0700
committerRoger Frank <rfrank@pglaf.org>2025-10-15 04:44:47 -0700
commit08411d040610eefb4c22b76bcd961c9abee8ccb5 (patch)
tree5894e7efc66df57b2ddd7d581b4ac698bc53347b /14547.txt
initial commit of ebook 14547HEADmain
Diffstat (limited to '14547.txt')
-rw-r--r--14547.txt4180
1 files changed, 4180 insertions, 0 deletions
diff --git a/14547.txt b/14547.txt
new file mode 100644
index 0000000..ee0cf7f
--- /dev/null
+++ b/14547.txt
@@ -0,0 +1,4180 @@
+The Project Gutenberg eBook, Gwaith Mynyddog. Cyfrol II, by Mynyddog,
+Edited by Owen M. Edwards
+
+
+This eBook is for the use of anyone anywhere at no cost and with
+almost no restrictions whatsoever. You may copy it, give it away or
+re-use it under the terms of the Project Gutenberg License included
+with this eBook or online at www.gutenberg.org
+
+
+
+
+
+Title: Gwaith Mynyddog. Cyfrol II
+
+Author: Mynyddog
+
+Release Date: December 31, 2004 [eBook #14547]
+
+Language: Welsh
+
+Character set encoding: ISO-646-US (US-ASCII)
+
+
+***START OF THE PROJECT GUTENBERG EBOOK GWAITH MYNYDDOG. CYFROL II***
+
+
+
+
+
+Transcribed from the 1915 Ab Owen edition by David Price, email
+ccx074@coventry.ac.uk
+
+
+
+
+
+GWAITH MYNYDDOG. CYFROL II.
+
+
+[Picture of Mynyddog: myn0.jpg]
+
+
+
+
+RHAGAIR.
+
+
+Ail gyfrol yw hon o'r caneuon ganai Mynyddog heb feddwl eu cyhoeddi
+hwyrach. Canodd hwy fel y can aderyn. Y maent yn aros yng nghof pawb
+a'u clywodd, er hynny. Ac oni ddylai pobl ieuainc na chlywsant Fynyddog
+eu cael? Oni ddylent redeg drwy fywyd ein cenedl fel y rhed aber y
+mynydd trwy'n cymoedd?
+
+Oherwydd, yn un peth, y maent yn ganeuon cyfeillgarwch a chymdeithas
+fwyn. Y mae i gwmniaeth, yn gystal ag unigedd, ei le ym mywyd ein
+henaid. O'r aelwyd i'r Eisteddfod hoffai Mynyddog ei bobl,--
+
+ "Rwy'n caru hen wlad fy nhadau
+ Gyda'i thelyn, ei henglyn, a'i hwyl,
+ Rwy'n caru cael bechgyn y bryniau
+ Gyda than yn y gan yn eu gwyl."
+
+Cadwant, hefyd, naturioldeb ieuenctid gyda doethineb profiad. Dyna nerth
+Mynyddog.
+
+Y mae gwythien o synwyr cyffredin cryf yn rhedeg trwy ei holl ganeuon. Y
+mae hon yn rhoi gwerth arhosol ar y gan ysgafnaf fedd. Hyd yn oed wrth
+ddarlunio carwriaeth rhydd ergyd na roddodd yr un pulpud ei grymusach.
+
+Y mae'r synwyr cyffredin hwn yn gwneud ei hynawsedd mor ddoeth, ei
+ddigrifwch mor naturiol, ei bartiaeth mor henffel, fel y tybiwn ei fod yn
+codi uwchlaw ymrysonau ei ddydd, ac yn aros gyda'i genedl, gan dyfu gyda
+hi. A hawdd i genedl hoffus ddarllen ei meddwl i ganeuon Mynyddog, fel y
+derllyn tad ei feddyliau dyfnaf i afiaith parablus ei blentyn.
+
+Nid direidi a mwyniant yn unig sydd yng nghan Mynyddog. Y mae islais o
+brudd-der ynddi, oherwydd fod hynny yn y natur ddynol hefyd.
+
+Y mae ei wladgarwch, hefyd, yn ddoeth ac yn angerddol ar yr un pryd.
+Carodd fynyddoedd a nentydd ei wlad heb eu hysbrydoli fel Islwyn, carodd
+hwynt er eu mwyn eu hunain.
+
+Ac uwchlaw popeth, canodd mor glir oherwydd ei fod mor anhunanol. Canodd,
+nid gan feddwl am dano ei hun, ei gelfyddyd a'i ddelfrydau, ei uchelgais
+a'i anfarwoldeb, ond am y bobl yr oedd yn canu iddynt. Angylion
+gwasanaethgar iddo ef oedd ffurf ac athroniaeth. Ac nid oes yng Nghymru
+heddyw fardd a'i arddull mor gain, a'i feddwl mor ddwfn, na wna les iddo
+efrydu symlder Mynyddog, ac achos y symlder hwnnw.
+
+OWEN M. EDWARDS.
+
+Llanuwchllyn.
+
+
+
+
+DARLUNIAU.
+
+
+Y mae y darluniau oll, ond y darlun o of Dinas Mawddwy, o waith y
+diweddar John Thomas, Cambrian Gallery, Liverpool.
+
+MYNYDDOG
+
+PEN Y MYNYDD
+
+ "O dewch tua'r moelydd,
+ Lle mae grug y mynydd
+Yn gwenu yn ei ddillad newydd grai."
+
+Y MELINYDD.
+
+"'Rwy'n caru swn yr olwyn ddwr
+ A droir gan ffrwd y nant."
+
+MYNWENT EGLWYS LLANBRYNMAIR.
+
+Y GOF.
+
+"Yng nghanol haearn, mwg, a than,
+ Mae'r gof yn gwneud ei waith,
+Ar hyd y dydd, gan ganu can
+ O fawl i'w wlad a'i iaith."
+
+AWEL Y BORE.
+
+"A charu 'r wyf yr awel wynt
+ A hed dros Gymru gu."
+
+HEN GAPEL LLANBRYNMAIR.
+
+"Bydd llygaid engyl gyda llygaid mam
+Draw'n gwylio dros dy hun rhag it' gael cam."
+
+
+
+
+MYNYDDOG.
+
+
+[Pen y Mynydd. "Ac yma nid oes dim a ddaw
+Cydrhwng y dyn a Duw.": myn8.jpg]
+
+
+
+HEN ADGOFION.
+
+
+O na chawn fynd yn ol ar hynt
+ Drwy'r adeg ddedwydd, iach,
+I brofi y breuddwydion gynt
+ Pan oeddwn blentyn bach;
+Cawn syllu eilwaith oriau hir
+ Ar flodau gwanwyn oes,
+Ac ail fwynhau ei awyr glir
+ Heb gwmwl du na loes.
+
+O na chawn dreulio eto'n llawn
+ Yr adeg lon, ddi-gur,
+Pan gylch fy llwybrau fore a nawn
+ 'Roedd blodau cariad pur;
+Nid yw ond megis ddoe o'r bron
+ Im gofio ienctid ffol;
+Ond dyma sydd yn rhwygo 'mron,
+ Ddaw'r adeg byth yn ol.
+
+
+
+CHWI FEIBION DEWRION.
+
+
+(Geiriau i'r "Marseillaise.")
+
+Chwi feibion dewrion gwlad y bryniau,
+ Clywch, clywch yr udgorn croch o draw,
+Llywelyn sydd yn chwifio'i ddreigiau
+ A'i gleddyf gloew yn ei law;
+Mae dagrau baban gwan a'r weddw
+ Yn gwaeddi'n uwch na chorn y gad,
+ Fod rhyddid hoff ein hanwyl wlad
+O dan ei chlwyf ymron a marw;
+ Ymlaen! ymlaen i'r gad,
+ Dadweinied pawb ei gledd,
+ Ni awn, ni awn dros freiniau'n gwlad
+ I ryddid neu i'r bedd!
+
+Ystormydd rhyfel sy'n ymruo,
+ Yr holl awyrgylch sydd yn ddu,
+Mae cledd dialedd wedi deffro,
+ Gwae, gwae i'r holl elynol lu;
+Ni allwn edrych ar gelanedd
+ Estroniaid yn arteithio'n gwlad,
+ Gan ddwyn aneddau'n mam a'n tad
+A gwneud ein gwlad i gyd yn garnedd;
+ Ymlaen!
+
+Deffroed ysbryd hyf ein teidiau
+ I danio mynwes ddewr pob dyn,
+Mae'r ddraig yn edrych lawr o'r bryniau
+ Gan ddisgwyl gweled Cymru'n un;
+Bu'n gwlad am oesau'n araf waedu,
+ Ond sych dy ddagrau, Walia Wen,
+ Mae seren gobaith uwch dy ben,
+Daeth cledd Llywelyn i'th waredu.
+ Ymlaen!
+
+
+
+CYMRU, GWLAD Y GAN.
+
+
+Pa beth sy'n Nghymru, gwlad y gan,--
+Ai diliau glwys, ai dolydd glan,
+Ai gwastad diroedd heb eu hail,
+Yn dwyn eu blodau teg a'u dail?
+Na, na, nid dyna'r harddwch sydd
+Yn teg addurno Gwalia rydd.
+
+Pa beth sy'n Nghymru, gwlad y gan?
+Rhaeadrau gwyllt a nentydd glan,
+Clogwyni serth a chreigiau ban,
+A harddwch. Eden ym mhob man!
+Ac O! mae yno fwthyn cu
+Sy'n werth palasau'r byd i mi.
+
+Mae tyrrau cestyll Gwalia Wen
+Yn pwyntio i fyny tua'r nen,
+Gan ddweyd mai anfarwoldeb sydd
+Yn eiddo dewrion Cymru rydd;
+O boed i mi gael byw yn hon,
+A beddrod yn ei thyner fron.
+
+Mae adsain bloedd y dewrion fu,
+Heb farw rhwng ein bryniau cu,
+Ac ysbryd ym mhob awel wynt
+Yn adrodd hanes Cymru gynt;
+O boed i mi gael byw yn hon,
+A beddrod yn ei thyner fron.
+
+
+
+SIOM SERCH.
+
+
+Daeth ef i geisio denu'r ferch,
+ A phlannu'i galon yn ei bron;
+Cyn iddi ddysgu pwyso serch,
+ Fe ddysgodd garu'r llencyn llon;
+Aeth ef a'r lili dyner, wen,
+ Oedd ar ei bron, angyles ne,
+A phlannai'n ol ar galon Gwen
+ Hardd rosyn cariad yn ei lle.
+
+Rhodd iddo'r cyfan feddai'n awr,
+ Ei geiriau mel a'i gwenau drud,
+Rhodd iddo hefyd galon fawr
+ Yn llawn o gariad byw i gyd;
+Cydwylai hi fel gwlith y nef
+ Pan wylai ef o dan ryw gur,
+A chwarddai pan y chwarddai ef,
+ A'r cyfan er mwyn cariad pur.
+
+Ond oerodd bron y llanc cyn hir,
+ Ac ymaith aeth gan adael hon,
+Heb feddwl fawr fel treiddiai cur
+ Fel saeth i lawr i'w gwaedlyd fron;
+Diangai gobaith teg ei wawr
+ 'Run fath a'r lili oddiar y ferch,
+Gan adael iddi hi yn awr
+ Wywedig ros twyllodrus serch.
+
+
+
+TARO YR HOEL AR EI PHEN.
+
+
+Mae ambell i saer gyda'i forthwyl
+ Yn taro yr hoelen yn gam,
+Ac ambell i un sydd mor drwsgwl
+ A phe bai'n rhoi'r morthwyl i'w fam;
+Ond hyn sydd yn iawn a dymunol,
+ Pan godi dy forthwyl i'r nen,
+Gofala wrth daro, 'n wastadol,
+ I daro yr hoel ar ei phen.
+
+Mae llawer areithiwr go ddoniol,
+ 'Nol dodi y testyn i lawr,
+Yn dwedyd pob peth amgylchiadol,
+ Heb son am ei destyn am awr;
+Siarada mor ddiflas a phlentyn,
+ A thry wyn ei lygaid i'r nen,
+Paham nad ai'r dyn at ei destyn,
+ A tharo yr hoel ar ei phen?
+
+Aeth bardd i wneud pryddest anghomon,
+ A'r testyn oedd ci Ty'n y March,
+Dechreuodd yng nghwymp yr angylion,
+ A'r cwn aeth at Noah i'r arch;
+'Rol canu pum mil o linellau,
+ Gwnaeth bennill i'r ci yn y pen;
+Paham na bae beirdd y pryddestau
+ Yn taro yr hoel ar ei phen?
+
+Aeth llencyn am dro gyda'i gariad,
+ A soniai mor braf oedd yr hin,
+A'i bod hi mor bethma yn wastad
+ Os na fyddai'r tywydd yn flin;
+Pam na fuasai'r llelo anghelfydd
+ Yn gofyn addewid gan Gwen,
+A siarad am fodrwy lle'r tywydd,
+ A tharo yr hoel ar ei phen?
+
+Ebrill 19, '75.
+
+
+
+CYMRU FU, A CHYMRU FYDD.
+
+
+"I'r gad!" "I'r gad!" ddaw gyda'r gwynt
+O faesydd gwaedlyd Cymru gynt,
+I'r gad i gyd, i'r gad ar goedd,
+Ar creigiau'n clecian gan y floedd;
+Er treiglo am fil o oesau chwith,
+Mae'r floedd "I'r gad" heb farw byth;
+Mae fel yn adsain nos a dydd,
+Mai "Cymru fu a Chymru fydd."
+
+Ar faesydd gwaedlyd Cymru fu
+Fe dyfa blodau cariad cu;
+"I'r gad" yn awr heb saeth na chledd,
+"I'r gad" dan faner glaerwen hedd;
+Mae'r cleddyf dur mewn hun di-fraw,
+Ac arfau rhinwedd ar bob llaw;
+Pelydra heulwen hanner dydd
+Ar Gymru fu a Chymru fydd.
+
+
+
+PERTHYNASAU'R WRAIG.
+
+
+Mi wnes beth unwaith yn fy oes
+ Na wnaf mo hono mwy,
+Priodais gyda geneth lan,
+ Y lanaf yn y plwy;
+Mi wyddwn eisoes fod gan hon
+ Berthnasau yn y byd,
+Ond chydig a feddyliais am
+ Briodi'r rhain i gyd;
+ Dyna'i hewyrth, dyna'i modryb, &c., &c.
+
+Pan b'wyf yn gofyn i ryw ffrynd
+ I droi i mewn i'r ty,
+I gael ymgom am hanner awr
+ O hanes dyddiau fu,
+Cyn dechreu siarad gylch y tan,
+ Na phrofi unrhyw saig,
+Fe gymer imi hanner awr
+ I introdiwsio'r wraig.
+ Dyna'i hewyrth, &c.
+
+Mi eis i'r dref yn fore ddoe
+ Yng nghwmni Sion y Graig,
+A dyma'm hunig neges i
+ Oedd prynnu watch i'r wraig;
+Pan rois yr oriawr yn ei llaw,
+ Dywedai 'mhen rhyw hyd,--
+"A brynsoch chwi ddim pob 'i watch
+ I'm perthynasau i gyd?"
+ Prynnu watch i'r lot i gyd?
+
+Wrth weld fod pethau'n troi fel hyn,
+ Dechreuais fynd o 'ngho',
+A dywedais yn fy natur ddrwg
+ Na wnai hi byth mo'r tro;
+Dechreuai 'i thafod hithau fynd
+ I drin a hel o hyd,
+Ac nid yn unig hi ei hun,
+ Ond unai'r lleill i gyd.
+ "Peidiwch byth rhoi y goreu iddo," meddai ei thad, &c., &c.
+
+Medi 13, '75.
+
+
+
+GORNANT FECHAN.
+
+
+(Goethe).
+
+Gornant fechan, loew, dlos,
+Treiglo'r wyt y dydd a'r nos;
+Beth yw'th neges? Beth yw'th nod?
+I ble yn mynd?--O ble yn dod?
+
+"'Rwy'n dod dros greigiau erchyll draw,
+'Rwy'n gadael dolydd ar bob llaw,
+Gan dynnu darlun ar fy mron
+O'r cwmwl gwyn a'r nefoedd lon.
+
+"Yn llawn plentynaidd ffydd 'rwy'n mynd,
+Ond i ba le, nis gwn, fy ffrynd;
+Yr Hwn rodd fod i'm dafnau llaith
+Yw'r Hwn a'm harwain hyd fy nhaith.
+
+Mai 18, 1877.
+
+
+
+Y DERYN YSGAFNAF YN UCHAF.
+
+
+Mae ambell aderyn lled fychan,
+ Mae ambell aderyn lled fawr,
+Mae rhai yn ehedeg yn uchel,
+ Ac ereill yn ymyl y llawr;
+Ceir rhai ddigon ysgafn i hedeg
+ I ymyl y lleuad mor llon,
+A'r lleill sydd yn llawer rhy drymion
+ I hedeg 'run dwylath o'r bron;
+Ond dyma'r gwirionedd yn hanes y byd,
+Mai'r deryn ysgafnaf yw'r uchaf o hyd.
+
+Os gwelwch ysgogyn go wyntog
+ Yn chwyddo'n anferthol o fawr,
+O'r braidd y mae gan ei ysgafnder
+ Yn cyffwrdd ei draed yn y llawr;
+'Does ryfedd ei fod yn ymgodi
+ I fyny fel pluen i'r nen,
+'Does ganddo ddim pwysau'n ei boced,
+ Na gronyn o bwysau'n ei ben.
+Ond dyma'r gwirionedd, &c.
+
+Ceir ambell i eneth benchwiban
+ Yn gwerthu gwyleidd-dra a moes,
+Ysgafnder yw nodwedd ei meddwl,
+ Ysgafnder yw nodwedd ei hoes;
+Nid rhaid iddi bluo ei bonnet,
+ Na llenwi ei gwallt gyda charth,
+Mae digon o bluf yn ei henaid
+ I'w chario i amharch a gwarth.
+Ond dyma'r gwirionedd, &c.
+
+Edrychwch i'r ffair ac i'r farchnad,
+ Ysgafnder sydd yno'n mhob man,
+Ynghanol brefiadau y lloiau
+ Mae'n codi yr uchaf i'r lan;
+Mae Satan yn pluo adenydd
+ Rhai dynion i'w codi am awr;
+Ond cofiwch mai eu codi mae Satan
+ Er mwyn cael eu taro i lawr.
+Ond dyma'r gwirionedd, &c.
+
+Medi 24, '75.
+
+
+
+PURDEB.
+
+
+(Arddull T. Carew).
+
+Y sawl a fynn y rudd sydd goch
+ A gwefus gwrel, llygad du,
+Y gwddw gwyn, y rhosawg foch
+ I gynneu fflam ei gariad cu,--
+Daw amser hen i wywo'r gruddiau,
+A diffydd fflam ei lygad yntau.
+
+Ond y meddwl tawel, pur,
+ Gyda ffyddlon dwyfron lan,
+Calon gara fel y dur,
+ Hyn sy'n cynneu bythol dan;
+Lle na cheir hyn, peth eithaf annghall
+Yw caru llygad, boch, na grudd, nac arall.
+
+
+
+DDAW HI DDIM.
+
+
+Yr o'wn i 'n hogyn gwirion gynt,
+ Yn destyn gwawd y plwy,
+Awn gyda phawb yn llon fy hyttt,
+ Pwy bynnag fyddent hwy;
+Ond os ceisia dyn fy nhwyllo'n awr,
+ 'Rwy'n edrych llawn mor llym,
+A rhoddaf daw ar fach a mawr
+ Wrth ateb,--"Ddaw hi ddim."
+
+'Rwy'n adwaen ffrynd, a'i arfer yw
+ Benthyca pres yn ffol;
+Ond dyna'r drwg, 'dyw'r llencyn gwiw
+ Ddim byth yn talu'n ol;
+Ryw dridiau'n ol, mi cwrddais ef
+ Wrth fyned tua'r ffair,
+Gofynnodd im' cyn mynd i'r dref
+ Am fenthyg tri a thair.
+ Ond os ceisia dyn, &c.
+
+Fe ddwedodd cyfaill wrthyf fi
+ Y gwyddai hanes merch,
+A wnaethai'r tro i'r dim i mi
+ I fod yn wrthrych serch;
+Gwraig weddw oedd, yn berchen stor
+ O bopeth, heb ddim plant,
+A chanddi arian lond dwy dror,
+ Ac yn ddim ond hanner cant.
+ Ond os ceisia dyn, &c.
+
+Bum i ryw dro ers blwydd neu ddwy,
+ Ar bwynt priodi un;
+Cyn mynd at allor llan y plwy,
+ Fel hyn gofynnai'r fun,--
+"Mae gennyf fam a phedair chwaer
+ Sy'n anwyl iawn gen i,
+A gaiff y rhain, wrth fegio'n daer,
+ I gyd fyw gyda ni?"
+ Ond os ceisia dyn, &c.
+
+
+
+AWN, AWN I'R GAD.
+
+
+(Canig gan Gwilym Gwent).
+
+Awn, awn i'r gad,
+ Awn, awn yn awr;
+Awn dros ein gwlad,
+ Awn, awn yn awr;
+Calon y dewr
+ Gura yn gynt,
+Baner a chledd
+ Sy'n chwyfio yn y gwynt;
+Blaenor y llu
+ Sy'n arwain i glod,
+A geiriau o dan
+ O'i enau yn dod.
+
+Seren y goncwest sy'n gwenu fry
+ Dros ein hanwyl wlad;
+Cael tynnu'r cledd sydd wledd i ni.
+
+
+
+EISTEDD MEWN BERFA.
