summaryrefslogtreecommitdiff
path: root/2734-0.txt
diff options
context:
space:
mode:
Diffstat (limited to '2734-0.txt')
-rw-r--r--2734-0.txt3947
1 files changed, 3947 insertions, 0 deletions
diff --git a/2734-0.txt b/2734-0.txt
new file mode 100644
index 0000000..1533eea
--- /dev/null
+++ b/2734-0.txt
@@ -0,0 +1,3947 @@
+The Project Gutenberg eBook, Gwaith Twm o'r Nant, by Thomas Edwards,
+Edited by Owen Morgan Edwards, Illustrated by Samuel Maurice Jones
+
+
+This eBook is for the use of anyone anywhere in the United States and most
+other parts of the world at no cost and with almost no restrictions
+whatsoever. You may copy it, give it away or re-use it under the terms of
+the Project Gutenberg License included with this eBook or online at
+www.gutenberg.org. If you are not located in the United States, you'll have
+to check the laws of the country where you are located before using this ebook.
+
+
+
+
+Title: Gwaith Twm o'r Nant
+
+
+Author: Thomas Edwards
+
+Editor: Owen Morgan Edwards
+
+Release Date: February 13, 2015 [eBook #2734]
+[This file was first posted on July 5, 2000]
+
+Language: Welsh
+
+Character set encoding: UTF-8
+
+
+***START OF THE PROJECT GUTENBERG EBOOK GWAITH TWM O'R NANT***
+
+
+Transcribed from the 1910 Llanuwchllyn: Ab Owen edition by David Price,
+email ccx074@pglaf.org
+
+ [Picture: Twm o’r Nant. (O ddarlun dynnwyd ym niwedd ei ois.) “Daeth
+ henaint oed wth ynnwyf, Dirfawr nych, a darfu’r nwyf.”]
+
+
+
+
+
+ Gwaith
+ Twm o’r Nant
+
+
+ **
+
+ Y PEDAIR COLOFN.
+ CYWYDD HENAINT.
+
+ * * * * *
+
+ Llanuwchllyn: AB OWEN
+ 1910.
+
+ * * * * *
+
+ ARGRAFFWYD A CHYHOEDDWYD: AB OWEN GAN R. E. JONES
+ A’I FRODYR, CONWY.
+
+ * * * * *
+
+
+
+
+Rhagymadrodd.
+
+
+GANWYD Thomas Edwards (_Twm o’r Nant_) ym Mhen Porchell, Llan Nefydd, yn
+1739. Pan nad oedd ef ond hogyn, symudodd ei rieni i’r Nant Ganol,
+Henllan. Nid oedd dim yn neillduol, hyd y gwyddis, yn ei rieni;
+gweithient yn galed, ac nid o’u bodd y rhoddai eu bachgen athrylithgar ei
+amser gorffwys i lyfrau. Ennill ei damaid oedd neges ei fywyd. Canlyn
+ceffylau, gyrru gwagen, a llwytho coed, oedd ei brif orchestion. O
+amgylch Dinbych y treuliodd ran fwyaf ei oes, er iddo grwydro i
+ddyffrynoedd Hafren a Thowi yn ei dro; yn Nyffryn Clwyd hefyd y treuliodd
+ei henaint. Yr oedd yn wr cadarn o gorff, parod ei ddyfais, ond ni
+lwyddodd yn y byd. Bu farw Ebrill 3, 1810, gan mlynedd i eleni; a
+chladdwyd ef ym mynwent yr Eglwys Wen, ger Dinbych.
+
+Yn anhymig y ganwyd ef, a dyna’r pam na chafodd ei athrylith, er cryfed
+ei hadenydd ac er cliried ei llygaid, ei lle priodol ym meddwl Cymru. Pe
+ganesid ef yn gynt, cawsai feddwl Cymru iddo ei hun; a hwyrach y buasai
+cenedl yn deffro i weled ei hun yn nrych y ddrama. Pe ganesid ef yn
+ddiweddarach, buasai’r Diwygiad wedi puro ei genedl ac wedi sancteiddio
+ei enaid yntau, a gallasai ddangos ei hun i genedl newydd yn yr un drych.
+Ond daeth Twm o’r Nant yn oes y Diwygiad, pan oedd cedyrn pulpud Cymru yn
+galw ar y genedl i edrych o honi, nid iddi, ei hun. Er hynny, y mae
+interliwdiau Twm o’r Nant yn naturiolach a pherffeithiach darlun o fywyd
+y ddeunawfed ganrif na dim arall a feddwn.
+
+Yr oedd cydymdeimlad Twm â’r werin, rhed holl nerth ei serch mawr at y
+tenant gorthrymedig a’r gweithiwr. Yr oedd ysbryd y Chwyldroad Ffrengig
+ynddo yntau, ond gyda gwelediad clir, a ffydd.
+
+Yr oedd yn ddiwygiwr ei hun, mae ei holl waith, gydag un eithriad, mor
+rymus dros foesoldeb a phregethau’r Diwygiad. Ni welodd holl ddrwg
+chwant y cnawd.
+
+Fel dramayddwr y mae’n fwy nag yw’r Wyddfa yn Eryri, saif yn llenyddiaeth
+Cymru heb neb yn agos ato. Y mae pob cymeriad ddarluniodd yn fyw, nid
+yw’n gwneyd i glai difywyd siarad, ac nid yw byth yn ail gerdded yr un
+llwybr. Ond yr esboniad ar ei ddylanwad yw ei allu rhyfedd i siarad fel
+ysbryd goreu ei oes,—yn synhwyrol, ac ar yr un pryd yn llawn dychymyg; yn
+hynaws, ac eto heb arbed y drwg. Ni fu sant na phechadur yn hanes Cymru
+eto heb deimlo fod Twm o’r Nant wedi dweyd y gwir.
+
+ OWEN M. EDWARDS.
+
+ [Picture: Decorative graphic of birds on branch]
+
+
+
+
+Cynhwysiad.
+
+
+ Cyfrol. II.
+
+ _Cyfnod Aeddfedrwydd a Henaint_.
+
+1. “Dau Fywyd,” sef bywyd amaethwr llwyddiannus a bywyd 9
+ prydydd tlawd
+2. “Bonedd a Chyffredin,” teimlad Cymru yn amser 12
+ Chwyldroad Ffrainc
+3. Hafgan Twm o’r Nant 19
+4. “Anwyl Gyfaill,” cerdd i un dan groesau 21
+5. Cywydd y Galon Ddrwg 25
+6. Pedair Colofn Gwladwriaeth,—sef Brenin, Esgob, 27
+ Ustus, a Hwsmon. Interliwd yn dangos bywyd y
+ wladwriaeth
+7. Cyffes y Bardd 104
+8. Cywydd Henaint 107
+
+ [Picture: Decorative graphic of birds]
+
+
+
+
+DAU FYWYD. {9}
+
+
+ (_Alaw_—“Rodney.”)
+
+ Y puraidd Robert Parri,
+ Maddeuwch imi ’mod
+ Yn awr yn cynnyg gyrru canu,
+ I geisio clymu clod
+ I chwi, sy’n byw mewn llawnder,
+ A’ch pleser, yn eich Plas,
+ Gyda’ch meibion yn heddychlon,
+ Heb unrhyw galon gas;
+ Teulu ydych hoew wladaidd,
+ Yn byw’n ddifalch ac yn ddofaidd,
+ Nid hel “Meistr” ac ymestyn,
+ A champ-godi a chwympo gwedy’n;
+ Wrth fyw’n gytun at ddaioni
+ Fe ddaeth mawrhydi i’ch rhan:
+ Eigion rhediad ac anrhydedd
+ Yw’ch mawredd yn eich man;
+ Mae eich maesydd, wych rymusiant,
+ A’ch ’nifeiliaid, i chwi’n foliant;
+ Ychen, defaid, a cheffylau,
+ A da blithog, laethog lwythau;
+ Pob angenrheidiau ’n rhadus,
+ A threfnus yma a thraw,
+ A Duw’r heddwch, mae’n arwyddo,
+ ’N eu llwyddo dan eich llaw.
+
+ Maith yma John a Thomas,
+ Cyweithas frodyr cu;
+ A da yw’ch golwg chwi, ’r hen geiliog,
+ Awch talog wrth eich ty:
+ Mae’n hwythau ’n ddynion ethol,
+ Naturiol ym mhob taith,
+ A di ynfydrwydd ill dau’n fedrus,
+ A gweddus yn eu gwaith;
+ Felly rhyngoch yn llwyr wingo,
+ Mawrhydi’ch llwyddiant a’ch holl eiddo,
+ Nes eich myned, hwylied helaeth,
+ Yma’n degwch i’ch cym’dogaeth;
+ A chywaeth tai a chaeau,
+ Sydd i’ch meddiannau’n ddwys;
+ Fe dâl eich llawnder, a’ch call undeb,
+ Drwy burdeb aur da bwys:
+ Rhyfedd fendith, rhyfedd fwynder,
+ Sy’n ddymunol dan eich maner;
+ Rhyfedd rhagor chwi fawrhyged,
+ A m’fi ac eraill yn fegeried;
+ Chwi ar led mor lydan,
+ A’ch arian glân drwy glod—
+ Minnau’n ffwlyn, dwlyn, diles,
+ Anghynnes, gwag y ’nghod.
+
+ Chwi’n magu anifeiliaid,
+ Moch, a defaid iawn
+ Gweirgloddiau, a chauau, tai, a’ch heol,
+ Sy’n llwyddol ac yn llawn:
+ Minnau dim fagais
+ At fantais eto i fyw,
+ Ond lladd ceffylau, dilyn ffoledd,
+ Anrhydedd oeredd yw:
+ A’r hyn a fagais o’m rhywogeth,
+ Mewn twrr o gwynion, oedd tair geneth;
+ Mae rhei’ny a’u mam mewn dinam dyniad,
+ Er fy ’mgeledd lawer galwad
+ Mae’r merched bawb am orchwyl,
+ Yn ol eu hwyl eu hun,
+ Yn troi eu helynt at ryw alwad,
+ A’u teimlad yn gytun;
+ Eu mam a minnau sydd yn myned,
+ Fel rhai eraill, ar i wared;
+ Tua’r bedd mae gwedd ogwyddiad,
+ Rhieni’n mynd, a’r plant yn dwad:
+ Mae treigliad asiad oesau
+ Fel tonnau miniau môr,
+ Neu ffrwd gyffredin olwyn melin,
+ Yn dirwyn yn ddi dor.
+
+ A chan nad oes mewn bywyd
+ Un rhydid yn parhau,
+ Gwnewch o’ch mammon gyfion gyfaill,
+ Ceiff eraill eich coflau;
+ Dadgenir hyn ond odid,
+ O’ch plegyd chwi a’ch plant,
+ Pan f’o chwi byddar yn eich beddau,
+ Tan odlau Twm o’r Nant;
+ A’r hyn o gysur wy’n ei geisio,
+ Ni ddymunwn feddu mo’no,
+ Oni cheir e’n gwbl fodlon,
+ Heb un gilwg yn y galon;
+ A’ch rhoddion os cyrhaeddaf,
+ Cyhoeddaf chwi o hyd;
+
+ [Picture: Mynwent yr Eglwys Wen. Darlun gan S. Maurice Jones]
+
+ Ac os y bennod ni dderbynia’,
+ Nis gwn a fyddai’n fud:
+ Cerdod wlan yw ’nghân a ’nghwynion,
+ Am hynny gwyliwch dorri’ch calon;
+ Mae rhagor didwyll rhwng cardode,
+ A hyn chwi wyddoch, rhowch a wedde’:
+ Ac oni rhowch o’r achos,
+ Ni wiw mo’r dangos dant,
+ Fe fu fwy dychryn ar y dechrau,
+ Na hynny, ’n ochrau’r Nant.
+
+ Ond Nant a’i cheunant chwannog,
+ Sy’n lle afrywiog fri;
+ Pe rhoech o’ch gog’yd lwyth eich gwagen,
+ Ni lanwe’i hagen hi;
+ Pe b’ai ond sych ben sached,
+ O wyched fydde’i wawr,
+ Ceid y teulu i gyd at olud,
+ A’u llwyrfryd i’r droell fawr;
+ Mi gawn frethyn cryf i’r eithaf,
+ Imi’n goat erbyn gaeaf;
+ Gallwn addo i’r wraig mor haw’gar,
+ Eto fantell at y fentar—
+ Dull anwar ydyw llunio,
+ Ag addo o’ch eddo chwi;
+ Mawrhygu rhoddion cyn y caffon’
+ Llawenydd cynffon ci;
+ Pe’ch holl rodd o fodd a fydde’
+ Ond briwsionyn at bar ‘sane’,
+ Mwy fyddai hynny i’w feddu’n foddus
+ Nag a haeddwn ni’n gyhoeddus:
+ Ffarwel yn bwyllus bellach,
+ Fe dderfydd afiach wên,
+ Gwisgiad gore’, gras cyn ange’,
+ I chwi a minne’, Amen.
+
+
+
+
+BONEDD A CHYFFREDIN. {13}
+
+
+ (_Alaw_—“Y Galon Drom.”)
+
+ Robert Davies, rhyw bert ofyn
+ A yrraist i mi, yn wers dwymyn,
+ Oblegid bonedd, blagiad bennau,
+ A’r cyffredin gyffroiadau;
+ Nid wy’ teilwng nodi at olwg
+ Am y cyfryw
+ Faith iawn ymliw, fyth yn amlwg;
+ Dyn truenus, boenus beunydd,
+ Ydwy’n wyrdraws,
+ Rhy ofernaws i’m rhoi’n farnydd.
+
+ Wele’r farn yn gadarn gydwedd
+ A geir inni o’r gwirionedd,—
+ Mai ffrwyth pechod, arfod hirfaith
+ O dir uffern, ydyw’r effaith;
+ Hwn yw’r achos yn oruchel
+ Cynhyrfiedig;
+ Pawb am ryfyg, pob ymraf’el;
+ Yr un anian sy ynnom ninnau,
+ Ag oedd yn gosod
+ Cynnyg isod Cain ac Esay.
+
+ ’Roedd esgus Adda o’i droseddau,
+ “Y Wraig,” medd ef; “Y Sarff,” medd hithau;
+ Felly’r wlad, a’u nad annedwydd,
+ Bawb a’u hesgus dros eu hysgwydd,
+ Gwael eu gwedd, a bonedd, beunydd
+ Sy’n ymliw’n amlwg
+ Orwag olwg ar eu gilydd;
+ Fal pren ar demestl, prawf di amau,
+ Mawr fydd ffwndwr
+ Acw y’nghynnwr’ y canghennau.
+
+ A’r ceinciau’n raddau sy’n cyrhaeddyd
+ Sefyllfaoedd yr holl fywyd;
+ Tyfiad pawb, o dlawd i frenin,
+ Sy’n llygreddawl o’r un gwreiddyn;
+ Nid oes heddyw’n gwneyd eu swyddau,
+ ’N un gelfyddyd,
+ Neb a’i fywyd na bo feiau,
+ Naws a gewch mewn is ag uchod
+ I ryw ddichell,
+ Ymhob bachell am eu pechod.
+
+ Mae rhai penaethiaid, euraidd araith,
+ A’u hawdurdod yn ddi effaith;
+ Esiamplau drwg, mewn golwg helaeth,
+ Sy’n wall anfeidrol mewn llywodraeth
+ Rhai ynadon rhy niweidiol,
+ A chyfreithwyr
+ Sydd anrheithwyr swydd anrhaethol,
+ A rhai personiaid, pwy resyna?
+ Ymhob ffiaidd
+ Naws aflunaidd, nhw’ sy’ flaena.
+
+ A thra fo’r blaenaf heb oleuni,
+ Yn twyso’r dall i ffos trueni,
+ Swn digofaint sy’n dygyfor
+ Yspryd Saul, elynol flaenor,
+ Lladd y plant er mwyn dieithriaid,
+ I geisio cadw
+ Yn ’r ymyl acw’r Amaleciaid;
+ Cryfhau breichiau annuwioldeb
+ Mewn drygioni,
+ Daw’n warth i ni, a Duw’n wrthwyneb.
+
+ Mae’r saith angel ar eu siwrnau,
+ Yn dechreu tywallt eu phiolau;
+ Llawer gwae sy’n llwyra gwewyr,
+ I’w rhoi yma i’r rhai amhur;
+ Gwae rhai gydiant faes at faesydd,
+ Nes bod gwendid,
+ Oes wall ofid, eisiau llefydd;
+ Mae n ddi ameu’n anhawdd yma
+ I dylodion,
+ Ac elw byrion, gael eu bara.
+
+ Dawn medrusgall dyn rhodresgar,
+ Gwneyd ei dduw o gnwd y ddaear;
+ Ysguboriau gwaliau’n gwlwm,
+ A _storehouses_, ys da rheswm;
+ Ond geill naws ing dywyllnos angau,
+ Alw’r ynfyd,
+ I ado’i buryd cyn y borau.
+ Ameu’r Arglwydd am ei lawndra,
+ Cofiwn heddyw,
+ Am wr sy’n marw ’mhorth Samaria.
+
+ Cofia, ’speiliwr cenhedlaethau,
+ Y bobloedd a’th yspeilia dithau;
+ Am waed dynion mewn galanas,
+ Ac am dy drais mewn tir a dinas,
+ Gwae elwo elw drwg i’w berchen,
+ Yn falch ’i af’el,
+ I nythu’n uchel—noeth yn ochen;
+ Ac os yw Lloegr dan ’r un llygriad,
+ Caiff gan yr Arglwydd,
+ ’R un cul dywydd a’r Caldea’d.
+
+ Beth yw plasau, trasau trysor,
+ Ond gorseddfeydd annuwiol gyngor?
+ Mae gwin, a bwyd, a gwyniau bydol,
+ Yna i’w moedro, ’n anghymedrol;
+ Meibion Scefa ’mhob naws gaf’el,
+ Heb yr Arglwydd,
+ Sy dan chwithrwydd dyn a chythrel;
+ Chwys y tlawd yw’r cnawd a’r cnydau,
+ Rhwysg a balchder,
+ Y swn a’r pleser, sy’n eu plasau.
+
+ Fe wasg y mawrion dewrion dyrus
+ Y llafurwyr, â’u llaw farus;
+ A’r llafurwyr, a’u holl fwriad,
+ Gwisgo’r gwyn, a gwasgu’r gweinia’d;
+ Gwasgu sydd, a gwisgo swyddau,
+ Nes yr aethon’
+ I faela dynion, fel eidionau;
+ Gwerthu’r cyfion er ariannau,
+ A’r tlawd truan
+ Er pris gwadan par esgidiau.
+
+ Dyma’r byd ac ergyd gwyrgas,
+ Y sydd yn awr a’i swyddau’n eirias;
+ Memi melin flin aflonydd,
+ Egni galed yn cnoi ’gilydd;
+ Pawb ar eraill a weryran’,
+ A neb yn cwyno
+ Ei wyrni heno arno’i hunan;
+ A phob enwau, tlawd a bonedd,
+ Oll yn euog,
+ Tan’r un warog, trwy anwiredd.
+ Gwedi chwalu gwawd uchelwyr,
+ Pa faint ffurmach ydyw’r ffarmwyr,
+ Sydd mor feilchion, gw’chion gyhoedd,
+ Rymus droediad, a’u meistradoedd?
+ Pell yw peirch eu meirch a’u merched,
+ Hwy rygyngant
+ Fwy nac allant yn ddigolled:
+ Lle bo addysg byd neu eiddo,
+ Dyna ragrith,
+ Wyniau melldith, yn ymwylltio.
+ Ac os ewch i ddangos ochain,
+ Babel droiau’r bobl druain;
+ Llygredd llun, a gwyn drygioni,
+ Swn yr hunan sy’ yn y rhei’ny;
+ Meddwi a hwrio, mawr ddihirwch,
+ Bawb lle gallant
+ A ddilynant aflawenwch;
+ Anesmwythdra, lleithdra llwythdrwm,
+ Byw’n ddi’g’wilydd
+ Dan eu gwarthrudd, dyna’u gorthrwm.
+ A phwy ond diafol, awdwr pechod,
+ Sydd yma y’nghadfa pob anghydfod?
+ Pan ddarfu’r tyn offeryn Pharo
+ Bwytho ar ddynion, beth oedd yno?
+ Nid ffast wenwyn, na phastynau,
+ Mewn cynddaredd,
+ Oedd eu buchedd dan eu beichiau;
+ Ond o’u cyfyngder eger eigion,
+ At Dduw’n ddibaid
+ ’Roedd eu hochenaid a’u hachwynion.
+ A than bwysau’r ieuau ’rwan,
+ Geifr a moch sy’n croch ysgrechian;
+ Ymroi a diodde’n ddi w’radwyddiad
+ Dan iau’n ddyfal a wna ddafad;
+ I ddefaid Crist mae’r iau’n esmwythdra,
+ Cariad Isr’el,
+ Goruwch fug’el, a’u gorchfyga;
+ A’r rhai orchfygant awch arfogaeth
+ Chwantau’r gelyn,
+ Mae’r Iesu’n dilyn iau’r dystiolaeth.
+
+ Beth yw rhyfel boeth, hir ofid,
+ Ond melus chwantau beiau bywyd?
+ Olwyn fawr digofaint gyfion,
+ Sy’n troi’n boenus trwy ddibenion:
+ Ac os y tlawd raid heddyw ddiodde’,
+ Caiff gwyr mawrion,
+ Taer annoethion, eu tro nhwythe’,
+ Fel mae amser i bob amcan
+ Trefn Ragluniaeth,
+ Drwy wahaniaeth Duw ei hunan.
+
+ Angenrhaid yw o ran cyflyrau,
+ Byd rhai astrus, yw bod rhwystrau;
+ Gwenith glân ’does ofon sefyll,
+ Pan godo’r gwantan gyda’r gwintyll;
+ Tan y groes, mewn oes yn isel,
+ Mae lle’r Cristion.
+ Fe ddaw’n gyfion o bob gaf’el;
+ A Duw anwyl, er daioni,
+ Drotho’n buchedd
+ At wirionedd, o’n trueni.
+
+
+
+
+HAFGAN.
+
+
+ _Alaw_—“Spaen-Wenddydd.”
+
+ Y teulu mwyn hael-gu mewn hedd,
+ Rhowch osteg, rai glandeg eu gwedd;
+ I ddatgan un haf-gan yn hy,
+ Hen dirion arferion a fu,
+ Mewn llawer ty ’roedd cennad da,
+ Ac enw hyf i ganu Ha;
+ Fel pob creadur sy’n ei ryw,
+ _Ag aml dôn yn canmol Duw_.
+ Mae’r ddaear oedd fyddar, wedd fud,
+ Mae’r coedydd, mae’r bronnydd mawr bryd,
+ Mae’r dyffryn yn deffro ei holl wraidd,
+ Mae eginoedd y gwenith a’r haidd,
+ Mae llaeth a maidd, mae llwythau mwyn,
+ O ffrwythydd haf yn ffraeth ymddwyn;
+ Mae pob creadur yn ei ryw
+ _Ag aml dôn yn canmol Duw_.
