summaryrefslogtreecommitdiff
path: root/14354.txt
diff options
context:
space:
mode:
Diffstat (limited to '14354.txt')
-rw-r--r--14354.txt3679
1 files changed, 3679 insertions, 0 deletions
diff --git a/14354.txt b/14354.txt
new file mode 100644
index 0000000..a54877a
--- /dev/null
+++ b/14354.txt
@@ -0,0 +1,3679 @@
+The Project Gutenberg eBook, Gwaith Samuel Roberts, by Samuel Roberts,
+Edited by Owen M. Edwards
+
+
+This eBook is for the use of anyone anywhere at no cost and with
+almost no restrictions whatsoever. You may copy it, give it away or
+re-use it under the terms of the Project Gutenberg License included
+with this eBook or online at www.gutenberg.org
+
+
+
+
+
+Title: Gwaith Samuel Roberts
+
+Author: Samuel Roberts
+
+Release Date: December 14, 2004 [eBook #14354]
+
+Language: Welsh
+
+Character set encoding: ISO-646-US (US-ASCII)
+
+
+***START OF THE PROJECT GUTENBERG EBOOK GWAITH SAMUEL ROBERTS***
+
+
+
+
+
+Transcribed from the 1906 Ab Owen edition by David Price, email
+ccx074@coventry.ac.uk
+
+
+
+
+
+GWAITH SAMUEL ROBERTS. (S. R.)
+
+
+Rhagymadrodd.
+
+
+Ganwyd Samuel Roberts yn Llanbrynmair, Mawrth 6, 1800. Bu farw yng
+Nghonwy, Medi 24, 1885; ac ym mynwent gyhoeddus Conwy y rhoddwyd ef i
+huno.
+
+O'r Diwygiad y cododd teulu galluog S. R. Yr oedd ei dad, John Roberts,
+er 1798 yn olynydd i Richard Tibbot a Lewis Rees fel gweinidog Hen Gapel
+Llanbrynmair. Dyma enwau aelodau mwyaf adnabyddus y teulu,--
+
+ John Roberts - Mary Brees y Coed.
+ (1767-1834) |
+ |
+ +--------+------------+--------+-------------+
+ Maria Samuel Anna John Richard
+ (1797) (S.R.) (1801) (J.R.) (Gruffydd Rhisiart)
+ | (1800-1885) (1804-1884) (1810-1883)
+ |
+ Gohebydd
+ - 1877.
+
+Symudodd John Roberts a'i deulu, tua 1806, o Dy'r Capel i ffermdy y Diosg
+dros yr afon ar gyfer. "Tyddyn bychan gwlyb, oer, creigiog, anial, yng
+nghefn haul, ar ochr ogleddol llechwedd serth" oedd y Diosg; ac efe yw
+Cilhaul.
+
+Daeth S. R. yn gynorthwywr i'w dad fel gweinidog yn 1827; dilynodd ef fel
+tenant y Diosg yn 1834. Cyn 1856, yr oedd y brodyr wedi penderfynu
+gadael Llanbrynmair,--aeth J. R. yn weinidog i Ruthyn, a hwyliodd S. R. a
+Gruffydd Rhisiart i'r America.
+
+Cychwynodd S. R. o Lerpwl Mai 6, 1857; cyrhaeddodd yno 'n ol Awst 30,
+1867. Yr oedd wedi ei siomi yn y gorllewin ac wedi troi ei gefn ar dy ei
+alltudiaeth,--Bryn y Ffynnon, Scott Co., East Tennessee. Cafodd ei
+dwyllo gan y rhai oedd yn gwerthu tir; darlunnir hwy ym Martin Chuzzlewit
+Dickens. Nid oedd wedi sylweddoli, hwyrach, mor erwin yw'r ymdrech mewn
+gwlad anial. A daeth y Rhyfel Cartrefol i andwyo ei amgylchiadau.
+Teimlai fod y ddwy ochr i'w beio, ac mai dyledswydd y Gogledd oedd talu
+pris rhyddhad y caethion i wyr y De.
+
+O 1867 ymlaen ail ymunodd y teulu, a bu'r tri brawd byw yn yr un cartref
+yng Nghonwy hyd nes y cludwyd hwy i'r un fynwent.
+
+Ychydig iawn oedd yn fwy adnabyddus nag S. R. yn ei ddydd yng Nghymru. Bu
+ef a'i frodyr mewn llu o ddadleuon,--y mae y gornestwyr oll wedi tewi
+erbyn hyn,--a gwnaethant lawer i ddeffro gwlad. Bu ei Gronicl yn foddion
+addysg i filoedd. Bu ef ei hun yn llais i amaethwyr Cymru, ac yn llais i
+werin yn erbyn gorthrwm o bob math. Cyhoeddwyd cofiant am dano ef a'i
+frodyr yn y Bala, gan y Dr. E. Pan Jones.
+
+Wele ddwy ran nodweddiadol o'i waith. Bu y Caniadau yn hynod boblogaidd;
+y teulu yn Llanbrynmair yw'r "Teulu Dedwydd." Hwy hefyd yw teulu
+"Cilhaul," ac y maent y darlun goreu a chywiraf o ffermwyr Cymru dynnwyd
+eto.
+
+OWEN EDWARDS.
+Llanuwchllyn,
+Awst 1, 1906.
+
+[Photograph of Samuel Roberts, Llanbrynmair: sr1.jpg]
+
+
+
+
+CYNHWYSAID.
+
+
+1. CANIADAU BYRION.
+
+
+[Argraffwyd y Caniadau hyn laweroedd o weithiau, ac y maent wedi bod yn
+foddion cysur i genhedlaethau o werinwyr. Dont o flaen adeg y Bardd
+Newydd, nid oes dim yn gyfriniol yn eu dyngarwch syml, eu tynherwch mwyn,
+a'u synwyr cyffredin cryf.]
+
+Y Teulu Dedwydd
+Marwolaeth y Cristion
+Y Lili Gwywedig
+Can y Nefoedd
+Ar farwolaeth maban
+Y Cristion yn hwylio i for gwynfyd
+Cwyn a Chysur Henaint
+Mae Nhad wrth y Llyw
+Y Ddau Blentyn Amddifad
+Cyfarchiad ar Wyl Priodas
+Dinystr Byddin Sennacherib
+Gweddi Plentyn
+Cwynion Yamba, y Gaethes ddu
+Y creulondeb o fflangellu benywod
+Y fenyw wenieithus
+Y Twyllwr hudawl
+Darostyngiad a Derchafiad Crist
+Buddugoliaethau yr Efengyl yn y Mil Blynyddoedd
+
+
+
+II. CILHAUL UCHAF.
+
+
+[Darlun o fywyd amaethwr, a'i ofidiau, yn hanner cyntaf y ganrif
+ddiweddaf. Mae'n fyw ac yn werthfawr am ei fod yn wir. Dyma'r bywyd
+gynhyrchodd oreu Cymru, a dyma'r bywyd hapusaf a iachaf yn y byd.]
+
+John Careful, Cilhaul Uchaf. Senn y Steward. Gwobrwyon John Careful am
+wella ei dir,--I. Colli ei arian. II. Codi ei rent. III. Codi'r degwm.
+IV. Codi'r trethi. V. Rhoi cerdod i Peggy Slwt Slow nes y cai fynd ar y
+plwy. VI. Rhoi benthyg arian i Billy Active i ymfudo.
+
+Jacob Highmind. Cario chwedlau i'r steward. Notice to quit i John
+Careful.
+
+Pryder y teulu; troi golwg tua'r Amerig. Squire Speedwell yn ymyrryd. Yr
+ysgwrs rhwng Lord Protection a John Careful. Swn y bytheuaid. Meistr
+tir a steward. Ymadael o Gilhaul.
+
+Yr Highminds yn denantiaid newyddion. Mynd i'r dim. Cilhaul ar law. Y
+steward yn sylweddoli anhawsterau'r ffermwyr. Hen wr Hafod Hwntw. Gweld
+colled am ffermwyr gonest di-dderbyn wyneb.
+
+
+
+III. BYWYDAU DISTADL.
+
+
+[Ysgrifennodd S.R. hanes rhai adwaenai, yn fyrr iawn, yn y Cronicl.
+Distadl oeddynt, ac y mae swyn pennaf bywyd Cymru yn eu hanes dinod. Nid
+oes le yn y gyfrol hon ond i ddau yn unig o'r llu, sef cardotes a gwas
+ffarm.]
+
+Mary Williams, Garsiwn
+
+Thomas Evans, Aber
+
+
+
+
+Y Darluniau.
+
+
+Samuel Roberts
+Darlun o'r Oriel Gymreig, dynnwyd gan y diweddar John Thomas.
+
+Bwthyn ym Maldwyn
+O'r Oriel Gymreig.
+
+ "Mewn hyfryd fan ar ael y bryn,
+ Mi welwn fwthyn bychan;
+ A'i furiau yn galchedig wyn,
+ Bob mymryn, mewn ac allan"
+
+Pont Llanbrynmair
+O'r Oriel Gymreig.
+
+Dan Haul y Prydnawn
+O'r Oriel Gymreig.
+Darlun o dai yn Llanbrynmair dan dywyniad haul yr Hydref.
+
+Cyflwynwyr Tysteb S. R.
+O'r Oriel Gymreig.
+
+Cyflwynwyd y dysteb yn Lerpwl yn union wedi dychweliad S. R. o'r America.
+Eistedd Caledfryn yn y canol, a'i bwys ar ei ffon. Ar ei law chwith
+eistedd S.R., a J. R. yn agosaf ato yntau. Wrth gefn y ddau frawd saif y
+Gohebydd, eu nai, a chadwen ar ei fron. Yn union y tu cefn i S. R., yn
+dalaf o bawb sydd ar eu traed, saif Mynyddog.
+
+Ffrwd y Mynydd
+O'r Oriel Gymreig.
+Darlun o olygfa yn ucheldir Llanbrynmair.
+
+My Lord
+H. Williams.
+
+Talu'r Rhent
+H. Williams.
+
+
+
+
+CANIADAU BYRION.
+
+
+[Bwthyn ym Maldwyn: sr9.jpg]
+
+
+
+Y TEULU DEDWYDD.
+
+
+Wrth ddringo bryn ar fore teg,
+ Wrth hedeg o'm golygon,
+Gan syllu ar afonig hardd,
+ A gardd, a dolydd gwyrddion;
+Mewn hyfryd fan ar ael y bryn
+ Mi welwn fwthyn bychan,
+A'i furiau yn galchedig wyn
+ Bob mymryn, mewn ac allan.
+
+Canghennau tewfrig gwinwydd ir
+ Addurnant fur y talcen,
+A than y to yn ddof a gwar
+ Y trydar y golomen;
+O flaen y drws, o fewn yr ardd,
+ Tardd lili a briallu;
+Ac O mor hyfryd ar y ffridd
+ Mae blodau'r dydd yn tyfu.
+
+Wrth glawdd yr ardd, yn ngwyneb haul,
+ Ac hyd y dail, mae'r gwenyn
+Yn diwyd gasglu mel bob awr
+ I'w diliau cyn daw'r dryc-hin;
+Ar bwys y ty, mewn diogel bant,
+ Mae lle i'r plant i chwareu;
+Ac yno'n fwyn, ar fin y nant,
+ Y trefnant eu teganau.
+
+O fewn y ty mae'r dodrefn oll,
+ Heb goll, yn lan a threfnus;
+A lle i eistedd wrth y tan
+ Ar aelwyd lan gysurus;
+Y Teulu Dedwydd yno sy
+ Yn byw yn gu ac anwyl;
+A phob un hefyd sydd o hyd
+ Yn ddiwyd wrth ei orchwyl.
+
+Ychwaith ni chlywir yn eu plith
+ Neb byth yn trin na grwgnach,
+Ond pawb yn gwneyd eu goraf i
+ Felysu y gyfeillach;
+Mae golwg iachus, liwus, lon,
+ A thirion ar bob wyneb;
+A than bob bron y gorffwys hedd,
+ Tagnefedd, a sirioldeb.
+
+Pan ddel yr hwyr, ac iddynt gwrdd,
+ Oddeutu'r bwrdd eisteddant;
+Ac am y bwyd, o hyd nes daw,
+ Yn ddistaw y disgwyliant;
+Pan ddyd y fam y bwyd gerbron
+ Gwnant gyson geisio bendith;
+Ac wedi 'n, pan eu porthi gant,
+ Diolchant yn ddiragrith.
+
+Ar air y tad, a siriol wen,
+ A'r mab i ddarllen pennod;
+Ac yna oll, mewn pwysig fodd,
+ Codant i adrodd adnod;
+Yr emyn hwyrol yn y fan
+ Roir allan gan yr i'angaf,
+Ac unant oll i seinio mawl
+ Cysonawl i'r Goruchaf.
+
+Y tad a dd'wed ddwys air mewn pryd
+ Am bethau byd tragwyddol;
+Y fam rydd ei Hamen, a'r plant
+ Wrandawant yn ddifrifol;
+Wrth orsedd gras, o flaen yr Ior,
+ Y bychan gor gydblygant;
+A'u holl achosion, o bob rhyw,
+ I ofal Duw gyflwynant.
+
+Am ras a hedd, a nawdd y Nef,
+ Y codant lef ddiffuant;
+A Duw a ystyr yn gu-fwyn
+ Eu cwyn a'u holl ddymuniant;
+Ac O! na fedrwn adrodd fel
+ Mae'r tawel Deulu Dedwydd,
+Mewn gwylaidd barch, ond nid yn brudd,
+ Yn cadw dydd yr Arglwydd.
+
+Yn fore iawn, mewn nefol hwyl
+ I gadw'r wyl cyfodant;
+Ac wedi ceisio Duw a'i wedd,
+ I'w dy mewn hedd cydgerddant;
+Fe'u gwelir gyda'r fintai gu
+ Sy'n cyrchu i'r addoliad;
+Ac yn eu cor, ym mhabell Ion,
+ Yn gyson ceir hwy'n wastad.
+
+Ceir clywed mwynber leisiau'r plant
+ Mewn moliant yn cyfodi,
+A'u gweld yn ddifrif-ddwys o hyd,
+ Ac astud, wrth addoli;
+Ni wag ymrodiant i un man
+ I hepian na gloddesta;
+Ond bydd eu calon gyda gwaith
+ A chyfraith y Gorucha'.
+
+Pob un, a'i Feibl yn ei law,
+ I'r ysgol ddaw'n amserol;
+Ac yn eu cylch fe'u ceir bob pryd
+ Yn ddiwyd a defnyddiol;
+Pan ddeuant adre'r nos yn nghyd
+ I gyd, a'r drws yn nghauad,
+Dechreuant ddweyd yn bwysig rydd
+ Am waith y dydd, a'u profiad.
+
+Mor fwyn eu can! mor ddwys pob gair,
+ Ac O mor daer eu gweddi!
+A Duw yn siriol wenu ar
+ Y duwiol hawddgar deulu;
+Gwir nad oes ganddynt ddodrefn aur,
+ Na disglaer lestri arian,
+Na llawrlen ddrudfawr yn y ty,
+ Na gwely-lenni sidan.
+
+Ni feddant seigiau mawr eu rhin,
+ Na melus win na moethau,
+Na thuedd byth i flysio'n ffol
+ Frenhinol arlwyadau;
+Ond mae rhinweddol win a llaeth
+ Yr iechydwriaeth ganddynt;
+A Christ yn Frawd, a Duw yn Dad
+ A thirion Geidwad iddynt.
+
+Fe'u ceidw'n ddiogel rhag pob braw,
+ Ac yn Ei law fe'u harwain,
+Nes dwyn pob un i ben ei daith
+ Trwy hirfaith dir wylofain;
+Pob un a gyrraedd yn ei dro
+ Hyfrydawl fro paradwys;
+Ac yno'n dawel berffaith rydd
+ Y cant dragwyddol orffwys.
+
+
+
+MARWOLAETH Y CRISTION.
+
+
+Gristion hawddgar! Daeth yr adeg
+ It' ehedeg at dy Dad;
+Gad dy lesgedd, hwylia'th edyn,
+ Cyfod, cychwyn tua'th wlad;
+Sych dy ddagrau, dechreu ganu,
+ Darfu'th bechu, darfu'th boen;
+Ti gei bellach dawel orffwys
+ Ym mharadwys gyda'r Oen.
+
+Er fod afon angau'n donnog,
+ A llen niwlog dros y glyn,
+Gwel dy Briod cu yn dyfod
+ I'th gyfarfod y pryd hyn;
+Dacw'r gelyn wrth ei gadwyn,
+ Heb ei golyn, dan ei glwy';
+Dacw uffern wedi 'i maeddu:-
+ Gristion! pam yr ofni mwy?
+
+Yn y dyffryn, er mor dywyll,
+ Gwelaf ganwyll ddisglaer draw,
+Wedi 'i chynneu i'th oleuo,
+ Rhag it' lithro ar un law;
+Mae dy Iesu wedi blaenu,
+ Wedi torri grym y donn;
+Pam yr ofni groesi'r dyffryn?
+ Pam mae dychryn dan dy fron?
+
+Eilia'th gan, mae'r nos yn cilio,
+ Gwel, mae gwawl yn hulio'r glyn:
+Edrych trwy y niwlen deneu,
+ Gwel drigfannau Seion fryn:
+Gwel, mae hyfryd wen dragwyddol,
+ Heulwen nefol ar y wlad;
+Gwel mor ddisglaer deg danbeidiol
+ Yw brenhinol lys dy Dad.
+
+Gwel y dirif seirian berlau
+ Wisgant furiau'r nefol gaer;
+Gwel ei huchel byrth disgleirdeg,
+ A'i llydain deg heolydd aur;
+Gwel yr afon bur redegog,
+ Gwel y deiliog ffrwythlawn bren;
+Gwel y llwybrau a'r trigfannau
+ Sydd i'r seintiau uwch y nen.