+
+
+Tra'r oeddwn yn rhodio un diwrnod,
+ A'r haul yn tywynnu mor llon,
+Mi ddaethum 'nol hir bererindod
+ I bentref ar ochr y fron;
+A gwelwn ryw hogyn segurllyd
+ Yn eistedd mewn berfa fel dyn,
+Gan wneud pob ymdrechion a allai
+ Ar ferfa i yrru ei hun;
+Fel hwnnw yn union mae ambell i ddyn
+Yn eistedd mewn berfa i yrru ei hun.
+
+Os gwelwch chwi grefftwr go gywrain
+ Yn gadael ei fwyall neu'i ordd,
+I sefyll tu allan i'w weithdy
+ I siarad a phawb ar y ffordd;
+Neu holi am weithdai'r gymdogaeth
+ A hanes y gweithwyr bob un,
+Heb feddwl am weithio ei hunan
+ Y gwaith sy'n ei weithdy ei hun;
+Mae hwnnw'n lled debyg bob amser i ddyn
+Sy'n eistedd mewn berfa i yrru ei hun.
+
+Ceir ambell amaethwr dioglyd
+ Na welwyd erioed arno frys,
+Mae'n well ganddo orwedd pythefnos
+ Na cholli dyferyn o chwys;
+Ni chreda mewn cael ei gynhaeaf
+ Tra'r haul yn tywynnu ar fryn,
+Ond creda mewn gadael ei feusydd
+ I ofal y gweision a'r chwyn;
+Mae ffarmwr fel yna bob amser yn ddyn
+Sy'n eistedd mewn berfa i yrru ei hun.
+
+Pan welir masnachydd neu siopwr
+ Yn gadael eu masnach trwy'r dydd,
+I ofal prentisiaid a chlercod,
+ Nid 'chydig y difrod a fydd;
+Ond odid na chlywir yn fuan
+ Am feili yn dod i roi stop,
+A'r writ mae'n ei roi i'r perchennog
+ Sy'n dweyd, "Aeth yr hwch trwy y siop;"
+Mae siopwr fel yna bob amser yn ddyn
+Sy'n eistedd mewn berfa i yrru ei hun.
+
+Mawrth 2, '76.
+
+
+
+Y FRWYDR.
+
+
+Clywch, clywch
+ Y fyddin yn dod i'r gad,
+Uwch, uwch
+ Y cenir i gledd ein gwlad;
+Calon a chleddyf i gyd yn ddur,
+ Rhyddid yn rhoi
+ Gelynion i ffoi
+O flaen ein gwyr.
+
+Clywch y tabwrdd yn awr
+ Yn adseinio sydd,
+Clywch floedd fychan a mawr
+ Wedi cael y dydd;
+Mae gwawr eto'n dod yn y dwyrain dir,
+ Daw haul ar ein gwlad
+ Mewn hwyl a mwynhad,
+Cawn heddwch cyn hir.
+
+
+
+ENWAU.
+
+
+Mi ganaf gan mewn cywair llon,
+ Os gwrendy pawb yr un,
+Rhyw gan ar enwau ydyw hon,
+ Ond heb gael enw ei hun;
+Mae rhai'n rhoi enwau mawrion, hir,
+ Ar hogiau bychain, man,
+Ond dyma'r enwau sy'n mhob sir
+ Trwy Gymru yw Sion a Sian,--
+ Sian Jones, &c.
+
+Mae'r Sais yn chwerthin am ein pen
+ Fod Taffy i'r back bones,
+Am alw plant hen Gymru wen
+ Yn John a Jenny Jones;
+Mae Smith a Brown a John a Jane
+ Yn Lloegr bron mor llawn,
+Ac O! mae enwau'r Saeson glan
+ Ag ystyr ryfedd iawn.
+
+'Roedd Mr. Woodside gynt yn byw
+ Yn High Street Number Ten,
+Cyfieithwch hynny i'r Gymraeg
+ Mae'n Meistar Ochor Pren;
+'Roedd Squiar Woodall gynt yn byw
+ Ym mhalas Glan y Rhyd,
+Os trowch chwi hynny i'r Gymraeg,
+ Mae'n Sgwiar Pren i Gyd.
+
+'Dwy'n hoffi dim o'r arfer hon
+ A geir yng Nghymru iach,
+Rhoi'r taid yn Sion a'r tad yn John,
+ A'r wyr yn Johnny bach;
+A galw mam y wraig yn Sian,
+ A'r wraig yn Jeanny ni,
+A galw'r wyres fechan, lan,
+ Yn Jeanny No. 3.
+ Sian Jones, &c.
+
+Chwef 10, '74.
+
+
+
+YR HEULWEN.
+
+
+(Y Gerddoriaeth gan D. Emlyn Evans).
+
+Daw yr heulwen a'i gusanau,
+ Iechyd chwardda yn y gwynt,
+Cymyl sydd fel heirdd lumanau
+ Bron a sefyll ar eu hynt;
+Gawn ni fynd a'r haf o'r gweunydd,
+ Dwyn cusanau'r haul yn llu,
+Ar ein bochau gwridog beunydd,
+ I addurno cartref cu?
+
+Dringwn fry i gartre'r hedydd,
+ Chwarddwn, neidiwn megis plant,
+Lle mae'r cwmwl yn cael bedydd
+ Yng ngrisialaidd ddwfr y nant;
+Canwn gerddi a dyriau,
+ Casglwn flodau gwyllt y wlad,
+Ac mi gadwn y pwysiau
+ Harddaf oll i'n mam a'n tad.
+
+
+
+FFUGENWAU.
+
+
+Ceir llawer i glefyd ar hyd ein hen wlad,
+Rhai'n berygl ryfeddol a hir eu parhad;
+Mae clefyd Eisteddfod yn dod yn ei dro,
+A chlefyd excursions a chanu Soh, Doh;
+Ond clefyd ffugenwau yw'r gwaethaf a gaed,
+Mae'n drymach na chlefyd y genau a'r traed.
+
+Mae Eos y Weirglodd ac Eos y Bryn,
+Ac Eos yr Afon, ac Eos y Llyn,
+A llewod ac arthod, eryrod a brain,
+Ac ambell i fwnci ynghanol y rhain.
+
+Os digwydd i hogyn wneud pennill o gan,
+A'i anfon i'r print ac oddiyno i'r tan,
+Dechreua droi gwyn ei ddau lygad i'r nen,
+A'i fam yn ochneidio dan ysgwyd ei phen;
+Rhaid ei gipio i'r orsedd pe bai yn ei glocs,
+A'i blastro ag enw fel label ar focs.
+ Mae Eos y Weirglodd, &c.
+
+Rhaid gwneud dyn yn bencerdd os gwelodd o don,
+Mae Pencerdd Sir Benfro a Phencerdd Sir Fon,
+Os delir i urddo fel hyn ym mhob sir,
+Cawn afael ar Bencerdd Caergwydion cyn hir;
+'Rwy'n cynnyg cael urddo hen geiliog fy nhad,
+A'i alw yn bencerdd ceiliogod y wlad.
+ Mae Eos y Weirglodd, &c.
+
+Y ffasiwn ddiweddaf a ddaeth fel mae son,
+Dweyd enw a ffugenw a'r surname yn y bon,
+Dweyd John Arfon Jones a dweyd Rhys Meirion Rhys,
+A Lloyd Maldwyn Lloyd, gyda Prys Teifi Prys,
+A chyda'r rhai yna daw Morris--
+ Llanfairmathafarn eithaf
+ Rhosllanerchrugog,
+ Llanrhaiadr Mochnant,
+ Hugh,
+A William Carey Williams a Dafydd--
+ Llanfairpwllgwyngyll gogerychwyrndrobwll
+ Dysilio gogo goch
+ Pugh.
+
+Ebrill 29, '76.
+
+
+
+FY NGHALON FACH.
+
+
+Fy nghalon fach, paham mae'r wawr
+ I'w gweld fel hwyr y dydd,
+A'r hedydd llon uwchben y llawr,
+ A'i gan mewn sain mor brudd?
+Ateba fy chwyddedig fron,--
+Mae rhywun ffwrdd tudraw i'r donn.
+
+Fy nghalon lawn, mae'r rhod yn troi,
+ A'r rhew a'r eira'n dod,
+Er hyn mae gwg y gaea'n ffoi
+ Er oered yw yr od;
+Mae'r gwynt yn sibrwd dros y ddol
+Fod rhywun hoff yn dod yn ol.
+
+
+
+TYSTEBAU.
+
+
+Fu 'rioed y fath oes yn yr oesau,
+ A'r oes 'rydym ynddi yn byw,
+Fe'i gelwir yn oes y peiriannau,
+ Ac oes rhoddi'r mellt dan y sgriw;
+Mae'n oes i roi tanllyd gerbydau
+ I chwiban dan fynydd a bryn,
+'Rwy'n meddwl mai oes y tystebau
+ Y dylid ei galw er hyn.
+
+Os bydd dyn yn myned o'i ardal,
+ Rhaid rhoi iddo dysteb lled fawr,
+Neu'n aros,--rhaid gwneud un llawn cystal
+ I rwymo ei draed wrth y llawr;
+Rhoir tysteb am waith ac am ddiogi,
+ Rhoir tysteb i'r du ac i'r gwyn,
+Ceir tysteb am gysgu'n y gwely,
+ Os pery tystebau fel hyn.
+
+Gwneud tysteb o nod genedlaethol
+ A wneir i bob crwtyn yn awr,
+Argreffir colofnau i'w ganmol,
+ A'i godi'n anferthol o fawr;
+Mae'r gair cenedlaethol yn barod,--
+ A helpo y genedl, a'r gair,
+Er mwyn cael cyfodi corachod
+ A llenwi eu llogell ag aur.
+
+Mae mul yn hen felin Llanodol,
+ 'Rwy'n cynnyg cael tysteb i hwn,
+A honno'n un wir genedlaethol,
+ Am gario ar ei gefn lawer pwn;
+Paham na chai dysteb ragorol
+ I'w rwystro am byth gadw nad?
+Mae'r mul yn hen ful cenedlaethol,
+ A haedda ei weld gan y wlad.
+
+Mae'n cario yr yd mor ddigyffro
+ Dros fynydd, a dyffryn, a dol,
+Ac wedyn caiff eisin i'w ginio
+ I aros i'r blawd fynd yn ol;
+Rhag c'wilydd i genedl y Cymry
+ Am fod eu syniadau mor gul,
+Fe ddylid gwneud ymdrech o ddifri
+ I gychwyn y dysteb i'r mul.
+
+Mae'i glustiau'n mynd lawr dros ei lygaid,
+ O! clywch ef yn codi ei gri,
+Mae'n g'wilydd fod tad y ffyddloniaid
+ Heb dysteb pryd hyn ddyliwn i;
+Oferedd im' fyddai ei ganmol,
+ Mae gweithio i'w wlad bron a'i ladd,
+Rhowch dysteb i'r mul cenedlaethol,--
+ Nid ef fydd y cyntaf a'i ca'dd.
+
+Ebrill 29, '76.
+
+
+
+RHOWCH BROC I'R TAN.
+
+
+Ar ol bod trwy'r dydd yn llafurio
+ A'r morthwyl, y trosol, neu'r rhaw,
+A dioddef eich gwlychu a'ch curo
+ Gan genllysg a gwyntoedd a gwlaw;
+'Rol cyrraedd eich bwthyn eich hunan,
+ Mor ddifyr fydd cau'r drws yn hy,
+A'r oerfel a'r t'w'llwch tu allan,
+ A'r cariad a'r tan yn y ty;
+ Rhowch broc i'r tan,
+ A chanwch gan,
+ I gadw cwerylon o'r aelwyd lan.
+
+Pan fyddo y gwr wedi monni,
+ A'i weflau'n lled lipa i lawr,
+A'i lygaid gan dan yn gwreichioni,
+ A'i drwyn braidd yn hir ac yn fawr;
+Edryched y gwragedd dan wenu,
+ A pheidiwch dweyd gair wrtho fe,
+Daw amser a'r gwr at ei ganu,
+ A'r gweflau a'r llygaid i'w lle.
+ Rhowch, &c.
+
+Os bydd rhai o'r gwragedd ar brydiau
+ Yn edrych yn sarrug a sur,
+A'u llygaid fel cwmwl taranau
+ Yn lluchio y mellt at y gwyr;
+Mae cariad yn well yn y diwedd
+ Ar ol bod mewn helbul ei hun,
+'Dyw'r mellt sydd yn llygaid y gwragedd
+ Erioed wedi lladd yr un dyn.
+ Rhowch, &c.
+
+Pan fyddo yr aelwyd yn oeri,
+ A'r anwyd yn dyfod i'r gwaed,
+Pan fyddo y trwyn wedi rhewi,
+ A'r winrhew ar fysedd y traed,
+Pan fo Catherine Anne wedi briwo,
+ A Dafydd y gwas ddim yn iach,
+A'r babi yn nadu a chrio,
+ A'r gath wedi crafu John bach,
+ Rhowch, &c.
+
+Ion. 3, '73.
+
+
+
+MI SAETHAIS GAN.
+
+
+(O Longfellow).
+
+Mi saethais gan i fyny i'r ne',
+A disgyn wnaeth nas gwyddwn ple,
+Can's ni fu 'rioed un llygad llym
+All ddilyn saeth ar hediad chwim.
+
+Anadlais gan i wynt y ne',
+Aeth gyda'r gwynt nas gwyddwn ple,
+Oblegid nid oes llygad glan
+All ddilyn llwybrau adlais can.
+
+'Mhen blwyddau hir mewn calon pren
+Y saeth a gefais ar ei phen,
+A'r gan a gefais wedi mynd
+A glynu i gyd mewn calon ffrynd.
+
+
+
+WELWCH CHWI FI?
+
+
+Mi glywsoch y testyn a welwch chwi V,
+A chan arno hefyd cyn clywed f'un i;
+Os ydyw y pwnc yn un diflas a thrist,
+Rhoed pawb sy'n diflasu ei fys yn ei glust;
+Os na fydd y gan o un diben i chwi,
+Trowch yma a sylwch a welwch chwi V.
+ A welwch, &c.
+
+Mae ambell i sgogyn yn tramwy trwy'r fro,
+A balchder a hunan yn byw arno fo,
+Mae starch yn ei gefn, a rhew yn ei warr,
+A chuddia ei hunan yn mwg ei sigar;
+Ysgydwa'i ffon geiniog wrth gerdded mewn bri,
+A thala am fwg i ddweyd welwch chwi V.
+ A welwch chwi V,
+Uchelgais ei fywyd yw "Welwch chwi fi?"
+
+Mae hithau'r ferch ieuanc yn gwneud gwallt ei phen
+Fel math o ryw golofn fry fry yn y nen,
+A het ar ben hynny, a rhosyn ar hon,
+A phluen ar hynny i fyny fel ffon;
+Prin gwelir y top heb gael telescop cry',
+Ond gwelir mai'r diben yw "Welwch chwi fi?"
+ A welwch chwi fi?
+Arwyddair y ffasiwn yw "Welwch chwi fi?"
+
+"A welwch chwi fi?" meddai llawer gwr mawr,
+"A welwch chwi finnau?" medd y bychan ar lawr;
+Mae hynny yn dangos yn amlwg, wrth gwrs,
+Mai nid yn y dillad ac nid yn y pwrs
+Mae gwreiddyn y drwg am gael dringo i fri,
+Ond calon y dyn sy'n dweyd "Welwch chwi V?"
+ A welwch chwi V?
+Y galon yw cartref y "Welwch chwi V,"
+Gocheled y galon rhag "Welwch chwi V."
+
+Awst 24, '72.
+
+
+
+"WILLIAM."
+
+
+" * * * Her lover died, and she wept a song over his grave."
+
+Ddoi di yn ol ataf, William, William,
+ Gyda'r sirioldeb oedd gynt gennyt ti?
+Mi fyddwn am byth iti'n berffaith ffyddlon,
+ William, William,--anwyl i mi.
+
+Byth ni ro'wn air i dy ddigio, William,
+ Gwenwn fel angel o'r nef arnat ti;
+Fel yr oe't ti pan yn gwenu yn hawddgar,
+ William, William,--anwyl i mi.
+
+Cofio yr wyf am y dyddiau hynny,
+ Cyn dy gymeryd i'r nefoedd fry;
+A wyddost ti 'nawr fel 'rwyf fi'n dy garu?
+ William, William,--anwyl i mi.
+
+Nid oeddwn yn deilwng o honot, William,
+ Oer oedd fy nghalon yn ymyl d'un di;
+Ond wedi dy golli, mae'r byd fel cysgod,
+ William, William,--anwyl i mi.
+
+Estyn dy law i mi, William, William,--
+ Dyfera faddeuant fel gwlith oddi fry,
+Mae nghalon yn gorwedd ym medd fy William;
+ William, William,--anwyl i mi.
+
+[Y Melinydd. "'Roedd hen felinydd llawen iawn yn byw ar fin y nant,
+Yn malu yd o fore i nawn i fagu gwraig a phlant.": myn32.jpg]
+
+
+
+GEIRIAU LLANW.
+
+
+Mae llawer o hen eiriau llanw
+ I'w cael ym mhob Llan a phob lle,
+Yn debyg i bethma a hwnnw,
+ Fel tau ac fel tase, yn te,
+Yn te meddai'r dyn sydd yn holi,
+ Fel tase, yn te, meddai'r llall,
+Yn ddigon a gwneud dyn i daeru
+ 'Dyw hanner y byd ddim yn gall.
+ Fel tau, fel tase, yn te,
+ Ofnatsen gynddeirus, yn te,
+ Peth hwnnw yw gweled rhai'n bethma
+ Fel tase, fel tau, yn te.
+
+Ym Mon chwi gewch glywed miawn mynyd,
+ A llawer o siarad a stwr,
+A phawb fel pe tae yn dywedyd
+ Cymraeg o'r "sort oreu reit siwr."
+Pan ddeuwch chwi drosodd i Arfon,
+ Cewch "firi di-wedd" ym mhob lle,
+A'r enw roir yno ar feddwon
+ Yw "chwil ulw beipan" yn te.
+ Fel tau, &c.
+
+Os ewch tua Meirion a morol,
+ Cewch giasag i fynd ar ei thraws,
+A ciariad, a ciarag, a cianol,
+ A ciamu, a ciamfa, a ciaws;
+Ac yno fel pobman trwy'r gogledd,
+ Mae'r pla wedi taenu'n mhob lle,
+Yn te ydyw'r dechreu a'r diwedd,
+ Yn te ydyw'r bethma yn te.
+ Fel tau, &c.
+
+Os ewch chwi i lawr tua'r Deheu,
+ 'Run siwt mae hi obry yn awr,
+Mae pawb gan ta pun ar ei oreu
+ Yn dishgwl yn ffamws i lawr;
+Mae pawb yno'n grwt neu yn grotan,
+ Yn whleia a'u giddil o hyd,
+Wy'n sposo taw dyna y bachan
+ Sy'n cwnni yn awr yn y byd.
+ Fel tau, &c.
+
+Chwef., '73.
+
+
+
+GWRANDO'N RASOL AR EIN CRI.
+
+
+(EMYN).
+
+Groesaw'n awr! I Iesu'n brawd,
+ Ar liniau Mair mewn natur dyn,
+Ac ar y groes cymerai'n gwawd
+ A'n beiau trymion arno'i hun;
+ Clyw ein gweddi, Geidwad cu,
+ Gwrando'n rasol ar ein cri.
+
+Dros bechadur, rhedai'n lli
+ Waed a dwfr, o'i anwyl fron.
+Dyma'r ffynnon! Boed i ni
+ Olchi'n beiau i ffwrdd yn hon;
+ Clyw ein gweddi, Geidwad cu,
+ Gwrando'n rasol ar ein cri.
+
+
+
+Y MEDLEY CYMRAEG.
+
+
+Fel 'roeddwn yn rhodio ar doriad y wawrddydd,
+ Pan ganai yr adar yn felus a llon,
+Pan dyfai'r blodionos ar gloddiau y dolydd,
+ A'r gwlith ar eu gruddiau o amgylch Llwyn Onn,
+'Roedd geneth yn godro yn ddifyr tan ganu,
+ A nesais i weled pwy ydoedd y ferch,
+A gwelwn
+
+Ferch Megan ei hun
+ Mor iached a'r rhosyn,
+A'i llygaid yn dan o fywyd a serch;
+ 'Roedd adar y llwyn
+Yn tewi i wrando
+Er clywed y gan a ganai fel
+
+Hen ferch yn gwau ei hosan,
+ Ar hyd y nos,
+A'i gweill bach glic glic yn clecian
+ Ar hyd y nos,
+Canai'r gath ar ben y pentan,
+Canai hithau ganig ddiddan,
+Tra y canai'r gwynt tu allan
+ Ar hyd y nos;
+Rhedai'i meddwl tra yn canu
+At wroldeb yr hen Gymry
+
+Pan oedd gwaedlyd y gyflafan,
+Gan wyr Harlech ruthrent allan
+Nes adseiniai bryniau anian
+ Floedd y rhain i'r gad;
+Benyr grogent ar hen greigiau,
+A neuaddoedd y mynyddau
+Ail ddywedent y bloeddiadau
+ Dros ein hanwyl wlad;
+ Rhuthrent tua'r dyffryn,
+ Gledd yng nghledd a'r gelyn,
+Gwyr mewn gwaedd oedd gylch eu traed
+ Ynghanol braw a dychryn,
+Nes y
+
+Gelyn giliai ar Nos Galan,
+ Fa la la, &c.,
+Ac aeth pawb i'w fwth ei hunan,
+ Fa la la, &c.,
+Tynnu diliau tannau'r delyn,
+ Fa la la, &c.,
+Wnaent i'w gilydd heb un gelyn,
+ Fa la la, &c.
+
+Chwef. 18, '72.
+
+
+
+DYCHWELIAD Y MORWR.