+ Gan hynny gwnawn synnu ’mhob swydd,
+ Ystyriwn a gwelwn i’n gŵrydd,
+ Ddoethineb dawn undeb Duw Ne,
+ Yn trefnu pob peth yn ei le;
+ Y mawr dymhorau, ffrwythau ffri,
+ Er hynny, anufudd ydym ni,
+ A phob creadur yn ei ryw
+ _Ag aml dôn yn canmol Duw_.
+ Rhoed i ni, heb fawr brofi mo’r braw
+ Bob mwynder a llawnder i’n llaw;
+ ’Nifeiliaid a defaid ar dir,
+ Y rhei’ny sy’n hardd inni’n wir,
+ Pob peth yn glir i’n porthi’n glau,
+ A ninnau er hyn heb ’difarhau;
+ A gweled pob greadur gwiw
+ _Ag aml dôn yn canmol Duw_.
+
+ Mae r holl greadigaeth fel drych,
+ Rhai deimlant a welant yn wych,
+ Bod pob peth yn datguddio’n gytun,
+ Ddaioni’r Creawdwr ei hun;
+ Ond natur dyn sy fwya’ dall,
+ Tan gwmwl balchder ofer wall,
+ Ni fyn ddarostwng o’i dda ryw
+ _Un cymal dewr er canmol Duw_.
+
+ Pa beth yw rhyfeloedd y byd,
+ Ond balchder ac uchder i gyd?
+ Fel ’r angel nerth uchel wnaeth ef
+ I ormesu teyrnasu tu’r nef;
+ A dyna’n llef sydd fyth rhagllaw,
+ Yn ffrwd gyffredin dryghin draw,
+ O eisiau bod yn Iesu byw
+ _Bob cymal dewr yn canmol Duw_.
+
+ O! rhyfedd yw’n buchedd trwy’r byd,
+ Mewn gwagedd a llygredd a llid,
+ Heb geisio gwir deimlo gair Duw
+ Sy’n ein galw ni o feirw i ail fyw;
+ Ond Och! mae’n clyw ni wedi cloi,
+ Ac ysbryd dall i ymbarotoi;
+ ’Rym ni yn gysglyd oerllyd ryw,
+ _Ac eisieu’n deffro i ganmol Duw_.
+
+ Cynhyrfwn, a gwelwn mai gwir
+ Y cawn feirw, cwyn arw, cyn hir;
+ Gwybyddwn na ffaeliwn yn ffol,
+ Mae’r bywyd trag’wyddol yn ol;
+ Ymwnawn mewn rhol am ffrwythau’r hâ,
+ Lle mae gorfoledd diwedd da;
+ Dyna r fan lle caffom fyw,
+ Amen, a ’stad, _yn mynwes Duw_.
+
+
+
+
+ANWYL GYFAILL.
+
+
+ Cerdd i annerch cyfaill caredigol, pan oedd dan groesau a blinderau.
+
+ (_Alaw_.—“Y Galon Drom.”)
+
+ ANWYL gyfaill, rwy’n dy gofio,
+ A gweddi mynych, gan ddymuno
+ I Dduw roi llwyddiant er pob lludded
+ Yn graff i’th onest gorff a’th ene’d;
+ A dal dy draed ar Graig yr oesoedd,
+ Er pob helynt,
+ Eiddig oeddynt, a ddigwyddodd;
+ Ac er pob peth a ddigwydd eto,
+ Duw fo i’th dywys,
+ Yn gyhoeddus, rhag tramgwyddo.
+
+ Cefaist yma lawer damwain,
+ Megys rhybudd cerydd cywrain;
+ Mae’r Saer-celfydd ymhob cilfach,
+ Am dy docio i’th wneyd yn decach,
+ Torri ceinciau d’ anystyriaeth,
+ Harddu’r Eglwys,
+ Caer hoff wiw-lwys, mewn corpholaeth,
+ Bwrw’r gwarthus bnynu a gwerthu
+ Hwnt o’r deml,
+ I fan isel a fyn Iesu.
+
+ Gwel fod ffraeth ragoriaeth gaerog
+ Rhwng gwir blentyn a gwas cyflog;
+ Rhaid i’r plentyn etifeddol,
+ Gyrraedd didwyll gerydd tadol;
+ Nid ydyw rhai na chânt yn weddaidd
+ Fflangell barod,
+ Bwys awdurdod, ond bastardaidd;
+ Dal dy sêl a gwel y gwaelod,
+ Plentyn cyfan
+ Wyd ti dy hunan i’r Tad hynod.
+
+ Cariad Crist a ddarfu’n dirion
+ Deg arwyddo’n dy geryddon;
+ Efe, cofia, sydd drwy’r cyfan,
+ A’i ddawn ollawl i’th ddwyn allan;
+ Ar Job gynt ca’dd Satan weithio;
+ Darfu’n rhydost
+ Gnoi, di a’i gwyddost, gnawd ac eiddo;
+ Ond cadwe ’i enaid gwedi hynny—
+ Rhyfedd, nerthol,
+ Anhebgorol, mae Duw’n caru.
+
+ A gadwo Duw a fydd cadwedig
+ Trwy ddwfr a thân, a gwawd a dirmyg;
+ Nid oes dim all niweid egraidd
+ I rai garant Dduw’n gywiraidd;
+ Mae pob rhyw bethau’n rhannau’r rhei’ny
+ Yn gweithio beunydd
+ Oreu deunydd er daioni;
+ A gwyn ei fyd y diwyd ffyddlon
+ A ail aned,
+ A Duw’n gywled yn ei galon.
+
+ Yr Eglwys ydyw’r hardd dreftadaeth,
+ A chalon dyn yw’r pren gwybodaeth;
+ Mae’n ffrwyth gwa’rddedig ynddi’n canlyn,
+ Gwyliwn drwyddo goelio’r gelyn;
+ Pwyll a sobrwydd sydd angenrhaid,
+ Dal ar orchwyl
+ Oen Duw anwyl yn dy enaid:
+ “Fy mab,” medd Duw, “moes im’ dy galon”;
+ Dyna’r d’ioni,
+ Gyda nyni, ymgadw yn union.
+
+ Y galon yw’r ystafell addas,
+ Tŵr puredig, ty’r briodas;
+ Os gwelir un hen wŷn yn honno,
+ Ac heb y wisg briodas ganddo,
+ Rhwymwch, deliwch, draed a dwylo,
+ I’r t’w’llwch enbyd,
+ Lwyra gofid, ’lawr ag efo;
+ Caiff pawb ond plant y ddinas burlan,
+ Eu troi, dyallwch,
+ I’r tywyllwch, o’r tu allan.
+
+ Cans oddi allan mewn swydd hyllig
+ Mae’r cwn a’r swyn-gyf’reddwyr eiddig,
+ Puteinwyr a llofruddwyr gwaedlyd,
+ A phob celwyddwyr, yfwyr hefyd,
+ Addolwyr eulyn, ddwl oer alwad,
+ Ni ’dwaenant olau,
+ Dawn a geiriau Duw, na’i gariad;
+ A’r holl broffeswyr hunan-gnawdol,
+ Nid yw eu rhyfyg,
+ A’u dull unig, ond allanol.
+
+ Gwyliwn fod ar nôd annedwydd,
+ Rhaid dal yn agos at yr Anglwydd,
+ A ffoi i Soar am anrhydedd:
+ Ni thal sefyll ar wastadedd,
+ Fel gwraig Lot, a ddarfu gychwyn,
+ Ei gwlad a’i chartre,
+ Fodd anaele, fu iddi’n elyn.
+ Chwant y cnawd, a llygredd cyhoedd,
+ Allant dyfu
+ I’th anafu o borth y nefoedd.
+
+ Llawer ffordd a llawer cwestiwn
+ Sydd yn t’wyso rhyw demtasiwn;
+ Gormod cyfle, a mynych arfer,
+ Eill ein hudo ni o’n llawn hyder;
+ Er bod doethineb mawr yn Sal’mon,
+ Merched lledrydd,
+ Draws eu gilydd, droes ei galon;
+ Er gwneyd teml Dduw yn ’i ddechreu,
+ F’ aeth i weithio,
+ Dan wenh’eithio, i’w duwiau nhwytheu.
+
+ O! mor llithrig ydyw llwybyr
+ Tuedd dyn i fynd wrth natur;
+ Rhyfedd gariad a thrugaredd,
+ Fod rhai’n sefyll hyd y diwedd;
+ Os ai fel Pedr dros y llwybrau,
+ Gweddia’n fynych,
+ I Dduw edrych, di ddoi adrau:
+ Golwg Iesu a’n galwo’n gyson,
+ A’i air fo’n llosgiad,
+ Unig hwyliad yn ein calon.
+
+
+
+
+OLWYNION DWFR MELIN RHUTHYN.
+
+
+ CODOG fawr enwog forwynion,—dwy-rod,
+ Yn dirwyn yr afon;
+ Cwyd gwegil codau gweigion,
+ Codau o bwys ceidw y bon.
+
+
+
+
+Y GALON DDRWG.
+
+
+ Swelwn echrysa golwg,
+ Gwael iawn ddrych y galon ddrwg:
+ Calon afradlon o fryd,
+ Annuwiol heb ei newid:
+ Calon yw mam pob cilwg,
+ An-noeth drefn, a nyth y drwg;
+ Drwg ddi-obaith, draig ddiball,
+ Pwy edwyn ei gwŷn a’i gwall?
+
+ Effaith y cwymp, a’i ffrwyth cas,
+ A luniodd pob galanas;
+ Grym pechod yn ymgodi,
+ A’i chwantau fel llynnau lli;
+ Glennydd afonydd y fall,
+ Dengys bob nwydau anghall;
+ Dîg-ofid yn dygyfor,
+ Tân a mŵg, fel tonnau môr:
+ Uffern yw hon, o’i ffwrn hi
+ Mae bariaeth yma’n berwi:
+ Ysbyty, llety pob llid,
+ Gwe gyfan gwae a gofid;
+ Trigfa pob natur wagfost,
+ Bwystfilaidd ’nifeilaidd fost:
+ Treigle a chartref-le trais,
+ Rhyfeloedd, a phob rhyw falais;
+ Rhial pob an-wadal wŷn,
+ Ty ac aelwyd y gelyn.
+ Meirch, a chwn, a moch annwn,
+ Sy’n tewhau yn y ty hwn,
+ Seirff hedegog mewn ogo,
+ A heigiau dreigiau blin dro.
+ Pob lleisiau, arw foesau’r fall,
+ Sy’n dwad i swn deall;
+ Swn t’ranau, sain trueni,
+ Swn gofalon greulon gri:
+ Melin wynt, yn malu’n wâg,
+ Rhod o agwedd rhedeg-wag;
+ A’i chocys afaelus fôn,
+ Yn troi’u gilydd trwy’n galon;
+ Drylliad, ag ebilliad bach,
+ Y maen isaf, mae’n hawsach,
+ Na dryllio, gwir bwyllo i’r bon,
+ Ceulaidd, drygioni calon,
+ C’letach a thrawsach ei thrin,
+ Mewn malais, na maen melin.
+
+ Llais hen Saul, a llys hwn sydd,
+ Fan chwerw, o fewn ei chaerydd.
+ Ni all telyn a dyn doeth,
+ Clywn, ennill calon annoeth.
+
+ Och! ni byth, achwyn y bo’n,
+ Wrth goelio, fod fath galon:
+ Gweddiwn, llefwn rhag llid,
+ Yn Nuw, am gael ei newid.
+ Nid oes neb a’i hadnebydd,
+ Ond gain y Tad, a’i rad rydd;
+ A’n gair os daw, gwiw-ras dôn,
+ A dry’r golwg drwy’r galon:
+ A drwg calon draw cilio,
+ Amen fyth, mai hynny fo.
+
+
+
+
+PEDAIR COLOFN GWLADWRIAETH.
+BRENIN, USTUS, ESGOB, HWSMON.
+Rhyfela, Cyfreithio, Efengylu, Lluniaethu.
+_Awyr_, _Tân_, _Dwfr_, _Daear_.
+Anadl, Cyfraith, Efengyl, Cnawd.
+
+
+YN gymaint ag i mi ryfygu argraffu y cyfryw waith distadl ag yw hwn,
+oblegyd ei fod yn myned tan yr enw Chwaryddiaeth fe geir amrywiol yn ei
+wrthwynebu, canys ni allant oddef i ddim da ddyfod o Nazareth. Fe fydd y
+farn arnaf fi, yn enwedig ymhlith dynion ffroen uchel Phariseaidd, a
+hidlant wybedyn, ac a lyncant gamel.
+
+Ond yn fwy neillduol, mewn ffordd o amddiffyniad i’m gorchwyl, mi a
+ddymunwn ar bob un esgusodi barnu cyn profi y dystiolaeth. Gwaith pawb a
+brofir; felly mi a ddymunaf ar y rhai sydd barotach i farnu nag ystyried,
+i ddar llen neu wrando yr hyn sy’n gynwysedig; ac yna hwy a gânt adnabod
+fod pob gair yn wir at ei achos.
+
+Yn gyntaf, fe ddaw un i adnodd y testyn, ac un dan enw Brenin; ac at
+hwnnw, un i ddatguddio amrywiol o’r twyll sydd yn y deyrnas; yn ol hynny,
+yr Hwsmon (sef y Cybydd); ac at hwn fe ddaw hen fenyw ddiog. A daw un
+dan enw Esgob; ac at hwnnw fe ddaw un i gellwair am le i fyned yn
+offeiriad; yn hyn y datguddir y trueni a’r llygnedd sydd mewn gosodiadau
+eglwysig. Ac yn ganlynol daw yr Ustus, ac ato ef yr Hwsmon, ym mha le y
+dangosir dull y cam-gyfreithiau a’r creulondeb sydd yn y wladwriaeth. A
+daw yr Hwsmon i’w ddyrchafu ei hun, mai efe sy’n cynnal pawb; i ba un yr
+atebir, na all un alwedigaeth ei chynnal ei hun,—fod sefyllfa ddynol yn
+gyffelyb i un dyn, y pen a’r holl aelodau yn gyfatebol i un corff. Daw
+yr Hwsmon, wedi ei ofidio gan glefyd, yn ymofyn Doctor, ac yn addunedu,
+os cai hoedl hwy, y byddai yn ddyn duwiol; ac y mae yn ymddarostwng i
+ychydig o enw diwygiad; ond pan gyntaf y gwellhaodd o’i glefyd, y mae yn
+myned waeth nag o’r blaen, ac yn y diwedd yn marw yn druenus. Yn y modd
+hyn y mae’r llyfr hwn yn treiglo.
+
+Nid oes gennyf ond ei adael i’ch barn chwi oil, gan obeithio nad oes neb
+mor foethus na allant “brofi pob peth, a dal yr hyn sydd dda.”
+
+ Yr eiddoch oll, &c.,
+
+ THOMAS EDWARDS.
+
+
+
+PEDAIR COLOFN GWLADWRIAETH.
+
+
+ [_Ymddengys Syr Rhys y Geirie Duon_.
+
+_Syr Rhys_.
+
+ Gostegwch bawb, gostegwch,
+ Os ydych am wrando, rowndiwch,
+ Y fi ydyw’r crier ffraethber ffri,
+ Ddaeth yma i gyhoeddi heddwch.
+
+ Fy enw sydd hynod ddigon,
+ Syr Rhys y Geirie Duon,
+ Gŵr wyf a fedr ddweyd eu bai,
+ Drwy deg, i rai cymdogion.
+
+ Ond mi glywes fy nain yn ownio,
+ Mai gore ydyw’n lleia’ siarato;
+ O ran fe gynhyrfa llawer un swrth,
+ Mae’n debygol, wrth ei bigo.
+
+ Ni fu erioed gynlleidfa luosog,
+ Na bydde rhyw rai yn euog;
+ Rhag ofn cenfigennu am hynny ymhell,
+ Mae llawenydd yn well i’w annog.
+
+ Mae gennym ni fath ar chwaryddieth,
+ Yn pwnio ’nghylch y pedwar penneth;
+ Sef Brenin, ac Ustus, ac Esgob llon,
+ A’r Hwsmon hoewlon heleth.
+
+ Y Brenin i wneyd llywodreth,
+ A’r Ustus i reoli cyfreth;
+ A’r Esgob i bregethu’r gwir,
+ Wrth reol clir athrawieth.
+
+ Ac ynte’n Hwsmon manwl,
+ Sy’n talu tros y cwbwl,
+ Trwy’i waith a’i lafur, drafferthus lun,
+ Wrth drin ei dyddyn diddwl.
+
+ Dyna’r testun oll mewn dwyster,
+ Mae amryw drafaeliwr tyner
+ A welodd _sign_ ALL FOURS mewn tre
+ A’i lyged yn rhyw le yn Lloeger.
+
+ Ond ar hanes a dull y rheiny,
+ Mae sail ein hact ni ’leni,
+ Ond bod ynddi hi Gybydd, ac amryw o gêr,
+ ’Ran pleser i’r cwmpeini.
+
+ ’Doedd waeth dweyd ar fyr ei threfen,
+ Na mynd i bregethu rhyw hir brygowthen,
+ Mae hanner gair yn fwy i gall.
+ Na dweyd i ddi-gall ddeugen.
+
+ Y sawl sydd am brofi sylwedd,
+ Gwrandawed hyn i’r diwedd,
+ Os nad oes iddi ond dechre bach,
+ Mae’n ffurfach yn ei pherfedd.
+
+ Tyrd dithe’r cerddor tene,
+ Cais dynnu rhyw sŵn o’th danne,
+ Fel y gallwyf ddawnsio tro,
+ Yn bur-ddewr i dreio’r byrdde.
+
+ Ffarwel i chwi dro go fychan,
+ Daw’r Brenin yma’n fuan;
+ Ond mi ddof fi ato fe eto yn hy,
+ ’Ran siawns na thuedda’i ymddiddan.
+
+ [_Diflanna_.
+
+ [_Ymddengys Brenin_.
+
+_Brenin_.
+
+ ’Nawr o’ch blaene’r hawddgar fyddin,
+ Mi ddes ger bron dan enw Brenin,
+ I adrodd i chwi fy mhwer addas,
+ A’m cadernid uwch y deyrnas.
+
+ [Picture: Y Brenin. Darlun gan A. E. Elias]
+
+ Gan faint fy mraint, a’m parch, a’m _honor_,
+ Twf eurdeg harddwych, tyrd, y cerddor,
+ ’Rwy’n chwennych datgan cân blethedig,
+ Hyf a moesol, hefo miwsig,—
+
+ (_Alaw_,—“DYDD LLUN Y BORE.”)
+
+ “Wel, gwelwch i gyd,
+ Trwy’r byd yn wybodol y rheol sy’m rhan,
+ I mi mae anrhydedd, a mawredd pob man;
+ I’r Brenin mae’r braint,
+ Wir gywraint ragorieth, yn benneth mawr barch,
+ A phob ryw reoleth trwy’i daleth hyd arch;
+ I mi mae’r awdurdod, a mawr air Emerod,
+ I mi mae’n bri hynod yn barod mewn byd,
+ I mi mae’r gair uchaf, beth bynnag a archaf,
+ Mae’n dynion sydd danaf, mi brofaf i’m bryd,
+ Hwy wnant fel y mynnwyf pan alwyf yn nghyd;
+ Os archaf eu hanfon i ryfel echryslon,
+ Yn erbyn gelynion, yn union hwy an’,
+ Hwy laddant, hwy leddir, gorchfygant, gorchfygir,
+ Trwy ddyfroedd y mentrir, nid ofnir mawr dân,
+ Dangosant eu cryfdwr iawn ledwr yn lân.
+
+ “Fy awdurdod sydd gry’,
+ Mewn gallu teg ’wyllys yn ddawnus tan Dduw,
+ I mi mae gor’chafieth, rheoleth pob rhyw,
+ I mi mae mawrhâd,
+ Pob gwlad enwog lydan sy’n rhwyddlan i’m rhan,
+ Mae’r deyrnged i’m gafael, er mael o bob man;
+ Mae danaf, nod union, arglwyddi a marchogion,
+ Pob math ar wŷr mawrion, sydd ffraethlon swydd ffri,
+ Pob offisers diwad, pawb gwiwlan, pob galwad,
+ Pob cyfoeth, pob cofiad, mewn rhad mwy na rhi’,
+ Sy’n dirwyn o diroedd a mofoedd i mi;
+ Gan hynny gwybyddwch, heb gilwg, o gwelwch,
+ ’Rwy’n cario’r hawddgarwch ar degwch pob dyn,
+ I mi mae’n holl arwydd, a’r goron deg wiwrwydd,
+ Tan fraint ardderchawgrwydd, nef hylwydd ei hun,
+ Dylwn gael i’m cyfarch bur barch gan bob un.”
+
+ [_Ymddengys Syr Rhys y Geirie Duon_.
+
+ Wel, mi ddalia beint o ddiod,
+ Fod yma ryw un wedi yfed gormod,
+ ’Ran ni chlywes i yn sobr odid ddyn,
+ Yn ei frolio ei hun yn fwy hynod.
+
+ _Bren_. Beth, ai ni wyddoch yma’n ddiwad
+ A phwy, syre, ’r y’ch chwi’n siarad?
+
+ _Rhys_. Gwn, debyga’i, ond considro yma beth,
+ Mae’n llegach rhyw feth ar fy llygad.
+
+ Corff ag a dynges, ond ’rwy’n lled angall,
+ ’Does dim ddwlach na dyn cibddall;
+ Onid gyda’r Roli’r tincer y gweles chwi’n glau,
+ Wrth gofio, fel dau gyfell?
+
+ _Bren_. Ewch oddiyma yn sydyn, lipryn,
+ Ai dyna’r parch a r’owch i’r Bnenin?
+
+ _Rhys_. Wel, pwy fuase’n ame eich bod chwi’n siwr
+ Wedi mynd yn wr gan gymin?
+ Ond brenin pwy ydych chwi o ddifri?
+ Mi glywes rai’n son am Frenin y Diogi,
+ Ac mae rhyw beth ar fy meddwl yn peri i mi
+ Adel mai chwi ydy’.
+
+ _Bren_. Taw, taw, â’th ynfyd chwedle diflas,
+ ’Rwy’n deip o Frenin yr holl deyrnas;
+ Mi allwn alw milwyr gwaedlyd
+ I wneyd dy frad mewn llai na munud.
+
+ _Rhys_. Wele, arglwydd melin Henllan
+ A’n catwo ni rhag y barcutan;
+ Yr oedd fy hoedl i yrwan, dinwan dw’,
+ Ar ei winedd e yn arw anian.
+
+ Wel, begio’ch pardwn, Mr. Brenin,
+ Onid oeddych chwi’n ffrynd i modryb Catrin?
+ ’Ran mi clywes yn gweddio gyda chwi’n daer,
+ Efo Alis fy chwaer, ac Elin.
+
+ _Bren_. Taw a’th swn gwan, onid oes ar gynnydd
+ Weddio gyda myfi yn yr eglwysydd?
+
+ _Rhys_. Wel, pan oedd crio’r tâl mawr o’ch achos chwi,
+ Mi glywes i regu ar ogwydd.
+
+ Ond yn wir, meistir, ’rwy’n ymestyn yn hoew,
+ I weddio gyda chwi’n gadarn arw,
+ Os gallwch chwi wneuthur rhyw ddyfeis,
+ I roi llai o _excise_ ar y cwrw.