+
+Gwel y dedwydd brynedigion
+ Yn eu gynau gwynion draw,
+Wedi gwisgo eu coronau,
+ A'u telynau yn eu llaw;
+Yuo'n gorffwys, gyda'u gilydd,
+ Mewn llawenydd pur dilyth,
+Heb na loes, na chroes, na phechod,
+ Mwyach i'w cyfarfod byth.
+
+Gwel y gosgordd-lu yn cychwyn
+ I'th ymofyn idd eu mysg;
+Gwel dy Brynwr, mewn gwen siriol,
+ Yn ei hardd gyfryngol wisg;
+Clyw, mae'r clychau oll yn canu,
+ I'th groesawu tua thref;
+Clyw bereiddlawn seingar donau
+ Aur delynau cor y nef.
+
+Gwel dy gerbyd wrth yr afon,
+ Gwel dy goron,--gad dy gledd;
+Cymer bellach dawel feddiant
+ O ogoniant gwlad yr hedd,
+Ffarwel iti, collaf bellach
+ Dy gyfeillach a dy wedd,
+Hyd nes cawn gyfarfod eto
+ Yn y fro tu draw i'r bedd.
+
+
+
+Y LILI GWYWEDIG.
+
+
+Galar-gan Mam ar Farwolaeth Maban Mynwesol.
+
+Caed Lili teg, mewn hyfryd fan,
+ Ar gorsen wan yn tyfu;
+Ei hawddgar liw, a'i gywrain lun,
+ Wnai i bob un ei garu;
+Ei berchen o anwyldeb ai,
+ A siriol syllai arno,
+Mewn gobaith hoff o'i gadw'n ir
+ Am dymor hir heb wywo.
+
+Ond ar ddiwrnod tywyll du,
+ Y gobaith cu ddiflannodd;
+Daeth awel oer 'nol heulwen haf,
+ A'r Lili braf a wywodd;
+Mae'n awr yn gorwedd yn y llwch,
+ Heb degwch yn wywedig;
+A'i berchen deimla dan ei bron
+ Ei chalon yn glwyfedig.
+
+Ochenaid ddwys o'i mynwes wan,
+ Ac egwan lef sy'n codi,--
+"A raid im' golli'r olwg ar
+ Fy hawddgar wiwber Lili?
+Flodeuyn hardd! dy golli raid,
+ Er dibaid dywallt dagrau;
+Llwyr ddiflanedig 'nawr yw drych
+ Dy unwaith harddwych liwiau.
+
+"Dy addurnedig wisgoedd braf,
+ Eu gweled ni chaf mwyach;
+Wrth syllu ar dy le, nid wyf
+ Ond gwneyd y clwyf yn ddyfnach."
+Ar hyn, pan ydoedd natur wan
+ O dan y groes yn suddo,
+I arllwys balm i'r galon brudd
+ Daeth gwiw Ddiddanydd heibio.
+
+Yn dirion (nid i beri braw)
+ Ei ddeheu-law estynnai;
+Cyd-deimlo wnai wrth wrando'i chwyn,
+ Ac mewn iaith fwyn dywedai,
+"Na wyla mwy,--dy Lili hardd
+ Sy'n awr yng ngardd paradwys,
+Mewn tawel gynnes nefol fro
+ Yn ail-flodeuo'n wiwlwys.
+
+"Ei nodd, ei ddail, ei arogl per,
+ Ei liwiau ter a hawddgar,
+Rhagorach fyrdd o weithiau ynt
+ Nag oeddynt ar y ddaear.
+Ei weled gei ar fyr o dro
+ Yn gwisgo harddwch nefol:
+I'r ddedwydd wlad dy gyrchu wnaf,
+ Lle t'wyna haf tragwyddol."
+
+
+
+CAN Y NEFOEDD.
+
+
+Fy enaid blinedig! cwyd d'edyn yn awr,
+Ehed trwy'r wybrennau uwch gofid y llawr,
+I glywed nefolion yn seinio'r trwy'r nen
+Fawl ganiad i'r Iesu, dy Briod a'th Ben.
+
+Mor hardd Ei frenhinwisg, mor uchel Ei sedd,
+Mor ddisglaer Ei goron, mor siriol Ei wedd;
+Aur-seren awdurdod sy'n awr ar y fron
+Fu gynt yn llif-waedu o glwy'r waew-ffon.
+
+Angylaidd gantorion gydunant mewn can
+A seintiau fil miloedd, a'u gwisgoedd yn lan;
+A broydd a bryniau tragwyddol y nef
+Trwy'r dedwydd ororau adseiniant eu llef.
+
+Y llu archangylaidd ddechreuant y gainc,
+Gan barchus gydblygu o amgylch Ei fainc:
+Y saint a'u coronau wnant balmant i'w draed,
+Gan felus gydganu am rinwedd ei waed.
+
+Pan daniodd Ei fynwes, pan gododd mewn brys,
+Gan adael Ei orsedd, a'i goron, a'i lys,
+A hedeg heb oedi o fynwes Ei Dad,
+Ar edyn trugaredd, at ddyn yn Ei waed;
+
+Pan welwyd E'n Faban mewn gwael egwan gnawd,
+Etifedd y nefoedd o'i wirfodd yn dlawd,
+Angylion a seintiau a floeddient yng nghyd,
+"Gogoniant trwy'r nefoedd, Tangnefedd trwy'r byd."
+
+Pan rodiai o amgylch, gan wneuthur lleshad
+I gloffion, a deillion, a chleifion yn rhad,
+Gan alw'r blinderog, yn serchog a llon,
+I orffwys yn dawel eu pwys ar Ei fron,--
+
+Pan godai yn erbyn pyrth uffern Ei gledd,
+Gan siglo sylfeini hen garchar y bedd,--
+Dyrchafu yn hyfryd ber-seiniawl wnai'r gan,
+A bywiol orfoledd wnai'r nefoedd yn dan.
+
+Ond sydyn!--pan ydoedd pob telyn mewn hwyl,
+A'r udgyrn yn seinio fel ar uchel wyl,--
+Wrth daro'r nod uchaf cydsyniai'r dorf hardd
+Ei weled E'n chwysu mewn ing yn yr ardd.
+
+Pan welwyd E'n gwaedu dan hoelion ar bren,
+Pan wanwyd Ei fynwes, pan glwyfwyd Ei ben,
+Pan yfodd E'r cwpan, pan gollodd fwynhad
+Diddanol gysuron gwedd wyneb Ei Dad;
+
+Pan gododd Cyfiawnder i'w erbyn Ei gledd,
+Pan welwyd E'n gorwedd yng ngharchar y bedd,
+Dyrysodd telynau cantorion y nef,
+Ymlaesodd pob aden, distawodd pob llef.
+
+Ar unwaith ymdaenodd tywyllwch fel llen
+Dros harddwych drigfauau dedwyddawl y nen;
+Cydwywodd y blodau, dadhwyliodd pob tant,
+Llesgaodd pob seraff--pob angel--pob sant.
+
+Ond bore'r adgodiad, ar doriad y dydd,
+Pan neidiodd y Cadarn o'i gadwyn yn rhydd,
+Gan ymdaith o Edom yn amlder ei rym,
+Mewn harddwisg borfforaidd, a'i gleddyf yn llym;
+
+Pan gododd hardd-faner trugaredd a hedd,
+Ac yn Ei law waedlyd agoriad y bedd,
+Gan floeddio'n fuddugol, "Enillais y dydd--
+"Gorchfygais bob gelyn--daw'r caethion yn rhydd,"--
+
+Mil myrdd o gantorion, yn gydsain eu llef,
+Ail-seinient yr Anthem, hwyl lawen trwy'r nef;
+Gan floeddio caniadau, mewn tonau mor ber,
+Nes siglo y bydoedd gan adsain y ser.
+
+Angylaidd osgorddion ehedent mewn brys
+I dywys eu Brenin i orsedd Ei lys;
+Ar balmant o berlau olwynai i'r nen,
+A'r seirian byrth oesawl ddyrchafent eu pen.
+
+'Nol disgyn o'i gerbyd, ac esgyn Ei sedd,
+Ei euraidd deyrnwialen estynnai mewn hedd,
+Gan ddwyn agoriadau llywodraeth Ei Dad,
+Ac anfon i ddynion Ei roddion yn rhad.
+
+Rho heibio 'nawr, f'awen, cyn gorffen dy gan,
+Rhag boddi ar unwaith mewn syndod yn lan;
+Nid da cynnyg nofio--'rwyt eto'n rhy wan--
+Mewn mor o ryfeddod, heb waelod na glan.
+
+I erfyn maddeuant, plyg 'nawr wrth Ei draed,
+Ymorffwys am fywyd ar rinwedd Ei waed;
+Cei ddianc ar fyrder o'th garchar o gnawd,
+I orffwys ym mynwes dy fwyn hynaf Frawd.
+
+Ei wyneb cu hardd-deg gei weled heb len;
+Ac yna, dan ganu, coroni Ei ben;
+Pan welir y ddaear yn wenfflam o dan,
+Mawr fydd dy orfoledd, a melus dy gan.
+
+
+
+AR FARWOLAETH MABAN.
+
+
+Daeth yma i'r byd i weld ein gwae,
+ Lle mae gorthrymder garw;
+Ond trodd ei egwein lygaid draw,
+ Gan godi 'i law a marw.
+
+Er dod am dro i'n daear ni
+ I brofi'r cwpan chwerw;
+Ni fynnai aros is y nen,
+ Trodd draw ei ben i farw.
+
+Dros ennyd ferr fe rodd ei glust
+ I wrando'n trist riddfannau;
+Ond buan, buan, blino wnaeth,
+ A hedodd ymaith adre'.
+
+Ni chawn ei weled yma mwy
+ Dan unrhyw glwy'n galaru;
+Mae wrth ei fodd ar Seion fryn,
+ A'i dannau'n dynn yn canu,
+
+Ni welir deigryn ar ei rudd,
+ Na'i wedd yn brudd wylofus;
+Ni chlywir mwy o'i enau ef
+ Un egwan lef gwynfannus.
+
+Ni chaiff y fam byth, mae'n ddilys,
+ Waith sychu 'i chwys a'i ddagrau,
+Na chwaith ei gynnal, pan yn wan,
+ I gwynfan yn ei breichiau.
+
+Ni rydd un gelyn iddo glwy,
+ Nis gellir mwy ei faglu;
+Ni welir ef yn dewis rhan
+ Gyda'r annuwiol deulu.
+
+Ni chaiff y tad na'r fam byth mwy
+ Boen trwy ei weld yn pechu:
+Nid ofnant iddo yn ei oes
+ Ddwyn croes ar achos Iesu.
+
+Fe darddodd ffynnon ar y bryn
+ I'w gannu'n wyn, a chymhwys
+I lanw lle yn mhlith y llu
+ Sy'n canu ym mharadwys.
+
+Diangodd draw i wlad yr hedd
+ O gyrraedd pob rhyw ddrygfyd,
+Ac uno wnaeth a'r nefol lu
+ I ganu fry mewn gwynfyd.
+
+Mewn teulu duwiol yn y byd,
+ Tra hyfryd y gyfeillach;
+Ond fry ymhlith y nefol hil
+ Y bydd yn fil melusach.
+
+Heb unrhyw boen o dan y fron,
+ Mae 'nawr yn llon a dedwydd:
+A'r pur orfoledd yno sy
+ A bery yn dragywydd.
+
+Er rhoi ei gorff yng ngwaelod bedd
+ I orwedd a malurio,
+Daw bore hyfryd yn y man
+ Y cwyd i'r lan oddiyno.
+
+Cawn gydgyfarfod fry mewn hedd,
+ Tudraw i'r bedd yn dawel;
+Ac uno i ganu yn ddilyth,
+ Heb achos byth ymadael.
+
+
+
+Y CRISTION YN HWYLIO I FOR GWYNFYD.
+
+
+Fel morwr cyfarwydd wrth ddedwydd fordwyaw,
+Yn troi yn dra medrus ei lyw a'i ddeheulaw,
+Gan ganu wrth ledu ei hwyliau claerwynion
+I farchog y cefnllif o flaen yr awelon,--
+Mae'r Cristion yn gadael anialdir marwoldeb,
+Gan hwylio yn dawel i for bythol burdeb.
+Pan ddel y gorchymyn mae'n lledu ei hwyliau,
+Heb ofni'r Iorddonen, nac ymchwydd ei thonnau;
+Gan wenu heb ddychryn, wrth gychwyn, mae'n canu,--
+"O'm golwg yn gyflym mae'r byd yn diflannu,
+Diangaf yn fuan o gyrraedd gofidiau,
+Tawelu mae'r gwyntoedd, llonyddu mae'r tonnau,
+Mae'r heulwen yn gwenu, a'r wybren yn siriol,
+Caf nofio mewn moroedd o wynfyd tragwyddol."
+
+
+
+CWYN A CHYSUR HENAINT.
+
+
+Ymgiliodd y gaeaf, mae'r gwanwyn yn gwenu,
+Mae'r oenig yn neidio, a'r durtur yn canu;
+Mae'r coedydd, a'r dolydd, a'r gerddi'n blodeuo;
+A minnau gan nychdod a henaint yn gwywo.
+ Mae f'einioes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod,
+ Caf fyned i orffwys yn fuan i'r beddrod.
+
+Mae'r i'enctid o'm hamgylch yn heinyf a chryfion,
+Yn wridog eu gruddiau, yn llawen eu calon,
+Yn siriol gydrodio'n finteioedd diddanus,
+A minnau fy hunan yn llesg a methiannus.
+ Mae f'einioes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod,
+ Caf fyned i orffwys yn fuan i'r beddrod.
+
+Bu amser, 'rwy'n cofio, pan gynt 'roeddwn innau
+Mor heinyf, a bywiog, a gwridog a hwythau,
+A'm dwyfron yn llawen, a'm can yn soniarus;
+Ond ciliodd fel cysgod, fy hafddydd diddanus.
+ Mae f'einoes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod,
+ Caf fyned i orffwys yn fuan i'r beddrod.
+
+Diangodd holl dirion gymdeithion fy mebyd,
+O gyrraedd marwoldeb, i dawel fro gwynfyd;
+A minnau, heb gymar, adawyd fy hunan.
+Mae'm calon, gan hiraeth, yn rhy lesg i gwynfan.
+ Mae f'einioes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod,
+ Caf fyned i orffwys yn fuan i'r beddrod.
+
+Mae ceidwad y babell gan wendid yn crynnu,
+A'r heinyf wyr cryfion yn awr yn cydgrymu;
+Swn isel, wrth falu, wna'r felin fethedig,
+Ychydig yw'r meini, ac oll yn sigledig.
+ Mae f'einioes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod,
+ Caf fyned i orffwys yn fuan i'r beddrod.
+
+Y gloewon ffenestri gan lenni dywyllwyd,
+A llydain byrth mwyniant gan henaint a gauwyd;
+Y cwsg a lwyr gilia wrth lais yr aderyn,
+A baich ar yr ysgwydd fydd ceiliog y rhedyn.
+ Mae f'einioes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod,
+ Caf fyned i orffwys yn fuan i'r beddrod.
+
+Holl ferched cerddoriaeth ar unwaith ostyngir,
+A phopeth, wrth araf ymlwybro, a ofn;
+Mae chwant wedi pallu, 'does dim rydd ddiddanwch,
+Diflannodd pob seren dan ddulen tywyllwch.
+ Mae f'einioes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod,
+ Caf fyned i orffwys yn fuan i'r beddrod.
+
+Y cawg aur a'r piser yn fuan a ddryllir,
+Y llinyn ariannaidd a'r olwyn a dorrir;
+Ychydig sy'n aros o flodau'r pren almon;
+Dadfeilio mae'r babell, llewygu mae'r galon.
+ Mae f'einioes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod,
+ Caf fyned i orffwys yn fuan i'r beddnod.
+
+Hosanna!--'Rwyn teimlo fy llesg gorff yn datod,
+Mae'n addfed o'r diwedd i fyned i'w feddrod;
+Caiff gysgu heb ddychryn, dros ronyn, yn dawel,
+Nes hyfryd ddihuno wrth floedd yr archangel.
+ Ac yna, heb lygredd, caiff godi'n dra siriol,
+ I ddedwydd deyrnasu mewn i'enctid tragwyddol.
+
+Ar edyn angylaidd, heb lesgedd na methiant,
+Caf esgyn i dawel ororau gogoniant,
+I dderbyn y palmwydd, y delyn, a'r goron,
+A chlywed peroriaeth nefolaidd gantorion;
+ Ac yna caf brofi'r gymdeithas a'r gwleddoedd
+ Sy'n bythol goroni dedwyddwch y nefoedd.
+
+
+
+"MAE NHAD WRTH Y LLYW."
+
+
+Draw, draw ar y cefnfor, ar noson ddu oer,
+'Roedd cwch bach yn hwylio heb seren na lloer;
+A rhuad y tonnau, a'r gwyntoedd, a'r gwlaw,
+A lanwai fynwesau y morwyr o fraw.
+
+Ond bachgen y cadben, yn llawen a llon,
+A dd'wedai dan wenu, heb ddychryn i'w fron,--
+"Er gwaethaf y tonnau awn adref yn fyw:
+Pa raid ini ofni?--Mae Nhad wrth y Llyw."
+
+O blentyn y nefoedd! Paham mae dy fron
+Mor ofnus wrth weled gwyllt ymchwydd y donn?
+Mae'r dyfnder du tywyll yn rhuo, gwir yw;
+Ond diogel yw'th fywyd--Mae'th Dad wrth y Llyw.
+
+Daw'n fuan orfoledd diddiwedd i'th ran;
+Draw'n disgwyl mae'th geraint oddeutu y lan:
+Y disglaer lys acw, dy hoff gartref yw;
+Mae Canan yn ymyl, a'th Dad wrth y Llyw.