+
+
+Trwy'r tonnau y llong ddaw yn nes i'r lan--
+Dacw y foel a dacw y fan;
+'Rwy'n gweld y pant a'r gornant gu,
+'Rwy'n gweld y coed, 'rwy'n gweld y ty;
+Mae adlais anwyliaid yn dod i'r llong,
+A swn hen gloch y llan, ding dong.
+
+
+
+DYSGWCH DDWEYD "NA."
+
+
+ Fe ddysgir dweyd llawer o eiriau
+ Na ddylid dim dysgu eu dweyd,
+ Ac hefyd anghofir rhai geiriau
+ Y dylid eu dysgu a'u gwneud;
+ Beth bynnag a ddysgwch wrth ddysgu yr iaith,
+ Beth bynnag a gofiwch drwy droion y daith,
+ Faint bynnag o eiriau a ddysgwch yn dda,
+ Gofalwch bob amser am ddysgu dweyd "Na;"
+ Dysgwch ddweyd "Na,"
+ 'Does dim sydd mor ddiogel a dysgu dweyd "Na."
+
+ Os gwelwch chwi gwmni afradlon
+ Yn mynd i oferedd yn ffol,
+ Gan wawdio rhinweddau'u cymdogion,
+ A gadael pob moesau ar ol;
+ Mae trwst y rhai yma wrth gadw eu rhoch
+ Mor wag a diafael ag adsain y gloch,
+ 'Ran hynny, mae pennau y clychau a rhain
+ Yn wag fel eu gilydd, 'blaw tafod bach main;
+Ac os daw y giwaid hon rywdro i geisio tynnu rhai o honoch i ddinistr,
+ Dysgwch ddweyd "Na," &c.
+
+ Os gwelwch chwi eneth brydweddol
+ Yn gwisgo yn stylish dros ben,
+ Cyn son am y pwnc priodasol,
+ Rhowch brawf ar gynhwysiad ei phen,
+ Os ffeindiwch chwi allan wrth chwilio'r fath yw,
+ Ei bod hi fel clomen o ran dull o fyw,
+ A'i llygaid, a'i gwddw, a'i haden, a'i phlu',
+ Yn loewach o lawer na dim sy'n ei thy,
+Ac os bydd rhywun o honoch am roi cynnyg ar Miss,
+ Dysgwch ddweyd "Na," &c.
+
+ Mae gennyf un gair i'r genethod
+ Wrth ddechreu eu taith drwy y byd,
+ Mae llanciau ar brydiau i'w canfod
+ Heb fod yn lan galon i gyd;
+ Mae'n bosibl cael gwr fydd a'i galon yn graig,
+ Mae'n bosibl cael gwr fydd yn gas wrth ei wraig,
+ Heb gym'ryd yn bwyllus, mae'n bosibl i Gwen
+ Gael gwr heb na chariad, na phoced, na phen,
+A'r cyngor sydd gennyf i'r ladies (hynny yw, os na fyddant, dyweder,
+oddiar 35 oed),
+ Dysgwch ddweyd "Na," &c.
+
+
+
+GEIRIAU CYDGAN GYSEGREDIG.
+
+
+Doed holl drigolion daear lawr
+ I ateb llef y nef yn awr,
+Nes byddo tan eu moliant hwy
+ Yn eirias mwy i'r Iesu mawr.
+
+Dyma'r un oddefodd bwysau
+ Holl bechodau dynol ryw,
+Ac o'i fodd oddefodd loesau
+ Miniog gledd dialedd Duw;
+Ac a ddrylliodd deyrnas angau
+ Pan y daeth o'i fedd yn fyw.
+
+
+
+OWEN TUDUR. {39}
+
+
+(Cantawd).
+
+Mae Owen Glyndwr yn ei fedd,
+ Ar ol tymhestlog ddiwrnod,
+A'r gwaed a erys ar ei gledd
+ I ddweyd ei hanes hynod;
+Y rhosyn gwyllt wrth glywed hyn
+ Ar fedd y gwron hwnnw
+Sydd fel rhyw angel yn ei wyn
+ Yn gwenu dros y marw.
+
+Dewch, delynorion, cenwch don
+ Ar ol cael hir orffwyso,
+Mae gwr yn byw'n Mhenmynydd Mon
+ A gyfyd Gymru eto;
+Er fod priddellau Cymru wen
+ Yn feddrod i'w thrigolion,
+Hil Cymro glan fydd bia'r pen
+ Gaiff eto wisgo'r goron.
+
+Dyma delyn anwyl Cymru,
+Dyma fysedd eto i'w chanu,
+Er fod gormes bron a llethu
+ Ysbryd pur y gan;
+Byw yw'n hiaith a byw yw'r galon
+Gura ym mynwesau'n dewrion,
+Mae gan Gymru eto feibion
+ A'u teimladau'n dan;
+Pan fo'r cledd yn deffro,
+Ac eisiau llaw i'w chwyfio,
+ Mae hon i'w chael o oes i oes
+Wrth ysgwydd hael pob Cymro.
+
+Fflamia'i lygad, chwydda'i galon,
+Pan y gwel ormesdeyrn creulon,
+Cadw'i wlad rhag brad yr estron
+ Yw ei bennaf nod;
+Mae llwch ein hanwyl dadau,
+Sy'n nghadw dan garneddau,
+ Yn dweyd yng nghlust pob Cymro dewr
+Am gadw ei iawnderau;
+Ac mae'n bryniau uchel beilchion,
+A'n hafonydd gwyllt a gloewon,
+Yn rhoi awgrym cryf mai rhyddion
+ Ydym byth i fod.
+
+Y GENNAD,--
+
+At bendefigion Cymru
+ Sy'n hannu o uchel fon,
+Mae gennyf genadwri
+ O blas Penmynydd Mon;
+Cynygiodd Owen Tudur
+ Ei galon gyda'i law
+I Catherine, y frenhines,
+ Mae hithau'n dweyd y daw.
+Os na ddaw rhyw atalfa,
+ Priodant yn ddioed,
+Mae'r ddau mor hoff o'u gilydd
+ Ag unrhyw ddau fu 'rioed;
+Ai tybed bydd 'run Cymro,
+ Pan ddaw y dydd i ben,
+Heb roi hawddamor iddo
+ Nes crynno'r Wyddfa wen?
+
+PENDEFIG,--
+
+Fel un sy'n teimlo gwaed Cymreig
+ Yn berwi yn fy mynwes,
+'Rwy'n methu'n glir a chael boddhad
+ Wrth wrando ar yr hanes;
+Mae gwaed brenhinol Brython hyf
+ Yn curo'n mynwes Owen,
+A dylid cadw hwn mor bur
+ Ag awyr Ynys Brydain.
+
+PENDEFIG ARALL,--
+
+Gadewch rhwng cariad a Rhagluniaeth
+ A phriodi dynol ryw,
+Mae gwaed y Sais a gwaed y Cymro
+ Bron 'run drwch a bron 'run lliw;
+Feallai bydd yr uniad yma,
+ Pan ry'r olwyn dro i ben,
+Yn agor ffordd i gerbyd heddwch
+ Dramwy drwy yr Ynys Wen.
+
+Gwened blodau gwylltion Cymru
+ Ar eu modrwy loew dlos,
+A boed haul yn gwenu arni,
+ Gwened lloer a ser y nos;
+Gwened Sais a gwened Cymro,
+ Na foed gwg ar unrhyw ael,
+A gwened nef uwch law y cyfan,
+ Mae gwen o'r nef yn werth ei chael.
+
+PENDEFIGES,--
+
+Heblaw gweniadau'r lleuad wen,
+A gwenau'r haul o fynwes nen,
+Heblaw gweniadau'r nefoedd fry,
+Cant wen rhianedd Cymru gu;
+Boed meibion Gwalia ddydd yr wyl
+Yn dyrchu banllef lawn o hwyl,
+Anadlwn ninnau weddi wan
+I glustiau'r nefoedd ar eu rhan;
+Pob bryn fo'n dal ei faner wen,
+Pob cloch fo'n canu nerth ei phen,
+Ni daenwn ninnau flodau fyrdd
+A dail byth-wyrddion ar eu ffyrdd.
+
+CYDGAN,--
+
+Mae gwawr yn torri dros sir Fon,
+ A Chymru'n gwenu arni,
+Mae swn llawenydd yn y don,
+ A diolch yn y weddi;
+Mae'r clychau'n effro ym mhob llan
+ Yn prysur ddweyd y newydd,
+A'r awel fach yn gwneud ei rhan
+ I'w gludo draws y gwledydd.
+
+Y BARDD,--
+
+Methodd Owen Glyndwr rwymo
+ Teimlad pawb mewn rhwymau hedd,
+Megis tonn mewn craig yn taro
+ Oedd dylanwad min ei gledd;
+Ond mae Owen Tudur dirion
+ Wedi uno'r ynys lon,
+Gwnaeth i'r Cymry dewr a'r Saeson
+ Wenu'n nghylch y fodrwy gron.
+
+CYDGAN,--
+
+Chwyther yr udgorn ar lethrau'r Eryri
+ Nes bo'r clogwyni'n dafodau i gyd,
+Bannau Brycheiniog fo'n llawn o goelcerthi
+ Er mwyn gwefreiddio y wlad ar ei hyd;
+Llonned y delyn bob treflan a phentref,
+ Heded y cerddi ar ddiwrnod yr wyl,
+Ar flaen adenydd alawon y Cymry,
+ Nes bo pob ardal yn eirias o hwyl.
+
+ Fe gwympodd ein gwrolion
+ Wrth gadw hawl ein coron,
+ Rhag iddi fynd o Walia Wen
+ I harddu pen rhyw estron.
+
+ Mae llef oddiwrth y meirw
+ Sy'n dweyd yn ddigon croew,
+ Yn adlais glir ar lan pob bedd,
+ Na fedrai'r cledd mo'i chadw.
+
+ Deallodd Owen Tudur
+ Athroniaeth bennaf natur,
+ Ein coron trwyddo ef a gawn
+ Heb nemawr iawn o lafur.
+
+CYDGAN,--
+
+Mae modrwy a chariad yn curo y cledd
+ Heb aberth o fywyd nac eiddo,
+Ca'r bwa a'r bicell gyd-huno mewn hedd,
+ A heddwch ac undeb flodeuo;
+Teyrnwialen a choron ein hynys bob pryd
+ A ddelir gan hil meibion Gwalia,
+A chryma teyrnwiail brenhinoedd y byd
+ Yn ymyl teyrnwialen Britannia.
+
+Ar ddydd y briodas cenhinen y Cymry
+ Wisgwyd gan Owen i harddu ei fron,
+A rhosyn y Saeson osodwyd i harddu
+ Bron ei anwylyd edrychai mor llon;
+A byth wedi hynny mae'r ddau'n un blodeuglwm,
+ Mae'r rhos a'r genhinen yn harddu'r un fron;
+Bu bysedd dwy genedl yn gosod y cwlwm,
+ A thyfa y ddau yn y fodrwy fach gron.
+
+Os hoffech gael gwybod effeithiau'r briodas,
+ Holwch briddellau maes Bosworth yn awr,
+Yno coronwyd dymuniad y deyrnas,
+ Ac yno y syrthiodd gormesdeyrn i lawr;
+Mae adsain y fanllef fuddugol trwy'r oesau
+ Yn gwibio o glogwyn i glogwyn trwy'n gwlad,
+Bydd clod Harri Tudur a dewrder ein tadau
+ Ar ol y fath ymdrech mewn bythol fawrhad.
+
+Esgynnwn i'n mynyddau,
+A holwn hen garneddau
+Sy'n cadw llwch ein tadau
+ Ar ol blinderus hynt;
+Ateba'u llwch o'r beddau
+Fod gwaed ar hyd eu llwybrau,
+A myrdd o orthrymderau
+ Yn blino Cymru gynt.
+
+Ond wedi i'r Tuduriaid
+Gael dod yn benaduriaid,
+Cyduna'r holl Brydeiniaid
+ I ufuddhau i'w pen;
+Mae aeron per y blodau
+Yn tyfu'n meusydd brwydrau,
+A heddwch lond calonnau
+ Hen deulu'r Ynys Wen.
+
+Ar orsedd bena'r ddaear,
+ Dan goron hardda'r byd,
+Eistedda Buddug hawddgar
+ Dan wenau'r nef bob pryd;
+Mae gwaed brenhinol Owain
+ Yn llifo trwy'r llaw sydd
+Yn dal teyrnwialen Prydain
+ Uwchben miliynnau rhydd.
+
+Y fesen a blanwyd ar ddydd y briodas
+ Dyfodd yn dderwen gadarna'n y byd,
+Dau begwn y ddaear yw terfyn y deyrnas,
+ A chariad yn rhwymo y deiliaid ynghyd;
+Gogledd a deau sy'n dangos eu miloedd
+ O ddeiliaid i orsedd Victoria a dwng,--
+"Mae gan ein Brenhines ddigonedd o diroedd
+ I'r llew mawr Brytanaidd i ysgwyd ei fwng."
+
+Na foed adseiniau'n cymoedd
+ Yn cael eu deffro mwy
+I ateb swn rhyfeloedd
+ Ar hyd eu llethrau hwy;
+Tywysog gwlad y bryniau
+ A ddalio tra bo byw,
+Yn noddwr i rinweddau
+ Dan nodded llaw ei Dduw.
+
+
+
+Y DDRAENEN WEN.
+
+
+Eisteddais dan y ddraenen wen
+ Pan chwarddai bywyd Ebrill cu
+Mewn mil o ddail o gylch fy mhen,
+ A myrdd o friall o bob tu;
+Eisteddai William gyda'i Wen,
+ Ac Ebrill yn ei ruddiau gwiw,
+Tra canai'r fwyalch uwch ein pen
+ Ei chalon yn ei chan i Dduw;
+Rhoi William friall ar fy mron,
+ A modrwy aur yn llaw ei Wen;
+Mi gofiaf byth yr adeg hon
+ Wrth eistedd dan y ddraenen wen.
+
+
+
+IFAN FY NGHEFNDER.
+
+
+ Dyma godl yn dwbl odli;
+ 'E wnes y prawf o ran spri.
+
+Aeth Ifan fy nghefnder yn ysgafn ei droed,
+ Ryw noson i hebrwng ei Fari;
+A phan wrth y gamfa sy'n troi at Ty'n Coed,
+ Fe daflodd ei fraich am ei gwarr hi.
+
+Ond cyn iddo prin i gael amser i ddweyd,--
+ "Pa bryd caf dy weled di eto?"
+Na gwybod yn hollol pa beth oedd o 'n wneud,
+ Aeth awel o wynt gyda'i het o.
+
+A phan oedd o 'n rhedeg a dim am ei ben,
+ I geisio, a ffaelu dal honno,
+Fe welai ar ol dod yn ol at ei wen
+ Fod y ci wedi dianc a'i ffon o.
+
+Heb hidio rhyw lawer am het nag am ffon,
+ Siaradai a Mari'n ddi-daro;
+Ond cyn iddo ddechreu cynhesu ei fron,
+ Fe drawodd rhyw stitch yn ei warr o.
+
+"A ddoi di, f'anwylyd," dywedai yn syn,
+ "I chwilio am fodrwy'n ddioedi?"
+Ac er mwyn rhoi sel ar ddywediad fel hyn,
+ Fe sangodd y brawd ar ei throed hi.
+
+"A wnei di roi ateb, O Mari, fy mun?"
+ A'i gruddiau ddechreusant a chochi;
+Ac Ifan nesaodd at Mari fel dyn,
+ A rhoddodd ddau gus ar ei boch hi.
+
+Wrth weled rhyw hyfdra fel hyn yn y brawd,
+ Ni ddarfu'r cusanu ei swyno;
+Dywedodd "Nos da" gyda dirmyg a gwawd,
+ A rhedodd i ffwrdd dan ei drwyn o.
+
+Aeth Ifan i'r gwely yn sobr a syn,
+ A dwedai fel dyn wedi monni,--
+"Gwyn fyd na f'ai serch rhyw hogenod fel hyn
+ Yn cadw am byth o fy mron i."
+
+Er hynny, tae Mari'n dod heibio ei dy,
+ Ac Ifan ar ganol breuddwydio;
+Mae cariad yn meddu atyniad mor gry',
+ Ni synwn un blewyn na chwyd hi o.
+
+
+
+YR HWN FU FARW AR Y PREN.
+
+
+Yr Hwn fu farw ar y pren
+ Dros euog ddyn o'i ryfedd ras,
+O! agor byrth y nefoedd wen
+ I'n dwyn uwchlaw gelynion cas.
+
+Y diolch byth, y clod a'r mawl
+ Fo i'r anfeidrol Un yn Dri,
+Gwna ni yn etifeddion gwawl
+ Y Ganan nefol gyda Thi.
+
+[Hen Fynwent Llanbrynmair: myn48.jpg]
+
+
+
+CHWEDL Y TORRWR BEDDAU.
+
+
+Roedd y lleuad yn ieuanc, a'r flwyddyn yn hen,
+A natur gan oerfel yn colli ei gwen,
+Fe rewai'r dwfr fel gweren oer,
+Tra prudd edrychai yr ieuanc loer
+ Cydrhwng canghennau'r coed;
+Yng ngolau'r nos, mewn mynwent laith,
+'Roedd torrwr beddau wrth ei waith;
+Un hen oedd ef, ac wrth ei ffon,
+A'i esgyrn oeddynt cyn syched bron
+ A'r esgyrn dan ei droed.
+
+Ymgodai'r gwynt,--a'i anadl ef
+A fferrai lwynau natur gref,
+A'r torrwr beddau yn ddifraw,
+Wrth bwyso'n bruddaidd ar ei raw,
+ Besychai am ryw hyd,
+Ryw "beswch mynwent" dwfn a blin;
+'Roedd ei groen a'i gob yn rhy deneu i'r him,
+Ac yna fe dynnodd ryw botel gron
+O'i logell,--ond potel wag oedd hon;
+ A churai 'i ddaint ynghyd.
+
+Ond llawen oedd pawb yn yr "Eryr Mawr,"
+Y dafarn hyna'n y dref yn awr,
+Fe chwyrnai'r tegell ar y tan,
+A chwyrnai'r gath ar yr aelwyd lan
+ Tra'n gorwedd ar gefn y ci.
+'Roedd mab yr yswain yno mor hyf,
+Yr hwn oedd yn llencyn gwridog, cryf,
+A gwr Tyddyn Uchaf, ynghyd a'r aer,
+A'r gof, a'r teiliwr, a'r crydd, a'r saer,
+Cyn dewed a dau o'r rhai tewa'n y wlad
+ Yn siarad a dau neu dri.
+
+Y torrwr beddau edrychai'n glau,
+A gwelai y goleu, a'r drws heb ei gau,
+Ac yntau'n hen wr go lon yn ei ddydd
+Yn hoffi pibell, ae yfed fel hydd,
+ 'Doedd ryfedd fod arno fo flys;--
+"Waeth i mi roi fyny," ebe'r sexton yn syn,--
+"Peth caled yw tirio trwy esgyrn fel hyn,
+A ch'letach fyth pan deimlwch chwi'ch hun
+Yn taro ynghyd ag asgwrn pen dyn!
+Felly 'rwy am fynd i'r 'Eryr Mawr,'
+Mae'r gwynt yn ddigon a tharo dyn lawr."
+ Ac i mewn ag ef ar frys.
+
+Fe wenai pawb wrth ei weled e'
+Y torrwr beddau yn cymeryd ei le
+O dan y fantell simnai fawr,
+(A chwarddai y tan dan ruo'n awr),
+Oblegid 'roedd pawb yn ei garu ef,
+O fab yr yswain i'r tlota'n y dref.
+
+"Wel, dowch a stori," ebe gwr y ty,
+"Rhyw chwedl ddifyr am bethau a fu."
+'Roedd pawb yn gwybod mai ef oedd tad
+Adroddwr chwedlau yr holl wlad.
+Fe wyddai am bob yspryd bron
+Fu'n tramwy hyd y ddaear hon;
+Fe fedrai ddychryn calon wan,
+A'i gwneud yn ysgafn yn y fan;
+Fe allai gau ac agor clwy',
+A medrai ddynwared pawb yn y plwy'.
+
+"Mae'r torrwr beddau mewn syched braidd,
+Rhowch iddo gornied o gwrw brag haidd,"
+ Ebe gwr y ty yn awr;
+"Mae stori sych yn ddigon o bla
+Os na fydd llymaid o ddiod dda
+ Yn helpu y stori lawr."
+
+
+
+Y CHWEDL.
+
+
+I.
+
+Ar nos Nadolig oer a llaith,
+Ers deugain o flynyddau maith,
+Bu farw Harri Huws;--'roedd ef
+Yn cael ei garu gan bawb trwy'r dref.
+Bu ef i mi yn gyfaill pur.
+A chalon gywir fel y dur,
+A diwrnod tywyll, prudd ei wedd,
+Oedd y dydd rhoed Harri yn ei fedd.
+
+Gadawodd eneth ysgafn droed
+O'i ol,--yn un ar bymtheg oed;
+'Roedd iechyd ar ei gruddiau cu,
+A chwarddai serch o'i llygad du.
+Bum i yn dysgu'r eneth hon
+I ddweyd A B yn blentyn llon,
+Ac wrth ei dysgu, credais i
+Y dysgai'r ferch fy ngharu fi;
+Ond ffoledd oedd i'r eneth dirion
+I feddwl caru hen wr gwirion.
+
+Daeth morwr llon i siarad a hi,
+A dygodd fy Elen oddi arnaf fi,
+Ond dd'wedais i air erioed wrth hon
+O'r hyn a deimlais dan fy mron;
+Na gair yn erbyn y morwr chwaith,
+Oblegid hwy fuont am flynyddau maith
+Yn chwareu a'u gilydd fel y mae plant
+Ar ochr y bryn neu lan y nant;
+Ond waeth tewi na siarad, ryw noson ddu
+Aeth y morwr ymaith ag Elen gu!