+
+ _Bren_. Onid ydyw pawb trwy’r byd yn ddibrin,
+ Yn rhwym i dalu _duty_ i’r Brenin?
+
+ _Rhys_. Wel, fe fydde gwell, er hynny i gyd,
+ Pe b’ai chwi heb gymryd cymin’.
+
+ _Bren_. Wel, ond rhaid bod ymhob perthynas
+ Goste mawrion ar y deyrnas,
+ Cyn y cadwer pob rheole
+ Tuag at gynhalieth gwyr ac arfe.
+
+ _Rhys_. Wel, begio’ch pardwn chwi, Frenin tirion,
+ Pa beth y dewisech gyment o weision?
+ Ni fu erioed yn y byd,—ni wiw ddisgwyl bod,—
+ Ddaioni lle bo gormod ddynion.
+
+ ’Ran lle bo llawer o weindogion bydd y diogi mwya’,
+ ‘Cerdd di,’ ‘cerdd dithe,’ ni wyddir pa ’run anystwytha;
+ A gyrru’r llanc lleia’ wnant hwy stil,
+ Trwy’r pwll i ’nol y ceffyl pella’.
+
+ A’r rhai sy’n cael y cyflog penna’,
+ Ymhob lleoedd, sy’n gwneuthur lleia’;
+ Maent hwy’n mynnu rhan. Mi dd’wedaf i,
+ Dan fy nwylo, mai chwi sy’n ola’.
+
+ _Bren_. Taw a son dy ffol gamsynieth,
+ Onid rhaid i bawb gael eu bywolieth?
+
+ _Rhys_. Wel, maent hwy’n gwneuthur ymhob man,
+ Hynny fedront o anllywodneth.
+
+ Beth am y gwŷr sy’n derbyn trethi,
+ A’r superfisors sy’n rhai pur fisi?
+ Nid y’ch chwi’n cael, i’ch traul a’ch tro,
+ Mo’r hanner o ddwylo rhei’ny.
+
+ A phe gwelech chwi mewn dirgelion,
+ Y gwas esmwyth ydy fo’r ecseismon,
+ Mynd at wraig y dafarn yn ambell dŷ,
+ Man arall ymgwerylu’n greulon.
+
+ Ni waeth i dafarnwr lledwan
+ Fod rhwng y tân a’r pentan;
+ Ni chaiff un o’r rhei’ny fywiolieth dda,
+ Heb hwrio, neu fenthyca’u hanian.
+
+ Ac mae gennych chwi wych o weision,
+ Tua glanne’r moroedd mawrion;
+ Pan fo smyglo ar y traeth fe fyddan’ hwy yn y tŷ,
+ ’R hen faeddod, yn rhy feddwon.
+
+ A dyna i chwi’r modd yn loew,
+ Mae’ch offisers chwi yma ac acw,
+ Ni chewch chwi oddiwrthynt hwy, lawer tro,
+ Ddim ’chwaneg nag iws i’ch enw.
+
+ _Bren_. Mae teyrnged gyfion i mi’n digwydd
+ O gefn y môr a chefn y mynydd.
+
+ _Rhys_. Os oes i chwi’n digwydd beth i’ch shâr,
+ Mae fo’n glynu gyda’r glennydd.
+
+ Ni bydd i chwi ond rhan go wannedd,
+ Erbyn y llyfo pawb eu bysedd;
+ Mae gwmpas y môr, a glywa’i son,
+ A’r mynydd, i chwi weision mwynedd.
+
+ Eu gwaith mwyaf ydyw gwaitio
+ Ar eu gilydd, ac ymwenwyno;
+ Dwyn y naill oddiar y llall tan gadw swn,
+ Yr un fath a’r cwn ’rol cinio.
+
+ Os caiff rhai unweth godi fyny
+ Yn enw’r Brenin, dyna hwy’n lladd ac yn braenu,
+ Yn twyllo, ac yn robio mwy na’u rhan,
+ Ni chaiff y gwan le i gwnnu.
+
+ A phe gwyddech chwi weithian fel bu, rhyfel diwaetha,
+ Rhwng admirals a chaptenied, bawb am y tynna’,
+ Yn derbyn breibs ac yn gwasganu’r gweinied,
+ Mil mwy nag y gellir byth adrodd y golled.
+
+ ’Roedd llawen o dwyll oddeutu’r milisie,
+ Rhwng _y sergeants a’r corporals_, a phob carpie,
+ Ond nid oedd twyll y rhei’ny ddim degwm yr hanner,
+ Ag oedd rhwng gwŷr y môr ac offisers Lloeger.
+
+ Nid oes ond y twyll a’r celwydd
+ Ymhob man, o’r môr i’r mynydd;
+ Lle byddo rhyw swyddog ar blwyf neu sir,
+ Ni fydd dim d’ioni hir o’i herwydd.
+
+ Dyma hyd y mynydd amser sheti,
+ Os bydd ceffyl neu heffer y b’on’ hwy’n ei hoffi,
+ Waeth p’le ynte am ddefed bo node na llw,
+ Na’r hanes, y nhw’ pia rhei’ny.
+
+ Ac felly nid oes ymhob rhyw fasnach,
+ Ond y trecha treisied, a phawb drawsach, drawsach;
+ Maent hwy’n symud eu cloddie, eu caue, a’u cêr,
+ Onid yw’r mynydd yn llawer meinach.
+
+ _Bren_. Er bod i’m llaw i bob rheoleth,
+ Nid ellir wrth rai ffals wasaneth,
+ Ond Duw a gadwo Frenin Lloeger,
+ Mewn iach fendith a chyfiawnden. [Diflanna.
+
+ _Rhys_. Amen yn fwynedd! Dymunaf finne,
+ Boed llwyddiant yn ddoniol i’w ras a’i feddianne;
+ A hir oes i’r Brenin mewn cywir fryd,
+ Er maint sydd yn y byd o goste.
+
+ Ond mae llawer o gnafon atgas,
+ Yn cymryd arnynt yn y deyrnas,
+ Fod yn bur i’r Brenin yn ei ŵrydd,
+ Ac eu hynny yr un swydd a Suddas.
+
+ Mae rhai mor liwdeg yn ymledu,
+ Fel llyged y dydd pan fo haul yn tywynnu,
+ A phan elo hi’n hwyredd, serthedd sain,
+ Hwy gauant yn fain i fyny.
+
+ Felly mae ffalster mewn rhai penaethied,
+ A ffalster ddialedd mewn amryw ddeilied;
+ Ffalster wrth gario cwrw a gwin,
+ A ffalster wrth drin merched.
+
+ Ffalsder, anlladrwydd llidiog,
+ Ydyw godro heibio’r gunog;
+ ’Run fath a rhoi gwenwyn rhag lladd â chledd,
+ Er hynny ’run diwedd euog.
+
+ Yr un boene a’r un dibenion,
+ Ydyw boddi mewn llyn neu foddi mewn afon;
+ Neb na wnelo’r peth, na wnaed debyg chwaith,
+ Mae’r meddwl a’r gwaith ’run moddion.
+
+ Gan hynny’n glân ferchede,
+ Yn wych weithian, ond gwell i chwithe
+ Arfer yn ieuanc wneyd pob peth yn glên,
+ Na mynd i glegar yn hen bengloge.
+
+ Ac i gadw’r ffasiwn i fyny’n ddiball,
+ Rhag bod yn aflerach na ffol arall,
+ Mae gen inne ganiad wastad wedd,
+ A ddengys i chwi’ch agwedd anghall.
+
+ Mi a’i canaf hi mewn cysondeb,
+ Ar GODIAD YR EHEDYDO, os ca i rwydd-deb,
+ Chwi gewch yma glywed y gwir am y peth
+ Heb ddim gwenieth, yn eich gwyneb,—
+
+ “Y manwi ferched mwynion
+ Gwamal feddal foddion,
+ Gwych yw gennych dan y rhod
+ Mewn iechyd fod yn wychion;
+ Yswagrio’n fawr eich glendid,
+ A rhodio mwy na’ch rhydid,
+ Ac am y brafia’ch gwisgiad brith
+ I fynd i blith ieuenctid;
+ Pob ymddygiad balch fonddigedd,
+ Pob rhyw agwedd curedd cariad
+ Pob rhyw siarad hen gras eirie,
+ A phob ystraie, troe trwyad’,
+ Ymhob rhyw ffals naturieth ffol
+ Mae’ch llawn arferol fwriad.
+ Ond yn eich ienctid mae i chwi ddysgu,
+ Heb angharu, cael cynghorion;
+ Er eich bod chwi heddyw’n ddibris,
+ Chwi ddowch yn ledis boche llwydion;
+ Cewch brynnu’ch dysg a’ch pen mewn dôl,
+ Am fod yn ffol ynfydion.”
+
+ Nid yw cynghori merched, archied erchyll,
+ Ond ’run fath a dwfr yn mynd hyd gafn pistyll,
+ Trwy un pen i mewn, ac allan trwy’r llall,
+ Ac felly mae’r gwall yn sefyll.
+
+ [_Ymddengys Arthur Drafferthus_, _y Cybydd_.
+
+ _Arthur_. A glywch chwi, pa beth sydd yma heddyw?
+ Nad elw’i fyth i goed erill, on’d oes cryn dwrw.
+
+ _Rhys_. Wel dyma ymofyn moel yn siwr,
+ Onid aeth yr hen ŵr yn arw?
+ Considr’wch wrth natur dipyn eto,
+ Mae yn o fawedd i chwi feio
+ Ar ferched ieuenc, a llancie, a phlant,
+ Sy’n cadw gwylmabsant gwallgo’.
+
+ _Arth_. Wele’r achlod i garpie rhechlyd,
+ Ai nid oes gan rai ddim i’w wneuthyd?
+ Oni wela’i fod yma fawr a bach,
+ A rhai hen boblach biblyd?
+
+ Dyma Sion ac Ann, Dafydd ac Elis’beth,
+ Na bo’n son na chrybwyil, na wnai chwi rywbeth,
+ Yn lle bod fel hyn, mae’n rhyfedd gen’ i,
+ Na fydde g’wilydd gennych chwi ymgoleth.
+
+ Wel, yn siwr, hi aeth yn fyd anaele,
+ Nid eiff dyn yrwan i dre’ nac i bentre’,
+ Na bo interliwd i’w chwane wrth eu chwant,
+ Yn rhigwm rhwng y plant a’r hogie.
+
+ _Rhys_. O, tewch a son a’ch barnu,
+ Mae llawer peth waeth na hynny,
+ Gwell gen i chwareu, mae’n llai bai,
+ Na’r genfigen mae rhai’n ei fagu.
+
+ _Arth_. Wel, mi glywes fy mam yn dweyd, ’rwy’n cofio,
+ Mai po teca fo’r chware, gore ydyw peidio,
+ Lle bo gormod o wagedd, egredd wg,
+ Nid oes ond drwg yn trigo.
+
+ _Rhys_. Wel, oni chlywsoch chwi dnaethu’n fanwl
+ Hen benbwl cebyst, mai gwagedd ydyw’r cwbwl?
+ Gwagedd o wagedd llygredd a llid,
+ Yw’n moddion i gyd, ’rwy’n meddwl.
+
+ Nid oes ond y twyll a’r ddichell ddiffeth,
+ Yn mhob rhyw alwedigeth trwy’r gymdogeth;
+ ’Does odid un yn dilyn gwedd
+ Gwirionedd yn ddiwenieth.
+
+ _Arth_. O ni waeth i ti dewi, mi glywes rai’n siarad
+ Fod pregethwyr duwiol yn mynd ac yn dwad,
+ Mae’n dda fod rhein’y, gan ddarfod iddi hi,
+ Eglwys Loegr, golli ei llygad.
+
+ _Rhys_. Mae mwy o buteinied eglwysig,
+ Nag a ddirnad un dyn gwledig;
+ Ac mae yng nghysgod crefydd, beunydd trwy bwyll,
+ Beth rhyfedd o dwyll a rhyfyg.
+
+ _Arth_. Wel gwir a ddywed yr hen wr doetha,
+ Llygriad y peth gore yw’r llygriad gwaetha;
+ Pa goleua bo’r ganwyll cyn ei diffoddi,
+ Mwya’ yn y byd bydd ei mŵg hi yn drewi.
+
+ _Rhys_. Mae’n wlad wedi goleuo ben bwy gilydd,
+ Waith cyment sy o daeru ac ymgrafu am grefydd,
+ A llawer ohonynt hwy’n llwyr heno,
+ ’Run ffordd a Lusiffer a Pharo.
+
+ Hwy farnant rai gwirion mewn digofent,
+ ’Run fath a Judas am y blwch enent;
+ Degymu’r mintys o’r gerddi gwâr,
+ A gwneyd camwedd y pedwar cyment.
+
+ _Arth_. Mi a glywes wr yn barnu
+ Mai drwg ydyw dawnsio a chanu.
+
+ _Rhys_. Gwir mai drwg yw, os cymer dyn
+ Ei ogoniant ei hun o hynny.
+
+ Mae’n gofyn i ddyn â’i ddonie,
+ Roi’i synwyr a’i holl aelode,
+ Ym mhob peth, er clod yn siwr,
+ Yn gyhoeddus i’r Gŵr a haedde.
+
+ _Arth_. Ni waeth i ti dewi a dadlu,
+ Nid oes fawr yn gwneuthur felly.
+
+ _Rhys_. Wel, y neb na wnelo hynny’n ddi stwr,
+ Ym mhob achos mae’n siwr o bechu.
+
+ _Arth_. Onid ydynt hwy’n dweyd mai’r brenin
+ Yw amddiffynwr y ffydd gyffredin?
+
+ _Rhys_. Mae’n wir ei fod oddiar ei fainc,
+ Am faeddu pab Ffrainc a’i fyddin.
+
+ _Arth_. Onid oes rhai o feibion brenin Pryden,
+ Mi glywes yn y _post-house_, yn caru pabisten;
+ Ond am ystraeon nid wyf ddim yn ffond,
+ Mae drwg eu llond hwy yn Llunden.
+
+ _Rhys_. Wel, yr oeddwn i ar fy ngore
+ Yn ymddiddan â’r brenin gynne,
+ Fe basiodd rhyngom tu yma i’r Hob,
+ Beth gerwin o bob geirie.
+
+ _Arth_. Ymddiddan â’r brenin! Tybed
+ Ei fod ef cyn ddifalched;
+ A glywch chwi, medda’i, mae fe’n siwr,
+ Dan awyr, yn wr diniwed.
+
+ _Rhys_. O, ydyw’n siwr, mae’r gŵr o’r gore,
+ Yn ddiniwed a gonest, am a ddealles i gynne,
+ Onibai gnafon a lladron sy ar ei gefn,
+ Ni gaem ni yma well trefn ’rwy’n ame.
+
+ _Arth_. Er mwyn dyn, pe soniasit ti dipyn
+ Ynghylch y Dreth Fawr a’r Ardreth Brenin,
+ Maent hwy ar eu deilied ym mhob lle
+ Yn gyrru yma goste gerwin.
+
+ _Rhys_. Nid all y brenin sydd â dull breiniol
+ Ddim wrth hynny o warth wahanol,
+ Pobl erill sy’n difa ym mbob man,
+ O’r trethi, beth anhraethol.
+
+ _Arth_. Pwy bynnag sy’n dyfetha’n foethus,
+ Y brenin a’i rwysg yw’r esgus;
+ Mae’n mynd yn ei enw trwy’r wlad hon,
+ Gynifer o ddynion cnafus.
+
+ _Rhys_. Wel, mae llawer pren teg brig-lydan
+ Yn cysgodi bwystfilod aflan,
+ Ac adar drwg yn nythu ynddo fry,
+ Nid all e’ ddim wrth hynny ei hunan.
+
+ A chwi wyddoch na ŵyr bon derwen,
+ Pa ffordd y gwinga un gangen,
+ Ac felly ni all brenin, er trin pob treth,
+ Wrth ei ddeilied wneyd peth na ddylen’.
+
+ _Arth_. Wel, dywed ai’r brenin a ddarfu ordro
+ Rhoi treth ar bob ceffyl, fel mae rhai yn caffio;
+ Ond am dreth y gole ar bob rhyw gut,
+ Mae’r gair mai Pitt sy’n pwtio.
+
+ _Rhys_. Nis gwn i heno am un da obonyn,
+ Maent fel cene llwynog, a’i ddichell wenwyn.
+ Yn ymroi i gyd-yspeilio’n gâs
+ Ein teyrnas, rhad Huw arnyn.
+
+ _Arth_. Wel, mae’n chwith gan hen bobl weled
+ Gyment o bob cyfnewidied;
+ A phe doi rhai fu feirw; mi wrantaf fi,
+ Bydde synnach gan rhei’ny synied.
+
+ Mae’r bonddigion wedi’u witsio,
+ Yn mesur eu tiroedd, yr aflwydd a’u torro;
+ Ni ddaeth dim i’r byd, er maint y swn,
+ Mon wenwynig a’r ffasiwn honno.
+
+ Hwy fesurant y ffordd, y coed, a’r caue,
+ Ac fel mae’n g’wilyddus, y perthi a’r cloddie,
+ A’u tidau heiyrn a’u celfi chwyrn,—
+ Pe b’ai hi am gyrn eu gyddfe.
+
+ _Rhys_. Wel, mesuran ’nhw am y siwra,
+ Eu tiroedd, mewn moddion taera;
+ Daw’r dydd na roir fawr fwy o hon
+ Na dwylath, i’r dynion tala.
+
+ Ond natur y byd yw cadw twrw,
+ Hir y onoin y tamed chwerw;
+ Mi redaf fi draw ar hyn o dro,
+ Mewn cariad i geisio cwrw.
+
+ [_Diflanna_.
+
+ _Arth_. Wel, rheded pawb lle gallon’,
+ Hi aeth yn fyd echryslon;
+ Rhaid i denantied ymhob rhyw,
+ Ar f’einioes i, fyw yn feinion.
+
+ Dyma’r tiroedd, mae pawb yn taeru
+ Y byddan’ hwy i gyd yn codi;
+ Ac ni wiw i ni siarad a gwneyd trwyn sur,
+ Mae’r stiwardied yn wŷr stwrdi.
+
+ Rhaid i ddyn ddysgu pratio,
+ Tynnu het, a mynych fowio,
+ Ac edrych pa sut yr agorir ceg,
+ A dweyd yn deg, rhag eu digio.
+
+ Ac ni chaniateir mynd i’w gwynebe
+ I siarad, ond ar rai amsere,
+ A rhyfedd mor syth, oni leiciant chwi’n son,
+ Yn wŷr tonnog, y tront hwy’u tine.
+
+ A rhaid yw eu tendio ar bob achlysur,
+ A mynd i’w cymhorthe, rhag ofn eu merthyr;
+ Os gwydde, os cywion, neu berchyll per,
+ Rhaid eu ceisio hwy i’r gêr ddigysur.
+
+ Ac os tyddyn fydd ar osodiad,
+ Daw yno i ymryson resiad;
+ Ni cheir na threfn, na threial, na thro,
+ Heb iro dwylo’r diawlied.
+
+ Mae’n rhaid i ystiward yn ei falchder
+ Gael llawer mwy o barch na’i feister;
+ Onide ni chaiff dyn gwan ddim lle
+ Yn agos, os a fe’n eger.
+
+ Digiwch ŵr boneddig, cewch bardwn ganddo,
+ Ond os digiwch ystiward, chwi gewch eich andwyo;
+ Mae hynny’n druenus ym marn pob dyn,
+ Fod rhyw helynt fel hyn yn rwlio.
+
+ Mae’r byd yn llawn aflwyddiant,
+ Fe’i llyged tynned ar les pob tenant;
+ Mae’r bonddigion a’r tlodion, drawsion drefn,
+ Hefo’u gilydd ar ei gefn yn galant.
+
+ [_Ymddengys Gwenhwyfar Ddiog_.
+
+ _Gwenhwyfar_. Wele, nosdawch, gyda’ch cenned,
+ Rhad Huw yma; a rowch chwi damed?
+
+ _Arth_. O b’le rwan, hefo’ch cwman ci,
+ Gwenhwyfar, daethoch chwi cyn hyfed?
+
+ _Gwen_. Dwad ar ddamwen wnes i’r ffordd yma,
+ O ran fod y byd yn gwasgu arna’.
+
+ _Arth_. Pe buasech chwi er’s meityn yn ei wasgu fe’n llym,
+ Nid aethech chwi ddim fel yna.
+
+ _Gwen_. Nid oes mo’r help, hawdd gennych chwi siarad,
+ Yr ydwyf fi’n ddigon tlawd ac amddifad.
+
+ _Arth_. Wele’r hen baunes, ar bwy ’roedd y bai?
+ Oni all’sech wneyd llai o ddifrad?
+
+ _Gwen_. Pa beth a ddifrodes, gadewch glywed?
+
+ _Arth_. Cyment a gawsoch, ni fu ’run cyn gased;
+ Ni chymrasoch erioed, mi wn yn dda,
+ Ddim gofal, ond bwyta ac yfed.
+
+ _Gwen_. Dyma’r peth a geir os eir yn dlawd,
+ Rhaid dioddef gwawd a choegni.
+
+ _Arth_. Ni oddefwch chwi ond eich haeddiant eich hun,
+ ’Ran ni wnaethoch, gŵyr dyn, mo’r d’ioni.
+
+ _Gwen_. Onid yw’r ddiareb yn dweyd gwir godidog,—
+ Y neb aned i rôt, nid eiff byth i bum’ ceiniog?
+
+ _Arth_. O, hel rhyw esgusion dwl oerion di les,
+ Mae’r hen Iddewes ddiog.
+
+ Oni chawsoch chwi gynysgeth holliach,
+ Aur ac arian, ac amryw geriach?
+ Chwi allasech ddwad fel finne’n wisgi,
+ I berchen digon, onibai’ch diogi.
+
+ _Gwen_. Wel, soniwch chwi am ddiogi eiddigus,
+ ’Roedd y plant yn fychen, a minne’n afiachus;
+ A pheth a ddisgwylie neb mewn condisiwn,
+ O waith na phwyse gan fenyw o’m ffasiwn.
+
+ _Arth_. ’Doodd wiw i undyn a’ch adwaene,
+ Ddisgwyl gennych fawr o wyrthie,
+ ’Ran prin y cynhyrfech chwi i roi tro,
+ O’ch cornel i ystwytho’ch carne.
+
+ O! fel y bydde hi yn un bauled,
+ Yn eiste’n domen, na chynhyrfe hi damed;
+ Buase’n dda fod y gwydde’n llawer man,
+ Yn eistedd gan onested.
+
+ Dyna fel y bydde hi mor ddigyffro,
+ Trin plant yn ei lludded, a difa’r holl eiddo;
+ Ac ysmocio nes aeth hi ’run lliw a’r gŵr drwg,
+ Hen boced, gan fwg dybaco.
+
+ _Gwen_. Wel, ond fy mrest i sy’n llawn caethni,
+ Mae tybaco yn tynnu dwfr ohoni.
+
+ _Arth_. Yr ydwy’n eich gweled chwi, hyll ei gwawr,
+ Yn yslefrian mewn mawr yslafri.
+
+ _Gwen_. O rhowch i mi gardod yn ddiragrith,
+ Chwi glywsoch yn bendant mai da ennill bendith.
+
+ _Arth_. Ni feddi di’r un fendith, mwy na gafr neu fwch,
+ Gwyneb hwch mewn gwenith.