+
+Cwyd bellach dy hwyliau, mae'r awel o'th du,
+'Rwyt bron mynd i fynwes dy fwyn Brynwr cu;
+Mae'th angor yn ddiogel, a'th Gadben yn fyw,
+Mae'th gwch yn y porthladd, a'th Dad wrth y Llyw.
+
+
+
+Y DDAU BLENTYN AMDDIFAD.
+
+
+[Pont Llanbrynmair: sr25.jpg]
+
+Fy ngherbyd safai, ar fy nhaith,
+ Unwaith wrth westy bychan,
+Pan oedd gwen oleu'r heulwen glaer
+ Yn euro caer y dreflan.
+
+Wrth weled pawb o'm cylch a'u bryd
+ Ar dawel gydnoswylio,
+Aethum i gladdfa oedd gerllaw
+ I ddistaw ddwys fyfyrio.
+
+Dan briddell las, y tlawd yn llon
+ Ro'i hun i'w fron glwyfedig;
+Ond meini cerf o farmor trwch
+ A guddient lwch pendefig.
+
+Wrth fedd, dan gysgod ywen grin,
+ Dau blentyn oedd yn wylo,
+Mewn ing a hiraeth ar y pridd,
+ Lle'r oedd eu mam yn hunc.
+
+Er fod y ddau mewn newyn mawr,
+ Ar lawr 'roedd darn o fara;
+Edrychent arno weithiau'n syn,
+ Er hyn ni wnaent ei fwyta.
+
+"Fy anwyl blant! gwnewch ddweyd i mi
+ Pam 'rych chwi mewn cyfyngder,
+Ac yn gwastraffu'r bwyd eich dau,
+ A chwithau mewn fath brinder?"
+
+Atebai'r bach, mewn gwylaidd don,
+ A'i heilltion ddagrau'n llifo,--
+"Yn wir yr ym mewn eisiau llym,
+ Heb ddim i'w ofer-dreulio.
+
+"Troi'n eneth ddrwg mae Mair fy chwaer,
+ 'Rwy'n daer am iddi fwyta;
+Ni chafodd damaid heddyw'n wir,
+ A dir, hi bia'r bara."
+
+"Nis bwytaf mwy," atebai hi,
+ "Nes bwyto Henri dipyn;
+Mi gefais i beth bara ddoe,
+ Ond echdoe cadd ef fymryn."
+
+Ar hyn fe deimlwn dan fy mron
+ Y galon lesg yn gwaedu;
+Eisteddais rhyngddynt ar y bedd
+ I geisio'u hymgeleddu.
+
+Yn dirion gwesgais ddwylaw'r ddau,
+ Oedd fel y clai gan oerder;
+A'r bachgen llwydaidd ataf drodd,
+ I adrodd eu cyfyngder.
+
+"Ein ty oedd wrth y dderwen draw,
+ Gerllaw y dolydd gwyrddion,
+Lle'r oeddym gynt yn chwareu o hyd
+ Yn hyfryd a chariadlon.
+
+"Un tro, pan oeddym oll yn llon,
+ Daeth dynion creulon heibio,
+I fynd a'n tad i'r mor i ffwrdd;
+ Ni chawn mwy gwrdd mohono.
+
+"Ni wnaeth ein mam, byth ar ol hyn,
+ Ond wylo'n syn a chwynfan,
+Gan ddistaw ddweyd, yn brudd ei gwedd,
+ Yr a'r i'r bedd yn fuan.
+
+"Un hwyr, pan ar ei gwely'n wan,
+ A'i hegwan lais crynedig
+Galwodd ni'n dau, mewn tyner fodd,
+ A d'wedodd yn garedig,--
+
+"'Fy anwyl blant! Na wylwch chwi,
+ Gwnewch dyner garu'ch gilydd:
+Dichon daw'ch tad yn ol yn glau,
+ I'ch gwneyd eich dau yn ddedwydd.
+
+"'Ond os na ddychwel byth eich tad,
+ Cewch Dduw yn Geidwad tyner;
+Mae Ef i bob amddifad tlawd
+ Yn Dad a Brawd bob amser.'
+
+"Yna, ar ol ymdrechu'n gu
+ I sychu'n dagrau chwerw,
+Cusanodd ni, wrth droi 'i phen draw,
+ Gan godi 'i llaw a marw.
+
+"Ein hanwyl fam ni chawn byth mwy
+ I'n harwain trwy ofidiau;
+Ac ofni'r ym, mewn dirfawr fraw,
+ Na ddaw ein tad byth adre',
+
+"Er wylo yma lawer dydd
+ Mewn hiraeth prudd am dano,
+Ac edrych draw a welem neb
+ Yn dod--yn debyg iddo;
+
+"Er clywed fod y mor yn mhell,
+ Tybiem mai gwell oedd myned,--
+Os gallem gyrraedd yno'n dau,
+ Y caem yn glau ei weled.
+
+"Dan wylo aethom, law yn llaw,
+ Trwy wynt a gwlaw a lludded,
+Gan droi yn wylaidd i bob ty
+ I holi'r ffordd wrth fyned.
+
+"Gwnai rhai, dan wenu, ymaith droi,
+ Heb roi i ni ddim cymorth;
+Och'neidiai'r lleill wrth wrando'n cwyn,
+ Gan roddi'n fwyn in ymborth.
+
+"Ond erbyn gweld y mor mawr draw,
+ Gwnaeth dirfawr fraw ein llenwi;
+Ac ofni'r ydym fod ein tad
+ Anwylfad wedi boddi.
+
+"Ar fedd ein mam 'r ym 'nawr o hyd,
+ Mewn ing a gofid chwerw,
+A hiraeth dwys am fod ein dau,
+ Fel hithau, wedi marw.
+
+"A wyddoch chwi ddim p'le mae'n byw
+ Y Duw sy'n Dad amddifaid?
+Pe gallem ni ryw fodd Ei gael,
+ Mac Ef yn hael wrth weiniaid.
+
+"Dywedodd mam mai yn y nef
+ Yr ydoedd Ef yn trigo:-
+A d'wedodd llawer wrthym ni,
+ Heb os, ei bod hi yno.
+
+ "Ac os yw mam 'nawr yno'n byw,
+ Hi dd'wed wrth Dduw am danom;
+A disgwyl 'r ym y llwydda hi
+ Cyn hir i'w yrru atom."
+
+Gwnaeth hyn im' hoff gofleidio'r ddau,
+ A sychu 'u gruddiau llwydion,
+A dweyd,--"Fel mam, gofalaf fi
+ I'ch ymgeleddu'n dirion.
+
+"Na wylwch mwy! Dewch gyda mi,
+ Rhof ichwi fwyd a dillad,
+A dysg, a thy, a modd i fyw,
+ A chewch Dduw'n Dad a Cheidwad.
+
+"Efe yn fwyn a'm gyrrodd i
+ I ddweyd i chwi Ei 'wyllys:
+A diwedd pawb a'i carant Ef,
+ Yw mynd i'r nef i orffwys."
+
+
+
+CYFARCHIAD AR WYL PRIODAS.
+
+
+Tangnefedd a ffyniant, diddanwch a chariad,
+Fo rhwymyn a choren eich undeb anwylfad;
+Ymleded eich pabell dan wenau Rhagluniaeth,
+A'ch epil fo'n enwog dros lawer cenhedlaeth.
+Disgleiried eich rhinwedd. A gwneled yr Arglwydd
+Eich cylchoedd yn fendith, a'ch ceraint yn dedwydd:
+Estynned eich dyddiau i fod yn ddefnyddiol;
+Ei eglwys fo'ch cartref, Ei air fyddo'ch rheol.
+A rhodded Ei Ysbryd diddanol i'ch tywys
+Trwy dd'rysni yr anial i'w nefol baradwys.
+
+
+
+DINYSTR BYDDIN SENNACHERIB.
+
+
+[Cyf. o "The Destruction of Sennacherib" Byron].
+
+O Fras fro Assyria, y gelyn, fel blaidd,
+Ymdorrai i'r gorlan er difa y praidd;
+A'i lengoedd mewn gwisgoedd o borffor ac aur,
+Wrth hulio glyn Salem, a'i lliwient yn glaer.
+
+Eu harfau o hirbell a welid o'r bron
+Fel llewyrch ser fyrddiwn ar frig y werdd donn;
+A thrwst eu cerddediad a glywid o draw,
+Fel rhuad taranau trwy'r wybren gerllaw.
+
+Eu chwifiawg fanerau, cyn machlud yr haul,
+A welid fel coedwig dan flodau a dail;
+Eu chwifiawg fanerau, ar doriad y wawr,
+Fel deiliach gwywedig, a hulient y llawr.
+
+Daeth angel marwolaeth ar edyn y chwa,
+Gan danllyd anadlu i'w gwersyll ei bla,
+Nes gwneuthur pob calon, a llygad, a grudd,
+Mor oer ac mor farw a delw o bridd.
+
+Y ffrom farch ddymchwelwyd.--Yn llydan ei ffroen,
+Mae'n gorwedd heb chwythu mwy falchder ei hoen,
+A'i ffun oer o'i amgylch fel tywyrch o waed:
+Llonyddodd ar unwaith garlamiad ei draed.
+
+Ar oer-lawr mae'r marchog, a'r gwlith ar ei farf,
+A'r llaid ar ei harddwisg, a'r rhwd ar ei arf:
+Nid oes trwy y gwersyll na thinc picell fain,
+Na baner yn ysgwyd, nac udgorn rydd sain.
+Mae crochwaedd trwy Assur, daeth amser ei thal,
+Mae'r delwau yn ddarnau trwy holl demlau Baal:
+Cynddaredd y gelyn, heb godi un cledd,
+Wrth olwg yr Arglwydd, ymdoddai i'r bedd.
+
+
+
+GWEDDI PLENTYN.
+
+
+Ni cheisiaf aur, na bri, na nerth,
+ Na diwerth fwyniant bydol:
+Fy enaid gais ragorach rhan
+ Na seirian rwysg brenhinol.
+
+Nid moethau o ddanteithiol rin,
+ Na gloew win puredig,
+Nac yd, na mel, nac olew per,
+ Na brasder lloi pasgedig.
+
+Nid plethiad gwallt, na thegwch pryd,
+ Na gwisg i gyd o sidan,
+Nac eang lys, a'i addurn claer
+ O berlau, aur, neu arian.
+
+Ond dwyfol werthfawrocach rodd,
+ Mewn taerfodd, wy'n ei cheisio:
+Ac O fy Nuw! erglyw fy nghri,
+ A dyro imi honno.
+
+Fel arwydd hoff o'th gariad hael,
+ Rho imi gael Doethineb:
+Nid oes ond hon a ddwg i'm rhan
+ Ddedwyddawl anfarwoldeb.
+
+Dysg fi yn nechre f'einioes frau
+ I rodio llwybrau'r bywyd;
+A chadw'th air,--trwy fyw yn ol
+ Ei nefol gyfarwyddyd.
+
+Fel ufudd blentyn, boed i mi
+ Byth wneyd dy dy yn gartre,
+Fel caffwyf brofiad melus iawn
+ O'i radlawn arlwyadau.
+
+Na ad im' ffol ymlygru byth,
+ Trwy fynd i blith rhagrithwyr;
+Na rhedeg chwaith o lwybrau'r ne',
+ I eiste'n lle'r gwatwarwyr.
+
+Dy santaidd waith a'th achos di
+ A fo mi'n hyfrydwch;
+A gwiw gymdeithas D' anwyl blant
+ Fy mwyniant a'm dyddanwch.
+
+Os caf gysuron ar fy nhaith,
+ Fy melus waith fydd moli:
+Fy noniau oll, o galon rwydd,
+ I'm Harglwydd gant eu rhoddi.
+
+Ond os caf gystudd drwy fy oes,
+ A dwyn fy nghroes mewn galar,
+Heb ddim ond gofid ar bob cam,
+ Gwna fi yn amyneddgar.
+
+Os, fel blodeuyn, gwywo wnaf
+ Yn nechreu haf fy mywyd;
+Cymhwysa f'enaid, drwy Dy ras,
+ I deyrnas bythol wynfyd.
+
+Os hir fy nhaith, rho im' Dy hedd,
+ Nes mynd i'r bedd i orffwys;
+Ac yna seiniaf gyda'th blant
+ Dy foliant ym mharadwys.
+
+
+
+CWYNION YAMBA, Y GAETHES DDU.
+
+
+Er bod mewn caethiwed ymhell o fy ngwlad,
+'Rwy'n cofio hoff gartref fy mam a fy nhad,
+Y babell, a'r goedwig, yr afon, a'r ddol;
+Ond byth ni chaiff Yamba ddychwelyd yn ol.
+
+Dros euraidd ororau ymlwybro wnawn gynt,
+Heb ofid, nac angen, yn llawen fy hynt;
+A'm plant o gylch gliniau fy mhriod mwyn cu,
+Heb neb yn fwy boddlon a dedwydd na mi.
+
+Pan unwaith yn gwasgu y bach at fy mron,
+A'r lleill wrth fy ymyl yn cysgi yn llon;
+Disgwyliwn fy mhriod, gan sio'n ddi-fraw,
+Heb feddwl fod dychryn na gelyn gerllaw.
+
+Ond pan yn hoff sugno awelon yr hwyr,
+Ar unwaith ymdoddai fy nghalon fel cwyr,--
+Gweld haid o ddyn-ladron yn dyfod o'r mor,
+Gan guro fy mwthyn nes torri y ddor.
+
+Heb briod, na chyfaill, chwaer, brawd, mam na thad,
+I achub y gweiniaid crynedig rhag brad,
+Fe'n llusgwyd, fe'n gwthiwyd, er taered ein cri,
+I ddu-gell y gaeth-long at gannoedd fel ni.
+
+Wrth riddfan i gyfrif munudau'r nos hir,
+A threiglo'n ddiorffwys fy mhen gan ei gur,
+Mi gefais fy maban, ar doriad y dydd,
+Yn oer ac yn farw--o'i boenau yn rhydd.
+
+Hoff faban fy mynwes! I'r dyfrllyd oer fedd,
+Er gwaetha'r gormeswr, diangaist mewn hedd:
+Cei orffwys yn dawel, ni'th werthir byth mwy,
+Ac ni rydd y fflangell na'r gadwyn it' glwy,
+
+Ffodd llawer, fel tithau, o gyrraedd pob aeth;
+Ond eto mae'th gu-fam anwylaf yn gaeth;
+Pam rhwystrwyd i Yamba gael huno yn llon,
+A'i sio i orffwys yn mynwes y donn?
+
+Ar ol garw fordaith, a chyrraedd y lan,
+A'n didol, a'n gwerthu i fynd i bob man;
+Y brawd bach a rwygid o fynwes ei chwaer,
+Er mynych lesmeirio wrth lefain yn daer.
+
+Y wraig, wrth ymadael, gusanai ei gwr,
+A'i llygaid toddedig yn boddi mewn dwr:
+A'r lesg fam a wasgai ei dwyfron--o chwant
+Cael myned i orwedd i'r un bedd a'i phlant.
+
+Hoff geraint ysgarwyd, er cryfed eu bryd
+Am weithio, dioddef, a marw ynghyd;
+Y clymau anwylaf a dorrwyd bob un,
+A rhwygwyd llinynau y galon ei hun.
+
+I greulawn ormeswr fy ngwerthu a wnaed,
+I gael fy fflangellu o'm dwyfron i'm traed;
+Mae'm llafur yn galed, a minnau yn wan,
+Heb ddefnyn o gysur i'w gael o un man.
+
+Mae'r bwyd roddir imi yn brin ac yn ddrwg,
+Mae'r haul yn fy llosgi, mae popeth mewn gwg:
+Dan oer wlith y ddu-nos rhaid cysgu, heb len;
+O'r braidd y caf garreg i gynnal fy mhen.
+
+Mewn ing rhaid im' farw, nis gallaf fyw'n hwy,
+Mae'r holl gorff yn glwyfus, a'r galon yn ddwy;
+O na chawswn drengu yn mynwes fy ngwlad,
+Fy mhlant a fy mhriod, fy mam a fy nhad.
+
+Wrth farw, fy ngweddi daer olaf a fydd,
+I'r caeth o'i gadwynau gael myned yn rhydd:
+Pa Gristion, heb deimlo ei galon mewn aeth,
+All gofio du lafur ei frodyr sy'n gaeth?
+
+O Brydain brydweddol! "Arglwyddes y donn,"
+Na ad i un gaeth-long ymrwygo drwy hon;
+Cwyd Faner wen Rhyddid, nes gwawrio y dydd
+I'r olaf gael dianc o'i gadwyn yn rhydd.
+
+
+
+Y CREULONDEB O FFLANGELLU BENYWOD.
+
+
+A ysgrifenwyd wrth ddarllen penderfyniad barbaraidd blaenoriaid dideimlad
+planfeydd Jamaica, i ddinoethi a fflangellu gwyryfon a gwragedd.
+
+Pe bae gennyt deimlad, pe byddi tyn Gristion,
+Fe wridai dy wyneb, fe waedai dy galon,
+Weld menyw brydweddol wrth gadwyn yn crynnu,
+Dan fflangell anifail yn griddfan a gwaedu;
+ O ystyr, yn dirion, ei gwylder a'i dagrau;
+ Tafl ymaith y fflangell, a dryllia'i chadwynau.
+
+Dwys glwyfir, bob ergyd, ei chorff teg tyneraidd,
+Ond dyfnach y clwyfir ei gwylder benywaidd;
+Heblaw ei harcholli o'r ddaear i'r ddwyfron,
+Mae'r fflangell mewn ail fodd yn cyrraedd ei chalon;
+ O ystyr, yn dirion, ei gwylder a'i dagrau;
+ Tafl ymaith y fflangell, a dryllia'i chadwynau.
+
+Pan oeddit yn faban hi'th wasgai i'w mynwes,
+A breichiau o'th amgylch, hi'th gadwai yn gynnes;
+Rho'i gusan, dan wenu, i'th gadw'n ddiddanus,
+Ac ar ei bron dyner hi'th siai i orffwys:
+ O ystyr, yn dirion, ei gwylder a'i dagrau;
+ Tafl ymaith y fflangell, a dryllia'i chadwynau.