+
+Nis gallaf ddirnad byth er hyn
+Pa fodd yr aeth bore'i bywyd gwyn
+O dan fath gwmwl, na pha fodd
+Y daeth amheuaeth ag y todd
+ Gymeriad oedd mor bur;
+'Doedd neb yn meddwl yn y wlad
+Y buasai impyn tyner, mad,
+ Yn dwyn fath ffrwythau sur.
+
+Agorai'r wawr ei hamrant clau,
+Ac ymaith a fi ar ol y ddau,
+A digwydd wnaethum fynd 'run ffordd,
+Tra curai'm calon megis gordd,
+ Dan bwys briwedig fron;
+Mi cefais hwy. Nis gallaf ddweyd
+Pa un ai gofid oedd yn gwneud
+I'm dagrau redeg dros fy ngrudd,
+Ai ynte ryw lawenydd prudd;
+Ond rhedeg wnaethant fel y lli'
+Pan ddaeth y newydd gynta 'i mi
+ Fod Mari'n wraig i John.
+
+II.
+
+Pan gwrddodd Mari gyda fi,
+Ei dagrau redent fel y lli;
+Hi deimlai'n ddedwydd ar un llaw,
+Ac o'r tu arall, ofn a braw
+A lanwai'i bron. Hi ddwedai'r oll
+Oedd yn ei theimlad yn ddigoll;
+Agorai'i bron, can's roeddwn i
+Yn gyfaill mebyd iddi hi.
+
+Datodai glo ei chalon fawr,
+A dwedai'i thywydd imi'n awr,
+A'r fath onestrwydd yn ei phryd
+Nes teimlwn i'm teimladau i gyd
+Yn toddi'n llwyr; a gwenau hon
+A wnaent i minnau wenu'n llon,
+A gweld ei dagrau'n treiglo'n lli
+A sugnent ddagrau 'nghalon i.
+
+Ond pan yn tynnu tua phen
+Ei chwedl brudd, fy ngeneth wen
+A ddwedai, gyda'i llygad du
+Yn saethu teimlad ar bob tu,--
+"O fel yr ofnwn wg fy mam,
+Yr hon a'm gwyliodd ar bob cam:
+A balchder gyda thanllyd serch
+A'i gwnaeth yn ffol uwch ben ei merch.
+
+"Priodi a wnaethum heb wybod i mam--
+'Roedd hynny, 'rwy'n addef, yn bechod a cham;
+Ond beth oedd i'w wneud, a pheth ddaethai i'm rhan,
+Pan oedd cariad mor gryf, a minnau mor wan?
+Ni allwn gyfaddef i mam er y byd,
+Ond wedi priodi, ni aethom ynghyd
+I ofyn maddeuant ei mynwes dinam,
+Ond serch wedi'i gloi erbyn hyn oedd gan mam.
+
+"Hi allodd gau y drws a'i gloi
+Ar ol ei merch, a medrodd droi
+Clust fyddar at fy ymbil taer,
+A dweyd yng ngolen'r lleuad glaer,--
+'Gan iti fynnu'th ffordd bob cam,
+A chroesi 'wyllys gref dy fam,
+Dos gydag ef, yr hoeden ffol,
+A phaid a dychwel byth yn ol.'"
+
+Fe wylai Mari'n hidl fan hon,
+Agorodd holl argaeau'i bron,
+A d'wedai,--"'Nawr, fy nghyfaill pur,
+Cyn darfod adrodd chwedl fy nghur,
+A wnewch chwi addaw'r funud hon
+I gloi y chwedl yn eich bron
+ O wydd pob dyn trwy'r byd;
+Er imi dynnu arnaf gam,
+Ac er im' ddigio mynwes mam,
+ Fy mam oedd hi o hyd.
+
+"Aeth heibio flwyddyn gron, fy ffrynd,
+A holl dafodau'r lle yn mynd
+Yn gyflym gyda'm hanes prudd,
+A mam rhy falch o ddydd i ddydd
+I geisio clirio'i geneth wen,
+A cheisiai gadw i fyny'i phen
+Drwy fynd i'r eglwys yn ei du,
+Fel pe buasai'i geneth gu
+Yn gorwedd yn ei thawel fedd,
+Lle gorffwys pawb mewn hun a hedd."
+
+Un noson oer, mewn gaeaf du,
+Eisteddwn ar fy aelwyd gu,
+Gan wylio'r marwor mawn a choed
+Yn syrthio'n lludw wrth fy nhroed,
+Yn ddrych o ddynion llon eu gwedd
+Yn goleu i ddiffodd yn y bedd.
+Fy meddwl grwydrai'n rhydd a ffol.
+Pan yn ddisymwth o'm tu ol
+'Roedd swn cerddediad!--pan y trois,
+Mi glywn fy enw mewn acen gyffrous,
+A phwy oedd yno ger fy mron
+Ond Mari a'i baban ar ei bron!
+
+Ei llygaid gloewon, gleision, mawr,
+A safent yn ei phen yn awr;--
+Edrychai i'r tywyllwch prudd
+Fel pe buasai'n gweld ynghudd
+Ysbrydion ei mwynderau gynt
+Yn gwibio o'i chylch ar gyflym hynt!
+Dechreuai ddweyd ei chwyn a'i chais
+Mewn math o anaearol lais,
+A theimlwn fel pe buasai ddelw o faen
+Yn sefyll,--yn edrych,--a siarad o'm blaen.
+
+"Mi eis at ddrws fy mam yr ail waith,
+ Ac eilwaith trodd fi ffwrdd;
+Yr unrhyw galed, oeraidd iaith,
+ Oedd yno yn fy nghwrdd.
+
+"Mi ddaliais hyn fel arwr glew,
+Can's 'roedd fy nghalon fel y rhew,
+Ond pan y gwgodd f'anwyl fam
+Wrth wel'd fy maban baeh dinam,
+Aeth cleddyf trwy fy mron yn syth--
+Mae'r archoll hwnnw yno byth.
+
+"Ac am fy ngwr--fy anwyl John,
+'Roedd ef ar wyllt bellderau'r donn;
+Un dydd wrth fynd am dro o'r dref,
+Ni gawsom ffrae, a ffwrdd ag ef.
+Nis gallswn weithio yn fy myw,
+Na phlygu'm glin o flaen fy Nuw;
+'Doedd dim ond troi yr adeg hon
+A'm baban tyner ar fy mron
+At mam;--ond honno, er fy nghur,
+Oedd fel y garreg yn y mur.
+Fy Nuw a wyr fel snddais i
+O dan ei geiriau cerrig hi;
+A'r oll o'm serch yr adeg hon
+Oedd yn fy maban ar fy mron."
+
+Fe beidiai Mari lefaru yn awr,
+A minnau yn edrych yn syn ar y llawr;
+Ac fel mewn eiliad--'roedd fy ffrynd
+A'i baban serchus wedi mynd!
+
+Deallais wedyn iddi droi
+ Ei gwyneb tua Llundain bell,
+Pan nad oedd mam na neb i roi
+ I'w mab a hithau gynnes gell.
+O! pwy all ddweyd na meddwl chwaith
+Ei theimlad ar y brif-ffordd faith,
+Heb ddillad cynnes am ei chefn,
+A'i chalon FU'n llawn serch drachefn,
+Gan chwerw drallod, honno wnaed
+Mor oer a'r brif-ffordd dan ei thraed.
+
+'Roedd pob anadliad roddai hon
+Yn sugno ochenaid ddofn o'r bron,
+A phob cam roddai 'n tynnu gwaed
+O'i thyner flin ddolurus draed.
+O gam i gam, o awr i awr
+Cyrhaeddyd wnaeth i'r ddinas fawr;
+Ac ar y palmant caled, oer,
+Llewygu wnaeth yng ngolau'r lloer.
+
+Yr oedd hi'n nos, ac nid oedd neb
+A sychai chwys ei dwyrudd wleb
+Heblaw y gwynt, ac ni wnai ef
+Ond chwiban heibio hyd y dref.
+Ond pan oreurai'r wawr y ne'
+Daeth rhyw Samaritan i'r lle,
+A chodai hi fel delw wen,
+A rhoddai bwys ei thyner ben
+
+Ar fron tosturi,--a'r baban bach
+A gysgai hun ddiniwaid iach,
+Ar hyd y nos flinderus faith
+Ar fron mor oer a'r garreg laith.
+
+Aeth ef a'r ddau yn ol i'w dy,
+A'i wraig drugarog, serchus, gu,
+A'u hymgeleddai gyda serch
+A chydymdeimlad calon merch,
+Gwreichionen olaf bywyd brau
+Gyneuai'n ol dan law y ddau.
+
+Deffroai Mari gyda hyn
+I gael ei hun mewn gwely gwyn,
+A gwen trugaredd uwch ei phen
+Yn edrych ar ei dwyrudd wen.
+
+Nid oedd gan wr a gwraig y ty
+(Lle dodwyd Mari),--blentyn cu,
+A gall mai dyna'r rheswm pam
+Y carai'r rheiny gael y fam,
+Er mwyn cael gwylio'i baban bach
+Yn tyfu'n llencyn gwridog, iach.
+
+Dechreuai'r bychan chwareu'n rhydd,
+A rhosyn iechyd ar ei rudd,
+A gweithiai'r fam a chalon rwydd
+Wrth weld ei gobaith yn ei gwydd
+Yn tyfu'n hogyn gwyneb crwn,
+A'i serch ymglymai o gylch hwn.
+
+* * * * *
+
+Awn heibio i flynyddau maith,--
+Fe dyfai'r llanc,--gwnai'r fam y gwaith,
+Ac ni fu'r blwyddau meithion hyn
+Heb ambell smotyn hafaidd, gwyn.
+
+Edrycha'i llanc yn hoew a chryf,
+A'i natur fywiog, hoenus, hyf,
+A godai awydd yn ei fron
+I fynd yn forwr nwyfus, llon;
+Dychmygai nad oedd unrhyw ddor
+Yn agor iddo ond y mor.
+
+Fe deimlai'i fam, a theimlai'n flin,
+Ond ni ddaeth gair dros drothwy'i min,
+A'r bore ddaeth i'r llanc dinam
+I rwygo'i hun oddiwrth ei fam.
+
+III.
+
+Y storm a aeth heibio, a'r dwylaw wnaent gwrdd
+I gyfarch eu gilydd yn llon ar y bwrdd;
+"Mae'r cyfan yn fyw," ebe'r Capten yn llon,
+A diolch a gweddi yn llanw ei fron:
+"Na!--arhoswch; pa le y mae William ddinam,
+Y llencyn oedd newydd roi ffarwel i'w fam?"
+Ond dwedai rhyw un ag ochenaid ddofn, ddofn,
+"Nid ydwyf yn sicr, ond y mae arnaf ofn
+Fod drwg wedi digwydd, pan ruai y gwynt,
+Gan luchio a thaflu y llong ar ei hynt,"
+'Roedd William yn mrigyn yr hwylbren, hir, praff,
+Yn ceisio ategu yr hwyl gyda rhaff;
+Fe ruthrai y gwynt, ac mewn eiliad neu ddwy
+'Roedd y llanc wedi myned na welwyd ef mwy.
+
+Y tu ol i'r llestr, draw, draw ar y donn,
+Yn ymladd am fywyd, 'roedd llanc a fu'n llon,
+A'i obaith a'i nerth ar ddiffygio yn llwyr,
+A'r t'w'llwch yn dechreu cau amrant yr hwyr;
+Ar hyn, dacw gwch yn nesau ato ef,
+A'i hwyliau fel edyn rhyw angel o'r nef;
+A phan yr oedd William yn suddo i lawr,
+Wele forwr yn estyn ei ddeheu law fawr
+I safn y dyfnderau, glafoerllyd, di rol,
+Gan godi y bachgen i fywyd yn ol.
+
+Am oriau bu'n hollol ddideimlad fan hon,
+Ond rhith weledigaeth oedd fel ger ei fron;
+Fe welai ei fam yn sylldremio o'r lan,
+A chlywai'i hochenaid yn esgyn yn wan;
+A gwelai ofidiau gordrymion a phrudd
+Yn tynnu eu herydr ar hyd ei dwy rudd;
+A gwelai ei gartref yn ymyl y nant,
+A'r pentref, a'r felin, a'r ysgol, a'r plant,
+Ac yntau ei hunan yn chwareu'n ddinam--
+A deigryn yn treiglo o lygad ei fam.
+
+Gofynnai'n ei freuddwyd,--"Mam, pam yr ydych chwi
+Yn wylo eich dagrau cariadus yn lli?"
+A hithau yn ateb fel hyn yn y fan,--
+"'Rwy'n cofio fy machgen yn faban bach gwan,
+Ac wedyn yn tyfu mewn nerth ac mewn oed
+I neidio a chwareu o amgylch fy nhroed."
+Ar hyn daeth rhyw niwl dros ei feddwl yn chwim,
+A'i fam a ddiflannodd fel cysgod yn ddim;
+A gwelai len arall yn lledu o'i flaen,
+A breuddwyd mewn breuddwyd yn agor o'i flaen.
+
+Ymhellach yn ol, fe welai ei fam
+Yn suo a hwian ei baban dinam,
+Ar hyn, dyna rywun yn cnocio yn hy,
+A morwr cryf, barfog, yn dyfod i'r ty,
+ A safai cyn dechreu llefaru;
+Nid hir y bu yno cyn gweled ei wraig,
+A deigryn a safai ar rudd oedd fel craig,
+Ymgrymai i roddi ei gusan i hon,
+A'r cwbl a ddwedodd a'i ben ar ei bron,--
+ "Fy Mari, O fy Mari!"
+
+Ond William ddeffroai yn raddol ar hyn,
+A bywyd ail wridai ei wyneb gwyn, gwyn,
+A gwybu yn fuan mai morwr cryf, llon,
+A'i cipiodd mor wyrthiol o afael y donn;
+'Roedd hwnnw ac ereill yn dianc o Ffrainc,
+Pan oedd yr hen Boni yn llywydd y fainc.
+
+A phan y daeth William i fywyd yn ol,
+'Roedd y wawr yn ymgodi a'r haul yn ei chol,
+Gan chwalu y t'w'llwch a'r caddug ar daen,
+A bryniau hen Gymru 'n ymgodi o'i flaen.
+
+Edrychai'n fyfyriol ymlaen tua'r tir,
+A'i freuddwyd yn gwibio trwy'i feddwl mor glir,
+A syllai bob 'nail ar y morwr hardd, cryf,
+Yr hwn a achubodd ei fywyd mor hyf;
+A chofiai ei freuddwyd, ei gartref, a'r dyn
+Yn curo y drws, ac yn agor ei hun,
+Ac nis gall anghofio y dyn yn ei fyw,
+Wrth weled y morwr yn gweithio y llyw.
+
+"Paham yr edrychwch i'm gwyneb o hyd?"
+Gofynnai y morwr, tra gwrol ei bryd;
+"Myfyrio yr oeddwn ar freuddwyd tra ffol,"
+Medd William, gan syllu i'r glannau yn ol,
+"Lle gwelais fy hunan yn blentyn di-nam,
+Yn chwareu o amgylch i liniau ei fam;--
+Lle clywais i rywun yn curo yn hy',
+A morwr o rywle yn dyfod i'r ty,
+A synnu yr oeddwn, mor debyg i chwi
+Oedd hwnnw a welais yn dod i'n ty ni."
+
+"Dywedwch i mi," ebe'r morwr yn awr,
+Gan syllu drwy bellder goleuni y wawr,
+"A oes gan eich mam lygad glas yn ei phen
+Sy'n ganmil disgleiriach na glesni y nen?
+Oes ganddi hi ruddiau, dywedwch yn rhwydd,
+A wrident yr eira pe bae yn eu gwydd?
+Oes ganddi hi wallt fel y nos ar ei phen
+Yn disgyn fel cwmwl ar hyd ei grudd wen?
+Ond gall, o ran hynny, fod main gennych chwi
+Yn ateb i'r darlun a dynnir gen i,
+A mi heb ei gweled mewn llan nac mewn llys,
+Ond,--welsoch chwi fodrwy ryw dro ar ei bys,
+A math o lun calon mewn perlau yn hon,
+A gwallt yn ei chanol yn ddolen fach gron?"
+
+"Mae gan fy mam lygaid fel glesni y nen,
+A gwallt sydd fel hanner y nos ar ei phen,
+Mae harddwch yn byw ar ei gwefus a'i gen,
+Ac ysbryd serchawgrwydd yn dawnsio'n ei gwen;
+Ac hefyd, wrth feddwl, mae adgof gen i
+Am fodrwy 'run fath a'r un hon ddwedsoch chwi,
+A math o lun calon mewn perlau yn hon,
+A gwallt yn ei chanol yn ddolen fach gron!"
+
+"Ai breuddwyd yw hyn?" ebe'r morwr yn rhydd,
+A'i deimlad a'i galon yn neidio i'w rudd,
+"Ai'm mab a achubais o afael y donn?
+Ai delw fy Mari yw'r llygad byw, llon,
+A welaf o'm blaen? 'Rwyf yn diolch i'r Nef,
+Mae Mari yn fyw, a fy machgen yw ef!"
+
+IV.
+
+"Roedd annedd fy Mari a minnau a'r ddor
+A'i gwyneb i waered at lan y mor,
+Ac ni fu dedwyddach dau yn y byd
+Na Mari a minnau tra buom yn nghyd.
+Ryw noson anhapus--mi cofiaf hi byth--
+Daeth ysbryd anghydfod dros drothwy ein nyth,
+A Mari a minnau a gawsom air croes,--
+Y cyntaf a gawsom erioed yn ein hoes.
+
+"Eis allan yn sydyn, a chauais y ddor,
+A chrwydro y bum ar hyd erchwyn y mor,
+Yn gwylio y tonnau yn chwareu'n y fan
+Ym mynwes eu gilydd hyd ymyl y lan;
+Dan chwerthin a neidio o amgylch fy nhroed,
+Yn orlawn o fywyd fel plant deuddeg oed.
+Meddyliais mor ffol y bum i gyda'r fun
+A garwn yn fwy na fy enaid fy hun;
+Ac eistedd a wnaethum mewn myfyr tra syn,
+A chenais gan fechan yn debyg i hyn,--
+
+"'Mari anwyl, wnei di faddeu
+ Fy ymadrodd creulon, ffol,
+Gaf fi yfed gwin dy wenau
+ Pan y deuaf yna'n ol?
+Pam y rhaid i gariad cywir
+ Fod yn llanw ac yn drai?
+Arnaf fi, fy Mari anwyl,
+ Arnaf fi yr oedd y bai.
+
+"'Mynnaf brynnu gown o sidan
+ Goreu fedd yr hollfyd crwn,
+I'w roi i Mari a'm llaw fy hunan,
+ I wneud fyny'r cweryl hwn;
+Gwn y medr Mari faddeu
+ Holl ffaeleddau cariad gwir,
+A thrawsffurfio gyda'i gwenau
+ Gwmwl du yn awyr glir.'
+
+"Pan oeddwn yn dychwel a'r gown i fy mun,
+Gan deimlo yn ddig wrth fy ffoledd fy hun,
+A theimlo y mynnwn i wneuthur fy rhan
+I garu y cweryl o'r ty yn y fan;
+Ar hynny! mi deimlwn ryw law nerthol, fawr,
+O'm hol yn fy nhynnu yn llegach i'r llawr,
+A phedwar o forwyr a'm rhwyment mewn brad,
+Ac ymaith y'm cipiwyd i lawr at y bad!
+Un cilgwth!--un floedd a drywanai fy mron,
+A dyna ni'n nofio ar wyneb y donn.
+
+"Llong ryfel angorai draw, draw ar y donn,
+A rhwyfai y morwyr yn union at hon,
+A mi, fel mewn breuddwyd, a gefais fy hun
+(Yn lle bod yn gofyn maddeuant fy mun)
+Yn nghanol y milwyr, a'r morwyr llawn brad
+Yn hwylio i ryfel yn syth o fy ngwlad."
+
+V.
+
+Ryw fore, rhoi'r postman ddau guriad i ddor
+Y bwthyn bach hwnnw yn ymyl y mor,
+A Mari a glybu, ond teimlai ryw fraw
+Yn mynd at ei chalon, a chrynnai ei llaw,
+A methai gan ofnau a myned ymlaen,
+'Roedd blwyddau er pan gadd hi lythyr o'r blaen.
+
+Hi gafodd y llythyr ar drothwy y ddor,
+A gwelai ei fod wedi dod dros y mor;
+Llawysgrif pwy ydoedd? O ba wlad y daeth?
+Ai William sy'n glaf, neu a oes newydd gwaeth?
+Agorodd y sel, a darllennodd--ond och!
+'Roedd gwaed y cynhyrfiad yn rhewi ar ei boch;
+Y capten a'i gyrrodd i ddweyd fel y bu--
+Fod storm wedi codi, fod corwynt a'i ru
+Bron wedi achosi llongddrylliad tra erch,
+Ac hefyd fod William, canolbwynt ei serch,
+Yng nghanol y ddrycin, a'r storm, wedi cwrdd
+A damwain, a syrthio i'r mor dros y bwrdd.
+
+Fe dorrodd y newydd ar deimlad y fam
+Fel taranfollt erchyll, a'i chalon rodd lam;
+Mor hynod ddisymwth bu'r ergyd i hon,
+Nes clodd y fath newydd ei dagrau'n ei bron;
+Ni wyddai p'le i droi, na pha beth i'w wneud,
+Ond teimlai lais distaw'n ei mynwes yn dweyd,--
+"Feallai fod gobaith, feallai i'th Dduw
+Ofalu am William, a'i fod ef yn fyw."
+
+Hi syrthiodd ar ei gliniau
+A chodai fyny ei llef,
+Trwy'r storm o orthrymderau,
+At un sydd yn y nef;
+Ond ofnai fod ei gweddi
+Yn gofyn gan yr Ior
+Am achub un oedd wedi
+Ei gladdu yn y mor.