+
+ _Gwen_. Onid ydyw’r gair yn dweyd yn gywren,
+ Fod bendith i bawb a roddo elusen?
+
+ _Arth_. Y fendith ore fuase mewn pryd,
+ Eich curo chwi o’r byd, hen garen.
+
+ _Gwen_. Ai meddw ydych? fe fuase’n well dull
+ Fy lladd!—O erchyll Iddew!
+
+ _Arth_. Buase yn llawer amgen lles,
+ Gael dibendod y gnawes bendew.
+
+ Nage, pe gwyddech chwi’r cwmpeini gweddus,
+ Fel yr aeth hi yn baelfed mor helbulus;
+ Mae hi’n ddigon o siampl i bawb trwy’r plwy’,
+ Am fywiolieth, i fod mwy gofalus.
+
+ ’Roedd ei gŵr hi’n porthmoneth draw ac yma,
+ A llafn o bwrs melyn, ac yn walch pur ysmala,
+ A hithe gartre’ yn diogi, ac yn ymdroi,
+ Mor foethus, wedi ymroi i ddyfetha.
+
+ Ond o dafarn i dafarn, ’roedd e’r hen borthmon diofal,
+ Heb fawr edrych at na thir na chatal,
+ Ond canu efo’r tanne ac ymlid puteinied,
+ A gwneyd bargeinion a cholli, ni bu’r un cyn erchylled.
+
+ Fr dorrodd a’r wlad, ynte mor ddiawledig.
+ Am filoedd o bunne, mi allaf ddweyd yn ddiarbennig;
+ Llwyr wfft i borthmyn am dwyllo’r byd,
+ O! na byddent hwy i gyd yn grogedig.
+
+ Dyma hithe, Gwenhwyfar, wrth ei hen gynefin,
+ Beth bynnag fydde’r ennill, ni hidie hi ronyn,
+ Hi eistedde mor bwyllus, ac a smocie ei phibelled,
+ Heb feindio’r un difin mewn gwartheg na defed.
+
+ _Gwen_. Wfft, wfft i’r fath gelwydd, a goeliwch chwi bellach?
+
+ _Arth_. Taw, hen hwr dafotrwg, ni fu erioed dy futrach,
+ Na’th ddiocach, na’th ffieiddiach, mewn un man,
+ Hen gwrwm, na’th anhawddgarach.
+
+ _Gwen_. Nid oes mo’r help, mi glywa,
+ Rhaid i’r gwan ddioddef pob trahausdra,
+ Ond gobeithio, os colles yn hyn o fyd,
+ Ca’i’n hawsach y bywyd nesa.
+
+ _Arth_. Wel, dyma fel y bydd rhyw garpie,
+ Pan elont hwy’n ddinerth, ac yn ol o feddianne;
+ Maent hwy’n rhoi fod y nef, fel llysendy ar dro,
+ I bob ceriach fynd yno o’u cyrre.
+
+ Rhyfedd fel y dwedant mor odidog,
+ Yn gysurus eu geirie, fod Duw’n drugarog,
+ Ond pe bai fo drugarocach, mi wn fy hun,
+ Na ddewis ef ’run fo ddiog.
+
+ _Gwen_. O! nid oes yn y nef ddim gweithio.
+
+ _Arth_. Wel, nid rhyfedd, gŵyr dyn, i chwi son am fynd yno,
+ Ond mi wranta na leiciwch chwi byth mo’ch lle,
+ Onid oes yno de a dybaco.
+
+ _Gwen_. O! mae gennych chwi chwedle drwg ysmala.
+
+ _Arth_. Nis gwn i, pe lleddid fi, pa’r un ysmaleiddia:
+ Mi aroses gyda chwi, hyll ei gwarr,
+ I ryw hewian ar yr hwya.
+
+ _Gwen_. Gobeithio y rhowch chwi cyn eich myned,
+ Fwyd eu lety, a minne cyn dloted.
+
+ _Arth_. Ni chei gennyf, tra b’wyf yn fy nghof,
+ Y tân a’m twymno, yr un tamed.
+
+ [_Diflanna_.
+
+ _Gwen_. Wele’r glân gwmpeini,
+ Dyma’r cysur sydd imi;
+ Cael fy hoetio a ’maetio ym mhob man,
+ Yn eger o ran fy niogi.
+
+ ’Rwy’n ofni ’ran diogi dygyn
+ Mai ’niwedd fydd marw o newyn;
+ Canys ni cha’i fymryn, y cwmni mwyn,
+ Yn fy ngwendid, o gŵyn gan undyn.
+
+ Ond gan i mi gael fy marnu’n waetha’,
+ Mi ddweda i chwi ’nghyffes, fel y gellwch fy nghoffa,
+ Os ca’i yma le i eistedd i lawr.
+ Drwy gwynion mawr mi gana’.—
+
+ (_Alaw_, “SWEET WILLIAM.”)
+
+ “Pob ladi o ddynes led ddiddeunydd,
+ Gwrandewch ar gwynion gwrach ddigynnydd;
+ Y fi sy’n adrodd fy musgrellni,
+ A maint o aflwydd a ddaeth imi,
+ Erwina digwydd, o ran diogi.
+
+ “Pan es i ddechre donie dinerth,
+ Trin y byd a phob rhyw drafferth,
+ Cefais ganwaith, cofus gen’i,
+ Am ddilyn mynych serthnych swrthni,
+ Golledion dygyn, o ran diogi.
+
+ “Pob trawsneiddwch trist anniddan,
+ Pob taeog walle yn tŷ ac allan,
+ Pob rhyw anhap a thrueni,
+ Pob aruthr ddamwain a ddaeth imi,
+ Anrhaith dugas; o warth diogi.
+
+ “Fy hyswieth doreth dyrus,
+ Aeth yn ofer waith anafus,
+ Y cig, y caws, a’r menyn gen’i,
+ A spwyliai’n aml o ran imi
+ Wneyd cam-drinogeth yn fy niogi.
+
+ “Gan hynny, ferched, ’rwy’n eich annog,
+ I gym’ryd siampl rhag troi’n ddiog,
+ Mae un anhwsmon yn well i’w gyfri,
+ Ac yn gynhesach nag anhyswi,
+ Lle bo redegog bâr a diogi.
+
+ “Mae’r gwr doeth yn rhoi canmolieth
+ I wraig dda rinweddol berffeth;
+ ’Rwyf finne’n llwyn wrthwyneb iddi,
+ Cymerwch rybudd o’m trueni,
+ Ym mhob ymddygiad gwyliwch ddiogi.”
+
+ [_Ymddengys Syr Rhys_.
+
+ _Rhys_. Pwy sy yma’n crugleisio mor luosog?
+
+ _Gwen_. Y fi sydd yma’n dlawd ac anghenog.
+
+ _Rhys_. O, mi welaf yma’n wâr,
+ Yr hen Wenhwyfar Ddiog.
+
+ _Gwen_. Wel, ’rwyf fi mewn cyflwr enbyd,
+ Na wn pa beth i’w wneuthyd.
+
+ _Rhys_. Mi ddysgaf fi, i’ch llonni yn llawn,
+ Fuddiol iawn gelfyddyd.
+
+ _Gwen_. Ni waeth i ti dewi â’th ddwndwr dibris,
+ Yr wy’n rhy hen i fynd yn brentis.
+
+ _Rhys_. O na, fe drefnwyd i chwi swydd ger bron,
+ A wneiff i chwi burion offis.
+
+ _Gwen_. Pe cawn i ryw offis fechan,
+ Rhag i mi newynu yn anian.
+
+ _Rhys_. Ffoledd newynu a chadw nad,
+ Tra fyddo’r wlad mor lydan.
+
+ A chwithe’n hen fenyw lysti am gerdded
+ Cewch gystal bywiolieth ag allech chwi weled,
+ A chwmni merched o le i le,
+ A’ch gwala o de i yfed.
+
+ Ond rhaid i chwi ddysgu’n ddwysgall,
+ Fedru dangos i fenywod annghall,
+ Eu ffortun yn dwt, mewn cwpan de,
+ Fel y gallont hwy’n ddie ddeall.
+
+ _Gwen_. Mae ofn na alia’i ddim oddiwrthi.
+
+ _Rhys_. Ni fu erioed beth hawsach, troi cwpan a’i throsi,
+ A dweyd peth a’u plesio, wrth eich pen eich hun,
+ Dyna’r cyfan, fe ŵyr dyn, am dani.
+
+ Nid rhaid i chwi fyth mo’r ame
+ Na ddywedwch y gwir o’r gore,
+ Ran y cythrel sy’n dysgu, ac yn trefnu’r tro,
+ Ac y fo sy’n gwirio’r geirie.
+
+ Dywedwch chwi y bydd rhyw un farw,
+ Fe tynn y diawl e’ i foddi neu dorri wddw’,
+ Ac i gyflawni’ch dywediad, mewn clymiad clir,
+ Dyna hynny’n wir am hwnnw.
+
+ _Gwen_. ’Rwy’n ame y dysga’i ar led osgo,
+ Ond nis gwn i a ydyw’n ddrwg ai peidio.
+
+ _Rhys_. Mae’r arfer honno wedi’i setlo’n syth,
+ Nid rhaid i chwi byth mo’r hidio.
+
+ Nid oes ond y dichell a chyfrysdra,
+ Yn mynd ymlaen yn y busnes yma,
+ Cans holi ac ymofyn i ddeall eu ysgwârs
+ Bydd y _fortune-tellers_ tala.
+
+ Lle gweloch wraig ieuanc iachus,
+ Yn berchen hen ŵr oedranus,
+ Dywedwch wrthi fod hwnnw ar dranc
+ Ac y ceiff hi ddyn ieuanc nwyfus.
+
+ A lle bo gŵr go ddawnus, a gwraig ddi-dd’ioni,
+ Dywedwch wrth hwnnw bydd farw’r hen ladi,
+ Ac y ceiff ail wraig o fenyw dêg,
+ Fwyneidd-deg, lwysdeg, lysti.
+
+ Felly dywedwch wrth bawb trwy wenieth,
+ Y peth a feddylioch a blesio’u naturieth;
+ Os plesiwch y merched ar hyd y byd,
+ Chwi gewch hoff hyfryd ffafreth.
+
+ Cerddwch trwy degwch hyd deie’r cymdogion,
+ Dysgwch ofer-ddadwrdd, a dehongli breuddwydion,
+ Chwi gewch fywolieth, mi wrantaf fi,
+ A chysgu a diogi digon.
+
+ _Gwen_. Iechyd i’th galon am fy nysgu,
+ Mi â’n _fortune-teller_ ore yng Nghymru,
+ Darllenaf desni mawr a mân,
+ A threiaf min tân lyg-tynnu.
+
+ Mi gaf bellach yn ddiballu,
+ Ar f’engoch, fywolieth fwyngu;
+ Mae dywedyd ffortun i ambell ffrynd,
+ Yn ddigrifach na mynd i grefu.
+
+ Yr wyf wedi cynhyrfu’n bendant,
+ A darn wylltio o ran fy llwyddiant;
+ Lle caffwy’ ’ngwrando’n rhuo’n rhwydd,
+ Mi bwnia gelwydd galant.
+
+ Ac os daw celwydd i beri canlyn
+ Mae’n hawdd gwneyd esgus cyn bo fo’n disgyn,
+ A thaflu’r cwbl drwbl drefn
+ Yn rhywiog ar gefn Rhywun.
+
+ Wel, nosdawch heno, cofiwch i mi’ch annog,
+ I feddwl am ddiwedd menyw ddiog,
+ Sy’n mynd ar hyd y byd ’ran diogi a bâr.
+ Yn _fortune-teller_ talog.
+
+ [_Diflanna_.
+
+ [_Ymddengys Esgob_.
+
+ _Esgob_. Mi ddois o’ch blaen, y cwmni hylwydd,
+ Dan enw tad yr holl eglwysydd;
+ Myfi yw swcwr, dyddiwr da,
+ Sylfaene cryfa crefydd.
+
+ [Picture: Yr Esgob. Darlun gan A. E. Elias]
+
+ Sant Paul gynt a roddodd urdda
+ I Timotheus, yr esgob cynta,
+ I oruwchlywodraethu’n siwr,
+ Yr Ephesied, yn wr hoffusa.
+
+ A Thitus hefyd, wynfyd iawnfodd,
+ Efe yn ddewisol a’i hurddasodd,
+ Ar y Cretiod yn esgob cryf,
+ Ei ddonie dwysgu ddysgodd.
+
+ Yr wyf finne’n deip o’r alwad honno,
+ Dan enw’r esgob mewn gwir osgo,
+ Yn dad eglwysydd odidog liw,
+ Hoff urddus, i’w hyfforddio.
+
+ [_Ymddengys Rhys_.
+
+ _Rhys_. Wele! Dafydd y Joci, a Thomas, a Jacob,
+ A Modryb Elin Ty’n ’r Ysgol, edr’wch lle mae’r esgob!
+ Da geny’n gymhwys gael lle â chwi ymgomio,
+ A wariwch eich ceiniog os darfu chwi’ch cinio?
+
+ _Esg_. Ewch, rôg _impudent_, oddiyma,
+ Gwrando’ch ynfydrwydd chwi ni fedra.
+
+ _Rhys_. Maddeuwch, f’arnglwydd, y tramgwydd trwch,
+ Yn rhodd na ddigiwch wrtha.
+
+ Mae gen i ewyllys yn fy nghalon,
+ Gael lle i fynd yn berson;
+ ’Rwy’n gweled y rhei’ny mewn gwlad a thre’
+ Yn o glos yn eu cobe gleision.
+
+ _Esg_. Taw, lolyn ynfyd lledffol,
+ A’th siarad ansynwyrol.
+
+ _Rhys_. Wel, mi wnawn, os oes gen i rhy fach stad,
+ Ficar neu gurad gwrol.
+
+ Mi ddarllena Gymraeg ar redeg,
+ A thipyn bach o Saesneg;
+ A pheth, fy meistr, ellwch chwi ddweyd,
+ Neu chwenych i mi wneyd ychwaneg?
+
+ _Esg_. A gai gennyt ti dewi, dywed,
+ A swnio dy ffol gamsynied.
+
+ _Rhys_. Wel, mi allaf wnenthur yn ddi lai,
+ ’Run synwyr a rhai personied.
+
+ Beth sydd i’w wneyd ond darllen ambell Sulgweth,
+ A thendio bedydd a chladdedigeth?
+ Mae’r llane bach yma, lawer pryd,
+ Heb rigwm yn y byd o bregeth.
+
+ Ac os pregethir weithie,
+ Nid rhaid mo’r poeni ac astudio’r penne;
+ Fe bryn dyn ddigon at iws y plwy’
+ Yn hawddgar am ddwy geinioge.
+
+ A pheth a nad imi fedru tendio,
+ A chodi ar y degwm pwy bynnag fo’n digio,
+ Ac oni thalant hwy bob peth,
+ Gwneyd iddynt trwy gyfreth gwafro.
+
+ Felly mi leiciwn yn fy nghalon,
+ Gael mynd yn ŵr eglwysig, i wisgo dillad gleision;
+ Pe t’rawech chwi gyda fi am le da,
+ Mi fyddwn mewn bara purion.
+
+ _Esg_. Ni fuost ti erioed, un ffol ei ledpen,
+ O fewn i Cambridge na Rhydychen.
+
+ _Rhys_. Ni chadd y rhai fu yno fawr wellhad,
+ Ni waeth i ni’n gwlad ein hunen.
+
+ _Esg_. Nid a neb i’r cyfryw swydde,
+ Heb fod yno’n profi eu donie.
+
+ _Rhys_. Mae’n hawdd medru rheol ddynol ddysg,
+ Sy’n gyffredin ym mysg yr offeiniade,—
+
+ Flowlio a hela, a chware cardie,
+ Ymladd ceiliogod, a thrin merchede,
+ Darllen papur newydd, fel y byddan’ nhw,
+ Ac yfed cwrw am y gore.
+
+ Mi fedra fyned trwy ddichellion,
+ ’Rhyd plase gwŷr bonddigion;
+ Dyna’r fan lle ca’i’n ddi feth,
+ Mewn barieth fywolieth burion.
+
+ Mi gaf ddweyd fy helynt a welwyf wrth ffowlio,
+ Pa fodd y bydd y tenantied yn contreifio;
+ Pa’r un fo’n dda ei lun, a pha’r un fo’n ddi les,
+ Fel caffwyf mewn gwres fy nghroeso.
+
+ Lle bo denant cryf i’w ganfod,
+ Rhaid dweyd gellir codi ar hwnnw hylldod;
+ A lle bo un gwan, eu hwylio ’nhw’
+ I orffen hwnnw yn hynod.
+
+ _Esg_. Mae’n hawdd gweled, pe cai ti gyfle,
+ Y gwneit ti’n hwylus ddrwg annele.
+
+ _Rhys_. Pe bawn i yn berson, a fydde bai
+ Am wneuthur fel y gwnelent hwythe?
+
+ _Esg_. Dos oddiyma i ofer ddwndro.
+
+ _Rhys_. Gobeithio nad ydych chwi ddim yn digio,
+ Rhag ofn, fy meistr, mewn trawsder trwch,
+ Y mynnwch fy ysgymuno.
+
+ _Esg_. Hawdd y galla’i wneuthur felly.
+
+ _Rhys_. Wel, beth os bydde arain i dalu?
+ Pe bai fastardied lond y fro,
+ Cai fy ’menydd ei safio am hyany.
+
+ Mae yn nghyfreth esgob ryw arfaeth osgo,
+ Bron mwy diawledig na chyfreth Llandeilo,
+ Mae ganddo gynffonne a blaene blin,
+ A llawer tin sydd tano.
+
+ Hwy ddaliant ychydig bach o fater
+ O gwrt i gwrt, ac o chwarter i chwarter;
+ Nid oes un blewyn yn eich plith
+ O fendith na chyfiawnder.
+
+ Ond yr arian sy’n gwneyd pob gwyrthie,
+ Er bod rhai dynion yn bostio eu donie;
+ Yr arian sy’n gyrru’r ysgolheigion rhydd,
+ I gyrredd y llefydd gore.
+
+ Ni bydd mab i boblach wladedd lwydion,
+ Ond ficer neu gurad gwaredd ei foddion;
+ Nid oes, wedi dysgu pob disgwrs,
+ Ond y gore ei bwrs am berson.
+
+ _Esg_. Paham y rhoddi di yma’n ddibaid,
+ Y cyfryw g’wilydd ar fugeiliaid?
+
+ _Rhys_. Ond am eu bod, gwybyddwch pam,
+ Yn wŷr diofal am eu defed.
+
+ Yr wyf fi’n cyff’lebu’n barod
+ Y rhai drwg i’r hyslau a’r drogod,
+ Heb hidio’n defed, doed a ddêl,
+ Nes cant hwy afel yn y cnyfod.
+
+ Mae un ysgub ddegwm gan ambell berson,
+ Yn werthfawrocach nag eneidie’r holl blwyfolion,
+ ’Ran os cant hwy ddim colled yn y degwm cu,
+ Hwy ant i gwerylu’n greulon.
+
+ Ac er iddynt weld y plwyfolion yn anaele,
+ Yn rhedeg yn chwidir ymhob rhyw bechode;
+ Ac yn mynd tuag uffern o’u blaene yn syth,
+ Ni chynhyrfant hwy byth mo’r pethe.
+
+ _Esg_. Pa beth all nac esgob na pherson gwisgi,
+ Aruthr yw’r hanes, wrth y rhei’ny?
+
+ _Rhys_. Beth yw gwaith bugail ond cadw, os gall,
+ Yr un fo mewn gwall rhag colli.
+
+ _Esg_. Onid ydys yn darllen ac yn gweddio,
+ Y modd y mae’r eglwys wedi apwyntio?
+
+ _Rhys_. Ni wnaiff gwas cyflog, mi wn yn dda,
+ Dan gellwer, ond lleia’ gallo.
+
+ Mae’r ffurfie hen ffasiwn mewn hoffusrwydd,
+ I borthi’r eneidie, onid aeth hynny’n annedwydd;
+ Ac fe godwyd llawer ymhob lle
+ Yn awr o ddegyme newydd.
+
+ Mae hynny’n arwydd union
+ I’r golwg, pa le mae’r galon;
+ A pha un ai degwm ai eneidie’r praidd
+ Sy’n gafaelu yng ngwraidd ei galon.
+
+ Ond wrth ffrwyth yr adwaenir pob pren a’i dyniad,
+ A farno a fernir, ni waeth hyn o lar’nad,
+ Onibai fod rhai’n cael gras Duw yn glir,
+ I dderbyn y gwir trwy gariad.
+
+ _Esg_. Och! Och druenus boenus bennod,
+ O feddwl hyn anfuddiol hynod,
+ Fod cyment llygredd trwy’r ddull hon,
+ Gall pob rhyw ddynion ddannod.
+
+ Mae’r fuchedd ddrwg yn amlwg ymlid,
+ Fel nod yw’r hyllfarn i ni trwy’r hollfyd,
+ Drygioni’n gwlad anurdda’n glir
+ Yr eglwys gywir oglud.
+
+ Mae achos mawr trwy deimlad
+ I ganu prudd alarnad,
+ Am weinidoglon Eglwys Dduw,
+ Mor hagar yw ei rhwygiad,—
+
+ (_Alaw_—“AMOR ELIS,” neu “IANTO’R COED.”)
+
+ “Clyw, Eglwys Loeger, ffraethber ffri,
+ Hap lwyra ’stad, pa le ’reist ti,
+ Yng nghanol d’urddol frawdol fri,
+ I’r fath drueni anian.
+ ’Nol dwediad Gildas atgas wawr,
+ Y gwyfaist awr yn gyfan;
+ Cans dy weinidogion sydd dan sêr,
+ Yn haeddu eger ogan.
+
+ “Trwm achos ofni’n enbyd sy,
+ Beth wneiff y wlad gyffredin lu,
+ Tra bo’r blaenoriaid harddblaid hy’,
+ Wedi’u dallu gan dywyllwch;
+ A’r dall truenus warthus wall,
+ Yn t’wyso’r dall, dyellwch
+ Mai yn y ffos, anniddos nerth,
+ Mewn galar serth, y syrthiwch.
+
+ “O! chwi rai deillion llyrfion llawn,
+ Sy’n sôn am Grist a’i ddidrist ddawn,
+ Ac heb adnabod eto’n iawn,
+ Mo’i hollol gyfiawn allu;
+ Pa fodd y byddwch, tristwch trwm,
+ Pan ddarfo swm rhesymu?
+ Ni feddwch geidwad yn eich plith,
+ Ond melldith, rhagrith rhygry’.
+
+ “Gan hynny profwn bawb ger bron,
+ Beth dâl rhyw enw llanw llon,
+ Am ffurfiau’r Eglwys hardd-ddwys hon,
+ Dyst oerion heb ystyried;
+ Na chael erioed iach oleu-ryw,
+ Gwirionedd Duw i’r ened,
+ A chym’ryd ffalster yn lle ffydd,
+ Bydd prudd y dydd diweddied.”
+
+ Ffarwel yn awr, yr wy’n mynd ymeth,
+ Gweddied pawb am wir wybodeth,
+ Dallineb ysbryd enbyd wawr,
+ Sy heddyw’n fawr ysyweth.