+
+Trywenid ei mynwes gan ingawl ddwys alaeth,
+A gwewyr dirboenus, cyn dyfod yn famaeth:
+A chreulawn ei gwasgu mewn cyfyng amgylchiad,
+Sy'n gofyn ymgeledd, tynerwch, a chariad;
+ O ystyr, yn dirion, ei gwylder a'i dagrau;
+ Tafl ymaith y fflangell, a dryllia'i chadwynau.
+
+Dyngarwch a rhinwedd ymgiliant i wylo,
+A chrefydd, o hirbell, saif draw dan och'neidio,--
+Gweld gwaedlyd archollion y fflangell gylymog
+Yn gwysau plethedig dan ddwyfron y feichiog;
+ O ystyr, yn dirion, ei gwylder a'i dagrau;
+ Tafl ymaith y fflangell, a diyllia'i chadwynau.
+
+Mae Llywydd y bydoedd yn gweled ei chlwyfau,
+Mae'n clywed ei chwynion, mae'n cyfrif ei dagrau,
+Mae'n codi i ddial--clyw'r daran yn rhuo--
+Mae'n gwisgo ei gleddyf, mae bron mynd i daro:
+ O cryned dy galon! ymostwng mewn dychryn,
+ Tafl ymaith y fflangell, a dryllia y gadwyn.
+
+
+
+Y FENYW WENIEITHUS.
+
+
+Ar wyll y nos, dan dywyll lenni'r hwyr,
+Pan guddid gwen yr haul dan orchudd llwyr,
+Yn nrws ei thy, yn denawl wenu'n llon,
+Mewn esmwyth wisg, a dichell dan ei bron,
+Y fenyw deg wenieithus welaf draw,
+Yn gwamal droi ei llygaid ar bob llaw,
+Nes canfod llanc mwyn hardd-deg, ond heb bwyll
+Na deall da i ochel hudawl dwyll.
+
+Gan ddal ei law, hi a'i cusanodd ef,
+Ac mewn iaith ystwyth, gyda dengar lef,
+Dywedai'n hyf,--"Roedd im' aberthau hedd,
+Ond cedwais wyl, a gwnaethum heddyw wledd:
+Yr hen adduned ddwys, cywirais hi,
+A brysiais heno'n llon i'th gyfarch di:
+Fy ngwely drwsiais a cherfiadau gwych,
+Ac a sidanaidd lenni teg eu drych;
+Mwg-derthais ef ag enaint peraidd iawn,
+O aloes, myrr, a sinamon, mae'n llawn.
+Tyrd gyda mi,--ni chawn byth gyfle gwell
+I garu'n gu,--mae'r gwr yn awr ymhell:
+O arian cymerth godaid yn ei law,
+Ac ar y dydd amodol adref daw.
+Mae dyfroedd cel fel gwin i'r galon brudd,
+Cawn hyfryd wledd o beraidd fara cudd."
+
+A'i geiriau teg, ei droi a'i ddenu wnaeth,
+Nes cael i'w rhwyd ei galon ffol yn gaeth;
+Fel ych yn fud i'r lladdfa aeth yn glau,
+Neu fel yr ynfyd cyn i'r cyffion gau:
+Heb gofio gwg na llygad craff yr Ior,
+Canlynodd hi, gan ddistaw gau y ddor.
+
+Ymysg ei fwyn hoff gu gyfoedion llon,
+Lle rhodiai gynt heb ofid dan ei fron,
+Nac yn ei dy, ni welwyd mono mwy;
+Ei geraint oll, mewn galar gwelid hwy.
+Ei dad, mewn dagrau, ro'i ei ben dan gudd,
+A'i fam, wrth riddfan, rwygai 'i mynwes brudd.
+
+Wrth wrando llais y fenyw ddengar ddrwg,
+Cynhyrfir Ior y nef i wisgo gwg;
+Porth uffern yw ei haddurnedig dy,
+A'i ffordd i gell oer angau'n arwain sy;
+Gweu maglau mae i ddal eneidiau'n gaeth
+Yn nyfnder gwae, i oddef bythol aeth;
+Os yno'r a, nid oes i'r adyn ffol
+Ond gobaith gwan y dychwel byth yn ol.
+
+
+
+Y TWYLLWR HUDAWL.
+
+
+Mewn hyfryd le o gyrraedd swn y byd,
+Y trigai'n llon forwynig deg ei phryd;
+Hoff unig ferch ei dedwydd fam a'i thad,
+Heb dan ei bron na briw na thwyll na brad.
+
+Pan, gyda'r wawr, y pigai'n llon o blith
+Pei-lysiau'r maes a dagrau'r bore wlith,
+Y rhosyn coch a'r lili, teg eu drych,
+I fritho'n hardd ei swp o flodau gwych,
+A phan adseiniai lais yr eos fwyn,
+Gan heinif ddawnsio'r gan o dwyn i dwyn,--
+O'r braidd, er craffu, gall'sid dweyd ar g'oedd,
+Pa un ai dynes ai angyles oedd.
+
+Ond gwywo wnaeth y gwrid oedd ar ei grudd,
+A buan ffodd y gan o'i mynwes brudd.
+Un hwyr, gan wisgo gwen, rhyw dwyllwr ddaeth
+I geisio 'i dal mewn hudawl serch yn gaeth.
+Wrth weld ei wen, ei chalon dyner wan,
+Heb feddwl drwg, orchfygwyd yn y fan:
+A'r gelyn cas, 'nol ei handwyo hi,
+Arllwysai wawd, heb wrando ar ei chri.
+
+Ei thad, wrth weld ei gwarth, creuloni wnaeth,
+A'i galon falch fel darn o garreg aeth;
+Dan erchyll reg--gan droi ei wyneb draw--
+Ei gwthio wnaeth o'i dy i'r gwynt a'r gwlaw;
+A chloi ei ddrws, gan greulawn dyngu'n ffol,
+Na chai hi byth ddychwelyd yno'n ol.
+
+Ar gopa craig, wrth oleu gwan y lloer,
+Ei baban gaed yn farw ac yn oer;
+A'i ddagrau'n ia tryloew ar ei rudd,
+A'i ddwylaw bychain rewent wrth y pridd.
+
+Y fam, yn awr o'i phwyll, yn llwyd a gwan,
+A grwydrai'r dydd yn brudd o fan i fan;
+A'r nos, mewn lludded dost, eisteddai'n syn
+Dan gysgod llwyn, neu fry ar ael y bryn:
+Ing ar ol ing drywanai 'i mynwes brudd,
+Ond byth ni welid deigryn ar ei grudd.
+
+Yn glaf neu iach, ai allan ar bob hin,
+Ac yn ei llaw y cariai gorsen grin,
+Gan ddistaw ddweyd o hyd, yn syn ei gwedd,--
+"Fy chwaer yw hon, a daw i wylio'm bedd."
+Ni soniai byth am gar, na mam, na thad,
+Na'i hudwr cas, nac am ei baban mad;
+Ymddiddan wnai, bob dydd, a'r gorsen grin,
+Heb deimlo dwys effeithiau 'i chystudd blin.
+Nes marw dan oer wlith y niwlogf nen,
+Heb frawd na chwaer i gynnal pwys ei phen.
+O'i llygredd oll ei chyflawn buro wnaed,
+Gan Ysbryd Duw, drwy rin y dwyfol waed;
+A'i henaid ffodd o'r maglau oll yn rhydd,
+Gan hedeg fry i wlad o fythol ddydd.
+
+Ond wrth gyfleu ei chorff i'w wely pridd,
+Ei thad, dan guro'i fron, felldig ai'r dydd
+Y gwelodd hi o'i dy yn gorfod ffoi,
+Mewn cyflwr gwan, heb wybod p'le i droi:
+A'i hudwr tlawd a welai, er ei fraw,
+Ddialydd llym a'i gleddyf yn ei law;
+A'i Farnwr dig ar ddisglaer orsedd lan,
+A'i wae'n seliedig mewn llyth'renau tan.
+
+
+
+DAROSTYNGIAD A DERCHAFIAD CRIST.
+
+
+I Gu Geidwad gwael bechadur,
+ Gyda gwylder, seiniwn gan;
+Ac enynner yn ein mynwes
+ Fywiol fflam o nefol dan:
+Canwn am Ei ddarostyngiad,
+ Am Ei gur a'i gariad Ef,
+Gan adseinio tonau mwynion
+ Telynorion llys y nef.
+
+Wrth weld adyn diymgeledd,
+ Tlawd, yn gorwedd yn Ei waed,
+Dan ei faich, yn archolledig
+ O'i ben ysig hyd Ei draed;
+Heb un cyfaill i dosturio,
+ Heb un balm i'w galon friw,
+Codai Iesu lef drugarog
+ Am i'r euog gwael gael byw.
+
+Gadael uchel sedd gogoniant,
+ Gadael moliant dirif lu,
+Gadael hardd frenhinol goron
+ Wnaeth ein tirion Iesu cu;
+Disgyn wnaeth ar edyn cariad,
+ Achub oedd Ei fwriad E',
+Daeth o'i fodd i gystudd chweiw,
+ Daeth i farw yn ein lle.
+
+Yn y preseb, pan yn faban,
+ Llesg ac egwan gwelwyd Ef:
+Isel annedd, gwael ymgeledd,
+ Gadd Etifedd mawr y nef:
+Eto seren gain y dwyrain,
+ Wenai ar ei lety gwael;
+Thus, a myrr, ac aur-anrhegion,
+ Wrth Ei draed ro'i'r doethion hael.
+
+Dirif luaws ser y bore,
+ Drwy'r wybrennau seinient gan,
+Gan fwyn ateb cyngan nefol
+ Y waredol dyrfa lan:
+Gras, cyfiawnder, a gwirionedd,
+ A thrugaredd yn gytun,
+Wrth yr orsedd yn hoff wenu
+ Am gael modd i godi dyn.
+
+Cilio wnaeth y tew gysgodau,
+ Gwawriodd hyfryd oleu ddydd;
+Nid oes eisiau gwaedlyd ebyrth,
+ Thuser aur, nac allor bridd:
+Daeth y Gogoneddus Sylwedd,
+ Daeth yr addawedig Had,
+Cododd disglaer Haul Cyfiawnder,
+ Sain y durtur sydd trwy'r wlad
+
+Mwy ni cheisir urddau Aaron,
+ Olew per, na brasder wyn;
+Gwisgo'r Urim ar ei ddwyfron
+ Yn y nef mae'r Iesu mwyn;
+Wrth yr allor aur mae'n gweini,
+ Clywir adsain clychau hedd;
+Yn Ei law mae'r aur deyrnwialen,
+ Wrth Ei glun mae'r dwyfol gledd.
+
+Hoeliodd ddeddf yr ordinhadau,
+ Oedd i'n herbyn, wrth Ei groes,
+Gan yspeilio'r awdurdodau
+ Pan yn dioddef angau loes;
+Cododd faner wen trugaredd,
+ Drylliodd gedyrn byrth y bedd,
+Seiniodd jubil lawn i'r caethion,
+ Ac arlwy odd radlawn wledd.
+
+Agoriadau y llywodraeth
+ Wisgwyd ar Ei ysgwydd Ef,
+Rhoddwyd iddo bob awdurdod
+ Ar y ddaer ac yn y nef;
+Marchog mae yng ngherbyd cariad,
+ Troi o'i gylch mae engyl nef;
+Sigla cedyrn byrth y fagddu
+ Hyd eu sail wrth rym ei lef.
+
+Croesaw iddo wisgo'r goron,
+ Aed Ei enw dros y byd;
+Plyged pawb i'w fwyn awdurdod
+ Am Ei gymod Ef inewn pryd;
+Boed i'r euog tlawd ymguddio
+ Dan Ei dawel gysgod Ef,
+Boed i'r gwannaf ffyddiog bwyso
+ Ar Ei fraich alluog gref.
+
+Mewn gogoniant dirfawr eto,
+ Heb y groes a'r goron ddrain,
+Disgyn gyda myrdd myrddiynau,
+ Llawen floedd, ac uchel sain;
+Cwyd Ei orsedd, egyr lyfrau,
+ Sigla seiliau dyfna'r bedd,
+Lleda'r wyntyll, hwylia'r clorian,
+ Ysgwyd fry Ei farnol gledd.
+
+Pan y ffy y nefoedd heibio,
+ Pan y byddo'r ddaer yn dan,
+A'r holl anwir fyd mewn cyffro,
+ A llu'r saint yn seinio can;
+Pan y todda'r euog ymaith
+ Dan lewygon bythol fraw,
+Boed i ni gael tawel orffwys
+ Ar ei dirion ddeheu law.
+
+
+
+BUDDUGOLIAETHAU YR EFENGYL YN Y MIL BLYNYDDOEDD.
+
+
+[Dan Haul Y Prydnawn. (Bythynod yn Llanbrynmair): sr41.jpg]
+
+Efengyl oludog! Angyles trugaredd,
+ Mae cyrrau y ddaear am weled dy wedd;
+Ym mantell dy harddwch, ar gerbyd dy haeledd,
+ Dos rhagot nes llenwi y byd a dy hedd;
+Mae gennyt ti'n barod wledd lawn i'r newynog,
+ A chymod i'r euog, a hardd-wisg i'r noeth,
+A thrysor i'w rannu rhwng tlodion anghenog,
+ Sydd fyrdd mwy ei werth na mil myrdd o aur coeth.
+
+Mae'r byd yn ymysgwyd o gwsg mil o oesau,
+ Gan dditif dylwythau cei roesaw i'w mysg,
+A gwastad balmantwyd ffyrdd rhyddion i'th gerbyd
+ Gan feibion celfyddyd, masnachaeth, a dysg:
+Peiriannau tan cariad i droi dy olwynion
+ Yw'r llon Gymdeithasau addurnant ein gwlad;
+A chwareu diwy'r nef mae holl dannau gorfoledd,
+ Fod gobaith i ddyn gael ymgeledd yn rhad.
+
+Cyhoeddwyd o'r cynfyd gan lais ysbrydoliaeth
+ Am bur effeithiolaeth diatal dy ras,--
+Llwyr ofer i'r bobloedd i'th erbyn derfysgu,
+ I lengoedd y fagddu amlygu eu cas:
+I'th ddilyn wrth d'alwad cwyd torf o genhadon
+ A'u calon yn fflamio dan fedydd o dan;
+Ymdaenu trwy wersyll y gelyn mae'r cyffro,
+ Mae'r delwau'n malurio yn fawrion a man.
+
+Mae'th weision yn barod i gludo'th drysorau
+ Trwy'r 'stormydd, tros donnau trochionogy y mor;
+Wynebant yn llon ar dros fil o ynysoedd,
+ I dd'weyd am oludoedd trugaredd yr Ior;
+Dilynant afonydd, ant trwy anial-diroedd,
+ A dringant fynyddoedd clogwynog yr ia,
+I ddangos i adyn ar suddo mewn adfyd
+ Fodd i achub ei fywyd a symud ei bla.
+
+Mae llwythau yr Oen, wrth dy weld, yn gwroli,
+ Llawenydd a chan sy'n coroni eu pen;
+Mae gwresog ber anadl eu cariad a'u gweddi
+ Yn chwalu'r cymylau fu rhyngddynt a'r nen;
+A gwelir ysprydoedd y perffaith gyfiawnion,
+ Fel cwmwl o dystion ar furiau y nef,
+Yn plygu i wrando'u plethedig ganiadau,
+ Gan hwylio'u telynau i ateb eu llef.
+
+Daeth Iesu o Bosra a'i ddillad yn gochion,
+ Gan ymdaith yn eon yn amlder ei rym;
+Enillodd holl yspail y tywysogaethau,
+ Gall ddial, neu faddeu,--ei gledd sydd yn llym;
+O'i orsedd llefara mewn iawnder a chariad,
+ Mae'n gwisgo agoriad awdurdod a bri;
+Gan hynny ni lwydda dy elyn na'i luoedd,
+ Mae Brenin y nefoedd yn Noddwr i ti.
+
+Wrth wrando dy gais dros y Gwr a groeshoeliwyd,
+ Dwysbigwyd calonnau myrddiynau cyn hyn,
+A denwyd trueiniaid i droi eu hwynebau
+ O swynol lwyn Daphne i Galfari fryn;
+Dadblygaist dy faner ar brif-ddinas Rhufain,
+ Ce'st luoedd yn Athen i ganmol y gwaed;
+A golchaist yn Nghorinth dorf fawr o'r rhai duaf,
+ Gan wisgo mewn gwyn yr aflanaf a gaed.
+
+Dy lais yn oes Luther ddychrynnodd y bwystfil,
+ Dy wen doddodd galon y Greenlander draw,
+A dofwyd cynddaredd y Bushman trwy'th eiriau,
+ Nes gollwng ei saethau gwenwynigo'i law;
+Dy felus beroriaeth trwy helaeth goedwigoedd
+ America fras, ac Ynysoedd y De,
+A ddenodd farbariaid o'u dawns yn y llwyni,
+ I wrando a chanu am gariad y Ne'.
+
+Dihunodd yr udgyrn gydwybod Brytania
+ I ollwng wyth gan-mil o'i chaethion yn rhydd;
+A gyrraist gyflawnder o ber-falm Calfaria
+ I wella archollion y galon fu'n brudd;
+O gylch elor gormes mae myrdd o gadwynau
+ Ar wasgar yn ddarnau drylliedig dan draed;
+A'r famaeth a'i maban sy'n llon gadw jubil
+ Uwch bedd yr anghenfil fu'n meddwi ar waed.