+
+Daeth eilwaith adlais distaw
+O fewn i'w mynwes wyw,
+I ddweyd er hyn y gallai
+Fod William eto'n fyw;
+A'r adlais hwnnw roddodd
+Ail nerth i'w gweddi gref,
+Nes gyrrodd mewn ochenaid
+Ei chalon tua'r nef.
+
+VI.
+
+Ust! ust! dyna gnoc! pwy sy'n curo mor hy?
+O diolch--a William yn dyfod i'r ty!
+Pwy draetha'u teimladau pan syrthiodd y ddau
+Ar yddfau eu gilydd i gyd lawenhau?
+
+Dechreuai William ddweyd yn awr
+Ei hanes prudd, pan syrthiodd lawr,
+Ac fel 'r achubwyd ef mor hyf
+Gan law ddieithr morwr cryf;
+
+"O na chawn ei weled," atebai y fam,
+"Y morwr achubodd fy mhlentyn rhag cam,
+Cai ddiolch fy nghalon am achub o'r lli.
+Yr hwn sy'n anwylach na mywyd i mi."
+"Myfi yw y gwr," ebe llais yn y ddor,
+"Achubodd y bachgen rhag marw'n y mor,"--
+"Fy Nuw!"--ebe Mari, pan welodd y dyn,
+A syrthiodd i freichiau ei phriod ei hun.
+Dechreuwyd a holi ac adrodd mor hy,
+A'r tri yn cydwylo wrth ddweyd sut y fu,
+Y tad yn rhoi darlun o droion y daith,
+A'r fam yn rhoi darlun o'i phryder tra maith.
+
+'Mhen awr, fe ddaeth cenad i'r bwthyn dinam
+At Mari yn dweyd fel bu farw ei mam;
+Y clefyd ddadglodd gloion rhydlyd ei serch,
+A phwnc ei myfyrdod oedd Mari ei merch,
+"Rwy'n maddeu i Mari fy merch," ebe hi,
+A deigr edifeirwch yn treiglo yn lli;
+A neidiodd o'i gwely, ac allan yr aeth,
+A chodi ei dwylaw i'r nefoedd a wnaeth,
+Ar drothwy y drws lle cilgwthiodd ei merch,
+Am roi ei deheulaw lle rhoddodd ei serch;
+Gweddiodd yn daer am faddeuant yr Ior,
+Ac yno bu farw ar drothwy y ddor.
+
+Bu'r morwr a Mari am flwyddau hir, hir,
+Yn byw mewn dedwyddwch dan awyr serch clir,
+A William a dyfodd yn addurn i'w wlad,
+Yn eilun ei fam, ac yn bopeth ei dad.
+
+* * * * *
+
+Y sexton ar hynny eisteddodd i lawr,
+A'r tan oedd yn llosgi yn isel yn awr;
+Aeth pawb tuag adref 'rol cael y fath wledd,
+Aeth yntau i'r fynwent i dorri y bedd.
+
+[Y Gof. "Gewynnau ei fraich sydd mor galed a'r dur,
+Ei galon, er hynny, sydd dyner a phur.": myn64.jpg]
+
+
+
+SYR WATCYN WILLIAMS WYNN.
+
+
+Ym mhlith yr holl foneddwyr
+ A geir yng Nghymru lan,
+Mae rhai boneddwyr mawrion,
+ A'r lleill yn od o fan;
+Ond gwnewch un bwndel anferth
+ O fonedd Cymru 'nghyd,
+Syr Watcyn, brenin Cymru,
+ Sy'n fwy na'r lot i gyd.
+
+Lle bynnag tyfa glaswellt,
+ Lle bynnag t'wynna haul,
+Fel tirfeddiannwr hynaws
+ Ni welwyd un o'i ail;
+Mae'n frenin gwlad y bryniau,
+ A chyda hyn o ran,
+Mae'n frenin yng nghalonnau
+ Ei ddeiliaid ym mhob man.
+
+Ewch at y weddw unig,
+ Ewch at amddifad tlawd,
+Syr Watcyn yw eu noddwr,
+ Syr Watcyn yw eu brawd;
+Trwy ddagrau diolchgarwch
+ Ar ruddiau llawer un
+Argraffwyd yr ymadrodd,--
+ "Syr Watcyn ydyw'r dyn."
+
+Mae ef yn wir foneddwr,
+ 'Does neb all ameu hyn,
+Mae'i glod fel llanw'n llifo
+ Dros lawer bro a bryn;
+Ac nid yn unig hynny,--
+ Mae'n Gymro pur o waed,
+A Chymro glan bob modfedd
+ O'i goryn hyd ei draed.
+
+Hir oes i'r mwyn bendefig,
+ Medd calon myrdd pryd hyn,
+A byw ddwy oes a hanner
+ A wnelo Lady Wynn;
+Hir oes i'r holl hiliogaeth,
+ A chyfoeth heb ddim trai,
+A bendith nef fo'n aros
+ Ar deulu hen Wynnstay.
+
+
+
+LILI CWM DU.
+
+
+Rhwng hafnau'r bryn uchel mae'r awel erioed
+Yn smalio a chwareu yn ysgafn ei throed;
+A mynd gyda'r awel i bob cornel gu
+Mae adgof i feddwl am Lili Cwm Du.
+
+Mae lili y dwfr yn ymddyrchu o'r llyn,
+Gan gym'ryd goleuni i sychu'i phen gwyn;
+Mae hithau fel pe bai yn edrych bob tu
+I feddwl a meddwl am Lili Cwm Du.
+
+Mae gwlithos yr hwyrddydd yn dyfod bob nos
+A'u diod gwsg dyner i anian fawr dlos;
+Yn ol yn siomedig ant gyda'r wawr gu
+Am na chawsant gusan gan Lili Cwm Du.
+
+Oferedd i'r gwlithos i ddyfod i lawr
+I chwilio am hon ymysg blodau y llawr;
+I fyny mae hi, ac ni fedd y nef gu
+Un lili brydferthach na Lili Cwm Du.
+
+
+
+FFARWEL Y FLWYDDYN.
+
+
+Ar noson ddrychinog, a gwyntog, ac oer,
+Ysgubai'r ystormydd dros wyneb y lloer;
+'Roedd delw y gaeaf ar ddaear a nen,
+A thymor y flwyddyn yn dyfod i ben.
+
+"Ffarwel," ebe'r flwyddyn, "fe ddarfu fy ngwen,
+Fy meibion, y misoedd, a'm gwnaethant yn hen;
+Ces amdo yn barod, o lwydrew yn haen,
+A dor tragwyddoldeb sy'n agor o'm blaen.
+
+"Ffarwel," ebe'r flwyddyn, "'rwy'n estyn fy llaw,
+A honno yn wleb gan y ddrycin a'r gwlaw;
+'Rwy'n mynd i fyd arall i gloddio fy medd,
+A'm chwaer sydd yn dyfod wrth droedfainc fy sedd.
+
+"Pan anwyd fi gyntaf, 'roedd gwywder ar daen,
+A mynwent prydferthwch o'm hol ac o'm blaen;
+Daeth gwanwyn 'rol hynny, a'r blodyn morgun
+A gododd ei sedd ar ei feddrod ei hun.
+
+"Fe chwarddai y ddaear, a gwridai yr haul,
+A minnau'n ysmalio mewn glesni a dail;
+A chanai y gog ei Sol-ffa y fan draw,
+A'r fronfraith a ganai'r hen nodiant gerllaw.
+
+"Daeth Mai gyda hynny a hirddydd a haf,
+Ar fynwent y gaeaf daeth gerddi mor braf;
+Priodais a harddwch gan gredu yn siwr
+Fod llawnder Mehefin yn gyfoeth i'm gwr.
+
+"Pryd hynny, agorai'r amaethwr ei geg,
+A dywedai,--''Nawr, flwyddyn, mae eisieu hin deg;'
+Ond er iddo waeddi, y gwlaw oedd yn dod,
+A'r m'linydd yn diolch am ddwr ar ei rod.
+
+"Mi gefais fy meio am wlawio cyhyd,
+A gwneuthur cryn niwed i'r gwair ac i'r yd;
+Ond cofiwch chwi, ddynion, beth bynnag fu'r drefn,
+'Roedd Duw a Rhagluniaeth o hyd wrth fy nghefn.
+
+"O ddiwrnod i ddiwrnod, aeth haf ar ei hynt,--
+Gostyngodd yr heulwen, a chododd y gwynt;
+Daeth llwydrew fel lleidr, pan giliai yr haul,
+Rhodd wenwyn ym mywyd y blodau a'r dail.
+
+"Dechreuais cyn nemawr a wylo yn hallt,--
+Dechreuodd y stormydd a thynnu fy ngwallt;
+Aeth haf a'i brydferthwch i mi yn ddi goel,
+'Rwy' heno yn marw yn dlawd ac yn foel.
+
+"Mi glywais y clychau yn canu mor llon,
+Wrth weled babanod yn dod at y fron;
+Bum i gyda'r mamau yn siriol eu pryd
+Yn gwenu a siglo uwch ben llawer crud.
+
+"Mi glywais y clychau,--daeth mab a daeth merch
+At allor yr eglwys i roi cwlwm serch;
+Ar ol i mi farw, d'wed gwragedd di ri',--
+'Wel hon oedd y flwyddyn ro'dd fodrwy i mi.'
+
+"Mi glywais y clychau yn brudd lawer gwaith,--
+Mi welais yr elor yn myned i'w thaith;
+Ar filoedd ar filoedd ce's weld yn ddiau
+Y beddrod yn agor,--yn derbyn,--a chau!
+
+"Ffarwel iti, ddaear,--ffarwel iti, ddyn,
+Ffarwel yr hen bobol,--ffarwel, fab a mun;
+Mae'n rhaid i ni 'madael, 'rwy'n marw, fy ffrynd,--
+'Rwyt tithau yn dod os y fi sydd yn mynd.
+
+"Ffarwel iti, Gristion, mae'm llyfrau ar gael,
+Mae'm cyfrif fan honno i'r gwych ac i'r gwael;
+'Rwy' wedi 'sgrifennu yn rhad ac yn rhydd,
+MADDEUANT ar gyfer dy enw bob dydd.
+
+"Ffarwel, ddyn annuwiol, mae gennyf ar lawr
+Hen fill yn dy erbyn sy'n hynod o fawr;
+'Rwy' heno'n rhy wanllyd i ddweyd yr amount,
+Cawn oleu byd arall i setlo'r accmmt!"
+
+
+
+CORN Y GAD.
+
+
+(Y miwsig gan D. Emlyn Evans).
+
+Mae corn y gad yn galw'n hyf,
+ A'n nghalon innau'n ateb hwnnw,
+Mae'n galw ar y dewr a'r cryf
+ I fuddugoliaeth neu i farw,--
+Ffarwel, f'anwylyd! Ail-adseinia'r nen
+I gorn y gad--ffarwel fy Ngwen.
+
+"Ti wyddost nad yw'n iawn i ferch
+ I dynnu cledd ar faesydd gwaedlyd,
+Er hyn gall anfon gweddi serch
+ At Dduw i'r nef dros ei hanwylyd;
+Cei di fy mendith, Arthur, ar dy ben,
+A'r nefoedd deimlo gweddi Gwen."
+
+'Does neb ond y dewr yn haeddu cael bod
+Yn deilwng i'w caru, yn deilwng o glod;
+Na neb ond gwladgarol a ffyddlon hoff fun
+Yn haeddu cael calon y milwr a'r dyn.
+
+
+
+GWYL DEWI SANT.
+
+
+Da gan Gymry gydgyfarfod,
+ Wyl Dewi Sant,
+A iaith y Cymry ar bob tafod,
+ Wyl Dewi Sant;
+Son am Gymru gynt a'i hanes
+Gyda gwen a chalon gynnes,
+A chalon Cymro ym mhob mynwes,
+ Wyl Dewi Sant.
+
+Gwened haul ar ben y Wyddfa,
+ Wyl Dewi Sant,
+Chwardded ffrydiau gloewon Gwalia,
+ Wyl Dewi Sant;
+Gwyl hudolaidd, gwyl y delyn,
+Gwyl y canu, gwyl y cenin,
+Nyddu can a phlethu englyn,
+ Wyl Dewi Sant.
+
+Cadwn hen ddefodan Cymru,
+ Wyl Dewi Sant,
+Cinio cynnes cyn y canu,
+ Wyl Dewi Sant;
+Llawer Cymro calon gynnes
+Wisga genin ar ei fynwes,
+A'r lleill ro'nt genin yn eu potes,
+ Wyl Dewi Sant.
+
+Mae pob Sais yn hanner gwallgo,
+ Wyl Dewi Sant,
+Eisieu o galon bod yn Gymro,
+ Wyl Dewi Sant;
+Dwed y Sais dan wisgo'i faueg,--
+"Fi yn leicio'r Welsh bob adeg,
+Ag fi ddim dweyd un gair o Sasneg,"
+ Wyl Dewi Sant.
+
+Y ganwyll frwyn fo'n goleu'n siriol,
+ Wyl Dewi Sant,
+A'r tanllwyth mawn fo'n twymo'r gongol,
+ Wyl Dewi Sant;
+Ac wrth oleu mawn y mynydd,
+Pur wladgarwch elo ar gynnydd,
+A'n serch fo'n ennyn at ein gilydd,
+ Wyl Dewi Sant.
+
+
+
+'RWY'N DISGWYL Y POST.
+
+
+'Rwy'n disgwyl y post gyda llythyr i mi,
+ 'Rwy'n disgwyl ei guriad bob awr wrth y ddor,
+Ond nid oes un adsain na churiad yn dod,
+ Ond curiad fy nghalon a snad y mor;
+Mac'r awel yn dyner, ac weithiau yn gref,
+ 'Rwy'n disgwyl, yn disgwyl am air gyda hi,
+Ond ofer yw disgwyl wrth awel y nef,
+ Ac ofer yw disgwyl wrth donnau y lli;
+Gwneud storm yn fy mynwes mae storm yn y nen,
+ A thynnu fy nagrau mae dafnau y gwlaw,
+O eisieu bod rhywun yn cofio ei Wen,
+ Ac eisieu cael gweled ysgrifen ei law.
+ Daw'r mellt mewn trugaredd
+ Drwy swynol gyfaredd,
+ A newydd i rai dros y gwyrddlas li,
+ Ond llawn o gynddaredd
+ Yw'r mellt a'r taranau uwchben ein ty ni;
+Mi rois iddo 'nghalon, a rhois iddo'm llaw,
+'Rwy'n disgwyl, 'rwy'n disgwyl, a disgwyl nes daw.
+
+
+
+CLYWCH Y FLOEDD I'R FEWYDR.
+
+
+("Cambrian War Song," gan Mr. Brinley Richards).
+
+Clywch y floedd i'r frwydr,
+ Bloedd dros ryddid Cymru,
+Ar y mynydd uchel draw
+ Llysg tafodau tan;
+Clywch gleddyfau'n tincian,
+A banerau'n clecian,
+Cymry sydd yn dyfod allan,
+ Dros hen wlad y gan;
+Er fod rhengau'r gelyn
+Yn ymgau i'n herbyn,
+Mynnwn weled Cymru'n rhydd,
+ Neu farw yn y gad;
+Fyny a'r banerau,
+Chwifiwn ein cleddyfau,
+Codwn floedd nes rhwygo'r nen,
+ Cymru ddaw yn rhydd.
+
+Swn y gwynt pruddglwyfus
+ Sua yn y coed,
+Hithau'r gornant nwyfus,
+ Chwery wrth fy nhroed;
+Huno y mae popeth
+ Dan y cwrlid rhew,
+Tra ffarwelia geneth
+ Gyda'i milwr glew.
+
+Clywch y floedd yn codi,--
+Bloedd dros ryddid Cymru,
+Mynnwn weled Cymru'n rhydd
+ Neu farw dros ein gwlad;
+Rhyddid ddaw i'n gwenau
+Gyda gwawr y borau
+Gwaedda ysbryd Cymru gynt,--
+ "Awn ymlaen i'r gad."
+Fyny a'r banerau,
+Chwifiwn ein cleddyfau,
+Codwn floedd nes rhwygo'r nen,
+ Cymru ddaw yn rhydd;
+Clywch y floedd yn codi,
+ Mynnwn weld hen Gymru'n rhydd.
+
+
+
+DYMA BEDWAR GWEITHIWR.
+
+
+Dyma bedwar gweithiwr dedwydd
+ Gyda chydymdeimlad llwyr,
+Gydgychwynant gyda'r wawrddydd,
+ Gyd-ddychwelant gyda'r hwyr;
+Maent yn meddu gwragedd hawddgar,
+ Gyda phedwar bwthyn iach,
+Ae mae gan bob un o'r pedwar
+ Bob i bedwar plentyn bach.
+
+Dringa'r pedwar aeliau'r creigydd,
+ Tyllant gernau'r clogwyn cas,
+Ac a'r pedwar dan y mynydd
+ Ar ol gwythi'r lechen las;
+Pedwar diben sydd i'r pedwar,
+ Tra mae'r pedwar yn cydfyw,
+Caru'u gwaith, eu gwragedd hawddgar,
+ Caru'u gwlad, a charu Duw.
+
+(Caneuon y Chwarelwyr, ar ymor yn agos i'r Werddon, Mawrth 10fed, '77).
+
+
+
+HEN AWRLAIS TAL Y TEULU.
+
+
+Glywch chwi gloch yr awrlais
+ Sydd yn taro awr 'rol awr?
+Mal "un, dau, tri, pedwar, pump, chwech,"
+ Medd hen awrlais tal y teulu;
+Ar y pared yma bu
+ Yn amser ein hen deidiau,
+Fel rhyw fynach yn ei ddn
+ Yn rhifo en munudau;
+Dyma ddwed o bryd i bryd,--
+"Byrr yw'ch amser yn y byd,
+'Rwy'n dweyd 'r un peth o hyd o hyd,"
+ Medd hen awrlais tal y teulu.
+
+Darnio amser yw ei waith,
+A thra'n darnio oesau maith,
+Mal "un, dau, tri, pedwar, pump, chwech,"
+ Medd hen awrlais tal y teulu;
+Canodd gloch uwch ben y orud
+ Pan anwyd llawer babi;
+Canu bu o bryd i bryd
+ Ar lawer dydd priodi;
+"Clywch y gloch fu uwch y crud
+Yn canu cnul o bryd i bryd,
+I lawer oes fn yn y byd,"
+ Medd hen awrlais tal y tenlu.
+"'Rwy'n dweyd 'run peth o hyd o hyd,"
+ Medd hen awrlais tal y tenlu.
+
+
+
+HEN GYMRY OEDD FY NHADAU.
+
+
+Hen Gymry oedd fy nhadau gynt,
+ A Chymro glan wyf fi,
+A charu'r wyf yr awel wynt
+ A hed dros Gymru gu;
+'Rwy'n caru'r wlad a'm magodd,
+ Ei rhyddid pur a'i chlod,
+Ac yn y wlad bu farw nhad
+ 'Rwyf finnau fyth am fod;
+Mi glywais am ryw wledydd
+ Sydd yn uwch mewn parch a bri,
+Ond Cymru,--anwyl Gymru,
+ Sydd yn ddigon hardd gen i.
+A'r sawl sy'n dewis gadael hon,
+ 'Rwy'n dwedyd i ti, ffrynd,
+Os cei di'n rhywle wlad sydd well,
+ Mae croesaw i ti fynd.
+
+Feallai nad yw'n Gwyddfa ni
+ Mor uchel yn y nen,
+A gallai nad oes cymaint trwch
+ O eira ar ei phen;
+Feallai fod mynyddau mwy
+ I'w cael mewn gwledydd pell,
+A gallai fod eu dolydd hwy
+ Yn frasach ac yn well;
+Ond gennym ni mae'r cymoedd,
+ Gyda'u nentydd gloewon, glan,
+Lle cenir tonau heddwch pur
+ Ar fil o dannau man;
+Mae yno ryddid ar bob bryn
+ Yn chwareu yn y gwynt,
+A hen adgofion ym mhob glyn
+ Am ddewrder Cymry gynt.
+
+Mae llynges Prydain ar y mor
+ Yn ben llynghesau'r byd,
+Gall Prydain gau ac agor dor
+ Yr eigion ar ei hyd;
+Mae llawer Cymro ar ei bwrdd
+ A chalon fel y llew,
+Yn barod ar bob pryd i gwrdd
+ A'r gelyn mwyaf glew;
+Ni gadwn undeb calon,
+ Gyda modrwy aur y gwir,
+Tra fyddo modrwy loew'r mor
+ Yn amgylchynu'n tir;
+Os rhaid, ni godwn gleddyf dur,
+ Ac unwn yn y gad
+Dros ryddid hoff a chrefydd bur,
+ A gorsedd aur ein gwlad.
+
+Mawrth, 1877.
+
+
+
+DYFODIAD YR HAF.
+
+
+Mi glywais fronfraith yn y llwyn
+ Yn canu bore heddyw,
+A dwedai yn ei hanthem fwyn,--
+ "Mae'r gaeaf wedi marw."
+Tra cana'r fronfraith beraidd glod,
+ Mae'r haul yn gwenu'n llon uwchben,
+A'r briaill man wrth fon y pren
+ Yn edrych fyny tua'r nen,
+ I weld yr haf yn dod.
+
+
+
+DALEN CYFAILL.
+
+
+Nis gallaf alw'r ddalen hon
+ Yn ddalen i athrylith,
+Ni hoffwn fritho'i gwyneb llon
+ A gweigion eiriau rhagrith;
+Addurno'u dail ag ysgrif hardd
+ Adawaf i rai ereill,
+Os caf fi alw dalen bardd
+ Yn ddalen cywir gyfaill.