+
+ [_Diflanna_.
+
+ [_Ymddengys Ustus_.
+
+ _Ustus_. Mi ddes o’ch blaene,’r cwmni gweddus,
+ Yn awr ar osteg dan enw’r Ustus;
+ Gen i mae’r pen awdurdod ffraeth,
+ I wneyd llywodraeth fedrus.
+
+ Mae’r byd mor llawned o elynion,
+ Sef dynion gwresog o natur groesion,
+ Yn fawr eu brys mewn tref a bro,
+ Am yrngyfreithio yn frithion.
+
+ Yn ol eu holl gynddaredd erchyll,
+ A’u naws wenwynig, ni sy n ennill;
+ Oherwydd hynny mi alla’ yn hy,
+ Hap hynod, ganu pennill,—
+
+ (_Alaw_—“GONSET GRUFFYDD AP CYNAN.”)
+
+ “Chwychwi gyfreithwyr, barnwyr byd,
+ Dewch ynghyd, braf yw’n bryd,
+ Yma ar hyd, mewn mawr anrhydedd.
+ I ni mae’r mawredd ymhob man,
+ I ni yma’n awr mae’n fawr y fael,
+ Gwych a gwael a raid ein cael,
+ O, mor ddiffael yw mawrdra ffylied!
+ I ni mewn rhediad yn ein rhan,
+ Er bod y gyfraith rwyddfaith rad
+ Yn dda’n ei lle trwy ddawn wellhad;
+ Nyni’n mhob gwlad sy’n chwanog ledio,
+ Ffordd bo ni’n leicio, am eiddo a mael,
+ Wrth fedru chwareu mewn awch hy’,
+ Y gath ddwy gynffon yma’n gu,
+ ’Ry’m ni ymhob llu yn medru moedro
+ Dan gyfryw gwafro i gogio’r gwael.
+
+ “Tan rith cyfiawnder llawnder llwydd,
+ Yr y’m ni’n rhwydd yn trin ein swydd,
+ Rhaid in’ o’n gŵydd trwy guddio’n dyfes,
+ Os mynwn fantes yma i fyw,
+ Wrth ddweyd yn deg a thido’n dost,
+ O ddelio’n rhydost mae’r mawrhydi,
+ I gadarn godi, a llonni ein lliw.
+ Er teced cyfraith ffraethwaith ffri,
+ Ag arian hardd ni a’i gwyrwn hi,
+ I brynnu bri neu dorri’r dyrus,
+ Y wobr drefnus a wna’r tro,
+ I ni mae’r braint, i ni mae’r bryd,
+ I ni mae’r parch, i ni mae’r byd,
+ I ni o hyd mae hyder cywaeth,
+ Tra dalio cyfraith yn ein co’.”
+
+ [_Ymddengys Arthur_.
+
+ _Arthur_. A glywch, onid ydych chwi yn llafan lysti,
+ Ac yn gene pur lodog, i ganu baledi?
+ Bydde cwilydd gan lawer ddangos ei lun,
+ Y ffasiwn ddyn ddi-dd’ioni.
+
+ _Ust_. Ond y fi yw’r pen cyfreithiwr eglur,
+ ’Nol rhwym a rheol presennol synwyr,
+ Sydd yn trefnu i fynnu’n faith
+ Hynotaf gyfraith natur.
+
+ _Arth_. Os chwi yw’r cyfreithiwr, ’delw’i byth Lanfrothen,
+ Oni row’n i chwi agos dair a chweigen,
+ Pe dysgech chwi fine’n dwrne tost,
+ I ymgred a rhoi côst yn gywren.
+
+ ’Rwy’n ame pe bawn yn wr o gyfreth,
+ Y mynnwn diroedd beth didoreth;
+ Siawns am fod yn gnafus mewn dyrus daith,
+ Ac ystwrdio, na chawn waith stiwardieth.
+
+ _Ust_. Digon i bawb un busnes parod,
+ Nid iawn i neb ymgyrredd gormod.
+
+ _Arth_. Wel, dyma’r diawl ei hunan, hai, hwi, hai,
+ Yn bwrw’r bai ar bechod.
+
+ ’Does neb fwy’u rhaib a’u barieth,
+ Na phersonied a gwŷr y gyfreth,
+ Mi wn y cym’rech pe cae’ch chwi’ch bryd
+ I’ch rhan yr holl fyd ar unweth.
+
+ Dyma chwi â’ch cyfreithie a’ch papure parod,
+ Wedi dwyn yma’n erwin feddianne mân aerod,
+ Ac yspeilio llawer gŵr bonheddig da,
+ Drwy’ch dewrder a’ch awdurdod.
+
+ A pheth yw’r ymrysone sy rhwng personied,
+ Am y degwm a’r eglwysi, nid oes neb mor glosied,
+ Tri lle neu bedwar gan ambell un sydd,
+ Fel y mae’n gywilydd gweled.
+
+ _Ust_. Wel, beth am danoch chwithe’r hwsmyn,
+ Onid y’ch dueddol i fwy nag un tyddyn;
+ Mae trachwant Adda, trecha’ tro,
+ Ym mhawb, ’rwy’n coelio,’n canlyn.
+
+ _Arth_. Wel, dyma ni heb fedru,
+ Ond hau, a chau, a phlannu,
+ A chwi a’ch bath yn hel tir pob man,
+ I ddwyn ein rhan er hynny.
+
+ Y cyfreithwyr a’r personied,
+ A r siopwyr a’r apothecaried,
+ Yn dwyn hynny allont o diroedd cu,
+ I’w gwinedd, gael gwasgu’r gweinied.
+
+ Ac os bydd gŵr mawr a chanddo fater,
+ Fe’i caiff ef mewn gafel ar ei gyfer;
+ Ond am ddyn tlawd, O! sa’ di’n ol,
+ Mae hwnnw’n rhy ffol o’r hanner.
+
+ Och! faint o diroedd sydd wedi myned
+ Yn union i’r un sianel a thir yr hen Sioned:
+ Ond ni chuddir Dyffryn Clwyd â mŵg y dre’,
+ Daw melldith i’r gole i’w gweled.
+
+ _Ust_. Pechaduried y’m ni o’r taera,
+ Bob swyddog er oes Adda,
+ Nid oes di fai a sai’ yn dêg
+ I daflu carreg gynta’.
+
+ [_Diflanna_.
+
+ _Arth_. O, cais fynd mewn cyffro,
+ At y gyfreth ’rwyt ti’n gwefrio,
+ Am ysbio mantes a chael gwall
+ Ar ryw ddyn dall i’w dwyllo.
+
+ Chwi a glywsoch yma ar gyfer
+ Yr esgob a’r ustus yn ffrostio’u gwychder,
+ Mai nhw sy’n trefnu ac yn plannu i’n plith
+ Y fendith a’r cyfiawnder.
+
+ ’Roedd un yn bostio’i weddi a’i bregeth,
+ A’r llall mor gyfrwys yn bostio ’i gyfreth;
+ Ond y fi raid weithio a ffwndro’n ffest,
+ Gael talu am eu gorchest heleth.
+
+ Er eu bod hwy yn ymddyrchafu,
+ Bob un yn hollawl yn ei swydd a’i allu;
+ Gwaith yr hwsmyn sydd ar dwyn
+ Yn eu dal hwy’n fwyn i fyny.
+
+ Beth bynnag a fyddo beunydd
+ O g’ledi arnynt hwy trwy’r gwledydd,
+ Yr hwsmon truan ym mhob tre’
+ Raid ddiodde’r coste a’r cystudd.
+
+ Os digwydd bod rhyw helyntion,
+ Neu ymddigwd rhwng boneddigion;
+ Hwy daflant y cwbwl drwbwl drefn,
+ Mor esmwyth, ar gefn yn hwsmon.
+
+ [_Ymddengys Rhys_.
+
+ _Rhys_. Pwy sydd yma mor ddigysur,
+ Yn erthwch, ai chwi yr hen Arthur?
+
+ _Arth_. O! dos oddiyma, a thaw a son,
+ Mae’n swga gen i ddynion segur.
+
+ _Rhys_. Och fi! wr, pa beth a’ch cynhyrfodd?
+ Mae rhywbeth yn eich moedro chwi yn eich ymadrodd.
+
+ _Arth_. O! gofid y byd ac amryw beth,
+ Yn lanweth a’m creulonodd.
+
+ Och! pe clywsit ti gan daclused,
+ ’Roedd yr esgob a’r ustus yn ymffrostio’u gweithred,
+ Ac yn dweyd mai nhw, trwy’r byd yn glau,
+ Sy’n ethol, y ddau benaethied.
+
+ Ond y fi’r hwsmon gwirion goryn
+ Sydd ddydd a nos mewn gofid dygyn,
+ Yn gorfod, er maint eu braint a’u bri,
+ A’u trawsder hwy, dalu trostyn’.
+
+ _Rhys_. Wel, nid wrth ei phig mae prynnu cyffylog,
+ Ac ni wiw gyrru buwch i ddal ysgyfarnog;
+ Gwell i bawb y drwg a wypo’n llwyr
+ Na’r drwg nis gŵyr yn wasgarog.
+
+ Gan hynny, ’r hen wr hoew,
+ Gadewch gael chwart o gwrw;
+ Ni gawn ymgomio a swnio heb sen
+ Yn hynod uwch ben hwnnw.
+
+ _Arth_. Nid ydyw’r byd yn fforddio
+ Yr awrhon i mi fawr wario;
+ Ond nid a’i am beintyn sydyn syth
+ Yn ddigalon byth i gilio.
+
+ _Rhys_. Ni phrisiwn i ddraen fy hunan
+ Er eich tretio o werth un rotan.
+
+ _Arth_. ’Does dim i’w ddweyd, ’rwyt ti’n ddi feth,
+ Rhaid adde, ’n gydymeth diddan.
+
+ _Rhys_. Dyma at eich iechyd da chwi a minne.
+
+ _Arth_. Diolch yn fawr, mi yfa’ ’ngore;
+ Fel y gallwy’ ddisgwyl rhwydd-deb cry,’
+ Yn rhwyddach i werthu’r heiddie.
+
+ Mae gennyf dros gan’ hobed
+ O haidd wedi rhuddo, nid eiff byth cyn rhwydded:
+ Oni fedra’i’n rhywle gael cyfle cu
+ I lechian, a’i werthu’n wlychied.
+
+ _Rhys_. Hawyr bach! ni fu ’rioed beth hawsach,
+ Cym’ryd llafur da’n batrwm, pe b’ai’r llall butrach.
+
+ _Arth_. O, mi wn y cast er’s meityn byd,
+ I ymadel âg yd afiach.
+
+ ’Ran felly y gwela’i mewn tywyll a gole,
+ Bawb ag a allo’n twyllo’n mhob tylle;
+ Maent hwy’n gweled hynny’n fusnes da,
+ Ar f’einioes, mi gogiaf finne.
+
+ _Rhys_. O! tric nêt iawn i gogio’r ecseismon,
+ Rhoi’r sache a’r haidd wrth raffe yn yr afon,
+ Nid ydyw gwyr y _North_ am dwyllo’n wir
+ Wrth y Deheudir ond rhyw hedion.
+
+ Mae nhw yno ddydd Sul mor berffeth,
+ O gwrdd i gwrdd, o bregeth i bregeth;
+ Ar fore ddydd Llun, nid oes dim a’u gwellha,
+ Hwy fyddant yn gafra am gyfreth.
+
+ Mae rhai yn dwyn defed, a’r lleill yn bragu,
+ Rhai erill yn infformio, ac yn swnio achos hynny;
+ ’Does dim o’r fath ladron croesion crach
+ A gwyr Mynydd Bach am bechu.
+
+ _Arth_. Maen’ nhw’n ymhob man, ’rwy’n coelio,
+ A’u hewyllys bawb ’nol a allo;
+ Anfynych y ffeindir un glân di-feth,
+ Wrth ddirnad, heb rywbeth arno.
+
+ _Rhys_. Wel, yfwch i gadw’ch calon,
+ At iechyd da pob hwsmon.
+
+ _Arth_. Onibai’n bywyd a’n hiechyd ni,
+ Mi wn, byddech chwi’n o feinion.
+
+ _Rhys_. Gadewch heb rwystr eiste,
+ Mae digon o godiad ar gatal ac yde;
+ Chwychwi a’ch ffasiwn, hyn o dro,
+ All fforddio gwario o’r gore.
+
+ _Arth_. O, rhaid i mi edrych beth a wnelw’,
+ Pe gwydde ’meistr tir ’mod i yn cadw twrw,
+ Fealle y code fo bum punt yn y man
+ Ar fy nhyddyn o ran heddyw.
+
+ _Rhys_. Ha fab, rhag c’wilydd, ’dwy’i ddim yn coelio,
+ Mae amser i alaru ac amser i ddawnsio.
+
+ _Arth_. Oes, amser i bob amcan, mi wn fy hun,
+ Ond doeth ydyw’r dyn a’i hadwaeno.
+
+ _Rhys_. A oes ini amser beth yn ngweddill,
+ Y gallem ni heb anair ganu yma bennill?
+
+ _Arth_. Neb a wnelo heb anair un ffafr yn ffest,
+ Fe fydd iddo orchest erchyll.
+
+ _Rhys_. Wel, canwch chai gerdd i ddechre,
+ Ac yna’n fwynedd mi ganaf inne.
+
+ _Arth_. Dyna ben, mi ganaf gerdd fy hun,
+ Ni wn i fawr, fe ŵyr dyn, ar danne.
+
+ _Rhys_. Wrth gofio, dewch ac yfwch,
+ Ac yna’n well chwi genwch.
+
+ _Arth_. Dyma at ein hiechyd ni bob un,
+ Yr hwsmyn dygyn degwch.
+
+ Mi ganaf yma bennill cryno,
+ O glod i ni’n hunen heno,
+ Nyni yw’r dynion dewrion dw’,
+ Er maint maen’ nhw’n ei frolio,—
+
+ (_Alaw_—“PRINCE RUPERT.”)
+
+ “Yr hwsmon mwyn rhadlon hyfrydlon ei fryd,
+ Sy’n haeddu’i ddyrchafu a’i barchu trwy’r byd,
+ Er bod i’r brenin barch a braint,
+ A’r esgob enwog swyddog saint,
+ Mewn pwer foddus pwy ŵyr faint, pur fantes eu byd;
+ A’r ustus mawr ei ystyr,
+ A’r cownslors a’r cyfreithwyr, sy’n brysur eu bryd,
+ Trwy’r hwsmon a’i drafel mae’u gafel nhwy i gyd.
+
+ “Ond llafur yr hwsmon, wr esmwyth ei ryw,
+ Sy’n cynnal y brenin a’i fyddin yn fyw,
+ Efe sy’n llanw eu dannedd dig,
+ A’r bara, a’r caws, a’r bir a’r cig,
+ Pob lleidr balch â’n llwyd ei big, heb aredig i’r ŷd,
+ Gan yr hwsmon mae trinogeth,
+ Llin, gwlân, a holl raglunieth bywiolieth y byd,
+ Trwy’r hwsmon a’i drafel mae’u gafel nhwy i gyd.
+
+ “Yr esgob a rwysgant a’i ogoniant i’w gôt,
+ Rown i, onibai’r degwm, am ei reswm ef rôt,
+ Ac yntau’r deon fwynlon fant,
+ A’r offeiriadon chwerwon chwant,
+ Ar gefn y plwyf maen’ hwy a’u plant, a’u holiant o hyd,
+ Mae’n rhaid i’r gweilch bon’ddigedd,
+ Gael bara dan eu dannedd o rinwedd yr ŷd,
+ Trwy’r hwsmon a’i drafel mae’u gafel nhwy i gyd.
+
+ “Efe yw tad-bedydd pob gwledydd yn glir,
+ A phen pob celfyddyd rhai diwyd ar dir,
+ Rhaid i bob crefftwr gweithiwr gwan,
+ Ymofyn yr hwsmon iddo’n rhan,
+ Ni all neb fyw mewn tref neu lan, heb lunieth mewn pryd,
+ Digonedd o haidd a gwenith,
+ Sy’n porthi pob athrylith â bendith mewn pryd,
+ Trwy’r hwsmon a’i drafel mae’u gafel nhwy i gyd.”
+
+ _Rhys_. Wele, moliant i hwch Bryn Mulan,
+ Oni thawodd y gŵr a geran,
+ Pwy fuase’n disgwyl ei fod o,
+ Mor hynod am ei frolio’i hunan?
+
+ _Arth_. Wel, brolied pawb ei ore,
+ Mi ddywedes i’r gwir bob geirie.
+
+ _Rhys_. Os oes i bawb ganmol ei waith ei hun,
+ Rhaid i minne’n ddiddychryn ddechre,—
+
+ (_Alaw_—“SPAIN WENDDYDD.”)
+
+ “Wel, teimled a barned pob un,
+ ’Rwy’n chwennych gwneyd heddwch cytun,
+ Pa fodd y gall hwsmon gael lles,
+ Er cymaint ei rinwedd a’i wres,
+ Beth fydd e’n nes wrth feddu’n wir
+ Anrhydedd teg o ffrwythau tir,
+ Onibae fod gwlad faith râd a thref
+ Yn treulio’i foddion unicn ef?
+
+ A pheth a wnai’r hwsmon dan ’rhod,
+ Heb frenin a byddin yn bod,
+ Dysgawdwyr a sawdwyr i’w swydd,
+ Rhag blinion elynion di lwydd?
+ Y rhei’ny’n rhwydd wnai aflwydd noeth,
+ Yn neutu’r byd â’u natur boeth,
+ Onibai penaethied nerthol glau,
+ Ni fydde un heddwch î’w fwynhau.
+
+ “A’r ustus, ŵr trefnus bob tro,
+ Sydd berffeth a’i gyfreth i’w go’,
+ Yn taeru, ac yn rhannu ’mhob rhith,
+ Gyfiawnder, mewn plainder i’n plith:
+ Neu bydde melldith ym mhob man,
+ Lledrata a lladd trwy dref a llan,
+ Oni bai fod cyfraith araith wir,
+ Hi ai’n anrhaith hwyl ar fôr a thir.
+
+ “Mae pob galwedigeth ar dwyn,
+ Wedi’i threfnu a’i sefydllu’n bur fwyn
+ Fel cerrig mewn adail hwy wnan’,
+ Yn y murie rai mawrion a mân,
+ Pob un yn lân a geidw le,
+ I glod a thrinieth gwlad a thre’,
+ Pob swydd, pob sail, pob dail, pob dyn
+ Sy’n dda’n ei hardd sefyllfa’i hun.
+
+ “Mae’r deyrnas mewn urddas a nerth,
+ Gwedi’i rhol fel un corff lanw certh,
+ Yn y pen y mae’r synwyr a’r pwyll,
+ A’r galon yw’r golwg ar dwyll;
+ Y pen yw canwyll, cynnydd maeth,
+ Aelodau’r corff a’u lediwr caeth,
+ Mae’r dwylo a’r traed mewn daliad drud,
+ A’r bysedd bach tan bwyse’r byd.
+
+ “Nid alliff, deallwch, un dyn,
+ Fyw’n gryno yma heno arno’i hun,
+ Rhai’n barchus, neu drefnus iawn draw,
+ Rhai’n weinied yslafied islaw,
+ Pob un a ddaw a’i ben i’r ddôl,
+ Yn ol sefyllfa rhedfa rhol,
+ Fel cocys melin wedi rhoi
+ Rhwng ffyn y droell i’w phwnio i droi.
+
+ “Gan hynny ’rwy’n deisyf ar bob dyn,
+ Na ymffrostied yn ei alwad ei hun,
+ Ni ellir byw’n ddifyr ddi-wall
+ Mewn llwyddiant, y naill heb y llall;
+ Ow! barna’n gall, pwy bynnag wyd,
+ Fod rhaid i’r adar mân gael bwyd,
+ Mae pob sefyllfa a’i gyrfa’n gaeth,
+ I ogoneddu’r Hwn a’i gwnaeth.”
+
+ _Arth_. Wel, iechyd i’th goryn gwrol,
+ On’d oedd gennyt ti gerdd ryfeddol?
+ Ni wn i, pe buase hi yn ilawer lle,
+ Na wnaethe o’r gore yn garol.
+
+ _Rhys_. Wel, barned pawb o’r ddeutu,
+ Na chures i chwr ar ganu.
+
+ _Arth_. Ie, canmol dy waith wnei di yn dy wŷn
+ Nis gwn i fy hun mo hynny.
+
+ _Rhys_. Dyma at eich iechyd da chwi a minne,
+ Ni a yfwn gwrw, pwy bynnag oedd y gore.
+
+ _Arth_. Yn wir, mae arna i syched glân
+ Wrth wrando ar dy gân di gynne.
+
+ _Rhys_. Yfwch ddracht yn harti,
+ Hi wneiff i chwi ddinam dd’ioni.
+
+ _Arth_. Pe’r yfwn i gwrw cryf y King’s Head,
+ ’Wnai damed o niwed imi.
+
+ _Rhys_. ’Wnai gwrw yn y byd i chwi mo’r meddwi,
+ A chwithe’n wr â chorff cry’ lysti.
+
+ _Arth_. Wel, ni phrisiwn i byth yma flewyn pen,
+ Pe gwariwn heb gynnen gini.
+
+ _Rhys_. Pam y rhaid i chwi mo’r hidio,
+ A chennych ar eich tyddyn gyment eiddo?
+
+ _Arth_. Oes, mae gen i stoc dda, ac aur yn fy nghod.
+ Moes i mi ddiod eto!
+
+ Och! Beth fyddis nes er rhyw ddyferyn,
+ Dewch a dau chwart ar unweth, ni phery hyn ronyn;
+ Beth, codi i dendio’r ydych chwi,
+ Mae Cadi neu Fari’r forwyn?
+
+ Gan ddarfod i mi fynd i’m hafieth,
+ Mi fynna’ wneyd yma ryw lywodreth,
+ Yr awr geir yn llawen, ’cheir mo honno’n brudd,
+ Mi fynnaf inne lawenydd unweth.
+
+ Beth glywes i ddweyd wrth gofio,
+ Ond fyddi di weithie yn dawnsio?
+ ’Rwy’n ame dy weld gyda Neli’r Clôs
+ Ryw gyda’r nos yn hasio.
+
+ A ga’i gennyt roi yma dro go fychan,
+ Mi a fum yn ddawnsiwr glew fy hunan,
+ Ond mae’r byd yma’n sobri dyn ym mhob swydd,
+ Fe ddarfu’r awydd rwan.
+
+ _Rhys_. Wel, i’ch plesio chwi, mi ddawnsia i ngore,
+ Tyred y cerddor, hwylia dithe.
+
+ _Arth_. O! iechyd i’r galon, dyna wych o step,
+ Ow! tewch â’ch clep, f’ eneidie.
+
+ Bendith dy fam i ti, ’r Cymro hoew,
+ Gwaed y garreg! hwde gwrw,
+ Ac yfa’r cwbwl, y Cymro cu,
+ Ran ’rwyt yn ei haeddu heddyw.
+
+ _Rhys_. Oni fydde’n ffeind i chwithe’n fwyngu,
+ Ddawnsio tro, a chwithe’n medru?
+
+ _Arth_. Yr ydw’i am dani hi yn union dul,
+ Dechreued e’n gynnil ganu.