+
+Gorchfygodd yr Oen i agoryd y seliau,
+ A llawn yw'r phiolau ar allor y nef;
+Hardd sefyll o'u cylch mae eneidiau'r merthyron,
+ Mewn gynau claerwynion, yn llawen eu llef;
+O'u llwch cododd ysbryd a ddryllia'r cadwynau
+ Fu'n dal cydwybodau am oesoedd yn gaeth;
+Pinaglau coelgrefydd yn chwilfriw a chwelir,
+ A'r gelyn ymlidir i'r llyn o'r lle daeth.
+
+Bu anghymedroldeb yn llifo am oesau,
+ Bu'n lledu ei donnau fel dylif o dan;
+A chyfoeth, a chysur, a bywyd myrddiynau,
+ Er pob atal-furiau, ysgubid o'i flaen;
+Ond codaist dy faner er atal ei ymchwydd,
+ A safodd yn ebrwydd, a chiliodd mewn brys;
+Ac 'nawr lle bu'r gelyn yn creulawn deyrnasu,
+ Mae rhinwedd yn codi hardd orsedd ei lys.
+
+Bu erchyll olwynion car Moloch Hindostan
+ Yn treiglo dros balmant o esgyrn a gwaed,
+A myrdd o rai gwallgof dan floeddio'n ei dynnu,
+ Gan fathru eu plant a'u rhieni dan draed;
+Ond safodd er's dyddiau, ni faidd dy gyfarfod,
+ Mae'n suddo i'r tywod, a'i lu'n cilio draw;
+Mae blodau sidanaidd ei dwr wedi gwywo,
+ A'i ger yn malurio trwy'r tes a thrwy'r gwlaw.
+
+Heb ddim o ffydd Abram, bu myrdd o'i hiliogaeth
+ Dan iau annghrediniaeth yn gaeth lawer oes;
+Ond troant i'th ddilyn, gan gerdded ac wylo,
+ Nes tawel ymffrostio yn Aberth y groes;
+Ail-hwylir y delyn fu'n hir ar yr helyg,
+ Daw'r llwythau crwydredig i Seion mewn hedd;
+Am ryfedd rinweddau y gwaed y cydganant,
+ A melus ganmolant gyflawnder y wledd.
+
+Trwy'r fro lle bu Israel yn lledu ei babell,
+ Bro cafell y ddisglaer Shecina cyn hyn,
+Bro melus beroriaeth telynau'r proff wydi,
+ Bro'r ardd lle bu'r chwysu, bro Calfari fryn:
+Trwy honno mae'r wawr 'nawr yn gwasgar ei goleu
+ I ymlid cysgodau coelgrefydd ar ffo;
+Trwy honno tyrr eto sain tannau gorfoledd,
+ A blodeu tangnefedd goronant y fro.
+
+Hardd Rosyn Glyn Saron a siriol flodeua
+ Ar foelydd Siberia a gwledydd yr ia,
+A'r awel wasgara ei iraidd aroglau
+ Nes gwella tylwythau y Tartar o'u pla;
+I wlad y Saith Eglwys fu gynt yn flodeuog
+ Estynnir yr eurog ganwyllbren yn ol,
+Ceir eto fflam fywiol o'r allor i danio
+ Lamp gras i oleuo pob bryn a phob dol.
+
+Dan iau tri chan miliwn o eilunaddolwyr
+ Mae China mewn gwewyr yn griddfan yn awr;
+Ond siglwyd ei mur, er cadarned ei seiliau,--
+ Mae eisoes yn fylchau, daw'n ddarnau i lawr;
+Llon-gyrcha minteioedd i gysgod ei llwyni
+ I ddarllen a chanu am Aberth y bryn,
+Ti wy demlau Fobi mae ceri-ddelwau yn crynnu,
+ A'u crefftwyr yn gwelwi, gan ediych yn syn.
+
+Mae awel adfywiol yn awr yn ymsymud
+ Ar wyneb du-ddyfnder cymysglyd y byd;
+Ar dymor dymunol mae'r nefol addewid
+ Bron esgor--mae gwewyr drwy natur i gyd:
+Llawn bywyd yw heinif forwynion Rhagluniaeth,
+ Mae tannau mwyn odiaeth pob telyn mewn hwyl,
+Mae arlwy frenhinol yn rhad i'r holl bobloedd,
+ A mil o flynyddoedd fydd yspaid yr wyl.
+
+Goleuni gwybodaeth trwy'r ddaear ymdaena,
+ O'i flaen yr ymgilia'r tywyllwch yn glau;
+Breuddwydion coelgrefydd fel niwl a ddiflanna,
+ A'r bleiddiaid gormesol a ffoant i'w ffau;
+Cyfaredd y friglwyd ddewines a dorrir,
+ Y Gair a ddilynir fel Rheol y Gwir;
+Doethineb fydd sicrwydd a nerth yr amserau,
+ Hyfrydwch hardd-fryniau y nef leinw'r tir.
+
+Holl ddoniau yr enaid a gydymegniant
+ Er cynnydd ei fwyniant a symud ei boen;
+Harddwisgir traethodau'r anianydd dysgedig
+ Ag iaith ostyngedig o fawredd i'r Oen;
+Diweirdeb a rhinwedd a hoffant felusder
+ Y delyn fwyn seinber roes gynt iddynt glwy;
+I chwythu eu gwenwyn dan flodeu maes awen,
+ Colynawg seirff uffern ni lechant yn hwy.
+
+Gwir ydyw fod rhannau o'r wybren mewn cyffro,
+ Ond tyrfu wrth gilio mae'r 'storom yn awr;
+Cenfigen a drenga, a nefol dangnefedd
+ Deyrnasa mewn mawredd dros wyneb y llawr;
+Dinystriol beiriannau tan rhyfel a ddryllir,
+ Y march coch a rwymir mewn cadwyn o bres;
+Ymleda yr heulwen nes chwalu'r tywyllwch,
+ A blodeu brawdgarwch a dyf yn ei gwres.
+
+Defnynna sancteiddrwydd o'r nef fel gwlith Hermon,
+ Melysa gysuron holl gylchoedd y byd,
+Addurna y cerbyd, y meitr, a'r goron,
+ Nefola serchiadau y galon i gyd;
+Ireiddia ei olew olwynion masnachaeth,
+ A hwylia ei awel holl longau y mor,
+Ei darth gwyd o'r allor, a'i iachus aroglau
+ A leinw holl gonglau cysegroedd yr Ior.
+
+Yr anial di-annedd, fel rhosyn, flodeua,
+ Y myrtwydd addurna hardd odre y bryn,
+Ym mhen y mynyddoedd bydd yd yn ddyrneidiau,
+ Tyf brwyn lle bu'r dreigiau, daw'r crasdir yn llyn;
+Bwytant o ber-ffrwythau'r gwinllannoedd a blannant,
+ A'u tai gyfaneddant dros ddedwydd oes hir;
+Hardd-wridog a heinif y ceir y mab canmlwydd,
+ Hyfrydwch a llwydd a briodant y tir.
+
+Sylfaenir pryd hyn y Jerusalem newydd
+ A saphir,--a hon fydd gogoniant y byd;
+O feini dymunol y gwneir ei therfynau,
+ A'i phyrth fydd o berlau uchelbris i gyd;
+Agaur y palmentir ei llydain heolydd,
+ O fewn ei magwyrydd bydd iechyd dilgth,
+A thrwy ei grisialaidd ffenestri tywynna
+ Gogoniant Jehofa, heb fachlud mwy byth.
+
+Tymhorau ei gweddwdod a'i galar a dderfydd,
+ Llawenydd i'r holl genhedlaethau a fydd;
+O fewn ei therfynau am drais byth ni chlywir,
+ A chenedl a enir o'i mewn yr un dydd;
+Brenbinoedd a welant ei disglaer ogoniant,
+ Ac iddi y dygant anrhegion heb rif;
+Diwellir ei phlant a helaethrwydd diddanwch,
+ A'i heddwch ymchwydda fel tonnau y llif.
+
+Llys Ior geir i'w chanol, ac allan o'i oisedd
+ Yr afon risialaidd a lifa heb drai;
+O'i deutu bydd tyrfa nad elli ei rhifo
+ Yn rhodio heb deimlo na melldith na gwae;
+Dan gysgod iachusol gwyrdd ddail pren y bywyd
+ Cydgadwant wyl hyfryd heb lygredd na phoen;
+A'r Oen gadd ei ladd a'u bugeilia hwy'n wastad,
+ A byrdon eu caniad fydd--"Teilwng yw'r Oen."
+
+
+
+
+CILHAUL UCHAF.
+
+
+Ychydig flynyddoedd yn ol yr oedd ffarmwr ymdrechg ar o'r enw John
+Careful, a'i wraig ddiwyd Jane Careful, yn byw yn Nghilhaul Uchaf, yn
+nhalaeth Gwynedd. Yr oedd iddynt chwech o blant--tri mab a thair
+merch--oll wedi tyfu i fyny yn bobl ieuainc iachus, cryfion, bywiog,
+gweithgar a gofalus; ac yr oeddynt yn diwyd serchog gynorthwyo eu ihieni
+yn holl wasanaeth y ffarm. Yr oedd y rhan fwyaf o'u tyddyn yn dir gwlyb,
+oer, melyn, cleiog, a phur dlawd. Yr oll a fedrent wneyd mewn cylch
+blwyddyn o holl gynnyrch y ffarm oedd oddeutu 185 pounds; tra yr oedd y
+talion--rhent, degwm, trethoedd, cyflogau, gwrteith au, porfa gaeaf, &c.,
+&c., yn llawn 220 pounds. Ar ol llawer o lafur, ac o ludded, ac o
+bryder, ac ar ol rhes o ffeiriau pur farw a digalon, darfu i John Careful
+un bore rhent anturio crybwyll wrth y steward nad oedd dim modd iddo yn
+wir wneuthur y talion o'r ffarm. Edrychodd y steward yn ddu ac yn llym
+arno, ac atebodd yn bur sychlyd y dylai wneyd mwy o'r ffarm: ei fod ef
+wedi darllen rywbryd yn ddiweddar, mewn rhyw bapyr newydd, am ryw ffarmwr
+yn rhywle, ag oedd yn talu llawer mwy o rent nag oedd ef yn dalu, a hynny
+am ffarm lai na'i ffarm ef; ac ychwanegodd y byddai yn hawdd iddo osod
+Cilhaul Uchaf am rent uwch na'r rhent presennol. Wrth glywed y steward
+yn siarad mor graslyd, ac wrth ei weled yn edrych mor gibog, dywedodd
+John Careful dan grynnu, a'i wefusau yn gwynnu, ei fod ef a'i deulu yn
+awyddus i wneyd eu goreu; ac yna, heb yngan sill yn ychwaneg, ymgiliodd
+allan o'r ystafell yn wysg ei gefn, dan fowio i'r steward yn y dull
+gostyngeiddiaf. Parhodd geiriau cras y steward--"y dylai wneyd mwy o'r
+ffarm"--i seinio yn ei glustiau am hir amser wedi hynny. Yr oedd ef a'i
+wraig a'i blant yn awyddus iawn am wella y ffarm. Gwyddent y gellid ei
+gwella; ac yr oeddynt wedi meddwl ac ymddiddan llawer am gynllun i drin
+yn well; ond yr oeddynt yn ofni traul y drefn newydd. Beth bynnag, gan
+fod y steward wedi rhoddi awgrym mor gryf ac mor eglur iddynt am drin yn
+well, penderfynasant gynnyg yn deg am amryw welliantau: ac ar ol
+cyfnerthu y wedd, a phrynu offer newyddion, a chyflogi ychwaneg o
+ddwylaw, darfu i'r gwr a'r wraig a'r plant, i gyd oll yn wyth enaid,
+gydymroi i lafurio yn ddiflino am welliantau am dros dair blynedd. Ond
+ar ol gwneuthur y cyfrifiad manylaf, cawsant er eu siomedigaeth fod y
+draul ychwanegol tuag at welliantau yn llawn triugain punt y flwyddyn,
+tra nad oedd gwerth cynnyrch y gwelliantau hynny prin yn ddeugain punt y
+flwyddyn: ac felly eu "hennill" drwy y gwell-iantau a ddirgymhellwyd
+arnynt gan y steward oedd colled o ugain punt yn y flwyddyn. Yr oedd y
+steward, a llawer o foneddigion eraill, ac amryw o'r cymydogion, yn eu
+canmol yn fawr iawn ac yn fwyn iawn, am drefn dda eu tyddyn; sylwent fod
+wyneb a chalon eu tyddyn yn glod iddynt, ac yn brydferthwch i'r
+gymydogaeth: ond nid oedd yr holl ganmoliaeth oeddynt yn gael ddim yn
+gymorth iddynt at dalu hyd yn nod am hoelen pedol; ac felly colled o
+ugain punt y flwyddyn oedd y wobr gyntaf a gafodd y Farmwr Careful am ei
+ofal a'i ludded a'i arian gyda "gwelliantau."
+
+Gyda bod y ffarm wedi cael ei gwella a'i threfnu yn y dull a grybwyllwyd,
+daeth y steward heibio yn lled fore un diwrnod yn yr haf, pan oedd yr
+ydau ar hedeg; ac wedi dweyd "bore da i chwi" wrth John Careful, ac wedi
+gwneyd wyneb rhyw hanner-stewardaidd i ofyn mewn llais dienaid am iechyd
+a helynt ei wraig a'i blant, dywedodd dan wenu yn bur foneddigaidd fod yn
+hoff iawn ganddo weled Cilhaul Uchaf mewn calon ac mewn trefn mor
+rhagorol; ei fod yn falch iawn o'r olwg oedd ar y tyddyn, a bod yn dda
+ganddo fod y gair ar led fod y prisiau braidd yn codi; a bod y seneddwyr
+aurhydeddus ac enwog Mr. B. a Mr. D. a Mr. Y. wedi hyfgyhoeddi yn eu
+bareithiau diweddar o ben Assblock y farchnadfa eu bod am gymeryd i fyny
+achos y ffarmwr yn y senedd newydd, a'u bod am adsefydlu treth yr yd a
+phob cynnyrch tramor; ond ychwanegai y steward mewn llais mwyn, tyner,
+isel, dan fan-gecian, fod cyfiawnder ag ymddiriedaeth y swydd bwysig oedd
+ganddo fel steward yn ei orfodi i godi mymryn--mymryn bach ar y rhent.
+Nis gallai ddweyd yn fanwl y bore hwnnw pa faint, ond ymrwymai y cai y
+codiad fod yn bur deg a rhesymol--na chai ddim bod dros bymtheg ar hugain
+y cant. "A gobeithio," meddai, "yr ewch rhagoch i wella eich ffarm,
+oblegid yn y dyddiau goleu hyn o iawnder a diwygiad, pan y mae arglwyddi
+tiroedd mor enwog o ran eu craffineb a'u tegwch a'u gofal, a phan y mae y
+stewardiaid mor hynod o ofalus ac o gydwybodol ac o deimladwy am galonogi
+y tenantiaid, bydd ffarmwyr ymdrechgar yn sicr o gael tal da am eu
+llafur, a llog da am eu treuliau wrth wella eu tyddynod." A dyma oedd yr
+ail wobr a gafodd Ffarmwr Careful am ei flynyddoedd o welliantau llafurus
+a drudfawr yn Nghilhaul Uchaf.
+
+Cyn pen teirawr ar ol i'r steward droi ei gefn, dacw bwtyn byr tew
+wynebgoch pwfflyd bolfawr o ddegymwr yn dyfod drwy y nant, ac ar draws y
+rhos, a thros y gwrych, a'i lyfr "counts" yn ei law, ac yn dringo i
+edrych dros y wal i gyfrif y gwyddau oeddynt ar y llyn, ac yna yn estyn
+ei ben drwy y twll oddiar ddrws cut yr hwch fagu i gyfrif ei thorllwyth
+diweddaf; ac wedi hynny yn galw ar John Careful ato i'w holi am nifer y
+defaid a'r wyn noson y cneifio diweddaf, ac i ofyn iddo amryw bethau
+eraill; a rhybuddiai y degymwr y ffarmwr i fod yn bur fanwl yn ei
+gyfrifon. "Oblegid," meddai, "rhaid i mi fod yn fanwl iawn y tro yma
+i'ch gosod chwi i lawr yn ol eich llawn werth, oblegid y prisiad yma sydd
+i fod yn sylfaen i'r drefn newydd ag y mae fy meistr parchedig a
+dirprwywyr y degwm wedi cytuno i sefyll ati o hyn allan." A darfu i'r
+degymwr boliog, cyn symud o'r fan honno, ledu'i gount-book ar garreg y
+wal, ac a'i bwt pensil black lead ferr fawr bron ddyblu degwm Cilhaul
+Uchaf: a dyna oedd trydedd wobr John Careful am ei welliantau
+amaethyddol.
+
+Ymhen llai na mis ar ol hynny, daeth tri o briswyr heinyf craffus yn enw
+y plwyf, a thros y festri fach, i edrych dros ffarm Mr. John Careful. Yr
+oeddynt yn siriol ac yn siaradus iawn wrth ganmol ei thriniaeth a'i
+threfn; a dywedent fod Mr. Careful yn haeddu tlws arian am y cae maip
+uchaf, a sylwent fod ei gnwd gwenith yn hynod o lan ac o wastad, ond ei
+fod braidd yn ysgafn: ac yna, ar ol sisial ychydig o eiriau yng
+nghlustiau eu gilydd, a nodio, a wincio, a hwm-hamio, cryn dipyn, darfu
+iddynt gofnodi i lawr yn eu llyfr godiad o naw punt at drethoedd plwyfol
+Mr. Careful, heb ofyn iddo gymaint ag un gofyniad, na cheisio ganddo un
+gair o eglurhad am ddim o hanes y ffarm, nac o'r draul a gymerodd i'w
+gwella; a dyna oedd ei bedwaredd wobr amer welliantau amaethyddol yn
+Nghilhaul Uchaf. Yr oedd rhai o'r cymydogion cyfrwysaf a hwyaf eu pennau
+yn awgrymu y dylasai John Careful fod wedi cyrchu ychydig o French Brandy
+i'r ty erbyn dyfodiad bol y degymwr heibio, ac y buasai yn burion peth
+fod ganddo alwyn o gwrw da wrth law pan oedd y priswyr yn gwneyd i fyny
+eu cyfrif o werth ei dyddyn.