+
+Paid byth a meddwl, gyfaill mwyn,
+ Am gyfeillgarwch trylen,
+Y gall yr awen byth ei ddwyn
+ I bennill ar un ddalen;
+Na, na, mae cyfeillgarwch byw
+ Yn uwch, yn is ei syniad,
+Mae'n hirach, lletach, dyfnach yw
+ Na holl ddalennau'r cread.
+
+Ond un peth yn y ddalen hon
+ Sy'n hynod debyg iddo,
+Mae'n berffaith wyn a phur ei bron
+ Cyn i fy llaw ei britho;
+Peth arall yn y ddalen wen
+ A ddeii gymhariaeth eto,
+Mae cyfeillgarwch pur fel llen
+ Yn hawdd i weled trwyddo.
+
+Gall llaw ddiystyr ddod ryw dro
+ I rwygo hyn o ddalen,
+Pan fyddwn ni ein dau'n y gro
+ Heb fywyd, gwres, nac awen;
+Gall dwylaw malais ddod ryw bryd
+ I aflonyddu'n heddwch,
+Ond gofyn gwaetha dwylaw'r byd
+ I rwygo'n cyfeillgarwch.
+
+
+
+DEWCH I GNEUA.
+
+
+GEIRIAU RHANGAN (Part Song).
+
+(Y Gerddoriaeth gan Mr. D. Lewis, Llanwrtyd).
+
+O dewch i gneua tua'r coed,
+ Fa, la, la,
+Yn llawen galon, ysgafn droed,
+ Fa, la, la;
+Cawn eistedd dan y gwyrddion ddail,
+A chwareu ym mhelydrau'r haul,
+A thorri cneuen bob yn ail,
+ Fa, la, la.
+Cawn weld dedwyddwch 'deryn bach,
+ Fa, la, la,
+Yn trwsio pluf ei aden iach,
+ Fa, la, la;
+A'i weld yn esgyn fry i'r nen,
+Neu'n canu ar y gainc uwchben,
+A ninnau'n canu wrth fon y pren,
+ Fa, la, la.
+Ar ol yspeilio'r llwyni cyll,
+ Fa, la, la,
+Cawn ddychwel adref gyda'r gwyll,
+ Fa, la, la;
+Cawn gydymdwymno a mwynhau
+Wrth danllwyth mawn y bwthyn clau,
+A chanu can, a thorri cnau,
+ Fa, la, la.
+
+
+
+LOLIAN A LILI.
+
+
+O'r anwyl, y mae fy rhieui
+Am imi roi 'mwriad ar Mari,
+ Tra gwyddant eu dau
+ Nad allaf fwynhau
+Fy hunan heb lolian a Lili.
+
+Be waeth am athroniaeth rhieni?
+Anghariad yw ceisio 'nghynghori,
+ Mae rheswm mor bwl
+ Yn siarad fel ffwl
+Er pan eis i lolian a Lili.
+
+Gofynwyd im' gynnyg ar Gweni,
+Sy' a dwyfil o wyn ar lan Dyfi;
+ Pob parch i Gwen fwyn
+ A'i defaid a'i hwyn,
+Ond gwell gen i lolian a Lili.
+
+Fe drinir fy mod yn pendroni,
+A mod i 'n rhoi 'nhraed yn y rhwydi;
+ Mae 'nhraed ddigon rhydd,--
+ Fy nghalon i sydd
+Mewn rhwyd ar ol lolian a Lili.
+
+Gwyn fyd na fa'i'r rhaeadr yn rhewi
+I atal ei gan i'r clogwyni,
+ Er mwyn im' gael awr
+ O eistedd i lawr
+Yn dawel i lolian a Lili.
+
+Pe bai gennyf ddawn i farddoni,
+Anadlwn fy serch wrth fwyn odli;
+ Cae'r awen fad rydd
+ Bob nos a phob dydd,
+Ddigonedd o lolian a Lili.
+
+[Awel Y Bore. "Rhwng hafnau'r bryn uchel mae'r awel erioed
+Yn smalio a chwareu yn ysgafn ei throed.": myn80.jpg]
+
+
+
+Y FFARMWR.
+
+
+Y ffarmwr yw bywyd y gwledydd,
+ Rhwng dau gorn yr aradr mae'n byw,
+Efe yw tywysog y meusydd,
+ Ni phlyga i neb ond ei Dduw;
+Os ydyw yn chwysu'r cynhaeaf,
+ Ynghanol ei lafur fe gan,
+Ca wledda yn oerni y gaeaf,
+ A chanu yn ymyl y tan.
+
+Pan rua y gwyntoedd a'r stormydd,
+ A phan y daw gwanwyn dilyth,
+Pan chwery yr wyn ar y dolydd,
+ A robin yn gwneuthur ei nyth,
+A'r ffarmwr i'r maes gyda'r hadau,
+ A haua ei had yn ei bryd,
+Er llenwi ei holl ysguboriau
+ A bara i borthi y byd.
+
+Pan gasgla ei wenith i'w ydlan,
+ A'i wartheg i'r beudy gerllaw,
+Fe eistedd yn ymyl y pentan,
+ A chwardda 'r y gwyntoedd a'r gwlaw;
+Ni wyr am uchelgais na balchder,
+ Ond gwna ei ddyledswydd fel dyn,
+A cheidw ei feddwl bob amser
+ Ynghanol ei fusnes ei hun.
+
+
+
+O DEWCH TUA'R MOELYDD.
+
+
+ O dewch tua'r moelydd,
+ Lle mae grug y mynydd
+ Yn gwenu yn ei ddillad newydd grai,
+ Mae glesni yr entrych
+ Yn gwenu mor geinwych,
+ Wrth syllu lawr ar geinion mwynion Mai;
+ Dewch i gyd,
+ Dewch tua bro'r grug a'r brwyn,
+ Mae'r dolydd yn deilio,
+ A'r byd yn blodeuo,
+ A'r adar yn llonni yn y llwyn.
+
+ Ar bennau'r mynyddoedd
+ Mae awel y nefoedd,
+Yn siarad wrth y nef yng nghlustiau y llawr,
+ Mae dylif o iechyd
+ A ffrwd bur o fywyd,
+ Yng nghol awelon iach y mynydd mawr,
+ Dewch i gyd, &c.
+
+ Dewch, gwelwch y clogwyn
+ Fel pe bae'n ymestyn
+ Gan godi'i law i'n gwahodd ar ei gefn,
+ Cawn redeg a chwareu
+ Fel iyrchod y creigiau,
+ A chanu can drachefn ar ol trachefn;
+ Dewch i gyd, &c.
+
+Mehefin 22, '69,
+
+
+
+Y GOF.
+
+
+(Y gerddoriaeth gan Proffeswr Parry).
+
+Ynghanol haearn, mwg, a than,
+ Mae'r gof yn gwneud ei waith,
+Ar hyd y dydd, gan gann can
+ O fawl i'w wlad a'i iaith.
+
+Gewynau ei fraich sydd mor galed a'r dur,
+Ei galon, er hynny, sydd dyner a phnr;
+Mae cyrn ar ei ddwylaw mor gelyd a'r graiw,
+A dwedir fod corn ar dafod ei wraig.
+
+Dechreua holi
+ Sion Jones Ty'n y Nant,--
+"Oes eisieu pedoli?
+ Pa sut mae y plant?"
+Sion Jones yw'r mwyaf gwrol
+ Am daro i wneuthur pedol,--
+ "On'd yw hi'n dywydd od o bethma,
+ Weithiau'n wlaw, ac weithiau'n eira,--
+ Chwytha'r tan yn gryfach, Mocyn,
+ Paid a chysgu wrth y fegin,--
+ Dacw gawod ar y bryniau,
+ 'Does dim coel ar almanaciau,--
+ Sefwch o ffordd y gwreichion, blant,
+ Cliriwch le i wr Ty'n Nant."
+
+ Dacw Rolant Tyddyn Einion,
+ Eisieu rhwymo par o olwynion,
+ A dyma Dafydd o Blas Iolyn
+ Eisieu peg yn nhrwyn y mochyn;
+Gwyn fyd na f'ai peg yn ei drwyn ef ei hun,
+I'w rwystro i'w stwffio i fusnes pob dyn.
+
+"Dyma aradr yn dod, a dacw og,
+Chwytha'r tan, Mocyn, on'd wyt ti'n hen rog,--
+Huw Huws, Blaen y Ddol, a fu yma ers tro,
+Eisieu gwneud blaen ar y big-fforch o'i go',
+'Does neb yn y byd all wneud blaen arno fo.
+
+"Holo! dacw Sian Ty'n y Canol,
+Hi gollodd bedolau ei chlocs ar yr heol,
+Gwyn fyd na fa'i thafod yn colli'i phedolau,
+Er mwyn iddi gloffi yn lle cario chwedlau;
+Chwytha'r tan, Mocyn, ymhell y bo'th galon,--
+Sefwch 'nol, Mr. Jones, rhag ofn y gwreichion,
+Chwi welwch, Sion Jones, fod digon o waith
+Yn dyfod i'r Efel i chwe gof neu saith."
+
+Fel hyn, ynghanol mwg a than,
+ Mae'r gof yn gwneud ei waith,
+Ar hyd y dydd, gan ganu can
+ O fawl i'w wlad a'i iaith.
+
+Mawrth 30, '76.
+
+
+
+CLYWCH Y FLOEDD I'R GAD.
+
+
+(Geiriau Cymraeg ar ymdeithdon newydd Mr. B. Richards, "Let ihe hills
+resound.")
+
+Clywch y floedd i'r gad--i'r gad!
+ Yn adseinio bryniau'r wlad;
+ Ymdonna'r ddraig
+ Ar ben bob craig,
+ Fry yn y nen;
+Tra saif yr ieuanc wawr
+I orenro'r Wyddfa fawr,
+ Fe saif y Cymro dewr
+ Dros ei Walia wen.
+
+ Dewrder pur
+ A lanwo'r galon ddur;
+ O dewch yn llu
+ Dros Gymru fu
+ A Chymru fydd;
+Rhyw hawddfyd llon
+Gorona'r ymdrech hon;
+ A chanu wnawn,
+ A'n bronnau'n llawn
+ 'Nol cael y dydd.
+ Clywch y floedd, &c., &c.
+
+ Anwyl wlad, fy anwyl wlad,
+ Nefoedd o fwynhad
+ Ydyw byw a marw
+ Yn bur i ti;
+ Rhydd dy nentydd bach,
+ A dy awyr iach,
+Nerth yn fy mraich
+ A fy nghalon i:
+ Trig cerdd a chan
+ Rhwng dy fryniau glan,
+A chaniadau mwyn dy delynau mad;
+ Ac mae'r awen wir
+ Yn llenwi'th dir--
+ Gwynfa y byd yw fy anwyl wlad.
+ Clywch y floedd, &c., &c.
+
+
+
+Y DDWY BRIODFERCH.
+
+
+(Efelychiad).
+
+Mi welais yn yr eglwys
+ Ddwy eneth heirdd eu gwedd;
+'Roedd un mewn gwisg priodas,
+ A'r llall yng ngwisg y bedd.
+
+Darllenwyd y gwasanaeth,--
+ "I'r byw, i fyw," aeth un;
+A'r llall yng nglynn marwolaeth
+ Briododd Angeu'i hun.
+
+Fe aeth y ddwy i'w cartref
+ Yn ieuanc iawn en gwedd;
+Aeth un i'r palas gorwych,
+ A'r llall i'r tywyll fedd.
+
+Deffroai un y bore
+ Mewn byd llawn poen a chlwy;
+Y llall oedd fil mwy dedwydd,
+ Cael peidio deffro mwy.
+
+
+
+BETH SYDD ANWYL?
+
+
+Pan yn nyddiau ie'netid cu,
+ Beth sy'n anwyl?
+Cael pleserau, a chariadau,
+ Hyn sy'n anwyl:
+Crwydro drwy y coed a'r dail,
+Son am gariad bob yn ail;
+Gwneuthur coron flodan hardd
+I f' anwylyd yn yr ardd,
+Pan yn nyddiau ie'enctid cu,
+ Hyn sydd anwyl.
+
+Pan y tyfa'r llanc yn ddyn,
+ Beth sy'n anwyl?
+Tyrru elw--gwneuthur enw--
+ Hyn sy'n anwyl;
+Cario'n faich ofidiau gant,
+Casglu eyfoeth, magu plant,
+Codi cestyll yn y gwynt,
+Cestyll breuddwyd dyddiau gynt,
+Pan y tyfa'r llanc yn ddyn,
+ Hyn sydd anwyl.
+
+Ar brydnawnddydd byrr yr oes,
+ Beth sydd anwyl?
+Hyder gwastad, ffydd a chariad,
+ Hyn sy'n anwyl;
+Troi y cefn ar ofal byd,
+Gweddi daer, a chartref clyd;
+Cael cydwybod heb un briw,
+Heddwch bron, a ffydd yn Nuw,
+Ar brydnawnddydd byrr yr oes,
+ Hyn sy'n anwyl.
+
+
+
+Y GLOWR A'R CHWARELWR.
+
+
+(Geiriau deuawd i leisiau gwrywaidd).
+
+Y DDAU.
+
+Pan fyddo'r rhew yn gwydro'r llyn,
+ A gwywo'r meillion mad,
+A'r disglair od fel arian gwyn
+ Ar hyd bob glyn a gwlad;
+Pan fyddo'r gwynt yn chwythu'n gry'
+ A'r storm yn tramwy'r fro,
+Mae'n dda cael glo i dwymno'r ty,
+ A llechi ar y to.
+
+Y GLOWR.
+
+Myfi yw'r glowr du ei liw,
+ Sy'n mynd i lawr, i lawr,
+I agor cistiau gwerthfawr Duw,
+ Sy'n nghroth y ddaear fawr;
+O! cofiwch weithiau am fy mhoen
+ Tra'n twymno gylch y tan;
+Os aflan yw fy ngwisg a nghroen,
+ Mae gennyf galon lan.
+
+Y DDAU.
+
+Cydweithiwn megis Cymry glan
+ I godi Gwalia wen,
+I'r byd i gyd ni roddwn dan
+ A chysgod uwch ei ben.
+
+Y CHWARELWR.
+
+Chwarelwr siriol ydwyf fi
+ Yn byw ar ddant y graig,
+I dynnu dail o'i chalon hi
+ I gadw ty a gwraig;
+Os rhuo clod mae'r fflamau tan
+ I'r glowr am y glo,
+Dadganu clod chwarelwr glan
+ Mae'r cenllysg ar y to.
+
+Y DDAU.
+
+Cydweithiwn megis Cymry glan
+ I godi Gwalia wen;
+I'r byd i gyd ni roddwn dan
+ A chysgod uwch ei ben.
+
+
+
+BAD-GAN.
+
+
+Rhwyfwn, rhwyfwn yn ein badau,
+ Canwn gyda bron ddiglwyf,
+Tynnwn, tynnwn drwy y tonnau,--
+ Cadwn amser gyda'r rhwyf;
+Dacw faner gwawr y borau
+ Yn ymdorri ar y bryn,
+Ac yn taflu rhes o'r bryniau
+ Ar eu pennau i lawr i'r llyn.
+ Rhwyfwn, rhwyfwn, &c., &c.
+
+Dyfnach, dyfnach, a y tonnau,
+ A'r cysgodion yn fwy clir,
+Gloewach, gloewach a'r wybrenau
+ Fel yr awn oddiwrth y tir;
+Ar y lan mae'r lili swynol
+ Yn ymbincio yn ei gwyn,
+Ac mae'r cymyl gloewon siriol
+Fel rhyw elyrch gwynion nefol
+ Yn ymdrochi yn y llyn.
+ Rhwyfwn, rhwyfwn, &c., &c.
+
+
+
+Y FRENHINES A'R GLOWR.
+
+
+(Er cof am waredigaeth y Ty Newydd. Cyfansoddwyd i Mr. D. Emlyn Evans).
+
+Y FRENHINES.
+
+Brysiwch, fellt, ar hyd y gwifrau,
+ Saethwch dros y bryn a'r ddol,
+Treiddiwch lawr i'r erch ddyfnderau,
+ Dewch a'r newydd i ni'n ol,
+A oes gobaith i'r gwroniaid
+ Gipio yspail angau du,
+A rhoi goleu i'r trueiniaid
+ O glaer lusern gobaith cu.
+
+Y GLOWR.
+
+Ofnadwy fu'r pryder,--y dychryn oedd fawr,
+Ar drothwy bytholfyd yn disgwyl yr awr,
+Ond pan ddaeth curiadau'n cydweithwyr i'n clyw,
+Deallem fod tan cydymdeimlad yn fyw;
+A bron ein brenhines o'i gorsedd wen, fawr,
+Yn toddi o serch dros y glowyr yn awr.
+
+Y FRENHINES.
+
+Gwisga'r eurdlos ar dy ddwyfron,
+Gyda llawryf werdd y gwron
+ Cana'r ddaear oll dy fawl.
+
+Y GLOWR.
+
+Cymer dithau, Buddug dirion,
+Ddiolchgarwch glowr ffyddlon,
+I wladgarwch pura'i galon
+ Y mae gennyt gyflawn hawl.
+Daeth teimlad dyngarol fel tan nef ei hun
+I rwymo brenhines a glowr yn un,
+Mae gorsedd a thlodi'n diflannu draw, draw,
+I rinwedd a chariad gael cydysgwyd llaw.
+
+
+
+DYCHYMYG HEDA.
+
+
+Dychymyg heda uwch y bedd
+ Lle claddwyd priod anwyl,
+Ac yno mynn gael gwneud ei sedd
+ I ddisgwyl, ac i ddisgwyl;
+A gwaeddi'i henw a fynn ef
+ Gan ddisgwyl iddi ateb,
+Ond ni adseinia dynol lef
+ Yn awyr tragwyddoldeb.
+
+Lle gwraig sy'n wag trwy'r oll o'r ty,
+ A gwraig heb ail yn unman;
+Lle mam sy'n wag--"y man lle bu"
+ Adseinia'r gwagle'n mhobman;
+Ac uwch ei llun y serch a ddaw
+ I sylweddoli'r cyfryw;
+Ond adlais rheswm dd'wed o draw,
+ "Y llun yn unig ydyw!"
+
+Pwy geidw'r plant rhag derbyn cam,--
+ Pwy wylia dros y rhei'ny?
+I'r tair sy'n galw am eu mam--
+ Gair gwag am byth yw "mami!"
+Ond hyn sy'n gysur, onid yw,
+ Tra'n wylo uwch y marw,
+Fod Tad amddifaid eto'n fyw--
+ MAE EF YN LLOND EI ENW!
+
+
+
+OS DU YW'R CWMWL.
+
+
+(Llinellau er coffadwriaeth am Mrs. Sarah Davies, 153, St. George Street
+East, Llundain).
+
+Os du yw'r cwmwl uwch eich pen,
+ Wrth golli'ch anwyl briod,
+Os nad oes rhwygiad yn y llen
+ I weld pa beth sydd uchod;
+Mae Tad y gweddwon eto'n fyw,
+ A'r cwmwl a symuda,
+Cewch weld fod gwenau wyneb Duw
+ Tu ol i'r cwmwl yna.
+
+Y teimlad ddwed,--"Mae niwl y glyn
+ Yn oeraidd i'm hanwylyd,
+Mor gas i serch yw'r amdo gwyn,
+ Yr arch, a phridd y gweryd:"
+Ond ffydd sy'n edrych dros y bedd
+ Draw, draw, i'r nefol hafan,
+Lle mae eich priod byth mewn bedd
+ Mor bur a Duw ei human.
+
+Gofyna teimlad eto'n brudd,--
+ "Beth wna'r amddifaid heddyw?
+Pwy sycha'r deigryn ar y rudd
+ Ar ol y fam fu farw?"
+Ond yn y nef uwch ben y glyn
+ Mae aur lythrennau telaid
+Yn ffurfio'r geiriau melus hyn,--
+ "MAE DUW YN DAD AMDDIFAID."
+
+Os ydyw cwpan galar du
+ Yn llawn o chwerw wermod,
+Mae'n rhaid ei yfed, gyfaill cu,--
+ Cewch fel cyn dod i'r gwaelod;
+Mae olwyn fawr Rhagluniaeth Duw
+ Yn llawn o lygaid goleu,
+A gweld mae'r Hwn sydd wrth y llyw
+ Y diwedd cyn y dechreu.
+
+Mae'r holl sirioldeb yn y nef,
+ A'r dagrau ar y ddaear,--
+Mae yno'n foliant "Iddo Ef,"
+ Ac yma'n llawn o alar;
+Mae hwn yn fyd i gario'r groes,
+ Mae yno'n gario'r goron,
+Mae'r wylo i lawr ym myd y loes,
+ A'r gan tu hwnt i'r afon.
+
+Chwef., 1875.
+
+
+
+CWSG, FILWR, CWSG.
+
+
+("Rest, warrior, rest,"--SIR W. SCOTT).
+
+(Y gerddoriaeth gan Mr. J. H. Roberts, Mus. Bac., Cantab).
+
+Cwsg, filwr, cwsg, aeth heibio'th gur,
+ Cwsg yr hun na wyr am ddeffro,
+Darfu tynnu'r cleddyf dur
+ Ddydd a nos mewn gwaed a chyffro;
+Taena dwylaw duwies hedd
+ Esmwyth flodau ar dy galon,
+Ac o gylch dy dawel fedd,
+ Clywir adsain can angylion;
+Nid oes gyffro yn dy fron,
+ Darfu rhu a thwrf magnelau,
+Ond mae ar dy wyneb llon
+ Gysgod adgyfodiad golau.
+
+
+
+AR GANOL DYDD.
+
+
+(Er cof am Mrs. James, Ynyseidiol).
+
+"Yr hyn a allodd hon, hi a'i gwnaeth."--MARC xiv. 8.