+ Dewch â’r hors peip i’ch ewythr Arthur,
+ A pheidiwch a’i chware hi’n rhy brysur.
+
+ _Rhys_. Dyna i chwi ddyn, awch wydyn chwant,
+ Yn canlyn y tant yn gywir.
+ O! iechyd i galon yr hen geiliog,
+ Dyna step yn c’lymu’n gynddeiriog.
+
+ _Arth_. Ni chlywai’n iawn gan faint y swn,
+ Mo’r tanne gan y clepgwn tonnog.
+
+ * * * * *
+
+ _Yn dangos ei fod yn feddw_, _yn_
+ _cysgu_, _a thoc yn siarad drwy ei hun_.
+
+ _Rhys_. Gorweddwch ar lawr y parlwr,
+ Dyna wely llawer oferwr.
+
+ _Arth_. Wel, cysgu yn y funud a wnaf fi,
+ Dondia nhw’i dewi â’u dwndwr.
+
+ _Rhys_. Ust! tewch, fy ’neidie, a nadu,
+ ’Dewch lonydd i’r gwr gael cysgu;
+ O! na wrandewch beth ddwed e’, gŵyr dyn,
+ Mae fe’n siarad trwy’i hun, mi wn hynny.
+
+ Wel, ni weles i erioed, mi allaf dyngu,
+ Un mor afreolus yn ei wely.
+
+ _Arth_. Hai, Robin, dilyn y da yn glos,
+ Dacw’r eidion yn mynd dros yr adwy.
+
+ _Rhys_. Wel, gan fod yr hen froliwr mor anodd ei riwlio,
+ Mi a’i gadawaf ar gyfer, boed rhyngddynt âg efo,
+ Ac a ddiangaf yn siwr heb dalu dim siot,
+ Fe geiff yr hen got ymgytio.
+
+ [_Diflanna Rhys_.
+
+ _Arth_. Wel, mae gen i feddwl, os byw fydda’,
+ Ddygyd caue Sion Ty Nesa’;
+ Mi gaf yno ddigonedd o frig ŷd,
+ Fe eiff y farchnad yn ddrud, mi wranta.
+
+ Mi gadwa’r ddas lafur hyd Wyl Ifan
+ Heb ei thorri, mae hi’n gryn werth arian,
+ Ac mae llofft yr ŷd cyn llawned a dalio;
+ I ddiawl, oni chasgla’i gan’punt eto.
+
+ Holo! gwaed canmil o gythreulied,
+ Dacw ddrws yr ysgubor yn llydan agored,
+ A’r moch a’r gwydde’n y llafur glân,
+ Hai, soch, hwy lyncan sached,
+
+ Gaenor, Cadi, Susan,
+ Dyma helynt hyllig, ceisiwch ddod allan.
+
+ [_Ymddengys Tafarnwr_.
+
+ _Taf_. _Hold_, ’rhoswch, peidiwch a thorri’r bwrdd,
+ Ydych yn chwenych mynd i ffwrdd ttw’ch hunan?
+
+ _Arth_. O! bendith fy mam am fy stopio’i dipyn,
+ Yr oeddwn i wedi gwylltio’n erwin.
+
+ _Taf_. Yr oeddych yu llywio’n ddrwg eich llun,
+ Ac yn siarad trwy’ch hun er’s meityn;
+ Fe ddarfu i chwi daflu a thorri cadeirie,
+ Dowch, ceisiwch hwylio i gychwyn adre.
+
+ _Arth_. O, dweyd y gwir i ti sy’n ffrynd,
+ Mae bwriad gen i fynd y bore.
+
+ _Taf_. Cawsoch bymtheg chwart yn gyson
+ O gwrw, mae hynny’u goron,
+ A’ch bwyd hefyd yn costio swllt,
+ Dyna chwe’ swllt yn union.
+
+ Talwch y siot heb hir ymdaeru.
+
+ _Arth_. Aroswch, gadewch imi edrych o’m deutu:
+ Mae’r dyn oedd gyda fi yn hyn o le?
+ Bydde yn deilwng iddo ynte dalu.
+
+ _Taf_. Os daftu hwnnw ddiauc allan,
+ Y chwi geiff ateb am y cyfan.
+
+ _Arth_. Dyna esiampl i bawb lle bynnag y bo,
+ I edrych ato’i hunan.
+
+ _Taf_. Dewch, oni thelwch chwi yn y funud,
+ Cewch dalu rhagor ar fyrr ennyd.
+ ‘Da’i ddim i ddadle â chwychwi,
+ Ond diolch i chwi am eich coegni.
+
+ [_Diflanna Tafarnwr_.
+
+ _Arth_. Diolch i tithe, chwilgi tôst,
+ Am fwgwth cost mor wisgi.
+
+ Nage, glywsoch chwi, bobl glysion,
+ Goeced oedd yr hangmon:
+ Mi glywswn arnaf, pan oedd e’n flin,
+ Roi cic yn ei din e, ’r dynion.
+
+ A welwch chwi, dyma’r peth geiff dyn truan,
+ Ar ol colli’i gôf, a gwario’i arian;
+ Tafod drwg, a’i alw’n fochyn bo lol,
+ A’i bacio’n hollol allan.
+
+ A phe gyrrwn y wraig neu rywun o’m cartre
+ I geisio llwyed o’u burum hwy fory’r bore;
+ Er maint a waries yma’n llym,
+ Ni chawn i ddim heb ddime.
+
+ Ac a weriwch chwi, ffylied garw,
+ Eich arian i garpie chwerw?
+ Bydde’n well gennyf o syched farw’n syth,
+ Nag y carwn i byth mo’u cwrw.
+
+ O! yr oedd diawl i’m dilyn,
+ Aros yma i hurtio ’nghoryn,
+ ’Ngholledu fy hun, a gwneud niwed caeth,
+ A ’muchedd yn waeth na mochyn.
+
+ Nis gwn i pa sut yr a’i adre,
+ Gan g’wilydd liw dydd gole;
+ Mae’r wraig er’s meityn, wrantaf fi,
+ Yn rhyw gyrion yn rhegu’i gore.
+
+ [_Diflanna Arthur_.
+
+ [_Ymddengys Rhywun_.
+
+ _Rhywun_. Dyma finne, Rhywun, mawr ei drueni,
+ ’Does neb yn cael mwy cam na myfi;
+ ’Rwy’n gysgod esgus celwydd llydan,
+ Fwy o’r hanner na’r diawl ei hunan.
+
+ Ar ol i rai wneuthur clwt o stori,
+ A chodi rhwng cymdogion ddrwg aneiri,
+ Ni bydd gan gelwyddwr ddim i’w wneyd
+ Ond rhuo mai Rhywun a glywodd e’n dweyd.
+
+ Ac weithie geilw rhai fi’n frân,
+ Ac a godant yn fy nghysgod gelwydd glân,
+ Fe dyngiff y llall ynte’r mawr lw,
+ Mi glywes rywbeth gyda Nhw.
+
+ Ac felly’n gysgod celwydde coegfall,
+ Y Nhw fyddai weithie, Bran waith arall,
+ Weithie’n Hen-wr gan bawb ohonyn,
+ Gwaetha rhuad, ac weithie Rhywun.
+
+ Ac nid yw’r henwe hyn i gyd,
+ Ond esgus celwydd ’rhyd y byd,
+ Abwyd cnawdol am fach Satan,
+ I safio’r drwg i amlygu ei hunan.
+
+ O, chwi wragedd y tê a’r ffortun,
+ Nid oes ond y celwydd yn eich canlyn;
+ Ow! beth a wneir, pan ddel mewn pwyll
+ I’r gwyneb y twyll a’r gwenwyn?
+
+ A gwragedd y piseri sy’n rhai o’r siwra,
+ A’r gof a’r melinydd ddylase fod ymlaena,
+ A’r holl bobl gerdded sy’u dwad gerllaw,
+ Drwy gamwedd draw ac yma.
+
+ A’r gweinidogion ffals eu dygied
+ Fydd yn achwyn chwedle i’w meistried,
+ A’r holl rodreswyr fydd yn dwad ar dro,
+ I ofalus weneithio am folied.
+
+ Ac felly trwy’ch cennad, y gynlleidfa,
+ Os rhynga’ch bodd i wrando arna’,
+ Mi ganaf gerdd i ddeisyt yn ddygyn
+ Na roddoch ormod ar gefn Rhywun,—
+
+ (_Alaw_—“SPANISH HAVEN.”)
+
+ “Pob rhyw ddyfeisgar feddylgar ddyn,
+ A phob ystraeol wagffol un,
+ A wnelo hyn ohono ei hun,
+ I daenu gwŷn a gwenwyn;
+ A phan ddelo ar ffrwst ryw drwst i droi,
+ Gwneiff pawb esgusion am le i ’sgoi,
+ Ac felly’r anair a gaiff ei roi
+ Ar Rywun.
+
+ “Mae’n natur hon yn glynu’n rhwydd,
+ Pan bechodd Adda sertha swydd,
+ Rhodd yntau ar Efa, llesga llwydd,
+ Y bai a’r digwydd dygyn;
+ Ac ar y sarff y rhoddes hi,
+ A hyn yw’r nod o’n hanwir ni,
+ Hoff gennym fyth roi’r euog fry
+ Ar Rywun.
+
+ “Gan hynny gwelwn wraidd ein gwall,
+ Na byddir nes trwy ddyfes ddall.
+ Er taflu’r llwyth o’r naill i’r llall,
+ Mewn coegfall oerwall erwin;
+ Ni chafodd Adda un lle i ffoi,
+ Fe ddaeth y drwg heb hir ymdroi,
+ I’w ben ei hun er ceisio ei roi
+ Ar Rywun.
+
+ “Ac felly ninne, f’alle’n wir,
+ Drwy’r deyrnas hon ymhob rhyw sir,
+ Ansiriol siarad holiad hir,
+ A fftydir gan gyffredin;
+ Mae’r gair dew lid mewn gwir di lai
+ Fod ar benaethied amryw fai,
+ Fel hyn mae barn gan bob rhyw rai
+ Ar Rywun.
+
+ “Ond wedi’r cwbl drwbl drud,
+ O’r chwyrnu a’r barnu sy’n y byd,
+ Daw’r amser pan grynhoir ynghyd
+ Bob dirfawr fryd i derfyn;
+ Pan fo’r gydwybod flin yn cnoi,
+ ’Cheiff esgus ffals un lle i ffoi,
+ Sait pawb i’w tam, ni wiw ei roi
+ Ar Rywun.
+
+ “Gan hynny holed pawb ei hun,
+ Mae barn, rhag barn, yn dda i bob un,
+ Cydwybod oleu, ei llwybre a’i llun,
+ Sydd oreu i ddyn ei ddilyn;
+ Gwae lwytho arno ei hun glai tew,
+ Ni all llewpart newid lliw ei flew,
+ Pan d’wyno’r haul fe dodda rhew
+ Dydd Rhywun.”
+
+ Ni chana’i chwaneg, nosdawch heno,
+ Dyma gysgod y celwydd yn awr yn cilio,
+ Rhaid i bawb syfell dan ei faich ei hun,
+ Ni wiw am Rywun ruo.
+
+ [_Ymddengys Arthur_, _yn glaf_.
+
+ _Arthur_. Hai, how, heno, ’r cwmni eglur,
+ Dyma finne dan erthwch, yr hen Arthur,
+ Yn edrych am le i eistedd i lawr,
+ Gan ty ngwaew mawr a ’ngwewyr.
+
+ Fe’m trawodd rhyw glefyd chwerw,
+ Yr wy’n ofni y bydda’i marw,
+ Ow! bobl, bobl, ’does help yn y byd,
+ I’m tynnu o’r ergyd hwnnw?
+
+ ’Rwy’n gweled o ben bwy gilydd,
+ Fy mhechod, a nod annedwydd,
+ Cydwybod sydd i mi’n traethu ’nawr,
+ Fy nghastie, mae’n fawr fy nghystudd.
+
+ Dacw’r defed a ddyges, mi wn tros ddeugen,
+ Yn rhedeg ’rhyd y llethr, a dacw’r pec a’r llathen,
+ Dacw’r ŷd budr yng ngwaelod y sach,
+ Dacw’r pwyse bach aflawen.
+
+ Dacw’r llaeth tene, O! ’r felldith donnog,
+ Werthasom ganweth ddau chwart am geiniog;
+ A’r mân-yd yn y brith-yd, sy’n brathu fy nghalon;
+ Mi wnes gam diawledig â phobl dlodion.
+
+ ’Rwy’n gweled ar gyfer mewn gofid a chyffro,
+ Y gweithwyr a’m gweinidogion yn fy melldigo,
+ Mae’r ofn arna’i bydda’i ar ol mynd o’r byd,
+ Am bechod o hyd yn beichio.
+
+ Ow! oes yma neb a fedr weddio?
+ Na phregethwr, na doctor, yn hynod actio,
+ O! nid oes i’m hoedl i fawr o _drust_,
+ Ow! _physic_, ’rwy’i _just_ a phasio.
+
+ [_Ymddengys y Doctor_.
+
+ _Doctor_. _O dear heart_, _you are sick_, ’rwy’n cweled!
+
+ _Arth_. O meistr anwyl, ni fu hi erioed cyn erwined!
+ ’Rydwy’i bron marw’n ddigon siwr,
+ Coeliwch, mewn cyflwr caled!
+
+ _Doct_. _Let’s feel your wrist_, mae pyls chwi cweithio?
+
+ _Arth_. Oes rhywbeth yn ateb bydda’i fyw dipyn eto?
+
+ _Doct_. _Yes_, _yes_, _I hope you’ll come_ o’r core.
+
+ _Arth_. Iechyd i’r galon, os ca’i fyw tan y gwylie.
+
+ _Doct_. _Here’s drops for you_ i lonyddu’ch ysbrydoedd.
+
+ _Arth_. Os bydda’i marw fel ’nifel, ’da’i byth i’r nefoedd.
+
+ _Doct_. _Don’t be afraid_, mae Duw’n trugarog.
+
+ _Arth_. Ni waeth i chwi p’run, ’rwy’n ddiffeth gynddeiriog.
+
+ _Doct_. _I’ll warrant you_’n burion, mi ddof yma’r bore,
+ _To bleed you and bring some more_ cyffirie,
+ Cym’rwch a cadwch ddeiet dda,
+ Yn ddiddychryn hyn yna i ddechre.
+
+ [_Diflanna’r Doctor_.
+
+ _Arth_. Wel, bendith eich mam i chwi, meistr anwyl,
+ Ond a ddaethum yn well nag oeddwn yn ddisgwyl;
+ Rhaid gyru at y person i ddwyn ar go’,
+ Am roi gweddi, os bydd eisio, ddywsul.
+
+ Os fi geiff hoedl eto’n weddedd,
+ Mi feddyliaf lawer am fy niwedd,
+ Ni choelia’i nad ymadawa’i ar frys,
+ A’m holl afiachus fuchedd.
+
+ Mi af i bob cymanfa, lle byddo rhai duwiola,
+ A rhof elusen i’r tlawd, heb eiriach blawd na bara;
+ O! hoedl, hoedl eto, i ddarllen a gweddio!
+ Ow’r amser gwerthfawr rois yn gas, heb geisio gras yn groeso!
+
+ Duwioldeb, Duwioldeb, wyneb anwyl!
+ Tyred i’m dysgu! yr wy’n disgwyl
+ Y gwnei di fy ’fforddi, mae f’ ewyllys yn bur,
+ ’Nol dy archiad, i wneuthur dy orchwyl.
+
+ [_Ymddengys Madam Duwioldeb Crefydd_.
+
+ _Duwioldeb_. Pwy sydd yma, caetha’ cwyn,
+ Yn galw ar dwyn am dana’?
+
+ _Arth_. Hen bechadur heb fod yn iach,
+ Sydd a’i galon bach yn gwla.
+
+ [Picture: Marwolaeth y Cybydd. Darlun gan A. E. Elias]
+
+ _Duwi_. Fel hyn bydd llawer hen bechadur,
+ Pan ddelo clwy’ neu ddolur,
+ Er iddynt son am grefydd sant,
+ Hwy ant eto wrth chwant eu natur.
+
+ _Arth_. O! Duwioldeb, ’da’i byth i ildio,
+ Mi ddof i dy ddilyn, pwy bynnag a ddelo;
+ Ac a wnaf bob rhyw beth a f’och di’n bur,
+ Drwy gysur, yn ei geisio.
+
+ Mi adawaf arian i’r tylodion,
+ ’Rwy’n meddwl fod hynny’n weithred raslon;
+ Ac mi dderbynia’r pregethwyr gore i’r tŷ,
+ ’Rwy’n bwrw fod hynny’n burion.
+
+ Ac mi wna’r peth a fynnir byth yn fwynedd,
+ Ym mhob rhyw gariad, os ca’i drugaredd;
+ Gweddied pawb gyda fi hyn o dro
+ Am iechyd i ymendio ’muchedd.
+
+ _Duwi_. Duw roes glefyd i’th rybuddio,
+ A barodd i’th gydwybod ddeffro;
+ Ac yn rhoddi it’ dduwiol ras,
+ Hoff addas i’th hyfforddio.
+
+ _Arth_. Iechyd i’th galon di, Grefydd dyner
+ ’Rwy’n teimlo fy hun wedi gwella llawer.
+
+ _Duwi_. Deui eto’n iachach nag yr wyd,
+ Am hynny cwyd o’th gader.
+
+ _Arth_. Wel, dyma fi ar fy nhraed yn rhodio.
+ Y cwmni mwyndeg, ’rwy’n ame gwna’i mendio;
+ Ni welsoch chwi ’rioed un mor ddi-fai,
+ Yn ddi ddowt ag fydda’i eto.
+
+ _Duwi_. Gwylia’n odieth ar dy fynediad,
+ A chymer ofal mawr trwy brofiad;
+ Os dy ddwylo ar yr aradr a roi fel Paul,
+ Ni wiw i ti edrych ar dy ol.
+
+ Cofia Gain a’i aberth cyndyn
+ A gwraig Lot a ddarfu gychwyn;
+ Balam gynt a garodd wobre.
+ Pob un o’r rhai’n aeth dros y llwybre.
+
+ Cofia swydde Saul a Suddas,
+ Yn rhybudd cymer dymer Demas,
+ A chofia Agrippa, frenin oerddig,
+ A ddaeth yn Gristion o fewn ’chydig.
+
+ _Arth_. ’Does dim sy gryfach na duwiol grefydd,
+ Pe dysgit ti Gaenor, fy ngwraig i, ar gynnydd;
+ ’Rwy’i er’s deugen mlynedd ’mynd i ’ngwely ’mlaena’,
+ Ac ni ddywedodd hi weddi erioed, mi dynga.
+
+ Mae hi am fynd yn gyfoethog wrth ofalu a gweithio,
+ Ond ni ddysgodd hi ’rioed na phader na chredo;
+ Mae gen i fy hun, oni bydda’i’n ddig,
+ Ryw grap diawledig arno.
+
+ Mi fyddwn i erioed yn gweddio rhyw ’chydig,
+ Wrth fynd trwy ddwr neu ryw ffordd ddychrynedig,
+ Neu ar fellt a tharane y cofiwn i am Dduw,
+ Ond bellach byddaf byw’n o bwyllig.
+
+ Felly, Duwioldeb, mae gen i rwan
+ Ryw chwant ac ’wyllys i roi tro tuag allan.
+
+ _Duwi_. Cerddwch, a rhoddwch dro drwy gred,
+ Cofiwch eich adduned cyfan.
+
+ Meddyliwch wrth rodio draw ac yma
+ Ym mhlith eich pwer mai Duw a’i pia;
+ Gwyliwch roi’ch calon i garu’ch golud.
+ Rhag ofn i chwi golli ffordd y bywyd.
+
+ [_Diflanna Arthur_.
+
+ Yn ddrych i bechaduried byd
+ Cadd hwn ei adel am ryw hyd;
+ Yn awr mi ganaf bennill dygyn,
+ I hynod ystyr hyn o destyn,—
+
+ (_Alaw_—“SUNSELIA.”)
+
+ “Pwy heno’n wahanol, dduli dynol, all ddweyd,
+ Na ddarfu Duw gynuyg yn unig ei wneyd
+ Yn ddawnus feddiannol o reol ei ras,
+ Ond ein bod ni drwy bechod yn gwrthod yn gas;
+ Trwy glefyd a gloes, a llawer byd croes,
+ Trwy amryw rybuddion, arwyddion a roes;
+ Mae’n cynnyg oes gwiw i’r gwaetha sy’n fyw,
+ Rhyfeddwn ei foddion, mor dirion yw Duw.
+
+ “Mae’n cynnyg ymwared er trymed ein trwyth,
+ Rhag torri neu gospi’r ffigysbren di ffrwyth,
+ Mae’n erfyn caei blwyddyn er sugyn i’w sail,
+ Gan gloddio i’w adfywio, ac anturio rhoi tail;
+ Ac yna os dmwg wawr a fydd, er poen mawr,
+ Y farn a’r gair taeredd yw, Torr ef i lawr!
+ A hon yw’r farn ffri. O! crynwn mewn cri,
+ Rhag ofn mai rhai diffrwyth mewn adwyth y’m ni.”
+
+ [_Ymddengys Arthur wedi myned yn iach_.
+
+ _Arthur_. O! nid wyf ddim am gynnwys yma dduwiol ganu.
+ Llawer brafiach clywed lloie’n brefu,
+ Ac yn lle darllen a gweddio’r nos ar led
+ Mwyneiddiach gen i weled nyddu.
+
+ _Duwi_. Ow, ddyn truenus, gresynus anian,
+ Mae’n drist yr awel, a dro’ist ti rwan?
+
+ _Arth_. Beth bynnag a drois, ni chewch chwi’n drwch,
+ Mo’ch ’wyllys, cerddwch allan.
+
+ _Duwi_. Onid i mi mae’r addewid hynod,
+ O’r byd sy ’nawr, a’r byd sy i ddyfod?
+
+ _Arth_. Ni ches i o fantes wrth dy drin,
+ Un difyn, dal dy dafod.
+
+ _Duwi_. Wel, beth a ddarfu i chwi gynne addo?
+
+ _Arth_. Trymder fy nolur bâr im’ siarad dan fy nwylo.
+
+ _Duwi_. I b’le ’r eiff eich ened, meddyliwch hynny?
+
+ _Arth_. Mi gaf amser i fyfyrio ar ol y fory.
+
+ _Duwi_. Och! beth a wnei di, ddyn anraslon,
+ Pan ddel dy ddiwedd, gwannedd gwynion?
+
+ _Arth_. Beth a ga’i? Ond boddloni heb goll
+ I’r un digwydd a’r holl gymdogion.
+
+ _Duwi_. Gwae, gwae di, bechadur chwerw,
+ Unweth yn fyw, a dwyweth yn farw;
+ Ymroi i gysgu ar dy sorod,
+ ’Nol deffro unweth dy gydwybod.
+
+ Ti addunedest ger bron Duw,
+ Gwellhait dy fuchedd os cait fyw,
+ Yn awr troi ’nol i’th hen ffieidd-dra,
+ Fel hwch i’r dom, neu’r ci i’w chwydfa.