+
+Yn lled hwyr brydnawn y dydd ar ol hynny, daeth Peggy Slwt Slow, gwraig
+yr hen Ned Slow, at y drws; ac wedi gwneyd wyneb hir hyll crychiog,
+dywedodd fod Ned yn methu cael dim gwaith er's llawer dydd, a'u bod heb
+yr un tamaid o fwyd yn y ty; a bod yr hyn a oedd Ned wedi gardota iddynt
+ddydd Sadwrn, a dydd Sul, a dydd Llun, yn y cwm draw wedi darfod; a'i bod
+hi wedi cymeryd i fyned drwy y cwm yma heddyw, mewn gobaith o gael tipyn
+bach i'w cadw hwy a'r plant yn fyw dan ddydd Sadwrn, pan y cai eu merch
+hynaf Pol (os gallent gael ei hesgid oddiwrth y cobbler heb dalu am ei
+thrwsio) neu ynte y cai ei brawd Bob fyned i lawr y dyffryn i gardota
+ychwaneg iddynt: a chwanegai Peggy ei bod yn mawr obeithio y caent eu
+henwau i lyfr y plwyf yn y festri nesaf, oblegid fod Squire Three X Tap
+yn bur hoff o Ned ac o'r bachgen hynaf, am fod y ddau mor barod i redeg
+gyda milgwn a by theuaid y Squire bob tro y byddent yn dyfod y ffordd
+hynny. Ac ychwanegai Peggy fod y Squire wedi addaw troi i mewn i'r
+festri cyn ei diwedd i ddweyd gair drosom, a bod ei ddull a'i lais cry
+fyn sicr o fynnu gwrandawiad: ac awgrymai Peggy ymhellach i'r Squire, pan
+unwaith mewn diod, edrych yn bur fant-lon ar lygaid gleision Nansi ei
+merch, ac iddo sylwi ei bod yn tyfu yn lodes fawr lan gref dal dew
+brydferth, ac y gwnai ef rywdro rywbeth i Nansi. Yr oedd wyneb Peggy yn
+gloewi ac yn llonni pan y siaradai fel hyn am y Squire ac am Nansi, ac am
+gael myned i lyfr y plwyf; ond gan ei bod yn eglur fod cwpwrdd Peggy y
+noson honno yn wag, dymunodd John Careful ar ei ferch hynaf roddi iddi
+gardod o flawd ceirch, digon i wneuthur swper da o uwd i'r teulu anghenus
+y noson honno. A dyna oedd pumed wobr Ffarmwr Careful am wella ei
+feusydd.
+
+Yn lled hwyr y noson honno, ar ol oriau gweithio, galwodd Billy Active
+gyda Mr. Careful, a chyda gwedd drist isel, dywedodd wrtho ei fod allan o
+waith; fod ei hen feistr gofalus Fychan Graff o'r Ffarm Fawr wedi hollol
+wneyd ei feddwl i beidio cynnyg byth mwy am ddim "gwelliantau" er elw i
+bobl eraill. Yr oedd ef unwaith wedi meddwl a son llawer am sychu Dol y
+Brwyn, a chlirio y Wern Ddu, ac unioni gwrych y Ddol Gam, a rhannu y
+Ffridd Hir yn ddwy, a gwneyd ffordd newydd sych galed dda ar draws yr
+holl ffarm. Ond y mae wedi bod yn ystyried ac yn cyfrif y tal a gawsoch
+chwi am eich holl welliantau, ac y mae wedi dysgu oddiwrth y cam a'r
+golled a gawsoch chwi y wers bwysig o beidio meddwl am ddim gwelliantau
+byth mwy. Y mae wedi cael argyhoeddiad trwyadl mai y ffordd oreu o lawer
+iddo ef ydyw gwneyd mor ychydig ag y medro, a gwneyd yr ychydig hynny yn
+y ffordd rataf ag y medro, fel yr hen ffarmwr distaw llonydd hirben Owen
+Dwl o'r Ffridd Groes. Ni wariodd Owen yr un chwecheiniog am na
+gwelliantau nac adgyweiriadau er's dros bymtheg mlynedd ar hugain; a'i
+ffarm ef y dydd heddyw ydyw y rataf yn yr holl gymydogaeth, ac wrth weled
+pethau fel hyn, y mae fy hen feistr Fychan Graff yn penderfynu gwario o
+hyn allan cyn lleied ag y medro ar y ffarm; ac y mae newydd fy ngollwng
+i, a'r dynion eraill oedd ganddo yn gweithio wrth y dydd, i'n ffordd;--ond
+yr oedd ei wyneb yn wyn, a'i lygad yn llawn, a'i wefus yn crynu, wrth ein
+gollwng ymaith. Y mae wedi addaw talu i ni gyflogau y chwarter diweddaf
+yn mhen pymthegnos; ac yr wyf yn deall fod amryw eraill o ffarmwyr yr
+ardaloedd hyn yn debyg o ddilyn ei siampl. Nid oes gennyf ddim golwg yn
+awr am gael gwaith, ac nis gallaf oddef meddwl am fyned ar y plwyf. Nid
+wyf yn hoff o'r ysmocio a'r yfed, a'r gwasanaeth afiach a budr sydd yn
+llawer o ardaloedd y gweithiau; ac mae fy ngwraig a minnau wedi gwneyd i
+fyny ein meddyliau i ymfudo ar unwaith i America ar ol ein cefnder Tomy
+Strong. Yr wyf newydd dderbyn llythyr annogaethol iawn oddiwrth Tomy.
+Costiodd y llythyr swllt i mi, er nad yw yn pwyso mo'r bumed ran o owns.
+Y mae Tomy, a phob un o'r bechgyn a'r merched a aethant gydag ef, yn
+gwneyd yn dda iawn yn America; ac yr ydym ninnnau yn penderfynu myned yno
+tra byddo gennym ddigon o fodd i fyned. Y mae gennym ddigon yn awr; o
+leiaf bydd gennym, ar ol gwerthu hynny o ddodrefn sydd gennym, ddigon i'n
+cario ni ein dau, a'n tri phlentyn bach, i Wisconsin. Pe baem ni yn
+ymdroi ac yn oedi, ac aros yn segur yn y wlad yma nes i Betsy wella ar ol
+y baban nesaf, mae'n bur debyg na byddai gennym ddim digon o fodd i
+fyned; ac felly yr ydym yn gwbl benderfynol i fyned yn awr ar unwaith. Y
+mae y rheilffyrdd a'r llongau yn cludo yn awr am brisiau pur resymol. Yr
+ydym am barotoi barilaid dda o fara ceirch ac ymenyn a chaws, a thipyn o
+gig moch, a phethau anghenrheidiol felly, yn ddioed: a byddwn yn wir yn
+ddiolchgar iawn i chwi os rhoddwch fenthyg dwy bunt i ni am bymthegnos,
+pan y caf fy nghyflog i dalu yn ol i chwi; ac yna ni allwn brynnu rhyw
+betheuach anhebgorol at y fordaith am arian parod, a bydd Betsy a minnau,
+os parhawn i gael ein hiechyd, yn sicr o wneyd yn dda yn America.
+Gwyddoch ein bod bob amser yn foddlon i weithio, a'n bod yn hoff o
+weithio, ac nad ydym byth yn ddedwydd os na bydd gennym ddigon o waith."
+
+Methodd calon dyner John Careful wrthod cais Billy Active yn y fath
+wasgfa. Estynnodd iddo y benthyg gofynedig dan bron wylo wrth feddwl am
+golli teulu mor ddiwyd ac mor weithgar, mor garedig ac mor onest o'r
+ardal: a thyna y chweched wobr a gafodd Ffarmwr Careful am ei ludded a'i
+ofal a'i dreuliau wrth "wella" Cilhaul Uchaf.
+
+[Cyflwynwyr Tysteb S. R.: sr57.jpg]
+
+Ar ol dwys fyfyrdod yn ei galon ar y pethau hyn ddydd a nos am lawer o
+wythnosau, teimlai John Careful fwyfwy, ac yn ddwysach ddwysach, ei fod
+wedi cael cam, a'u bod wedi ymddwyn yn annheg iawn tuag ato. Ac un bore,
+pan ydoedd ar dipyn o neges yn yr Efail wrth y dafarn, cwynodd yn lled
+uchel, ac mewn iaith gref, yng nghlywedigaeth rhyw segurwyr masweddgar a
+diog oedd yn ymlechian o amgylch yno, nid yn unig ar berson y plwyf, a'r
+degymwr, a'r cardotwyr, ond hefyd ar y meistr tir a'r steward. A'r
+diwrnod cyntaf oll ar ol hynny darfu i Bob Clep, neu Jack Cant, neu Mrs.
+Gossip, neu Bessy Tattle, gario y cyfan oll a ddywedodd, a mymryn bach
+dros ben hefyd, i deulu y steward; a rhoddwyd llinell ddu ar unwaith ar
+gyfer ei enw yn llyfr private y steward, ac anfonwyd gair am dano fel
+tenant ystyfnig a grwgnachlyd y prydnawn hwnnw at ei arglwydd tir, a
+deallwyd yn fuan drwy yr holl ardal fod John Careful druan wedi llwyr
+golli ffafr y steward a'i deulu.
+
+Oddeutu yr amser hynny darfu i Mr. Jacob Highmind, yr hwn oedd newydd
+gael pedwar cant o bunnau ar ol ei hen ewytthr o Lundain, briodi Miss
+Jenny Lightfoot, yr hon oedd newydd gael dau gant o bunnau iddi ei hun ar
+ol ei mam gu; ac yr oedd y ddeuddyn ieuainc, gan eu bod newydd briodi, yn
+awyddus iawn am gael ffarm er dechreu byw; ac felly darfu i Jacob un
+bore, wrth groesi moel ei gymydog, saethu dwy betrisen, a phrynnu pwys
+o'r "gunpowder tea" goreu, i'w hanfon yn anrheg i wraig y steward; ac
+awgrymodd yn gynnil yn ol-ysgrifen ei lythyryn boneddigaidd y byddai yn
+dda iawn iawn ganddo ef a'i wraig newydd Jenny gael ffarm dan Lord
+Protection. Yn bur fuan ar ol byn, yn lled hwyr ar noson marchnad,
+gweithiodd Jacob ei ffordd, drwy landlord neu landlady y Queen's Head, i
+ystafell y steward yno, a chafodd adeg a chyfle da iawn i ddangos ei foes
+i'r steward, ac i adnewyddu ei gais am ffarm cyn gynted ag y gellid ei
+chael. Crybwyllodd y steward wrtho yn bur ddistaw, ac fel secret i'w
+gadw rhag pawb, fod John Careful o'r Cilhaul Uchaf yn debyg iawn o
+ymadael oddiyno; ac os deuai y ffarm honno yn rhydd y gwnai y tro i'r dim
+iddo ef ac i'w wraig newydd. Gwyddai Jacob yn burion fod Cilhaul Uchaf
+mewn cyflwr a threfn da dros ben; a bowiodd yn foesgar ac isel iawn wrth
+ddiolch i'r steward am ei awgrym caredig. Canodd y gloch yn union am
+botelaid o Champagne digymysg goreu; yfodd iechyd da Lord Protection a'i
+stewardiaid; ac yna ymgiliodd allan, gan fowio yn foneddigaidd iawn, a
+gadawodd y Champagne wrth ddeheulaw y steward.
+
+Ymhen llai na mis ar ol y digwyddiad bychan yma, daeth y steward i'r
+gymydogaeth i gasglu ol-ddyledion; ac anfonodd i erchi am i John Careful
+(er nad oedd dim ol-ddyled arno ef) i ddyfod i'w gyfarfod ef i'r Queen's
+Head erbyn naw o'r gloch bore drannoeth. Brysiodd Mr Careful yno yn
+brydlawn, gan obeithio cael rhyw newydd da, drwy ei fod bob amser wedi
+gofalu am y rhent i'r diwrnod. Ar ol disgwyl yn bur hir oddeutu y drws,
+cafodd ei alw i mewn. Edrychodd y steward yn llym wgus arno, a dywedodd
+wrtho, mewn llais cryf garw, na wnai ef ddim goddef iddo gwyno ar y
+codiad diweddar, fel ag yr oedd wedi gwneyd y dydd o'r blaen wrth yr
+Efail; fod ei rent ef yn bur resymol yn wir,--ei bod yn llawer is na
+rhenti ffermydd cymydogaethol arglwyddi eraill. Nid oedd Ffarmwr Careful
+wrth gychwyn mor fore tua'r Queen's Head, ac wrth chwysu yn ei frys i
+gyrraedd yno mewn pryd, ac wrth ddisgwyl yno ar ol hynny nes oeri braidd
+gormod--nid oedd ddim wedi dychymygu mai myned yno i gael ei drin a'i
+athrodi felly yr oedd wedi y cyfan: a darfu i drinfa front fawaidd felly,
+pan yr oedd yn agor ei glustiau a'i lygaid am ryw newydd cysurus,
+gynhyrfu mymryn ar ei ysbryd; ac atebodd mewn geiriau braidd cryfach nag
+a fyddai yn arfer ddefnyddio ar adegau felly,--ei fod ef a'i deulu wedi
+gwneyd eu goreu yn mhob ffordd i drin yn dda; ei fod ef a'i wraig a'i
+blant yn cydymroi weithio eu goreu yn fore ac yn hwyr--nad oedd byth na
+smocio, nac yfed, na gloddesta, na dim o'r fath beth yn eu ty; eu bod
+wedi gwario i drefnu a gwella y ffarm, y cyfan oll o'r chwe' chan punt a
+dderbyniodd ei wraig yn gynhysgaeth ar ol ei thad; ei fod yn gwbl foddlon
+er's blynyddau i log yr arian hynny gael myned i wneyd i fyny'r talion yn
+y blynyddau drwg presennol; ei fod wedi hoff-obeithio gallu cadw y 600
+pounds yn gyfain i'w rhannu yn gyfartal rhwng ei ferched ufudd a diwyd ar
+ddydd eu priodi; ond yn awr, fod y 600 pounds i gyd oll wedi myned, ac na
+byddai y stoc ddim yn hollol rydd ganddo ar ol y talion nesaf; ac yn wir
+nad oedd dim modd iddo ef dalu am y ffarm heb gael cryn ostyngiad. Wrth
+glywed hyn, dywedodd y steward yn bur sychlyd wrtho,--
+
+"Gwell i chwi ynte roddi y ffarm i fyny."
+
+"Yn wir, syr," atebai y tenant, "rhaid i mi ei rhoddi i fyny os na cheir
+rhyw gyfnewidiad yn fuan."
+
+"Hwdiwch ynte," ebe y steward, "dyma fi yn rhoddi i chwi notice i ymadael
+Gwyl Fair."
+
+Ar hyn, gostyngodd y tenant ei ben, ac atebodd mewn llais isel toredig, y
+byddai yn galed iawn i'w deimladau orfod ymadael o hen gartref ei dadau;
+ei fod ef a'i wraig a'i blant yn eu hamser goreu i drin y ffarm, ac y
+byddent yn foddlon i lafurio ac ymdrechu eto am flwyddyn neu ddwy mewn
+gobaith am amserau gwell. Ond brysatebodd y steward yn bur sarrug,--
+
+"Yr wyf yn deall eich bod wedi gwario yn barod yr arian cefn oedd
+gennych. Gwell i chwi chwilio ar unwaith am ffarm lai. Hydiwch, dyma'r
+notice i chwi ymadael. Rhaid i mi yn awr fyned at orchwylion eraill--bore
+da i chwi."
+
+Rhoddodd Mr. Careful y notice yn ei logell, a dychwelodd adref gyda
+chalon drom iawn; a phan oedd yn gorffen adrodd wrth Jane ei wraig yr hyn
+oedd y steward wedi ddweyd ac wedi wneyd, daeth y tri mab yn
+annisgwyliadwy i'r ty. Daethant hanner awr yn gynt nag arferol, am eu
+bod wedi gorffen cau y gwter fawr yng ngwaelod y braenar, a galwasant
+heibio i'r ty am fara a chaws cyn cychwyn at eu gorchwylion yr ochr arall
+i'r ffarm. Deallasant ar unwaith fod rhyw newydd drwg, neu ryw
+amgylchiad cyfyng yn gofidio eu tad a'u mam. Bu tafodau pawb am ennyd yn
+fud, ond yr oedd llygaid y plant yn dadleu fod hawl ganddynt i wybod
+achos blinder eu rhieni. Penderfynodd y tad i beidio celu oddiwrth ei
+blant y notice i ymadael ydoedd newydd dderbyn, ac adroddodd wrthynt yr
+oll a gymerasai le. Gwrandawsant hwythau arno yn fudsynedig; ac ar ol
+iddo dewi, edrychasant ar eu gilydd yn bur effeithiol, ond heb yngan
+gair. O'r diwedd torrodd y tad ar y distawrwydd trwy ddweyd, megys wrtho
+ei hun, mewn llais trist isel, yn cael ei hanner fygu gan gymysg
+deimladau,--
+
+"Yr oeddwn i wedi hoff-obeithio y cawswn orffen fy nyddiau yn Nghilhaul
+Uchaf, ac wedi breuddwydio llawer gwaith ganol dydd a chanol nos y cawsai
+fy llwch huno gyda llwch fy nhadau yn eu hen feddrod rhwng yr ywen fawr a
+drws cefn y clochdy, lle y gorffwys y rhai lluddedig, ac y peidia yr
+annuwiol a'i gyffro."