+
+Ar ganol dydd ei bywyd cu,
+ Ar ganol llwybr crefydd,
+O ganol serch cyfeillion cu,
+ O ganol cartref dedwydd;
+Ynghanol defnyddioldeb llawn,
+ Ar ganol gwaith ei bywyd,
+Hi ga'dd ei hun yn ddedwydd iawn
+ Ynghanol cylch y gwynfyd.
+
+Nid oedd ei thaith ar hyd y glyn,--
+ Y glyn rhwng byd a bywyd,
+Ca'dd groesi'r lleoedd tywyll hyn
+ Heb brofi fawr o'u hadfyd;
+Y t'w'llwch sy'n y glyn, nid yw
+ I'r sawl mae'r Iesu'n garu,
+Ond cysgod aden dyner Duw
+ Yn dod i'w diogelu.
+
+Na choder colofn ar ei bedd,--
+ Na cherfier gair i'w chofio,
+Bydd dagrau'r eglwys drist ei gwedd
+ Yn ddisglair byth fan honno;
+Ac ar y bedd yn alar byw,
+ Y tlawd ollynga berlau,
+Mor ddisglair, fel y cenfydd Duw
+ Ei hunan yn y dagrau.
+
+Ion. 20, 1873.
+
+
+
+RHYWUN.
+
+
+(O'r Saesneg).
+
+Mae rhywun yn dod bore fory,
+ Ond pwy--eich gwaethaf i ddweyd,
+'Rwy' am fynd i'w gwrdd bore fory,
+ Fy nghalon ddwed rhaid i mi wneud;
+Nid ydyw yn unrhyw berthynas,
+ Nid oes ganddo gyfoeth na chlod,
+Ond rhywun sy'n dod bore fory,
+ Gwyn fyd na bae fory yn dod.
+
+Ces lythyr ers echdoe gan rywun,
+ Agorais y sel yn y fan,
+Yn hwnnw fe sonnir gan rywun
+ Am gariad, a modrwy, a llan;
+Mae'i eiriau'n felusach na'r diliau,
+ A'i lygad fel awyr las, glir,
+Mae'n dwedyd y car fi hyd angeu,
+ A gwn nad all ddweyd ond y gwir.
+
+Mae rhywun yn dod bore fory,
+ Mae'n sicr o ddod yn ddi-feth,
+Mae rhywun a finnau'n priodi,
+ Ond pwy ydyw rhywun yw'r peth;
+Ie, pwy ydyw rhywun yw'r cwestiwn,
+ Mae'i ruddiau cyn hardded a'r rhos,
+Os daw bore fory, mi fyddaf
+ 'Run enw a rhywun cyn nos.
+
+
+
+YSGYDWAD Y LLAW.
+
+
+(Can. Y gerddoriaeth gan Mr. Jos. Parry Mus. Doc.).
+
+Bum yn ysgwyd fy llaw a llawer,
+ A'u gafael yn oer ddi-fraw;
+Nid ydoedd y galon gynnes
+ I'w theimlo yn dod i'r llaw;
+Mae ereill ymron ag ofni
+ I'w llaw gael llychwino'i gwawr,
+Ond caraf gael llaw i'w hysgwyd
+ A galedwyd gan lafur mawr.
+
+Bum yn ysgwyd y llaw wen, dyner,
+ Pe buasai y rhos di-ail
+Rhwng bysedd y llaw wen honno
+ Ni buasai yn siglo'i ddail;
+Ond teimlais guriadau'r galon
+ Yn rhedeg i ben pob bys,
+A theimlais onestrwydd yno
+ Fel yn gwefrio y fron ar frys.
+
+Fe ddywedir fod iaith y galon
+ I'w darllen ar ruddiau dyn,
+Ac y saetha o'r llygaid gariad,
+ Sydd yn gryfach na nerth ei hun;
+Ond gwelais fod twyll mewn gwenau,
+ Edrychant yn deg o draw,
+Ond ni cha'dd fy mron ei thwyllo
+ Erioed pan yn ysgwyd llaw.
+
+
+
+GRUFFYDD AP CYNAN.
+
+
+Ar fore teg flynyddau'n ol,
+ Ffarweliodd Gruffydd gyda fi,
+Wrth ysgwyd llaw dros gamfa'r ddol,
+ Ein dagrau redent fel y lli;
+Ysgydwai'i gledd yn nhrofa'r ffordd
+ I ddwedyd wrthyf ffarwel mud,
+Tra'm calon innau megis gordd
+ Yn curo'n gynt, yn gynt o hyd.
+
+Cychwynnai ef i'r rhyfel trwm,
+ I ganol erch elynol lu,
+A chyda chalon fel y plwm,
+ Cychwynnais innau'n ol i'r ty;
+Ond gyrrodd Gruffydd weddi fyw
+ Gynhwysai f'enw i i'r nef,
+A chlywodd clust agored Duw
+ Fy ngweddi innau drosto ef.
+
+Ar ddydd y frwydr trwy'r prynhawn,
+ Tra'r o'wn yn synfyfyrio'n ffol,
+Breuddwydiais freuddwyd rhyfedd iawn,--
+ Fod Gruffydd wedi dod yn ol;
+Y bore ddaeth, a daeth y post,
+ Gan gludo newydd prudd dros ben,
+Fod Gruffydd wedi'i glwyfo'n dost,
+ Ag eisieu gweld ei eneth wen.
+
+Cychwynais ato yn y fan,--
+ Ce's edrych ar ei welw rudd,--
+Cyn hedeg o'i anfarwol ran
+ I weld ei Dduw mewn gwlad o ddydd;
+"Ffarwel, fy ngeneth," ebai ef,
+ "Mae telyn yn fy nisgwyl i,
+A honno, meddai engyl nef,
+ Y nesaf un i'th delyn di."
+
+
+
+Y BLODYN GWYWEDIG.
+
+
+Tra'n eistedd fy hunan un hwyr dinam,
+ Yn ymyl y ffenestr at fachlud haul,
+Yn fy llaw yr oedd llyfr ges gan fy mam,
+ Ac yno dechreuais a throi ei ddail;
+Cyn hir, syrthiai blodyn gwywedig i lawr;
+ Rhwng y dail y bu am flynyddau maith,
+A gweled y blodyn gwywedig yn awr
+ Dynnai'r dagrau yn lli o'm llygaid llaith;
+A chofio a wnawn am y dyddiau gynt
+ Pan wyliai fy mam dros ei phlentyn bach,
+A phan redwn i yn rhydd fel y gwynt,
+ Heb ofal am ddim, a fy nghalon yn iach.
+
+Edrychais i weled y ddalen gu
+ Lle dodwyd y blodyn gwywedig, gwan,
+Gwelais yno eiriau a'm toddai i,
+ Geiriau gweddi f'anwylaf fam ar fy rhan;
+Meddyliais fod mam wedi dianc draw
+ I ardal lle nad yw y blodau yn wyw,
+Os syrthiodd ei chorff lawr i'r bedd gerllaw,
+ Anfarwoldeb flodeua yng ngardd fy Nuw;
+Mi godais y blodyn oedd wrth flaen fy nhroed,
+ Ac ar weddi fy mam y dodais ef,
+A gollyngais fry un ochenaid fawr
+ Am gael mynd cyn hir at fy mam i'r nef.
+
+
+
+WYLWN! WYLWN!
+
+
+(Requiem,--Y gerddoriaeth gan Mr. J. Parry, Mus. Bac).
+
+ Wylwn, wylwn! cwympa'r cedyrn,
+ Cwympa cedyrn Seion wiw,
+ Wylwn, wylwn! dianc adref
+ Y mae cewri Mynydd Duw;
+ Cydalarwn dan y stormydd,
+ Crogwn ein telynau'n syn,--
+ Crogwn hefyd ein llawenydd
+ Ar hen helyg prudd y glyn:
+Y cadarn a syrthiodd! Mae bwlch ar y mur,
+A Seion ar suddo mewn tristwch a chur.
+
+Ond ndgorn Duw a rwyga feddau'r llawr,
+A syrth y ser yn deilchion ar un awr;--
+Dydd dial Duw!--dydd gwae i fyrddiwn fydd,
+A dydd gollyngdod teulu'r Nef yn rhydd.
+
+Clywaf lais o'r Ne'n llefaru,
+ Treiddia trwy hen niwl y glyn,
+"Rhai sy'n meirw yn yr Iesu
+ Gwyn eu byd y meirw hyn;"
+Diolch am yr enfys nefol
+ Sydd fel bwa am y bedd,
+Dyma yr addewid ddwyfol
+ Gaed o wlad yr hedd.
+
+ Moliannwn,--Gorfoleddwn,--
+Cawn gwrdd i gyd-ganu,--cyd-foli,--cyd-fyw,
+Mae allwedd marwolaeth wrth wregys ein Duw.
+
+
+
+MAM.
+
+
+Eisteddai geneth lwyd ei gwedd
+ I ddweyd ei chwyn a'i cham,
+Ar noson oer yn myl bedd,
+ A hwnnw'n fedd ei mam;
+Hi syllai fyny tua'r nen,
+ A'i llygaid prudd yn llyn,
+Ac yng ngoleuni'r lleuad wen,
+ Hi wylai gan fel hyn,--
+ "Mam! mam, O fy mam!
+ 'Does neb yn y byd
+ Mor anwyl a mam.
+
+"Ai llygad mam yw'r seren dlos
+ Sydd yn y nefoedd fry,
+Yn wincio arnaf yn y nos
+ I esgyn ati hi?
+Ai llais fy mam yw'r awel iach
+ Sy'n hedeg dros y tir,
+Yn dwedyd wrth ei geneth fach,--
+ "Cei ddod i'r nef cyn hir?"
+ Mam! mam, O fy mam!
+ Pa bryd caf fi fynd
+ I fynwes fy mam?"
+
+
+
+Y LLYGAID DUON.
+
+
+(Y gerddoriaeth gan D. Emlyn Evans).
+
+Mae gloewder hanner dydd
+ Mewn llygaid gleision iach,
+Ond llygaid duon sydd
+ Yn loewach dipyn bach;
+Ac O! mae edrych arnynt hwy
+Yn clwyfo ac yn gwella'r clwy'.
+
+Fel mae y seren dlos
+ Yn wincio fry uwchben,
+Trwy d'w'llwch hanner nos,
+ Yn fantell dros y nen;
+Fe wincia seren cariad cu
+Trwy hanner nos y llygaid du.
+
+Mae beirdd pob gwlad ac oes
+ Yn rhyfedd iawn fel hyn,
+Yn gweld pob peth yn groes,--
+ Yn gweld y du yn wyn;
+Pa dduaf bo y llygaid hardd,
+Goleuaf yw yng ngolwg bardd.
+
+Medi 21, '71.
+
+
+
+CWYNAI CYMRU.
+
+
+Cwynai Cymru pan yn colli
+ Mil o ddewrion gloewon gledd,
+Cwynai Cymru wedi hynny
+ Roi Llywelyn yn ei fedd;
+Ond ar feddau'r dewrion hynny
+ Mae angylion hedd yn llu,
+Er ys oesau yn dadganu
+ Cydgan rhyddid Cymru gu.
+
+Cwynai Cymru weld cyfeillion
+ Yn ei gwawdio yn ei chefn,
+Cwynai hefyd weld ei meibion
+ Yn bradychu'u hiaith drachefn;
+Ond mae heulwen wodi codi
+ Ar ein hiaith ac ar ein gwlad,
+Ac mae pawb yn uno i foli
+ Iaith a moesau Cymru fad.
+
+Cwynai Cymru weld ei thelyn
+ Heb un llaw i ddeffro'i thant,
+Gweld yr awen gyda deigryn
+ Ar ei grudd am fyrdd o'i phlant;
+Ond mae'r deigryn wedi'i sychu,
+ Hen delynau'n fyw o gan,
+Gyda mil o leisiau'n canu
+ Hen alawon Cymru lan.
+
+
+
+GALAR! GALAR! GALAR!
+
+
+Galar, galar, galar,
+ Mae cewri y cysegr yn cilio o'r byd,
+ Galar, galar, galar,
+ A chenedl hiraethus yn ddagrau i gyd,
+Seion a wisga'i galarwisg mewn braw,
+A thannau ei thelyn yn ddarnau'n ei llaw.
+
+Doder serch cerddorion, bellach,
+ Yn goronbleth uwch y bedd,
+Cafodd ef goronbleth harddach
+ Gan gerddorion gwlad yr hedd,
+Darfu swn hen delyn daear
+ Megis dan ei swynol law,
+Hedodd yntau uwch pob galar
+ At aur delyn Gwynfa draw.
+
+Huna, huna, blentyn Iesu,
+ Gorffwys wedi llafur maith,
+Melus rhoi y cledd o'r neilldu
+ A chael llawryf pen y daith;
+Cymysg oedd y cur a'r moliant
+ Tra yn rhodio 'r dyffryn du,
+Mawl yw'r oll yng ngwlad gogoniant,
+ Mawl i enw'r Ceidwad cu.
+
+
+
+MAES GARMON. {104}
+
+
+(Harlech).
+
+Codwn faner hedd a gwynfyd
+ Fry i hofran trwy'r nen hyfryd,
+Chwifiwn ein cleddyfau gwaedlyd
+ Pan yn troi o'r gad;
+Garmon fawr gyhoedda arwest
+Wedi troi o faes yr ornest,
+Bloeddiwn ninnau gan y gonewest
+ Nes y crynna'r wlad;
+Adsain Haleliwia
+Darfai fron y dewra,
+ Haleliwia dynnai'r nef
+I ddilyn cleddyf Gwalia;
+Bloeddiwn Haleliwia eilwaith,
+Wedi cael yr oruchafiaeth,
+Nes adseinio'r dywysogaeth
+ Gyda nerth ein llef;
+Os yw'r gwaed yn llifo,--
+Os yw'r meirw'n rhifo
+ Fel y glaswellt ger ein bron
+Ar hyd Faes Garmon heno,
+Pwy all rifo y bendithion
+Ddaw trwy frwydr fawr Maes Garmon,
+Pan aeth Haleliwia'n dewrion
+ Fry i glustiau'r nef!
+
+Marw mae gwaeddiadau rhyfel
+Yn y pellder gyda'r awel,
+Ac mae gwawrddydd heddwch tawel
+ Yn ymgodi draw;
+Gormes drengodd ar Faes Garmon,
+Yno gorwedd gyda'r meirwon,
+A daw rhyddid gyda'i rhoddion
+ Yn ei deheu law;
+Canwn gerddi heddwch
+Wedi nos o dristwch,
+Aed ein Haleliwia glir
+Ar aden gwir ddedwyddwch
+Dros y bryniau, trwy'r dyffrynnoedd,
+Hyd y glannau, trwy y glynnoedd,
+Ac i fyny hyd y nefoedd
+ Fel taranau'r Ior;
+Crogwn ein banerau
+Gyda'n dur bicellau,
+Sychwn wrid y gwaed heb goll
+ Oddiar ein holl gleddyfau;
+Rhed y newydd trwy bob talaeth
+ Am ein teilwng oruchafiaeth,
+Nes adseinia Buddugoliaeth
+ Draw o for i for.
+
+
+
+Y DYN HANNER PAN.
+
+
+Fe safai'r hanner pan a'i fys yn ei geg,
+ I edrych ar bobl yn myned heibio,
+A phawb a gyd-ddwedent, 'nol barnu yn deg,
+ Fod diffyg go fawr i'w weld arno;
+Er hynny ceid ganddo ryw fath o ffraethineb
+Tu hwnt i'r cyffredin mewn ambell i ateb.
+
+Ryw ddiwrnod fe welai ysmociwr lled hy'
+ Yn pasio dan fygu'n aruthrol,
+A dywedai'r hanner pan,--"Peth od, ddyliwn i,
+ Na buasai ei sifnai ar y canol;
+Mae arogl tra rhyfedd ar hwn gallwn dybied,
+Gan y rhaid iddo fygu i atal y gwybed."
+
+Rhyw dri crach foneddwr a basient y fan
+ Lle'r oedd yr hanner pan yn sefyll,
+Gofynnodd un iddo, oedd Gymro go wan,--
+ "Ers pryd 'rwyt ti yma, yr ellyll?"
+"Mi glywais gan rywun y pasiai tri mwnci,
+Mi redais i edrych ai gwir oedd y stori."
+
+Dyn meddw a ddaeth o'r naill ochr i'r llall,
+ Gan dyngu a rhegu'n erwinol;
+Arllwysai ei wawd ar y dyn hanner call,
+ Gan dybio ei hun yn synwyrol;
+"Mi glywais ddiareb," atebai'r hanner pan,
+"Fod padell yn danod ei dduwch i'r crochan."
+
+Fe basiai merch ieuanc brydweddol a theg,
+ Yn troi mewn rhyw gylchoedd tra phwysig;
+Ar ol iddi basio rhyw naw llath neu ddeg,
+ Fe waeddai'r hanner pan yn ffyrnig,--
+"Oes peryg', my dear, i chwi ddadgymalu?--
+Pwy ydyw y cooper a fu yn eich cylchu!"
+
+Un arall a basiai 'mhen dwy awr neu dair,
+ A chwpl o blu' ar ei hetan,
+Ro'wn innau yn gwrando, fel mochyn mewnhaidd,
+ I glywed sylwadau'r hanner pan;
+A dywedai,--"Mi glywais fod merched yn wylltion,
+Mae nhw'n magu plu'--ant i 'hedeg yn union."
+
+
+
+O DEWCH I BEN Y MYNYDD.
+
+
+(Y gerddoriaeth gan Mr. D. Emlyn Evans).
+
+O dewch i ben y mynydd draw,
+ I weld yr haul yn machlud,
+A natur gyda'i thyner law
+ Yn cau amrantau bywyd.
+
+Fel arwr dan ei glwyf yr huan cun
+Orwedda'n bruddaidd yn ei waed ei hun,
+A'r llen sy'n derfyn rhwng y nos a'r dydd
+A deflir dros ei wyneb prudd.
+
+Ond wele'r ser yn filoedd
+ Ar hyd yr wybren dlos,
+Mor ddisglair y cabolwyd
+ Botymau gwisg y nos;
+Os yw yr haul yn dangos
+ Prydferthion daear gref,
+Mae'r nos, er twylled ydyw,
+ Yn dangos mwy o'r nef.
+
+
+
+OS YDYM AM FYND TRWY Y BYD.
+
+
+Os ydym am fynd trwy y byd
+ Heb gwrdd a phrofedigaeth,
+A chael yr haul uwch ben o hyd,
+ Heb gwmwl siomedigaeth;
+A throi gofidiau o bob rhyw,
+ I gyd yn fel a menyn,
+Y ffordd i ni yw dysgu byw
+ I gyd 'run fath a'r gwenyn.
+
+Awn fel y gwenyn at ein gwaith,
+ Pan d'wyna haul y borau,
+Bydd melus dod yn ol o'r daith
+ Dan lwyth o'r golud gorau;
+Dos, ddyn, i'r maes, ac yno gwel
+ Ryw gyfoeth ar bob cangen,
+Mae Duw yn dangos lle mae'r mel
+ I'r sawl sydd arno'i angen.
+
+Os gwlawia'r nen drallodion lawr,
+ Paid bod yn llwfrddyn claear,
+A phaid a gwneud rhyw fynydd mawr
+ O dwmpath pridd twrch daear;
+Os gweli rywdro yspryd syn,
+ Wel, paid a mynd i grynu,
+Sylldremia yn ei wyneb gwyn,
+ Mae'n sicr o ddychrynu.
+
+Os daw ynfydion ar eu taith
+ I gynnyg dy hyfforddi,
+Dos di ymlaen i wneud dy waith
+ Ynghanol eu baldorddi;
+Os daw celwyddau gyda'r gwynt,
+ 'Run fath a'r gwynt darfyddant,
+Mae rhaffau celwydd ym mhob hynt
+ Yn crogi'r rhai a'u nyddant.
+
+Mae'n rhaid i'r storm gael rhuo'n brudd,
+ A ffyliaid fod yn ffyliaid,
+Er hynny, synwyr wel y dydd
+ I gladdu pennau byliaid;
+Gan hynny rhwym dy wregys cryf
+ Pan fflachia'r mellt yn d'ymyl,
+Ac edrych am yr haul yn hyf--
+ Mae ef tu ol i'r cymyl.
+
+Os wyt am gadw ar ffordd y gwir
+ A gochel bradus heidiau,
+Gwell iti gadw'th draed o dir
+ Gwleidyddiaeth a'i holl bleidiau;
+Mae "A. B. C." gwleidyddwyr tynn
+ A "V" ar ben y wyddor,
+Ond main yw'r lle a geir i'r hyn
+ A elwir yn egwyddor.
+
+Paid gwisgo'th galon ar dy fraich
+ Os na fydd eisieu hynny,
+A phaid a chrymu dan dy faich,
+ Ond cwyd dy ben i fyny;
+Boed gwres ymroddiad yn dy waed,
+ A dywed trwy bob tywydd,
+Fod daear rhyddid dan dy draed,
+ A Duw uwch ben yn llywydd.
+
+
+
+MIL MWY HUDOL.
+
+
+Byron enwog fu'n darlunio
+ Merch a blodau yn ei llaw,
+Y peth tlysaf a fedd natur,
+ Er ei chwilio drwyddi draw;
+A! ti fethaist, Byron ddawnus,
+ Er dy fost, dy glod, a'th fri,
+Swyn i'r llygad sydd yn unig
+ Yn dy arlun clodfawr di.
+
+Mil mwy liudol i fy nghalon
+ Clywed merch, cartrefle swyn,
+Fel yn arllwys ei llais treiddgar
+ Am ben llais piano mwyn;
+Seiniau natur yn ymblethu
+ Gyda sain offeryn hardd,--
+Dawn a dysg yn ymgofleidio
+ Dodda galon dyner bardd.