+
+ Y gŵr a gerydder yn fynychol,
+ Ac a g’leda ei watt annuwiol,
+ A ddryllir yn ddisymwth ymeth,
+ Fel na byddo meddyginieth.
+
+ [_Diflanna Duwioldeb_.
+
+ _Arth_. Wel, hawdd ganddi hi brablan a breblian,
+ Ni wiw i mi wrando pawb yn lolian,
+ Rhaid i mi bellach flaenllymu’r ddwy big,
+ A chodi yn o hyllig allan.
+
+ Nid oedd ond ffoledd a gofid calon
+ I mi fynd yn dduwiol ymysg rhyw Iddewon!
+ Yr ydwy’n meddwl nad oes gan neb fel fi
+ Gasach llancesi a gweision.
+
+ Nhw’ dyngan’ ac a regan, gan guro ac ymrwygo,
+ A ddryllio’r gêr o’u cwmpas, yn dawnsio ac yn campio,
+ A gwych gan eu calonne chware ambell wers,
+ O cric mi hers a horsio.
+
+ O! ’roedd acw helynt drwg anaele,
+ Tra fum i yn sal er’s dyddie,
+ Hwy wnaethon’ hefyd enbyd ŵg,
+ Mynn Elian, i mi ddrwg anaele.
+
+ Fe aeth dau lo bach i ollwng trwyddyn’,
+ Ddim byd ond o ddiogi edrych atyn’,
+ Ac ni choeliech chwi byth, y cwmni ffraeth,
+ Mor wachel yr aeth un mochyn.
+
+ A bu farw un hesbwrn, yr ydwy’n hysbys,
+ Mewn mieri yng nghaue Morys,
+ Ac ni fu wiw ’rwy’n siwr gan Gaenor na Sian
+ Fynd yno i ymg’leddu na chroen na gwlan.
+
+ ’Roedd y gweision a’r gweithwyr oll am y gwaetha,
+ Heb ronyn o fater ond cysgu neu fwyta;
+ Fe aeth y coffor a’r blawd, Och fi, cyn waced,
+ A dacw gasgen o ymenyn dest wedi myned.
+
+ ’Rwy’n ame’n ddigysur y rhoison’ hwy gosyn
+ I’r hen awff hurtedd a fydde’n dweyd ffortun,
+ Mi a’u clywes yn siarad ac yn cadw syrwrw,
+ Fod honno’n ymleferydd y byddwn i farw.
+
+ Ac nid ydwy’n ame llai mewn difri’,
+ Nad oeddynt hwy’n erfyn i mi farw i ’nghrogi;
+ Roedd fy nghlocs gan un o’r llancie’n y domen,
+ A’r llall yn dechre glynu yn yr hen wasgod wlanen.
+
+ Ac felly ni choeliech chwi, ’r cwmni enwog,
+ Hynny o greulon golledion llidiog,
+ A gefes i tra fum yn sâl,
+ Fe gostiodd imi dâl cynddeiriog.
+
+ Ac mi fum cyn ddyled ag addoli,
+ A hel pregethwyr acw i floeddio ac i goethi;
+ A garw’r cwrw a’r bara gwyn cann
+ A aeth yn rhan y rheiny.
+
+ Ac ’roedd gennyf botel frandi,
+ Fe lyncwyd hwnnw i’w grogi,
+ A cheirch i’w ceffyle hwy, hyn a hyn,
+ Onid oeddwn i’n cryn greuloni.
+
+ Hwy fwytason’ beth anaele,
+ Rhwng bacwn, biff, ac wŷe;
+ Siawns ond hynny don’ nhw i’n tŷ ni,
+ I goethi mo’u pregethe.
+
+ Yr holl gwmffwrdd calon ges i oddiwrthyn’
+ Oedd dangos fy nhŷ, a’m stoc, a’m tyddyn,
+ A llawnder fy ydlan, wiwlan wedd,
+ ’Roedd hynny’n rhyw rinwedd ronyn
+
+ Ond ar draws yr holl rinwedde,
+ ’Roedd diawl yn y tylwyth gartre’;
+ Ni choeliech chwi byth, am nonsens ffô!
+ Hynny ddaeth ar f’ol i o filie.
+
+ Fe ddaeth acw fil oddiwrth y siopwr,
+ Am friws a sena, nutmeg a siwgr,
+ A bara gwyn, a _biscuits_, pan oeddwn yn wan.
+ A gafwyd gan y pobwr.
+
+ Ac fe ddaeth acw gyfrif gerwin,
+ Rhwng _raisins_, _wine_, a _white-wine_,
+ A phob rhyw licier, a syber saig,
+ Fydde wrth fwriad y wraig a’r forwyn.
+
+ Hwy garieut acw’n gywren,
+ Yn f’enw i’r peth a fynnen’;
+ Hwy’m cym’rent i’n esgus dilys dw’,
+ Ac a lyncent hwnnw’u hunen.
+
+ Ni ddyfethes i yn ty nghlefyd,
+ Erioed gyment ag maent hwy’n ddywedyd;
+ Ond mi deles lawer yn mhob lle
+ O achos eu bolie bawlyd.
+
+ Ond mae’n debyg fod arnua’i eto gyfri’,
+ Gwmpas hanner coron i’r apoticeri,—
+ ’Rwy’n foddlon i dalu hynny fy hun,
+ Fe wnaeth y dyn beth d’ioni.
+
+ [_Ymddengys Doctor_.
+
+ _Doctor_. _How do_, ’rhen corff, daru’ch mendio’n clyfar?
+
+ _Arth_. Yr ydwy’n abl grymusdeg, bendith Huw i chwi, mistar.
+
+ _Doct_. Mae’n ta gen’ i’ch cweled ch’i mor _hearty_.
+
+ _Arth_. Mi fyddwn yn iachach pe cawn dalu ichwi.
+
+ _Doct_. _Here’s a bill for the whole cost_.
+
+ _Arth_. Wel, gobeithio nad ydych chwi ddim yn dôst.
+
+ _Doct_. _The total sum one guinea and a half_.
+
+ _Arth_. Aroswch, gadewch i mi edrych yn graff!
+
+ Y gini a hanner am gyn lleied a hynny?
+ Ai diawl a welodd etifedd y fagddu!
+ Dos oddiyma, leidar, gyda dy ledieth,
+ Onide, mi dala’ i ti am dy hudolieth.
+
+ _Doct_. Wel, mae ceny’ ffordd i godi’m cyflog,
+ Mi fynna’i cael nhw ar fyr bob ceiniog.
+
+ [_Diflanna Doctor_.
+
+ _Arth_. Ni chei m’onynt o’m bodd i,
+ Wyneb ci cynddeiriog.
+
+ Nagê, glywsoch chwi ’rioed, fy eneidie,
+ Y ffasiwn ddigywilydd gole?
+ Gofyn gini a hanner, â’i safn ar led,
+ Yn grôg y bo! am gan lleied siwrne.
+
+ Ni chefes i o’i _ddrugs_ a’i gelfi dygyn,
+ Erioed werth deunaw, pe ba’i fo wrth dennyn;
+ Mi feddylies y buase yn hyn o le,
+ Hanner cofon o’r gore i’r ceryn.
+
+ Yn lle hynny dyma gini a hanner,
+ Fydd raid imi dalu ar fyrder,
+ Er i mi wylltio a mynd o’m co’,
+ Mi wranta mynn e’ eto’i fater.
+
+ Ond ni choelia’i nad â’i tuag adre’ bellach,
+ Mi fydda’ o hyn allan am y byd yma’n hyllach;
+ Mi wna i bawb ganlyn ar eu gwaith,
+ Mi lainia, ac mi â’n saith greulonach.
+
+ [_Ymddengys Angau_.
+
+ _Angau_. _Stop you_, _old man_, _you are to be dead_.
+
+ _Arth_. Ni fedra’i fawr Saesneg, beth ddywed e’, Ned?
+
+ _Ang_. _You’ve refused to take warning_, _but now you shall see_.
+
+ _Arth_. Wel, mae ganddo ryw drwbwl, ’rwy’n meddwl, i mi.
+
+ _Ang_. _Now it is too late to prepare yourself_.
+
+ _Arth_. ’Rwy’n ofni mai baili mewn difri ydyw’r delff.
+
+ _Ang_. _Now in short time to death you are debtor_.
+
+ _Arth_. Mi waria ddegpunt cyn talu i’r Doctor.
+
+ _Ang_. _Thou shall soon go to eternal life_.
+
+ _Arth_. Fydde’n well i’r gwaich coeglyd gym’ryd hynny geiff.
+
+ _Ang_. _I’ll stay no more to keep you company_.
+
+ _Arth_. Wel, garw ydyw’r Saeson am siarad yn sosi.
+
+ _Ang_. _I have put my hand through my heart and breast_.
+
+ _Arth_. Beth sy fynno’r rôg â fi mwy na’r rest?
+ O! mae diawl yn ei ’winedd, fe daflodd ei wenwyn,
+ ’Rwy’n clywed fy hun yn crynu bob gronyn.
+
+ Ow! dyma fi ’n awr yn fy rhyfyg annuwiol,
+ Fel wedi cael fy nharo’n farwol!
+ Ow! Ow! pobl Dduw a ddarfum i ddibrisio,
+ Ni haeddwn i ond diawlied i fod tan eu dwylo.
+
+ O! meddyliwch, ddynion, am eich hir artre,
+ Fe fu rhai ohonoch chwi mewn clefyd fel finne,
+ Ac ar ol codi allan, yn pechu’n syth,
+ Heb deimlo byth mo’r pethe.
+
+ Ow’r hen bobl! os yw rhai ieuenc heb wybod,
+ Fe ddylech chwi feddwl fod eich oes bron a darfod,
+ Ac fealle lawer gwaith wedi bod yn sâl,
+ Dyma heno i chwi siampal hynod.
+
+ Felly ffarwel i chwi i gyd ar unweth,
+ Chwi wyddoch nad yw hyn ond rhyw _act_ neu chwar’yddieth:
+ Ond ni bydd gan Ange ond chware prudd,
+ Chwi welwch, ddydd marwoleth.
+
+ [_Diflanna Arthur_.
+
+ [_Ymddengys Rhys_.
+
+ _Rhys_. Wel, rhwydd-deb i bawb lle rhodio,
+ Os bydd meddwl gonest ganddo,
+ Ni ŵyr llawer un gychwyno’n ddi-rôl,
+ A ddaw e yn ol ai peidio.
+
+ Mae oferedd ymhob rhyw fwriad,
+ Sydd yn y byd mewn treigliad,
+ Gwagedd ac oferedd yw cyfoethog a thlawd,
+ Pan fo diwedd pob cnawd yn dwad.
+
+ Rhaid i bob llestr mawr a bychan,
+ Sefyll yn hynod ar ei waelod ei hunan;
+ Fe dderfydd y cynnwr’ a’r dwndwr dall,
+ Sy gan y naill ar y llall y rwan.
+
+ Er bod bai ar bawb, o frenin i gardotyn,
+ Ei faich ei hunan geiff pawb o honyn,
+ Pan fo’r gydwybod yn fyw a’r tafod yn fud,
+ Ni wiw treio dwedyd Rhywun.
+
+ Tyrd dithe’r cerddor, ’rwyt ti’n un corddyn,
+ Gwych gennyt lechu yng ngbysgod Rhywun,
+ Fe roed arno lawer sached swrth,
+ O gelwydd wrth dy ganlyn.
+
+ Wel, ni waeth i mi hyn o ffwndro,
+ Mae rhai wedi blino’n gwrando,
+ Nid oes gennyf finne, yn ol coethi cy’d,
+ Fater yn y byd er peidio.
+
+ Ond, begio’ch pardwn chwi beidio a chynhyrfu,
+ Mae eto gân ddiddan, ac yna ddiweddu,
+ Dymuned ar bawb sy am wrando’n glos,
+ Yn bresennol aros hynny,—
+
+ _Y Diwedd-glo_, _ar_ “GREECE AND TROY.”
+
+ “Pob diwyd doeth wrandawydd,
+ Sy’n profi’n bur bob arwydd,
+ Gan ddal mewn synwyr dedwydd
+ Yr hyn sy dda;
+ Mae lle i gael trwy deimlad,
+ Fel gwenwyn mewn gwahaniad,
+ O lysie gwael, heb syniad,
+ A leshâ!
+ Doethineb Duw mae’n eglur,
+ Sy’n dysgu pob creadur,
+ Yn ol natur yma i wneyd;
+ Pob peth sydd fel o’r dechre,
+ ’Nghylch cadw eu hen derfyne,
+ Ond dyn yn ddie, gallwn ddweyd;
+ Fe wnaeth y doeth Greawdydd
+ Y byd o bedwar defnydd,
+ A’i hylwydd law ei hun,
+ A thrwy ei ragluniaethe,
+ Mewn rheol ddynol ddonie,
+ Y byd ordeinie ar bedwar dyn.
+
+ “Ac wele’r pedwar penneth,
+ Bu heno mewn gwahanieth,
+ Rhyw olwg o’u rheoleth,
+ Yma’n rhwydd,
+ Mae rhai’n yn wrthddrych eglur
+ O bedwar defnydd natur,
+ Dwfr, Daear, Tân, ac Awyr,
+ Gywir swydd;
+ Y Dwfr yw’r elfen hyfryd,
+ ’Roedd Ysbryd Duw’n ymsymud,
+ O hyd ar wyneb hwn,
+ A theip o’r dwfr yn gymwys,
+ Yw gweinidogaeth eglwys
+ Sy’n tynnu’n hardd-ddwys,
+ Burddwys bwn;
+ Y Dwfr yw’r elfen ddiddig,
+ Sy’n llonni’r rhai sychedig
+ A’i fendigedig wawr;
+ Mae’n golchi’n budr aflwydd,
+ Mae’n cario o wlad bwy gilydd,
+ Mae’n peri budd i’r byd bob awr.
+
+ “A’r gyfraith iawnwaith unig,
+ Sydd deip o’r Tân llosgedig,
+ I buro pob llygredig
+ Oerddig wall,
+ Yn llosgadwy dân cyfiawnder,
+ O bob sothach, afiach, ofer,
+ Dylai’r gyfraith fod trwy burder,
+ Yn ddi ball;
+ A’r Brenin llaw alluog,
+ Sydd deip o’r Awyr wyntog,
+ Mewn arfog lidiog lef,
+ Mae’n chwythu tymhestlau heibio,
+ Mae’n gostwng dynion dano,
+ A Duw a’i nertho dan y nef!
+
+ “Wel, dyma’r ddull oddiallan,
+ Mae’r pedwar penneth anian
+ Fel peder elfen gyfan,
+ Yn eu gwaith;
+ Yr un gyffelyb arwydd,
+ Yw’r dyfnion bedwar defnydd,
+ Yn ngrym Crist’nogol grefydd,
+ Ufudd iaith’;
+ Corff dyn yw’r Ddaear ddiwad,
+ A’r Awyr yw’r anadliad.
+ Cynhyrfiad bywiol nerth.
+ A’r Tân yw’r gyfraith hynod
+ Sy’n argyhoeddi o bechod,
+ A’r Dwfr yw’r Efengyl wiwnod werth;
+ Gan hynny mae’r gair yn dywedyd,—
+ ‘Dewch bawb i’r dyfroedd hyfryd,’
+ Mae’r bywyd yma ar ben;
+ Er son am bob helyntion,
+ Adnabod ffyrdd ein calon,
+ Sydd reitia’ moddion i ni, Amen.”
+
+
+
+
+CYFFES Y BARDD.
+
+
+ WRTH edrych, aruthr adrodd,
+ Fy ystum, fel bum o’m bodd,
+ O hyd fy oes, di-foes daith,
+ Fyw yn ben-rhydd, fab arnhaith
+ Ymledu ’n annheimladwy
+ I fynnu ’mâr, fwy na mwy,
+ Dilynais, a diawl ynnwyf,
+ Bob cnawdol annuwiol nwyf,—
+ Nid oedd un o du ei ddiawl,
+ Am a allai, mwy hollawl,
+ Nag odid mewn rbyddid rhwydd,
+ Mwy’n fedrus am ynfydrwydd.
+
+ O! mor hylithr y llithrwn
+ I bob gwagedd serthedd swn
+ Ymhlith meddwon aflonydd,
+ A naws i’w dal, nos a dydd.
+
+ Fy chwedlau fu fach hudlawn,
+ Yn abwyd, neu rwyd yr awn;
+ Hualau, ar hyd heolydd,
+ Garw ei sain, o’m geiriau sydd;
+ Cig a physgod, i’m nodi,
+ Am foddio’ nwyf fyddwn i;
+ Mynych y bum ddymunol,
+ Am wneyd ffair menywod ffol;
+ Gweniaith a phob drygioni
+ Fu fy mhleser ofer i.
+
+ Och feddwl afiach foddion,
+ Ffieiddrwydd hynt y ffordd hon;
+ Mi ledais fel malwoden,
+ Lŷsg o’m hol i lesghau ’mhen;
+
+ A’m calon pan f’wi’n coelio,
+ Fy llysg drwg fydd yn llesg dro:
+ Nyth ydwyf, annoeth adail,
+ Deml y fall, nid aml ty ail;
+ Daear afluniaidd dywyll,
+ A llyn du, yn llawn o dwyll:
+ Tŵr annedd pob trueni
+ Yw ty nghalon eigion i.
+
+ A pha mwyaf gaf heb gudd,
+ O fwriad eu llaferydd,
+ Mwy-fwy mawr-ddrwg amlwg wŷn,
+ A swn dialedd sy’n dilyn;
+ Cyfyd cof, amryw brofiad,
+ O’m heuog, afrywiog frad;
+ Gan mor drwm yn y clwm clau
+ A chadarn fy mhechodau.
+
+ Och edrych eglur-ddrych glau
+ Helyntion y talentau;
+ Fy nhalent erbyn holi,
+ Gwaedd yw son, a guddiais i,
+ Tan fy llygraidd ffiaidd ffol,
+ Yn fy naear annuwiol.
+ Duw a roes, da yw ei rad,
+ Fy awenydd, fyw Ynad;
+ Minnau troes, mewn enaid rhydd,
+ I’r gelyn, er oer g’wilydd.
+
+ ’Mroddais, eisteddais yn stol
+ Gwatwarwyr, gnawd daearol;
+ Yn lle bod, hynod wiw hawl,
+ Ar lan afon, le nefawl,
+ Yn dwyn ffrwyth, at esmwythder,
+ Fel y pren plan, purlan pêr.
+
+ Ond Och! Ydwyf bechadur,
+ Fel llwyn sarff, neu ’fallen sur:
+ Ffigys-bren, neu wernen wyf,
+ Ddi-ffrwyth, hyd oni ddeffr’wyf;
+ Chwith yw’r farn, fy chwythu fydd,
+ Fel mân ûs ar fol mynydd,
+ Oni chaf, iawn awch ufydd,
+ Rym i ffoi trwy rwymau ffydd,
+ A chalon gwir ddychweliad,
+ I’m troi at faddeuant rhad.
+
+ I’r hyn Duw, o’m rhan dywyll
+ Rhwymau barn, rho i mi bwyll
+ I gydnabod mewn tlodi,
+ ’Th ras haeddianuol doniol Di,
+ Yn troi’r hadl, rai afradlon,
+ At weli, er mor bell y b’on.
+
+ Duw i’th ras yn urddas ne’,
+ Er mwyn fy enaid myn finne’,
+ Yn ollawl, gyflawn allan,
+ Fel pentewyn, tynn o’r tân,
+ Wael bechadur dolur dig,
+ A llesg adyn llosgedig.
+ Trywana fi o’m trueni,
+ Gwel dy fab gwael ydwy’ fi;
+ Dwg f’ enaid i’th drigfanne,
+ O fy Nuw, er ei fwyn E’.
+
+
+
+
+HANES HENAINT. 1799.
+
+
+ GLYWCH gwynfan clychawg anferth
+ Gan Brydydd annedwydd nerth:
+ Daeth henaint oed wth ynnwyf,
+ Dirfawr nych, a darfu’r nwyf.
+ I’m henaint ymwahanodd
+ Alar a meth lawer modd.
+
+ Methiant ar ffrwythiant ftraeth
+ Cry’ hoff helynt corftfolaeth,
+ O’m traed i’m pen daeth gwendid,
+ Cymysgrwydd, llesgrwydd, a llid:
+ Llid na bawn mor llydan bum,
+ A mynwesdeg mewn ystum,
+ Yn gallu canu cynneddf,
+ Liosog rym, lais a greddf.
+ Hwyl hyf oedd gennyf i gân,
+ Arwydd utgorn ar ddatgan;
+ Ond weithian, myned waethwaeth,
+ Bref braint, f’ysgyfaint sy gaeth;
+ Pesychu, mewn pwys uchel,
+ Fy ngrudd ei chystudd ni chêl;
+ Torri ’nghrib at fy niben
+ Mae’r byd—fe ddaw marw i ben.
+
+ Meirw wnaeth fy nhadmaethod,
+ A’m cyfeillion, feithion fod;
+ Chwithdod a syndod yw sôn,
+ Mewn gafael am hen gofion:
+ Drwy edrych, wrthrych warthryw
+ Yr ystum y bum i byw.
+ Fy athrylithr yn llithrig,
+ Ac gyda chwant, gwaed, a chig;
+ Ias fyw oedd fy ysfa i,
+ Anian burwyllt yn berwi;
+ Byw awch gynneddf bachgennyn,
+ A geidw gof, iawn ddof yn ddyn.
+
+ Dysgais i ddewrllais ddarllen,
+ Ar waith fy mhwys, wrth fy mhen;
+ A ’sgrifennu, mynnu modd
+ Rhieni, er mor anodd;
+ Byddai mam yn drwyngam dro,
+ Ran canwyll oedd rhinc honno;
+ Fy nghuro’n fwy annghariad,
+ A baeddu’n hyll, byddai ’nhad;
+ Minnau’n ddig o genfigen,
+ Câs o’m hwyl, yn cosi mhen,
+ Ac o lid, fel gwael adyn,
+ Llosgi ’ngwaith, yn llesg ’y ngwŷn.
+
+ Er hynny, ’n ol trefnu tro,
+ I’r un natur awn eto;
+ Ym mhob dirgel gornel gau,
+ Fy holl wiwfryd fu llyfrau;
+ ’Sgrifennwn res grai fynych,
+ Mewn hunan grwm yn nhin gwrych;
+ Symud bys, rhag ysbys gau,
+ Lle’n wallus, i’r llinellau;
+ A’m gwaith nos dangos wnai’r dydd,
+ Mor fywiog, a mawr f’awydd;
+ Fy holl wanc a’m llwyr amcan,
+ Ddarllain ac olrhain rhyw gân.
+
+ Amryw Sul, bu mawr y sias,
+ Trafaeliwn i Bentre’r Foelas,
+ At Sion Dafydd, cludydd clau,
+ Hoen lewfryd am hen lyfrau.
+ Ac Edward, enwog awdwr,
+ Pwyllus, ddeallus dda wr,
+ Taid Robin, Bardd Glyn y Glaw,
+ Fyw feithrin, fu fy athraw.
+ A Dafydd, llyfrgellydd gwiw,
+ Awdwr hoew-fraint o Drefriw:
+ Cynullwyr canu ollawl,
+ A hanesaidd henaidd hawl.
+
+ Bu feirw rhai’n, fu gywtain g’oedd.