+
+"Ie, ie," ebe y fam, "lle y mae John bach, fy nghyntafanedig anwyl, yn
+huno yn felus ar fynwes ei dad cu tirion, a lle y mae fy anwyl, anwyl,
+anw"--(ar hyn collodd y fam ei lliw--dechreuodd ei gwefusau
+grynu--ymrwygodd ochenaid ddofn o gronfa ei chalon; ond nis gallodd
+orffen ei dywediad). Wrth weled hynny, cododd y mab hynaf ei wyneb mawr
+llydan iach gwridog; a chyda llais dwfn, cryf, caredig, effeithiol, llawn
+o deimlad, naill ai teimlad o serch cynnes at ei rieni, neu ynte teimlad
+o ddigllonedd brwd tuag at y gormeswyr, neu dichon y ddau deimlad yn ferw
+cymysgedig, dywedodd,--
+
+"O fy anwyl fam, na adewch iddynt ladd eich calon fel yna. Y maent wedi
+gwneyd eu gwaethaf i ni. Na hidiwch mo honynt byth mwy. Na ofnwch hwy
+ddim yn chwaneg. Os gwnawn ni ein dyledswydd yn y byd yma, nid yw o ddim
+cymaint pwys pa le bydd ein llwch yn gorffwys. Bydd yn sicr o fod allan
+o'u cyrraedd hwy; a byddwn yn sicr o ddihuno yn iach ar alwad gyntaf bore
+mawr y codi, a deuwn o hyd i'n hen gyfeillion ar darawiad llygad, a
+deuant hwythau hefyd o hyd i'w lle eu hun, a chesglir hwy at eu pobl, i
+dderbyn yn ol yr hyn a wnaethant yma. Gwyddoch eu bod wedi creulawn
+lyncu i fyny yn barod eich 600 pounds chwi. Gwyddoch ein bod ni oll wedi
+gweithio yn galed iawn, haf a gaeaf, drwy wynt a gwlaw, ac oerni a gwres,
+fore a nawn a hwyr, er eu helw hwy, a'n bod heb ennill rhyngom oll yr un
+swllt i ni ein hunain. Yr ydym wedi cyson dalu iddynt bob parch ac ufudd-
+dod yn ein gallu, ond tlawd iawn yw yr ad-dal ydym yn gael am ein holl
+lafur a'n gofal. Y mae gan Tom Thrift, aradrwr y Plas Hen, 88 pounds o'i
+ennill yn awr yn y Savings Bank; ond nid oes gennyf fi, er fy mod dair
+blynedd yri hyn na Tom, yr un geiniog wrth gefn yn ei chadw erbyn yr
+amser a ddaw. Ond yr ydym ni yn gystal ein cyflwr a Robert Frugal druan.
+Y mae ef yn awr newydd golli yr oll ag oedd wedi ennill. Gwyddoch ei fod
+ef wedi bod yn fugail craff, ffyddlon, a gofalus, yn y Foelfawr am dros
+un mlynedd ar ddeg. Llwyddodd ei feistr i gael ganddo adael ei gyflog y
+naill flwyddyn ar ol y llall yn ei law ef. Addawodd y meistr ddeng waith
+drosodd y byddai Robert yn sicr o gael llog da am ei arian. Yr oedd rhai
+yn ofni braidd er's amryw fisoedd nad oedd ei feistr ddim yn gwneyd yn
+dda iawn yn y Foelfawr. Yr oedd yn myned yn fwyfwy shy ar ddyddiau y
+talion; ond nid oedd neb o'r cymydogion yn dychmygu fod ei amgylchiadau
+mor ddrwg. Yr oedd y steward yn ddyfnach yn secret ei helynt na neb
+arall, ac yn awr y mae y bailiaid newydd fod yn y Foelfawr, ac y maent
+wedi ysgubo ymaith i'r meistr tir bob peth oedd gan y tenant,--y stoc,
+a'r offer, a'r dodrefn, a'r yd, a'r gwair, a'r cig, a'r caws, a'r cyfan
+oll. Nid oes yno ddim gwerth ceiniog wedi ei adael i Robert Frugal druan
+ar ol holl ludded a holl ofal ei fugeiliaeth. Y mae Lord Quicksilver, y
+meistr tir, yn mynnu ac yn cael y ffyrling eithaf o'i rent arswydus ef;
+ond nid yw Robert, wedi ei holl lafur am un mlynedd ar ddeg i gynorthwyo
+y tenant i gasglu y rhent uchel hynny i'r lord, yn cael yr un ddimai o'i
+gyflog. Ac y mae y gof hefyd ag oedd wedi gweithio am ddwy flynedd i'r
+Foelfawr yn methu cael dim am ei waith na'i haiarn; a dywedir yn hyf ac
+yn uchel drwy yr holl ardal fod baili uchaf Lord Quicksilver wedi prynnu
+deg o ychen mwyaf y Foelfawr am hanner eu gwerth, am fod y cymydogion yn
+ofni cynnyg yn ei erbyn, ac am fod y rhybudd am yr ocsiwn mor fyrr, ac
+ain na roddid dim coel i'r prynnwr. Cyfraith yr ocsiwn wyllt sydyn yno
+oedd talu i lawr gyda bod y morthwyl i lawr; a chan fod y lord newydd
+dderbyn ei renti y diwrnod cyn hynny, nid oedd yno ddim arian parod i'w
+gael drwy yr holl gymydogaeth. Yn wir y mae yn ddrwg iawn gennyf dros
+Humphrey y Gof, a thros Robert Frugul druan. Cyfraith uffernol ydyw
+honno sy'n yspeilio y gweithiwr tlawd o'i ennill caled, ac o fwyd a
+dillad ei blant, er llenwi coffrau a seleri y gormeswyr goludog.
+Peidiwch, da mam, ag edrych yn ddu fel yna arnaf am anturio siarad fel
+hyn am y gormeswyr goludog. Gwn eich bod wedi ein dysgu o'r cryd i
+siarad yn wylaidd, ac i feddwl yn barchus am fawrion ein gwlad; ond y
+gwir ydyw y gwir, a dylid ei ddweyd ar amgylchiad fel hwn. Ac nid oes
+dim ond rhyw bum mis, fel y gwyddoch, er pan ddarfu i'r hen Nansi Jones,
+ar ol bod yn dairymaid ragorol o fedrus ac o ffyddlon yn y Ddol Hir am
+dros ugain mlynedd, golli pob ceiniog a enillasai yn yr un modd, pan y
+mynnodd yr hen Lady Marigold o Blas y Dyffryn, bob dimai o'i rhent
+afresymol hi. Beth ydyw pethau fel hyn ond lladrad noeth? Ac yr oedd y
+drefn lunio cyfraith dros beth fel hyn, a'i darllen dair gwaith drosodd
+mewn dau lys seneddol, cyn gosod sel y goron wrthi, yn rogni mor
+gythreulig ag a ddyfeisiodd Turpin Wyld a'i gymdeithion erioed yn nyfnder
+y nos, yn seler dywyllafllys cyngor ei ogof. Druan o'r hen Nansi Jones,
+wedi colli drwy hyn y cyfan o holl ennill ei bywyd, wedi colli drwy hyn y
+cyfan ydoedd wedi ofalus gynilo i'w chynnal yn ei hen ddyddiau. Ydyw,
+mam, y mae peth fel hyn yn orthrymder anoddefadwy. Y mae yn farbariaeth
+o'r fath greulonaf; ac y mae y rhai sydd yn gweinyddu y fath gyfraith yn
+lladron o'r dosbarth hyllaf; y maent yn lladron hyfion wyneb-haul: ac y
+maent yn digywilydd ymogoneddu yn nerth trais eu lladradaeth. Gellwch
+chwi, fy nhad, ysgwyd pen, a gwenu a synnu bob yn ail, at hyfdra fy
+ymadroddion; ond nid wyf yn dywedyd dim ond y gwir. Yr wyf yn dywedyd
+gwirionedd eglur, mewn geiriau eglur; ac y mae yn llawn bryd i rai ddweyd
+y gwir am bethau fel hyn yn y mannau mwyaf cyhoedd, ac yn y geiriau mwyaf
+eglur. Y mae synwyr cyffredin y wlad wedi bod yn rhy wylaidd o lawer, a
+gonestrwydd cyffredin y wlad wedi bod yn rhy ddistaw o lawer yn nghylch
+pethau fel hyn."
+
+"Ond," ebe'r tad a'r fam, eu dau ar unwaith, "er mwyn popeth, John anwyl,
+gad yna bobl fawrion y senedd a'r gyfraith; gad i ni ystyried beth sydd i
+ni wneyd yn awr?"
+
+"Beth sydd i ni wneyd?" ebe John. "Nid oes dim i ni ei wneyd ond MYNED I
+AMERICA. Nid ydyw yn awr ddim hanner mor dreulfawr, na hanner mor
+dywyll, na hanner mor beryglus, i fyned yno ag ydoedd pan aeth fy nau
+ewythr, a'm dwy fodryb, yno ddeugain mlynedd yn ol; a gwyddoch yn dda fel
+y maent hwy a'u plant wedi llwyddo. Gallwn gyhoeddi ocsiwn yn ddioed; ac
+ar ol talu i bawb bob ffryling o'u gofyn, bydd gennym dros ddwy ran o
+dair o'r cynnyrch tuag at ddechreu byw o newydd yn nyffryn bras y
+Missouri. Trwy drugeredd, ni raid i ni ddim eto gladael i'r ocsiwn ar
+ein pethau fod dan fawd y bailiaid. Cawn werthu pan y mynnom, ac fel y
+mynnom. Codwch eich calon, fy anwyl dad a mam; y mae grennych chwech o
+blant cryfion fyddant yn ffyddlon i chwi hyd angeu. Yr ydym oll gyda
+chwi yn awr, ac yn gwbl ryddion i ddyfod gyda chwi i America. Yr ydym yn
+nyddiau goreu ein nerth, wedi ein hyfforddi i lafurio. Y mae pob golwg a
+gobaith y gallwn wneyd yn dda yn America. Codwch eich calonnau, cawn
+drigo yno eto yn llawen ac yn ddiogel bob un dan ei olewydden a'i
+ffigysbren ei hun; ac ni chaiff yr un o honoch chwi ddioddef dim eisieu
+tra y bydd dim modd gennym ni i'ch cynorthwyo."
+
+"Ond," ebe y fam, a'i llygaid yn llawn, "a wyt ti ddim yn meddwl, John, y
+medrem ni gael ffarm oddeutu yma, dan ryw arglwydd tir arall, yn hen wlad
+anwyl ein genedigaeth?"
+
+"Nac ellir yn wir, fy anwyl fam; y mae bron yn amhosibl cael cynnyg ar
+ffarm o unrhyw werth, dan unrhyw feistr tir ag sy'n deall y ffordd i
+gefnogi ei denantiaid. Nid llawer o'r arglwyddi tir hynny sydd i'w cael
+yn ein gwlad ni yn awr; ac am y lleill oll, nid oes dim llawer o ddewis
+rhyngddynt. Ni waeth ganddynt yn y byd pwy a wasgant, na pha faint a
+wasgant ar y sawl a gant dan eu hawdurdod, am y cant hwy y geiniog uchaf
+rywfodd. Y mae llaweroedd o honynt, drwy eu dylni, a'u gwastraff, a'u
+gorthrymder, wedi bron andwyo eu hetifeddiaethau, ac wedi rhedeg i ddyled
+dros eu pennau; ac y maent, er gwasgu a chribddeilio, bron yn methu cael
+dau pen y llinyn yn nghyd. Y mae eraill o honynt yn ddigon cyfoethog;
+ond nid oes ganddynt na chalon na challineb i ddim ond i wasgu a gor
+thrymu. Dyna yr hen Lady V. o Garth Tafwys. Y mae yn graig o arian, ond
+y mae yn ddraig o greulondeb tuag at ei thenantiaid. Bu ganddi yn fy
+nghof i saith o denantiaid ar y ffarm fwyaf sydd ganddi; a darfu iddi
+bron andwyo eu teuluoedd. A gwyddoch fod amryw o ffermydd goreu y
+General Malden yn awr ar ei law. Bu amryw amaethwyr craffus, cryfion, yn
+eu golwg; ond y mae yr hen General, er ei fod yn colli cannoedd arnynt
+bob blwyddyn, yn rhy gyndyn i'w gosod am renti, ac ar amodau ag y gellir
+byw arnynt, a thalu am danynt. A dyna ein hen gymydogion H. H., a B. W.,
+a D. D. E., y rhai a gydnabyddir fel y ffarmwyr goreu yn yr holl wlad,
+wedi llwyr benderfynu rhoddi eu ffermydd i fyny Wyl Fair nesaf; ac y mae
+eu meistr hwy yn cael ei ystyried yn un lled deg a rhesymol: a rhywbeth
+tebyg ydyw bron yn mhobman. Y gwir yw, dyrysodd rhwysg rhyfel dyddiau
+gogoniant yr hen Boni wyr mawr ein gwlad; cawsant flas y pryd hynny ar
+renti uchel, ac ymchwyddasant i fyw yn wastraffus ar y rhenti hynny; ac y
+maent hyd heddyw heb ddysgu, neu yn hytrach heb geisio dysgu, cael pethau
+i'w lle. Amserau caled iawn gafodd y ffarmwyr bron o hyd o hynny hyd
+heddyw. Llai nag a feddyliech chwi o'r tenantiaid goreu sydd wedi gallu
+cael dim cyflog am eu llafur, chwaethach llog am eu heiddo. Y mae
+miloedd obonynt wedi rhoddi nerth eu dyddiau goreu i'w meistradoedd am
+flynyddoedd lawer am ddim ond eu bwyd; ie, y maent yn dlotach o lawer yn
+awr ar ol eu holl ofal, a'u holl lafur, nag oeddynt ddeng mlynedd at
+hugain yn ol. Y mae yr arglwyddi tiroedd yn eu diraddio ac yn eu trin
+fel caethion. Y maent yn meddwl ei bod yn fraint iddynt lafurio am ddim
+er eu cynnal hwy; ac y maent yn cydymgyngreirio i gadw i fyny renti hen
+ddyddiau Boni er cynnal i fyny rwysg a rhysedd gwallgofrwydd y dyddiau
+hynny. Goreu i ni, yn wir, po gyntaf yr awn i'r America. Nid oes dim
+golwg am ddyddiau gwell yma. Yr ydych chwi yn lled adnabyddus o
+amgylchiadau y rhan fwyaf o ffarmwyr yr ardaloedd hyn. Yr wyf fi yn
+barnu, yn ol pob hanes, fod y serfs yn Russia, er caethed ydynt, wedi
+ennill mwy yn y deugain mlynedd diweddaf nag a enillodd y rhan fwyaf o
+denantiaid ucheldiroedd Cymru. Onid ydych chwi wedi cyfaddef lawer
+gwaith mai gwanychu yn raddol y maent o hyd, er eu holl ymdrech, er's
+dros ddeunaw mlynedd ar hugain. Os ydyw gwersi hanesion byrion fy hen
+lyfr ysgol i yn gywir, y maent yn trin tenantiaid y wlad yma yn awr yn yr
+un modd yn union ag y dywedir fod barwniaid Russia yn trin eu
+caeth-denantiaid. Y mae llawer o etifeddiaethau llydain yn cael eu trin
+yng Nghymru yn awr yn yr un dull yn union ag yr oedd arglwyddi
+gloddestgar Rhufain yn trin eu hetifeddiaethau yn mlynyddoedd olaf
+adfeiliad eu hymerodraeth. Gwyddoch yn burion fel y mae y meistri
+tiroedd a'u stewardiaid wedi bod yn anialeiddio yr Iwerddon drwy y
+blynyddoedd, nes ydynt o'r diwedd wedi torri eu tenantiaid, ac wedi torri
+eu hunain hefyd, ac wedi achosi tlodi mawr drwy rannau helaeth o'r wlad
+werdd honno. Y mae rhai parthau o Gymru wedi cael eu gwasgu i gyflwr
+lled Iwerddonaidd. Y mae y ffyrdd a'r adeiladau yn warth i'r oes. Y mae
+yn drwm iawn fod arglwyddi tiroedd mor ddiwladgarwch, mor ddiddyniolaeth,
+ac mor gibddall i'w lles eu hunain. Yn lle ymhyfrydu yn ffyniant ac yn
+nedwyddwch eu tenantiaid, y maent yn llawenychu yn ysbryd ac yn moesau
+gwasaidd eu caethiwed a'u tlodi. Gwyddoch yn eithaf da ein bod ni bob
+amser wedi byw mor gynnil ag oedd bosibl i ni. Gwnaeth hen gyfrwy fy
+nhad cu y tro i ni rhyngom oll tan y Gwanwyn diweddaf, pan y cawsom
+gyfrwy newydd cryf a rhadlawn; ac yr ydych yn cofio yn burion ddanodion y
+man-squires spardynawg, meibion y steward, pan yr aeth fy mrawd ieuangaf
+i ffair Galanmai ar gefn y cyfrwy newydd am y tro cyntaf. Rhaid i bob
+cyfrwy gael ei daith gyntaf rywbryd. Yr oedd fy mrawd, ar ebol du a'r
+cyfrwy newydd, yn edrych yn bur dda y bore hwnnw. Gwn nad anghofiwch
+byth mo edrychiad na geiriati ladies ieuainc drawing-room y steward pan
+yr aeth fy chwaer dal wridog Betsy, dair blynedd yn ol, heibio i'w
+ffenestr fawr yn ei shawl wlanen newydd i edrych am ei chyfnitheroedd o'r
+Dyffryn: ac yr ydys yn dweyd fod yr hen ffarmwr cloff diwyd Edward
+Sparing i lawr yn llyfr private y steward am ei fod wedi prynnu dog-cart
+gref dda gan ei gymydog cywrain Wheelwright Davies i'w gario ef a'i ferch
+wylaidd lan lanwaith Elen i farchnad yr yd a'r ymenyn. Cewch chwi weled
+na bydd neb yn fuan i drin y tir yn yr hen wlad lethedig yma ond
+personiaid a beggeriaid, a man-squires a demireps, ac uwch-stewardiaid ac
+is-stewardiaid, a chlepgwn a thurncoats, a gamekeepers a bailiaid; a
+ffarmio ardderchog arswydus fydd yn bod yma y pryd hynny. Caiff
+arglwyddi tiroedd weled eu camgymeriad, a theimlo eu colled y pryd hynny,
+ond bydd yn rhy ddiweddar iddynt edifarhau. Ni bydd dim gobaith iddynt
+hwy weled diwygiad cyn eu marw. Dichon y caiff y to ar ol y nesaf weled
+dyddiau gwell yn hen wlad wyllt Gwalia."