+
+Wrth im' weld ei bysedd meinion
+ Fel yn dawnsio gyda hoen,
+Ar allweddau yr offeryn--
+ Ffoai gofid, ciliai poen;
+Teimlwn fysedd cudd tynerwch
+ Ar holl dannau'm calon wan,
+Bron na syrthiais i ber-lewyg
+ Gan y swyn oedd yn y fan.
+
+Anwyl eneth, wrth im' wrando
+ Ar eich llais, oedd imi'n wledd--
+Gweled delw gwir brydferthwch
+ Fel yn eistedd ar eich gwedd,
+Dychymygais mewn mynydyn
+ Fod angylion Gwynfa lan,
+Rhwng eich dysg, eich moes, a'ch doniau,
+ Yn eiddigus wrth eich can.
+
+
+
+O! DEDWYDD BOED DY HUN.
+
+
+("Oh! happy be thy dreams").
+
+O! dedwydd, dedwydd, bo dy hun,
+ Llawn o ddedwyddwch fo'th freuddwydion di;
+Y bryniau aur sydd byth dan heulog hin,
+ A'r awyr las sy'n ddwyfol glir i ti;
+Fry, fry, mae ysbryd pur dy fam,
+Draw'n gwylio dros dy hun rhag it' gael cam,
+Mor bur a'r ser sy'n gwylio dros dy lun,
+O! dedwydd, dedwydd, bo dy hun.
+
+O! dedwydd, dedwydd, bo dy fywyd di,
+ Mae'th fam yn gwylio'th gwsg o'r nef yn awr;
+A'r llaw fu'n arwain hon i'r gwynfyd fry
+ Fo eto i'th arwain di trwy'r cystudd mawr;
+Bydd llygaid engyl gyda llygad mam
+Byth, byth, i'th gadw rhag cael unrhyw gam,
+Cwsg tra mae'r ser yn gwylio uwch dy lun,
+O! dedwydd, dedwydd, bo dy hun.
+
+
+
+'RWY'N DOD, 'RWY'N DOD.
+
+
+(Just as I am).
+
+Er mwyn y gwaed, fy Iesu hael,
+Mae gobaith i bechadur gwael;
+Ac fel yr un aflana'n bod,
+At orsedd gras--'rwy'n dod, 'rwy'n dod.
+
+Ni oedaf funud awr yn hwy
+Heb guddio f' hun mewn marwol glwy',
+Wrth droed dy groes yw'r fan i fod,
+Fy Nghrist, fy Nuw,--'rwy'n dod, 'rwy'n dod.
+
+Er cael fy nhaflu ar bob llaw,
+Gan ofn gelynion yma a thraw;
+Ac er fod ofnau cas yn bod,
+O fewn fy mron,--'rwy'n dod, 'rwy'n dod.
+
+Er mod i 'n ddall, yn noeth, yn dlawd,
+Mae'r Hollgyfoethog imi'n frawd,
+A thrysor penna'r nef sy'n bod,
+Yng nghroes fy Nuw,--'rwy'n dod, 'rwy'n dod.
+
+'Rwy'n credu'r hen addewid wiw,
+Fod maddeu'n nghalon dyner Duw;
+Cael claddu'm meiau yw fy nod,
+Yng nghlwyfau'r Oen,--'rwy'n dod, 'rwy'n dod.
+
+Gwnaeth cariad Crist y ffordd yn rhydd,
+O wlad y nos i wlad y dydd;
+Mae miloedd yno'n canu 'i glod,
+'Rwyf finnau'r gwan, yn dod, yn dod.
+
+DIWEDD.
+
+
+
+
+Footnotes:
+
+
+{39} Ymddengys fod Cymru, tua'r amser y priododd Syr Owen Tudur a'r
+frenhines Catherine, a'i rhagolygon yn dra thywyll. Yr oedd Owen Glyndwr
+yn ei fedd ers llawer o flynyddoedd, wedi oes o ymdrech deg i gadw
+annibyniaeth ei genedl, a'r ymdrech honno wedi troi yn fethiant. Cynllun
+y Gantawd ydyw fod cynhadledd o uchelwyr a phendefigion a phendefigesau
+Cymru wedi ymgynnull mewn man penodol i ymdrin ac i drafod sefyllfa
+ddirywiedig y wlad. Dychmygir hefyd fod yno fardd a cherddor yn
+bresennol, fel y byddai braidd bob amser mewn cynhulliadau o'r fath yn yr
+oesau hynny. Pan oedd y bardd a'r telynor yn canu y pennill cyntaf yn y
+Gantawd, y mae cennad yn dyfod i mewn yn hysbysu fod Syr Owen Tudur yn
+myned i'w briodi a'r frenhines Catherine. Danghosir ychydig o wahaniaeth
+barn rhyngddynt yn y mater ar yr olwg gyntaf.
+
+Y mae llawer o benhillion diweddaf y Gantawd at ryddid y cerddorion i'w
+rhannu yn unawdau, deuawdau, neu gydganau, fel y bo eu barn a'u chwaeth.
+
+{104} Cyhoeddir trwy ganiatad Mr. Isaac Jones, Treherbert.
+
+
+
+***END OF THE PROJECT GUTENBERG EBOOK GWAITH MYNYDDOG. CYFROL II***
+
+
+******* This file should be named 14547.txt or 14547.zip *******
+
+
+This and all associated files of various formats will be found in:
+https://www.gutenberg.org/dirs/1/4/5/4/14547
+
+
+
+Updated editions will replace the previous one--the old editions
+will be renamed.
+
+Creating the works from public domain print editions means that no
+one owns a United States copyright in these works, so the Foundation
+(and you!) can copy and distribute it in the United States without
+permission and without paying copyright royalties. Special rules,
+set forth in the General Terms of Use part of this license, apply to
+copying and distributing Project Gutenberg-tm electronic works to
+protect the PROJECT GUTENBERG-tm concept and trademark. Project
+Gutenberg is a registered trademark, and may not be used if you
+charge for the eBooks, unless you receive specific permission. If you
+do not charge anything for copies of this eBook, complying with the
+rules is very easy. You may use this eBook for nearly any purpose
+such as creation of derivative works, reports, performances and
+research. They may be modified and printed and given away--you may do
+practically ANYTHING with public domain eBooks. Redistribution is
+subject to the trademark license, especially commercial
+redistribution.
+
+
+
+*** START: FULL LICENSE ***
+
+THE FULL PROJECT GUTENBERG LICENSE
+PLEASE READ THIS BEFORE YOU DISTRIBUTE OR USE THIS WORK
+
+To protect the Project Gutenberg-tm mission of promoting the free
+distribution of electronic works, by using or distributing this work
+(or any other work associated in any way with the phrase "Project
+Gutenberg"), you agree to comply with all the terms of the Full Project
+Gutenberg-tm License (available with this file or online at
+https://gutenberg.org/license).
+
+
+Section 1. General Terms of Use and Redistributing Project Gutenberg-tm
+electronic works
+
+1.A. By reading or using any part of this Project Gutenberg-tm
+electronic work, you indicate that you have read, understand, agree to
+and accept all the terms of this license and intellectual property
+(trademark/copyright) agreement. If you do not agree to abide by all
+the terms of this agreement, you must cease using and return or destroy
+all copies of Project Gutenberg-tm electronic works in your possession.
+If you paid a fee for obtaining a copy of or access to a Project
+Gutenberg-tm electronic work and you do not agree to be bound by the
+terms of this agreement, you may obtain a refund from the person or
+entity to whom you paid the fee as set forth in paragraph 1.E.8.
+
+1.B. "Project Gutenberg" is a registered trademark. It may only be
+used on or associated in any way with an electronic work by people who
+agree to be bound by the terms of this agreement. There are a few
+things that you can do with most Project Gutenberg-tm electronic works
+even without complying with the full terms of this agreement. See
+paragraph 1.C below. There are a lot of things you can do with Project
+Gutenberg-tm electronic works if you follow the terms of this agreement
+and help preserve free future access to Project Gutenberg-tm electronic
+works. See paragraph 1.E below.
+
+1.C. The Project Gutenberg Literary Archive Foundation ("the Foundation"
+or PGLAF), owns a compilation copyright in the collection of Project
+Gutenberg-tm electronic works. Nearly all the individual works in the
+collection are in the public domain in the United States. If an
+individual work is in the public domain in the United States and you are
+located in the United States, we do not claim a right to prevent you from
+copying, distributing, performing, displaying or creating derivative
+works based on the work as long as all references to Project Gutenberg
+are removed. Of course, we hope that you will support the Project
+Gutenberg-tm mission of promoting free access to electronic works by
+freely sharing Project Gutenberg-tm works in compliance with the terms of
+this agreement for keeping the Project Gutenberg-tm name associated with
+the work. You can easily comply with the terms of this agreement by
+keeping this work in the same format with its attached full Project
+Gutenberg-tm License when you share it without charge with others.
+
+1.D. The copyright laws of the place where you are located also govern
+what you can do with this work. Copyright laws in most countries are in
+a constant state of change. If you are outside the United States, check
+the laws of your country in addition to the terms of this agreement
+before downloading, copying, displaying, performing, distributing or
+creating derivative works based on this work or any other Project
+Gutenberg-tm work. The Foundation makes no representations concerning
+the copyright status of any work in any country outside the United
+States.
+
+1.E. Unless you have removed all references to Project Gutenberg:
+
+1.E.1. The following sentence, with active links to, or other immediate
+access to, the full Project Gutenberg-tm License must appear prominently
+whenever any copy of a Project Gutenberg-tm work (any work on which the
+phrase "Project Gutenberg" appears, or with which the phrase "Project
+Gutenberg" is associated) is accessed, displayed, performed, viewed,
+copied or distributed:
+
+This eBook is for the use of anyone anywhere at no cost and with
+almost no restrictions whatsoever. You may copy it, give it away or
+re-use it under the terms of the Project Gutenberg License included
+with this eBook or online at www.gutenberg.org
+
+1.E.2. If an individual Project Gutenberg-tm electronic work is derived
+from the public domain (does not contain a notice indicating that it is
+posted with permission of the copyright holder), the work can be copied
+and distributed to anyone in the United States without paying any fees
+or charges. If you are redistributing or providing access to a work
+with the phrase "Project Gutenberg" associated with or appearing on the
+work, you must comply either with the requirements of paragraphs 1.E.1
+through 1.E.7 or obtain permission for the use of the work and the
+Project Gutenberg-tm trademark as set forth in paragraphs 1.E.8 or
+1.E.9.
+
+1.E.3. If an individual Project Gutenberg-tm electronic work is posted
+with the permission of the copyright holder, your use and distribution
+must comply with both paragraphs 1.E.1 through 1.E.7 and any additional
+terms imposed by the copyright holder. Additional terms will be linked
+to the Project Gutenberg-tm License for all works posted with the
+permission of the copyright holder found at the beginning of this work.
+
+1.E.4. Do not unlink or detach or remove the full Project Gutenberg-tm
+License terms from this work, or any files containing a part of this
+work or any other work associated with Project Gutenberg-tm.
+
+1.E.5. Do not copy, display, perform, distribute or redistribute this
+electronic work, or any part of this electronic work, without
+prominently displaying the sentence set forth in paragraph 1.E.1 with
+active links or immediate access to the full terms of the Project
+Gutenberg-tm License.
+
+1.E.6. You may convert to and distribute this work in any binary,
+compressed, marked up, nonproprietary or proprietary form, including any
+word processing or hypertext form. However, if you provide access to or
+distribute copies of a Project Gutenberg-tm work in a format other than
+"Plain Vanilla ASCII" or other format used in the official version
+posted on the official Project Gutenberg-tm web site (www.gutenberg.org),
+you must, at no additional cost, fee or expense to the user, provide a
+copy, a means of exporting a copy, or a means of obtaining a copy upon
+request, of the work in its original "Plain Vanilla ASCII" or other
+form. Any alternate format must include the full Project Gutenberg-tm
+License as specified in paragraph 1.E.1.
+
+1.E.7. Do not charge a fee for access to, viewing, displaying,
+performing, copying or distributing any Project Gutenberg-tm works
+unless you comply with paragraph 1.E.8 or 1.E.9.
+
+1.E.8. You may charge a reasonable fee for copies of or providing
+access to or distributing Project Gutenberg-tm electronic works provided
+that
+
+- You pay a royalty fee of 20% of the gross profits you derive from
+ the use of Project Gutenberg-tm works calculated using the method
+ you already use to calculate your applicable taxes. The fee is
+ owed to the owner of the Project Gutenberg-tm trademark, but he
+ has agreed to donate royalties under this paragraph to the
+ Project Gutenberg Literary Archive Foundation. Royalty payments
+ must be paid within 60 days following each date on which you
+ prepare (or are legally required to prepare) your periodic tax
+ returns. Royalty payments should be clearly marked as such and
+ sent to the Project Gutenberg Literary Archive Foundation at the
+ address specified in Section 4, "Information about donations to
+ the Project Gutenberg Literary Archive Foundation."
+
+- You provide a full refund of any money paid by a user who notifies
+ you in writing (or by e-mail) within 30 days of receipt that s/he
+ does not agree to the terms of the full Project Gutenberg-tm
+ License. You must require such a user to return or
+ destroy all copies of the works possessed in a physical medium
+ and discontinue all use of and all access to other copies of
+ Project Gutenberg-tm works.
+
+- You provide, in accordance with paragraph 1.F.3, a full refund of any
+ money paid for a work or a replacement copy, if a defect in the
+ electronic work is discovered and reported to you within 90 days
+ of receipt of the work.
+
+- You comply with all other terms of this agreement for free
+ distribution of Project Gutenberg-tm works.
+
+1.E.9. If you wish to charge a fee or distribute a Project Gutenberg-tm
+electronic work or group of works on different terms than are set
+forth in this agreement, you must obtain permission in writing from
+both the Project Gutenberg Literary Archive Foundation and Michael
+Hart, the owner of the Project Gutenberg-tm trademark. Contact the
+Foundation as set forth in Section 3 below.
+
+1.F.
+
+1.F.1. Project Gutenberg volunteers and employees expend considerable
+effort to identify, do copyright research on, transcribe and proofread
+public domain works in creating the Project Gutenberg-tm
+collection. Despite these efforts, Project Gutenberg-tm electronic
+works, and the medium on which they may be stored, may contain
+"Defects," such as, but not limited to, incomplete, inaccurate or
+corrupt data, transcription errors, a copyright or other intellectual
+property infringement, a defective or damaged disk or other medium, a
+computer virus, or computer codes that damage or cannot be read by
+your equipment.
+
+1.F.2. LIMITED WARRANTY, DISCLAIMER OF DAMAGES - Except for the "Right
+of Replacement or Refund" described in paragraph 1.F.3, the Project
+Gutenberg Literary Archive Foundation, the owner of the Project
+Gutenberg-tm trademark, and any other party distributing a Project
+Gutenberg-tm electronic work under this agreement, disclaim all
+liability to you for damages, costs and expenses, including legal
+fees. YOU AGREE THAT YOU HAVE NO REMEDIES FOR NEGLIGENCE, STRICT
+LIABILITY, BREACH OF WARRANTY OR BREACH OF CONTRACT EXCEPT THOSE
+PROVIDED IN PARAGRAPH F3. YOU AGREE THAT THE FOUNDATION, THE
+TRADEMARK OWNER, AND ANY DISTRIBUTOR UNDER THIS AGREEMENT WILL NOT BE
+LIABLE TO YOU FOR ACTUAL, DIRECT, INDIRECT, CONSEQUENTIAL, PUNITIVE OR
+INCIDENTAL DAMAGES EVEN IF YOU GIVE NOTICE OF THE POSSIBILITY OF SUCH
+DAMAGE.
+
+1.F.3. LIMITED RIGHT OF REPLACEMENT OR REFUND - If you discover a
+defect in this electronic work within 90 days of receiving it, you can
+receive a refund of the money (if any) you paid for it by sending a
+written explanation to the person you received the work from. If you
+received the work on a physical medium, you must return the medium with
+your written explanation. The person or entity that provided you with
+the defective work may elect to provide a replacement copy in lieu of a
+refund. If you received the work electronically, the person or entity
+providing it to you may choose to give you a second opportunity to
+receive the work electronically in lieu of a refund. If the second copy
+is also defective, you may demand a refund in writing without further
+opportunities to fix the problem.
+
+1.F.4. Except for the limited right of replacement or refund set forth
+in paragraph 1.F.3, this work is provided to you 'AS-IS', WITH NO OTHER
+WARRANTIES OF ANY KIND, EXPRESS OR IMPLIED, INCLUDING BUT NOT LIMITED TO
+WARRANTIES OF MERCHANTIBILITY OR FITNESS FOR ANY PURPOSE.
+
+1.F.5. Some states do not allow disclaimers of certain implied
+warranties or the exclusion or limitation of certain types of damages.
+If any disclaimer or limitation set forth in this agreement violates the
+law of the state applicable to this agreement, the agreement shall be
+interpreted to make the maximum disclaimer or limitation permitted by
+the applicable state law. The invalidity or unenforceability of any
+provision of this agreement shall not void the remaining provisions.
+
+1.F.6. INDEMNITY - You agree to indemnify and hold the Foundation, the
+trademark owner, any agent or employee of the Foundation, anyone
+providing copies of Project Gutenberg-tm electronic works in accordance
+with this agreement, and any volunteers associated with the production,
+promotion and distribution of Project Gutenberg-tm electronic works,
+harmless from all liability, costs and expenses, including legal fees,
+that arise directly or indirectly from any of the following which you do
+or cause to occur: (a) distribution of this or any Project Gutenberg-tm
+work, (b) alteration, modification, or additions or deletions to any
+Project Gutenberg-tm work, and (c) any Defect you cause.
+
+
+Section 2. Information about the Mission of Project Gutenberg-tm
+
+Project Gutenberg-tm is synonymous with the free distribution of
+electronic works in formats readable by the widest variety of computers
+including obsolete, old, middle-aged and new computers. It exists
+because of the efforts of hundreds of volunteers and donations from
+people in all walks of life.
+
+Volunteers and financial support to provide volunteers with the
+assistance they need, is critical to reaching Project Gutenberg-tm's
+goals and ensuring that the Project Gutenberg-tm collection will
+remain freely available for generations to come. In 2001, the Project
+Gutenberg Literary Archive Foundation was created to provide a secure
+and permanent future for Project Gutenberg-tm and future generations.
+To learn more about the Project Gutenberg Literary Archive Foundation
+and how your efforts and donations can help, see Sections 3 and 4
+and the Foundation web page at https://www.gutenberg.org/fundraising/pglaf.
+
+
+Section 3. Information about the Project Gutenberg Literary Archive
+Foundation
+
+The Project Gutenberg Literary Archive Foundation is a non profit
+501(c)(3) educational corporation organized under the laws of the
+state of Mississippi and granted tax exempt status by the Internal
+Revenue Service. The Foundation's EIN or federal tax identification
+number is 64-6221541. Contributions to the Project Gutenberg
+Literary Archive Foundation are tax deductible to the full extent
+permitted by U.S. federal laws and your state's laws.
+
+The Foundation's principal office is located at 4557 Melan Dr. S.
+Fairbanks, AK, 99712., but its volunteers and employees are scattered
+throughout numerous locations. Its business office is located at
+809 North 1500 West, Salt Lake City, UT 84116, (801) 596-1887, email
+business@pglaf.org. Email contact links and up to date contact
+information can be found at the Foundation's web site and official
+page at https://www.gutenberg.org/about/contact
+
+For additional contact information:
+ Dr. Gregory B. Newby
+ Chief Executive and Director
+ gbnewby@pglaf.org
+
+Section 4. Information about Donations to the Project Gutenberg
+Literary Archive Foundation
+
+Project Gutenberg-tm depends upon and cannot survive without wide
+spread public support and donations to carry out its mission of
+increasing the number of public domain and licensed works that can be
+freely distributed in machine readable form accessible by the widest
+array of equipment including outdated equipment. Many small donations
+($1 to $5,000) are particularly important to maintaining tax exempt
+status with the IRS.
+
+The Foundation is committed to complying with the laws regulating
+charities and charitable donations in all 50 states of the United
+States. Compliance requirements are not uniform and it takes a
+considerable effort, much paperwork and many fees to meet and keep up
+with these requirements. We do not solicit donations in locations
+where we have not received written confirmation of compliance. To
+SEND DONATIONS or determine the status of compliance for any
+particular state visit https://www.gutenberg.org/fundraising/donate
+
+While we cannot and do not solicit contributions from states where we
+have not met the solicitation requirements, we know of no prohibition
+against accepting unsolicited donations from donors in such states who
+approach us with offers to donate.
+
+International donations are gratefully accepted, but we cannot make
+any statements concerning tax treatment of donations received from
+outside the United States. U.S. laws alone swamp our small staff.
+
+Please check the Project Gutenberg Web pages for current donation
+methods and addresses. Donations are accepted in a number of other
+ways including including checks, online payments and credit card
+donations. To donate, please visit:
+https://www.gutenberg.org/fundraising/donate
+
+
+Section 5. General Information About Project Gutenberg-tm electronic
+works.
+
+Professor Michael S. Hart was the originator of the Project Gutenberg-tm
+concept of a library of electronic works that could be freely shared
+with anyone. For thirty years, he produced and distributed Project
+Gutenberg-tm eBooks with only a loose network of volunteer support.
+
+Project Gutenberg-tm eBooks are often created from several printed
+editions, all of which are confirmed as Public Domain in the U.S.
+unless a copyright notice is included. Thus, we do not necessarily
+keep eBooks in compliance with any particular paper edition.
+
+Most people start at our Web site which has the main PG search facility:
+
+ https://www.gutenberg.org
+
+This Web site includes information about Project Gutenberg-tm,
+including how to make donations to the Project Gutenberg Literary
+Archive Foundation, how to help produce our new eBooks, and how to
+subscribe to our email newsletter to hear about new eBooks.
+