+ Llwfr gollwyd eu llyfrgelloedd:
+ Amser a wisg frisg o frad,
+ Anwadal gyfnewidiad;
+ Amryw draill mawr droelli,
+ Fu yn fy amser ofer i.
+ Bu beirdd yn fy heirdd fywhau,
+ Gwest awen, megis duwiau;
+ Tomos, o Dai’n Rhos, dyn rhydd,
+ Ar wiwnaws yr awenydd;
+ Ei ddisgybl ef, ddwysgwbl un,
+ Lais hygoel, fum las hogyn,
+ A’i fynych ysgrifennydd,
+ Ar droiau’n ddiau drwy ddydd;
+ Gwaith prydyddion moddion mad,
+ Fu ddelwau fy addoliad.
+
+ O! mor werthfawr, harddfawr hyf,
+ Ac anwyl fyddai gennyf
+ Gwrdd Huw Sion, a’i gyson gerdd,
+ Bardd Llangwm, bwrdd llawengerdd;
+ A Sion, mewn hoewlon helynt,
+ Bu lew gerdd, o’r Bala gynt.
+ Ac Elis, wr dibris daith,
+ Y Cowperfardd, co’ purfaith;
+ A Dafydd, unydd anian,
+ Llanfair gynt, llawen fu’r gân;
+ A Iorwerth Ioan, lân wledd,
+ O Bodfari, byd fawredd;
+ Ac Ifan Hir, cu fwynhad,
+ Cyff amaith, ac offeiriad;
+ Y gŵr hwn, â gwawr heini
+ Prydydd, a’m priododd i:
+ A’r clochydd, brydydd breudeg,
+ Llon fu ’r dydd yn Llanfair deg,
+ A Sion Powel, gwirffel gân,
+ Wrth iau athrawiaeth Ieuan,
+ Gweuai seinber gysonbell
+ Hoew iach waith—nid haiach well.
+
+ Hyn o gyfeillion heini
+ Fu a’u sain yn fy oes i;
+ Wele ’rwyf, wae alar wynt,
+ Heno heb un ohonynt.
+
+ Ond mae tri, mewn llawnfri lled,
+ O heneiddfeirdd hoen aeddfed;
+ Rhys ab Sion, blaeuion y bleth,
+ Llên fyw awchrym, Llanfachreth;
+ A Rolant, arddeliant dda,
+ Llwyr belydr gerllaw’r Bala;
+ A Bardd Collwyn, glodfwyn glau,
+ Sydd nennawr ein swydd ninnau,
+ Fe ganodd fwy gynneddf wir,
+ Na’r un dyn bron adwaenir.
+ Dyma dri, caf brofi braint,
+ Eu mwyn hanes mewn henaint;
+ A henaint sy wehynydd,
+ A’i nod yw darfod bob dydd.
+
+ Wele wagedd, wael ogyd,
+ Cyfeillion, meillion fy myd,
+ Ni wiw rhyw edliw rhydlawd,
+ Broch i’w gnoi yw braich o gnawd;
+ Pa gred ymddiried am dda,
+ Siomiant yw pob peth s’yma;
+ Ni feddaf un f’ai addwyn,
+ I ddodi cerdd, neu ddweyd cwyn;
+ Marw Samwel, f’ymresymydd,
+ Cyfrinach bellach ni bydd.
+
+ Hynny sydd o hynaws hawl,
+ A nodded awenyddawl,
+ A myg maeth Prydyddiaeth dêg,
+ Yu Llundain mae enw llawndeg;
+ Ni waeth yma, noeth amod,
+ Ro’i’n lân fy nghân yn fy nghôd.
+
+ Aed cân fach bellach i’w bedd,
+ Yn iach ganu uwch Gwynedd;
+ Tra fo’r iaith, trwy ofer ol,
+ Beunydd, mor annerbyniol;
+ Yn enwedig bon’ddigion,
+ Leuad hwyr, yn y wlad hon;
+ Rhyw loddest ar orchest rhydd,
+ Yw holl wana’u llawenydd,
+ Cadw cwn, helgwn yn haid,
+ Hoffa tôn, a phuteiniaid,
+ Ac yfed gwin, drwy drin drwg,
+ A choledd twyll a chilwg;
+ Trwm adrodd trem edryd,
+ Llwm oer barch, mai llyma’r byd,
+ Na cheiff Bardd “Gardd o Gerddi,”
+ O fraint mo’r cymaint a’r ci.
+
+ Ond, er gwenwyn dewr gwannaidd,
+ Gwneyd diben f’awen pwy faidd?
+ Ffynnon yw a’i phen i nant
+ Ffrwd breiniol ffriw di briniant;
+ Dull geudwyll nid eill godi
+ Rhestrau hadl i’w rhwystro hi.
+
+ Er a welais o drais draw,
+ Rhai astrus am fy rhwystraw,
+ Ac er colli gwyr callwych,
+ Tra gallaf rhodiaf fy rhych.
+
+ Wynebu’r wyf at fy niben,
+ Llewyrch oer, fal Llywarch Hen;
+ A’m Cynddelw i’m canddaliad
+ Yw gwawr gwên fy awen fad;
+ Awen a ges, o wres rydd,
+ Ac awen sai’n dragywydd.
+
+ Gradd o Dduw yw gwraidd awen,
+ Bid iddo’n ffrwyth mwyth, Amen.
+
+
+
+
+Ôl-nodiad
+
+
+{9} Cerdd a wnaeth T. Edwards, o’r Nant, i Robert Parry Plas yn Green, i
+ofyn gwlan.
+
+{13} Ateb i Robert Davies, Nantglyn, a ofynasai am wreiddiol achos yr
+anghydfod a fu rhwng y Bonedd a’r Cyffredin, yn Ninbych, 1795. Dechreua
+cerdd Bardd Nantglyn fel hyn:—
+
+ “Tomos Edward, mi osodaf
+ Egwan eiriau, ac yn araf;
+ Brawd a thad parodwaith ydych,
+ O dŷ’r Awen. waed oreuwych;
+ A chan eich bod mor agos berthyn,
+ I chwi’n eglur,
+ Mwyn drwy fyfyr, mentrafofyn.—
+ Beth yw’r gwreiddyn ddygodd flagur,
+ Chwerw dyfodd,
+ Ac a ledodd rhwng ein gwladwyr?”
+
+
+
+
+***END OF THE PROJECT GUTENBERG EBOOK GWAITH TWM O'R NANT***
+
+
+******* This file should be named 2734-0.txt or 2734-0.zip *******
+
+
+This and all associated files of various formats will be found in:
+http://www.gutenberg.org/dirs/2/7/3/2734
+
+
+Updated editions will replace the previous one--the old editions will
+be renamed.
+
+Creating the works from print editions not protected by U.S. copyright
+law means that no one owns a United States copyright in these works,
+so the Foundation (and you!) can copy and distribute it in the United
+States without permission and without paying copyright
+royalties. Special rules, set forth in the General Terms of Use part
+of this license, apply to copying and distributing Project
+Gutenberg-tm electronic works to protect the PROJECT GUTENBERG-tm
+concept and trademark. Project Gutenberg is a registered trademark,
+and may not be used if you charge for the eBooks, unless you receive
+specific permission. If you do not charge anything for copies of this
+eBook, complying with the rules is very easy. You may use this eBook
+for nearly any purpose such as creation of derivative works, reports,
+performances and research. They may be modified and printed and given
+away--you may do practically ANYTHING in the United States with eBooks
+not protected by U.S. copyright law. Redistribution is subject to the
+trademark license, especially commercial redistribution.
+
+START: FULL LICENSE
+
+THE FULL PROJECT GUTENBERG LICENSE
+PLEASE READ THIS BEFORE YOU DISTRIBUTE OR USE THIS WORK
+
+To protect the Project Gutenberg-tm mission of promoting the free
+distribution of electronic works, by using or distributing this work
+(or any other work associated in any way with the phrase "Project
+Gutenberg"), you agree to comply with all the terms of the Full
+Project Gutenberg-tm License available with this file or online at
+www.gutenberg.org/license.
+
+Section 1. General Terms of Use and Redistributing Project
+Gutenberg-tm electronic works
+
+1.A. By reading or using any part of this Project Gutenberg-tm
+electronic work, you indicate that you have read, understand, agree to
+and accept all the terms of this license and intellectual property
+(trademark/copyright) agreement. If you do not agree to abide by all
+the terms of this agreement, you must cease using and return or
+destroy all copies of Project Gutenberg-tm electronic works in your
+possession. If you paid a fee for obtaining a copy of or access to a
+Project Gutenberg-tm electronic work and you do not agree to be bound
+by the terms of this agreement, you may obtain a refund from the
+person or entity to whom you paid the fee as set forth in paragraph
+1.E.8.
+
+1.B. "Project Gutenberg" is a registered trademark. It may only be
+used on or associated in any way with an electronic work by people who
+agree to be bound by the terms of this agreement. There are a few
+things that you can do with most Project Gutenberg-tm electronic works
+even without complying with the full terms of this agreement. See
+paragraph 1.C below. There are a lot of things you can do with Project
+Gutenberg-tm electronic works if you follow the terms of this
+agreement and help preserve free future access to Project Gutenberg-tm
+electronic works. See paragraph 1.E below.
+
+1.C. The Project Gutenberg Literary Archive Foundation ("the
+Foundation" or PGLAF), owns a compilation copyright in the collection
+of Project Gutenberg-tm electronic works. Nearly all the individual
+works in the collection are in the public domain in the United
+States. If an individual work is unprotected by copyright law in the
+United States and you are located in the United States, we do not
+claim a right to prevent you from copying, distributing, performing,
+displaying or creating derivative works based on the work as long as
+all references to Project Gutenberg are removed. Of course, we hope
+that you will support the Project Gutenberg-tm mission of promoting
+free access to electronic works by freely sharing Project Gutenberg-tm
+works in compliance with the terms of this agreement for keeping the
+Project Gutenberg-tm name associated with the work. You can easily
+comply with the terms of this agreement by keeping this work in the
+same format with its attached full Project Gutenberg-tm License when
+you share it without charge with others.
+
+1.D. The copyright laws of the place where you are located also govern
+what you can do with this work. Copyright laws in most countries are
+in a constant state of change. If you are outside the United States,
+check the laws of your country in addition to the terms of this
+agreement before downloading, copying, displaying, performing,
+distributing or creating derivative works based on this work or any
+other Project Gutenberg-tm work. The Foundation makes no
+representations concerning the copyright status of any work in any
+country outside the United States.
+
+1.E. Unless you have removed all references to Project Gutenberg:
+
+1.E.1. The following sentence, with active links to, or other
+immediate access to, the full Project Gutenberg-tm License must appear
+prominently whenever any copy of a Project Gutenberg-tm work (any work
+on which the phrase "Project Gutenberg" appears, or with which the
+phrase "Project Gutenberg" is associated) is accessed, displayed,
+performed, viewed, copied or distributed:
+
+ This eBook is for the use of anyone anywhere in the United States and
+ most other parts of the world at no cost and with almost no
+ restrictions whatsoever. You may copy it, give it away or re-use it
+ under the terms of the Project Gutenberg License included with this
+ eBook or online at www.gutenberg.org. If you are not located in the
+ United States, you'll have to check the laws of the country where you
+ are located before using this ebook.
+
+1.E.2. If an individual Project Gutenberg-tm electronic work is
+derived from texts not protected by U.S. copyright law (does not
+contain a notice indicating that it is posted with permission of the
+copyright holder), the work can be copied and distributed to anyone in
+the United States without paying any fees or charges. If you are
+redistributing or providing access to a work with the phrase "Project
+Gutenberg" associated with or appearing on the work, you must comply
+either with the requirements of paragraphs 1.E.1 through 1.E.7 or
+obtain permission for the use of the work and the Project Gutenberg-tm
+trademark as set forth in paragraphs 1.E.8 or 1.E.9.
+
+1.E.3. If an individual Project Gutenberg-tm electronic work is posted
+with the permission of the copyright holder, your use and distribution
+must comply with both paragraphs 1.E.1 through 1.E.7 and any
+additional terms imposed by the copyright holder. Additional terms
+will be linked to the Project Gutenberg-tm License for all works
+posted with the permission of the copyright holder found at the
+beginning of this work.
+
+1.E.4. Do not unlink or detach or remove the full Project Gutenberg-tm
+License terms from this work, or any files containing a part of this
+work or any other work associated with Project Gutenberg-tm.
+
+1.E.5. Do not copy, display, perform, distribute or redistribute this
+electronic work, or any part of this electronic work, without
+prominently displaying the sentence set forth in paragraph 1.E.1 with
+active links or immediate access to the full terms of the Project
+Gutenberg-tm License.
+
+1.E.6. You may convert to and distribute this work in any binary,
+compressed, marked up, nonproprietary or proprietary form, including
+any word processing or hypertext form. However, if you provide access
+to or distribute copies of a Project Gutenberg-tm work in a format
+other than "Plain Vanilla ASCII" or other format used in the official
+version posted on the official Project Gutenberg-tm web site
+(www.gutenberg.org), you must, at no additional cost, fee or expense
+to the user, provide a copy, a means of exporting a copy, or a means
+of obtaining a copy upon request, of the work in its original "Plain
+Vanilla ASCII" or other form. Any alternate format must include the
+full Project Gutenberg-tm License as specified in paragraph 1.E.1.
+
+1.E.7. Do not charge a fee for access to, viewing, displaying,
+performing, copying or distributing any Project Gutenberg-tm works
+unless you comply with paragraph 1.E.8 or 1.E.9.
+
+1.E.8. You may charge a reasonable fee for copies of or providing
+access to or distributing Project Gutenberg-tm electronic works
+provided that
+
+* You pay a royalty fee of 20% of the gross profits you derive from
+ the use of Project Gutenberg-tm works calculated using the method
+ you already use to calculate your applicable taxes. The fee is owed
+ to the owner of the Project Gutenberg-tm trademark, but he has
+ agreed to donate royalties under this paragraph to the Project
+ Gutenberg Literary Archive Foundation. Royalty payments must be paid
+ within 60 days following each date on which you prepare (or are
+ legally required to prepare) your periodic tax returns. Royalty
+ payments should be clearly marked as such and sent to the Project
+ Gutenberg Literary Archive Foundation at the address specified in
+ Section 4, "Information about donations to the Project Gutenberg
+ Literary Archive Foundation."
+
+* You provide a full refund of any money paid by a user who notifies
+ you in writing (or by e-mail) within 30 days of receipt that s/he
+ does not agree to the terms of the full Project Gutenberg-tm
+ License. You must require such a user to return or destroy all
+ copies of the works possessed in a physical medium and discontinue
+ all use of and all access to other copies of Project Gutenberg-tm
+ works.
+
+* You provide, in accordance with paragraph 1.F.3, a full refund of
+ any money paid for a work or a replacement copy, if a defect in the
+ electronic work is discovered and reported to you within 90 days of
+ receipt of the work.
+
+* You comply with all other terms of this agreement for free
+ distribution of Project Gutenberg-tm works.
+
+1.E.9. If you wish to charge a fee or distribute a Project
+Gutenberg-tm electronic work or group of works on different terms than
+are set forth in this agreement, you must obtain permission in writing
+from both the Project Gutenberg Literary Archive Foundation and The
+Project Gutenberg Trademark LLC, the owner of the Project Gutenberg-tm
+trademark. Contact the Foundation as set forth in Section 3 below.
+
+1.F.
+
+1.F.1. Project Gutenberg volunteers and employees expend considerable
+effort to identify, do copyright research on, transcribe and proofread
+works not protected by U.S. copyright law in creating the Project
+Gutenberg-tm collection. Despite these efforts, Project Gutenberg-tm
+electronic works, and the medium on which they may be stored, may
+contain "Defects," such as, but not limited to, incomplete, inaccurate
+or corrupt data, transcription errors, a copyright or other
+intellectual property infringement, a defective or damaged disk or
+other medium, a computer virus, or computer codes that damage or
+cannot be read by your equipment.
+
+1.F.2. LIMITED WARRANTY, DISCLAIMER OF DAMAGES - Except for the "Right
+of Replacement or Refund" described in paragraph 1.F.3, the Project
+Gutenberg Literary Archive Foundation, the owner of the Project
+Gutenberg-tm trademark, and any other party distributing a Project
+Gutenberg-tm electronic work under this agreement, disclaim all
+liability to you for damages, costs and expenses, including legal
+fees. YOU AGREE THAT YOU HAVE NO REMEDIES FOR NEGLIGENCE, STRICT
+LIABILITY, BREACH OF WARRANTY OR BREACH OF CONTRACT EXCEPT THOSE
+PROVIDED IN PARAGRAPH 1.F.3. YOU AGREE THAT THE FOUNDATION, THE
+TRADEMARK OWNER, AND ANY DISTRIBUTOR UNDER THIS AGREEMENT WILL NOT BE
+LIABLE TO YOU FOR ACTUAL, DIRECT, INDIRECT, CONSEQUENTIAL, PUNITIVE OR
+INCIDENTAL DAMAGES EVEN IF YOU GIVE NOTICE OF THE POSSIBILITY OF SUCH
+DAMAGE.
+
+1.F.3. LIMITED RIGHT OF REPLACEMENT OR REFUND - If you discover a
+defect in this electronic work within 90 days of receiving it, you can
+receive a refund of the money (if any) you paid for it by sending a
+written explanation to the person you received the work from. If you
+received the work on a physical medium, you must return the medium
+with your written explanation. The person or entity that provided you
+with the defective work may elect to provide a replacement copy in
+lieu of a refund. If you received the work electronically, the person
+or entity providing it to you may choose to give you a second
+opportunity to receive the work electronically in lieu of a refund. If
+the second copy is also defective, you may demand a refund in writing
+without further opportunities to fix the problem.
+
+1.F.4. Except for the limited right of replacement or refund set forth
+in paragraph 1.F.3, this work is provided to you 'AS-IS', WITH NO
+OTHER WARRANTIES OF ANY KIND, EXPRESS OR IMPLIED, INCLUDING BUT NOT
+LIMITED TO WARRANTIES OF MERCHANTABILITY OR FITNESS FOR ANY PURPOSE.
+
+1.F.5. Some states do not allow disclaimers of certain implied
+warranties or the exclusion or limitation of certain types of
+damages. If any disclaimer or limitation set forth in this agreement
+violates the law of the state applicable to this agreement, the
+agreement shall be interpreted to make the maximum disclaimer or
+limitation permitted by the applicable state law. The invalidity or
+unenforceability of any provision of this agreement shall not void the
+remaining provisions.
+
+1.F.6. INDEMNITY - You agree to indemnify and hold the Foundation, the
+trademark owner, any agent or employee of the Foundation, anyone
+providing copies of Project Gutenberg-tm electronic works in
+accordance with this agreement, and any volunteers associated with the
+production, promotion and distribution of Project Gutenberg-tm
+electronic works, harmless from all liability, costs and expenses,
+including legal fees, that arise directly or indirectly from any of
+the following which you do or cause to occur: (a) distribution of this
+or any Project Gutenberg-tm work, (b) alteration, modification, or
+additions or deletions to any Project Gutenberg-tm work, and (c) any
+Defect you cause.
+
+Section 2. Information about the Mission of Project Gutenberg-tm
+
+Project Gutenberg-tm is synonymous with the free distribution of
+electronic works in formats readable by the widest variety of
+computers including obsolete, old, middle-aged and new computers. It
+exists because of the efforts of hundreds of volunteers and donations
+from people in all walks of life.
+
+Volunteers and financial support to provide volunteers with the
+assistance they need are critical to reaching Project Gutenberg-tm's
+goals and ensuring that the Project Gutenberg-tm collection will
+remain freely available for generations to come. In 2001, the Project
+Gutenberg Literary Archive Foundation was created to provide a secure
+and permanent future for Project Gutenberg-tm and future
+generations. To learn more about the Project Gutenberg Literary
+Archive Foundation and how your efforts and donations can help, see
+Sections 3 and 4 and the Foundation information page at
+www.gutenberg.org
+
+Section 3. Information about the Project Gutenberg Literary
+Archive Foundation
+
+The Project Gutenberg Literary Archive Foundation is a non profit
+501(c)(3) educational corporation organized under the laws of the
+state of Mississippi and granted tax exempt status by the Internal
+Revenue Service. The Foundation's EIN or federal tax identification
+number is 64-6221541. Contributions to the Project Gutenberg Literary
+Archive Foundation are tax deductible to the full extent permitted by
+U.S. federal laws and your state's laws.
+
+The Foundation's principal office is in Fairbanks, Alaska, with the
+mailing address: PO Box 750175, Fairbanks, AK 99775, but its
+volunteers and employees are scattered throughout numerous
+locations. Its business office is located at 809 North 1500 West, Salt
+Lake City, UT 84116, (801) 596-1887. Email contact links and up to
+date contact information can be found at the Foundation's web site and
+official page at www.gutenberg.org/contact
+
+For additional contact information:
+
+ Dr. Gregory B. Newby
+ Chief Executive and Director
+ gbnewby@pglaf.org
+
+Section 4. Information about Donations to the Project Gutenberg
+Literary Archive Foundation
+
+Project Gutenberg-tm depends upon and cannot survive without wide
+spread public support and donations to carry out its mission of
+increasing the number of public domain and licensed works that can be
+freely distributed in machine readable form accessible by the widest
+array of equipment including outdated equipment. Many small donations
+($1 to $5,000) are particularly important to maintaining tax exempt
+status with the IRS.
+
+The Foundation is committed to complying with the laws regulating
+charities and charitable donations in all 50 states of the United
+States. Compliance requirements are not uniform and it takes a
+considerable effort, much paperwork and many fees to meet and keep up
+with these requirements. We do not solicit donations in locations
+where we have not received written confirmation of compliance. To SEND
+DONATIONS or determine the status of compliance for any particular
+state visit www.gutenberg.org/donate
+
+While we cannot and do not solicit contributions from states where we
+have not met the solicitation requirements, we know of no prohibition
+against accepting unsolicited donations from donors in such states who
+approach us with offers to donate.
+
+International donations are gratefully accepted, but we cannot make
+any statements concerning tax treatment of donations received from
+outside the United States. U.S. laws alone swamp our small staff.
+
+Please check the Project Gutenberg Web pages for current donation
+methods and addresses. Donations are accepted in a number of other
+ways including checks, online payments and credit card donations. To
+donate, please visit: www.gutenberg.org/donate
+
+Section 5. General Information About Project Gutenberg-tm electronic works.
+
+Professor Michael S. Hart was the originator of the Project
+Gutenberg-tm concept of a library of electronic works that could be
+freely shared with anyone. For forty years, he produced and
+distributed Project Gutenberg-tm eBooks with only a loose network of
+volunteer support.
+
+Project Gutenberg-tm eBooks are often created from several printed
+editions, all of which are confirmed as not protected by copyright in
+the U.S. unless a copyright notice is included. Thus, we do not
+necessarily keep eBooks in compliance with any particular paper
+edition.
+
+Most people start at our Web site which has the main PG search
+facility: www.gutenberg.org
+
+This Web site includes information about Project Gutenberg-tm,
+including how to make donations to the Project Gutenberg Literary
+Archive Foundation, how to help produce our new eBooks, and how to
+subscribe to our email newsletter to hear about new eBooks.
+