+
+"Ond," ebe'r tad, "a fyddai ddim yn well i ni ymfudo i ryw dalaeth
+Brydeinisg? Dywedir fod yn awyr iachus deheubarth Affrica filiynau ar
+filiynau o gyfeiriau o wastad-dir bras ffrwythlawn heb neb i'w trin. A
+fyddai ddim yn well i ni geisio prynnu ffarm fawr dda mewn lle felly?"
+
+"Yr wyf yn meddwl, fy nhad, na byddai. Yr wyf yn credu y buasai yn hawdd
+iawn prynnu ffermydd ardderchog yno pe buasid o'r dechreu yn ymddwyn yn
+agos i deg a boneddigaidd tuag at y cynfrodorion. Ond yn awr y mae Syr
+Hero Harri Aliwal a'i gydswyddwyr mawrfrydig a gwronaidd, drwy
+gyfarwyddyd a than awdurdod swyddfa llys uchel y taleithiau tramor, wedi
+poeni a dirmygu a gormesu cynfrodorion y parthau dymunol hynny nes eu
+gyrru yn wallgof gynddeiriog; ac yr ydys yn benderfynol i'w llwyr
+ddiwreiddio o'r tir, a'u hymlid i ddinistr bythol cyn gynted ag y byddo
+bosibl; ac y mae swyddwyr Prydain wedi chwythu un o wageni mwyaf y
+brodorion yn yfflon gyrbibion er dangos fod ganddynt ddigon o bowdr i
+ddryllio pob peth yno o'u blaen."
+
+"Wel," ebe'r tad eilwaith, "pe bai ni yn gwneyd i fyny ein meddyliau i
+fyned i America, a fyddai ddim yn well i ni aros ychydig i edrych beth a
+ddaw?"
+
+"Na, yn wir, yr wyf yn meddwl mai colled fyddai hynny; ac y byddai yn
+llawer gwell i ni baratoi i fyned ar unwaith. Y mae yn wir y gallem ni
+droi yn union y weirglodd fawr dan y ty, a'r borfa hir dan y 'sgubor
+bellaf, i wenith; ond gwnai hynny lawer mwy o ddrwg i'r tenant newydd nag
+a wnai o les i ni; a byddai yn well i ni ymadael heb fod dim lle ganddynt
+i ddweyd ein bod ni wedi cymeryd mantais oddiwrth unrhyw gytundeb llac
+penagored i wneyd dim tebyg i dro bach felly. Yr ydym ni wedi eu
+gwasanaethu am dymor hir yn onest ac yn anrhydeddus, ac ni hoffwn mewn un
+modd i'r un tro bach felly lychwino ein hymddygiad wrth ymadael a hwy."
+
+"Yr wyt yn hollol right, John," ebe y tad; "ni fynnwn innau er dim redeg
+y ffarm, na'i drygu mewn un modd, fel ag i golledu ein dilynwr, pwy bynag
+fyddo,--oblegid" * * * * *
+
+Ar ganol yr ymddiddan yma, daeth Foulk Edward, yr under-steward, i'r ty i
+ofyn i John a'i frodyr ddyfod gydag ef yn union deg a'u harfau cau a'u
+menyg i drwsio gwrych y nursery.
+
+* * * * *
+
+Ymhen rhyw dair wythnos ar ol hyn, pan ydoedd Squire Speedwell yn gyrru
+yn lled fore ar draws Ffridd Hir Cihaul Uchaf, goddiweddwyd ef gan ruthr
+trwm o eirlaw, a charlamodd ei oreu am gysgod at ysgubor uchaf Ffarmwr
+Careful. Yr oedd y ffarmwr yn digwydd bod yno y pryd hynny yn trwsio ei
+og fawr, ag oedd wedi cael ei thorri wrth gael ei llusgo yn erbyn
+dannedd, neu ar draws asennau, y graig ddu oedd yn ngbanol ei faes
+gwenith uchaf. Brysiodd y ffarmwr yn bur garedig a boneddigaidd i gael y
+Squire a'i farch i ddiddosfan; ac wrth ddiolch am ei garedigrwydd,
+sylwodd y Squire fod mwy na thair blynedd er pan oedd ef wedi bod y
+ffordd honno o'r blaen; fod yn hoff iawn ganddo weled, wrth ddyfod i fyny
+y Ffridd, fel yr oedd hen ffarm Cilhaul Uchaf wedi cael ei threfnu a'i
+gwella yn y blynyddoedd diweddaf, a'i fod yn gobeithio y cai y tenant oes
+hir i fwynhau tal am ei lafur. Cydnabyddodd John Careful, mewn llais
+trist isel, ei fod ef a'i deulu wedi myned i lawer iawn o lafur ac o
+draul er gwella y ffarm, ond eu bod yn colli y cyfan,--ei fod newydd
+dderbyn notice i ymadael.
+
+"Nac ydych, 'does bosibl," ebe'r Squire yn bur sydyn.
+
+"Ydym yn wir," meddai y tenant. "A ydyw eich meistr tir yn gwybod eich
+bod yn ymadael?"
+
+"Yn wir, syr, nid wyf yn gwybod hynny." "Wel, yr wyf fi yn disgwyl cael
+gweled eich meistr tir yfory, neu drenydd, ac mi siaradaf ag ef yn
+nghylch y mater."
+
+"Yr wyf yn rhwymedig ac yn ddiolchgar iawn i chwi yn wir, syr; ond yr wyf
+yn ofni na byddai hynny o ddim lles i ni nac i neb arall. Y mae yn awr
+yn rhy ddiweddar. Gwasanaethodd y steward fi a'r notice a'i law ei hun,
+a hynny mewn dull pur benderfynol. Y mae fy meibion yn teimlo ein bod
+wedi cael cam creulon, ac y maent yn gofidio yn ddwys o'r herwydd; ac y
+maent yn hollol benderfynol i fyned i America, ac y maent yn daer iawn ar
+i'w rhieni fyned gyda hwy."
+
+"Yr anwyl mawr, gwarchod ni, gobeithio nad yw Mrs. Careful a chwithau
+ddim yn meddwl myned dros y mor i'r America yn eich oed chwi."
+
+"Ydym, yn wir, syr, ac ni awn hefyd os bydd ein plant yn myned."
+
+"Na, na, Mr. Careful bach, ail ystyriwch y peth--gwyliwch rhag y fath
+helbul, a pherswadiwch eich meibion i beidio gadael gwlad eu genedigaeth.
+Goddefwch i mi gael cyfle i siarad a'ch meistr tir yn nghylch y peth. Caf
+adeg yn bur fuan. Aroswch chwi--; gadewch i ni weled--; gwrandewch yn
+awr--. Y mae eich meistr tir i fod yn Hunt Fawr C * * * yr wythnos
+nesaf. Deuwch yno; a byddwch yn sicr o ddyfod yno; a deuwch yno yn fore:
+mynnaf fi gyfle i chwi gael ei weled a siarad ag ef, a chawn glywed beth
+a ddywed."
+
+"Yr wyf yn ddiolchgar iawn i chwi yn wir, syr, am eich ewyllys da, a'ch
+cyngor caredig. Yr wyf yn teimlo yn bur isel a hiraethlawn wrth feddwl
+am fyned o fy hen gartref a'm hen wlad, ond yr wyf yn ofni mai felly y
+bydd. Y mae y plant yn dynn iawn am fyned, gan ein bod wedi cael y fath
+gam a'r fath amharch--y mae yn rhy bell i feddwl am wneyd dim pen yn awr.
+O'r braidd y gwrandawai y plant yn awr ar unrhyw gyngiad i aros yma. Yr
+ydys wedi ymddwyn tuag atom yn groes i bob cyfiawnder. Y mae yn amlwg
+fod y steward a'i fryd yn sefydlog ar gael ein lle; ac y mae ef a'i denlu
+yn rhai pur gwmpasog a chyfrwys, ac yn foddlon i wneuthur pob peth et
+cael eu cynllun i ben."
+
+"Wel, wel, beth bynnag am hynny, gofalwch chwi am fod wrth Hotel C * * *
+erbyn hanner awr wedi wyth fore dydd yr Hunt. Y mae rhuthr y gawod yn
+awr drosodd; mi af fi, os gwelwch yn dda: yr wyf wedi addaw cyfarfod tri
+o'm cyfeillion ar ben Bryn Grug y Grouse am hanner awr wedi deg."
+
+Dydd yr Hunt a ddaeth; ac yr oedd Ffarmwr Careful wrth yr Hotel, yn ol ei
+air, erbyn y funud benodedig: ac yr oedd yn edrych yn bur dda ar ol
+cerdded yno ar ei draed. Ymhen pum munud ar ol iddo gyrraedd yno, gwelai
+Lord Protection, ei feistr tir, yn myned heibio yn mraich Squire
+Speedwell. Y funud y canfu y Squire Mr. Careful yno, cododd ei fys arno
+i ddyfod yn mlaen, a dywedodd,--
+
+"O my lord, dyma eich hen denant John Careful, yr hwn y bum yn crybwyll
+wrthych am dano y nos o'r blaen."
+
+"O, ho, bore da, Mr. Careful," ebe Lord Protection; "gwn oddiwrth fy
+llyftau, ac oddiwrth yr hyn wyf yn glywed gan bawb, eich bod chwi yn un
+o'r tenantiaid goreu a mwyaf ymdrechgar a feddaf. Y mae yn wir yn ddrwg
+iawn gennyf eich bod yn myned i ymadael. Derbyniais air yn ddiweddar
+oddiwrth fy steward yn hysbysu eich bod yn cwyno ar y rhent, ac yn
+enwedig ar y codiad diweddaf. A ydyw y rhent mewn gwirionedd yn rhy
+uchel, Mr. Careful? Nis mynnwn er dim i'ch ffarm chwi fod yn rhy ddrud i
+chwi allu talu am dani. Nid wyf yn gallu cofio yn awr yn gywir am ei
+hansawdd. Nid wyf erioed wedi cael hamdden a chyfle i edrych yn fanwl
+dros Cilhaul Uchaf. Ydych chwi yn barnu yn gydwybodol ei bod hi yn rhy
+ddrud?"
+
+"Ydyw yn wir, my lord, y mae yn rhy ddrud. Yr wyf fi a'm teulu wedi
+gwneuthur prawf teg o hrnny. Ffarm wlyb, oer, amlwg, lechweddog, lawn o
+gerryg, ydyw--yn gofyn traul a llafur anghyffredin i'w thrin. Darfu i
+ni, yn y blynyddoedd diweddaf, wario llawer mewn gwelliantau. Yr oedd y
+codiad yn un trwm afresymol, ac yn un hynod o anamserol; a darfu i
+briswyr eraill gymeryd achlysur a mantais oddiwrth brisiad eich
+goruchwyliwr chwi i wneuthur niwaid mawr i ni. Yr ydym, yn wir, my lord,
+wedi cael cam cywilyddus; a darfu i mi gwyno wrth eich steward, a dywedyd
+nad oedd dim modd i mi dalu am y ffarm yn ol y rhent a'r trethoedd a'r
+prisiau presennol; a rhoddodd y steward i mi notice i ymadael, ac
+awgrymodd y byddai yn ddigon hawdd iddo osod y ffarm y diwrnod a fynno."
+
+"Ac, my lord," ebe Squire Speedwell, yn bur sydyn, "y mae John Careful
+a'i deulu yn penderfynu myned i America. Byddai yn resyn yn wir, my
+lord, iddynt ymadael ac ymfudo felly. Gadael eich estate chwi. Gadael
+hen aelwyd eu tadau; a gadael gwlad hoff eu genedigaeth. Tad cu John
+oedd un o'r dynion cryfion fu'n cadeirio eich tad cu chwi drwy y ddinas
+yma yn amser yr election fawr; a bu ei dad ef yn cario eich tad chwi ar
+achlysur y gyffelyb fuddugoliaeth ar ol hynny; ac y mae ganddo yn awr dri
+o feibion talion gwridog cryfion, nad ellid byth gael rhai mwy noble i
+gario eich mab chwi yn yr election nesaf. Da chwi, my lord, er mwyn pob
+peth, gwnewch rywbeth o'u tu yn yr amgylchiad a'r bwlch yma. Yn wir nid
+yw ddim yn amser yn awr i daflu ymaith y fath hen denant ymdrechgar a
+gofalus."
+
+"Wel, mi wnaf yn sicr. Mynnaf siarad a'r steward ar y mater yn yr Audit
+nesaf. Yr wyf fi yn credu fod fy stewardiaid i yn ceisio gwneyd eu
+goreu. Nid wyf yn meddwl nad allant hwy gamgymeryd fel pobl eraill; ond
+yr wyf yn credu eu bod yn bryderus ac yn awyddus ac yn llafurus ac yn
+ddiwyd ac yn ystyriol i wneyd yr oll ag a allant yn y modd goreu; ac nid
+wyf yn hoffi ymyrryd a'u trefniadau; ond yn wir yr wyf yn dwys deimlo
+dros fy nhenantiaid tlodion ymdrechgar yn y blynyddoedd isel hyn. Y mae
+dyddiau treth yr yd, dyddiau deddfau amddiffyniad eu marchnad hwy,
+dyddiau prisiau adeg fyw y rhyfeloedd, wedi hen fyned heibio. Y mae'n
+debyg gennyf ei bod yn bur ddrwg er's tro yn awr ar denantiaid; ac yr wyf
+yn ofni yn wir, John Careful, eich bod chwi wedi cael eich gwasgu, a
+gobeithio yr wyf y gwelaf fy ffordd yn oleu ac yn rhydd i mi eich
+cynorthwyo chwi yn y bwlch yma. Ond dywedwch i mi, John, a ydych chwi
+ddim yn meddwl y gallai rhai o'r tenantiaid wneyd mwy o'u ffermydd nag y
+maent yn ei wneyd?"
+
+"Ydwyf, my lord, yr wyf yn meddwl y gallent, ond iddynt gael cynorthwy a
+chefnogiad ac addysg; ond os rhoddwch chwi bedwar can pwys ar ysgwydd dyn
+nad all gario ond tri chan pwys, yr ydych yn sicr o'i wneyd bob yn dipyn
+yn anewyllysgar ac yn analluog i gario dau gan pwys. Os gorfodwch chwi
+ddyn i redeg triugain milldir y dydd, pan na ddylai redeg ond deugain
+byddwch yn sicr cyn hir o'i redeg i'r pen. Y mae llawer o ffarmwyr yn
+awr wedi eu gwasgu mor isel fel nad oes ganddynt ddim calon na nerth i
+gynnyg at orchwylion ag y buasent dan amgylchiadau mwy cefnog yn sicr o'u
+cyflawni. Peth eithaf priodol--ie, peth da ragorol, my lord, fyddai i'ch
+stewardiaid trymion llymion chwi ysbarduno tenantiaid a gweithwyr
+cysglyd, dioglyd, rhodianllyd, clebrog; ac yn wir yr wyf yn hoffi o'm
+calon gweled rhai swrth a segur felly yn ei chael hi hyd adref; ond ar ol
+ei rhoi hi yn ddiarbed i'r rhai afler a marwaidd, carwn yn fawr weled
+eich steward mawr chwi, yn union ar ol derbyn y rhenti, yn galw y rhai
+diwyd ac ymdrechgar o'i ddeutu i square yr Hotel, a charwn ei weled yn eu
+canol, fel pregethwr 'Senters, yn dringo carreg yr Horse-block, i
+areithio er canmol ac er cefnogi eu gofal a'u llafur. Carwn ei weled yn
+sefyll yn syth ar ben hen garreg yr Horse-block; ac ar ol rhyddhau a
+glanhau ei wddf, a thynnu ei gadach allan i sychu ei wyneb a'i wefus,
+hoffwn ei weled yn estyn ei law am osteg a gwrandawiad, a'i glywed yn
+areithio yn debyg i hyn:--
+
+"'Fy hoff gyfeillion,--Yr wyf yn eich galw yn gyfeillion, oblegid yr wyf
+fi yn gyfaill i chwi, ac yr wyf yn dymuno parhau yn gyfaill i chwi; ac y
+mae o bwys mawr i ni fod yn gyfeillion. Y mae eich meistr tir urddasol a
+haelfrydig wedi erchi i mi hysbysu i chwi ei fod ef yn dymuno eich
+ffyniant a'ch cysur--ei fod yn dymuno i chwi wneyd yn dda, ac edrych yn
+dda--ei fod yn dymuno i chwi gadw offer hwsmonaeth da, a stoc dda; a'i
+fod am i chwi gael pantry llawn a phwrs llawn, a'i fod am i chwi allu
+sparin arian bob blwyddyn. Y mae yn beth hollol deg a gweddus i chwi
+gael rhywfaint o gyflog am eich gofal a'ch lludded, a rhywfaint o log am
+yr arian sydd gennych yn nodrefniad a stociad eich ffermydd; ond ar yr
+amserau drwg a dyryslyd hyn, dylech fod yn foddlon ar dalion cymedrol,
+eto dylai pob un o honoch gynilo ychydig bob blwyddyn, os na bydd rhyw
+dreuliau teuluaidd anarferol yn lluddias hynny. Dylech ymdrechu cynilo
+ychydig bob blwyddyn erbyn angen a methiant y dyddiau a ddaw. Ewyllys
+arbennig eich meistr tir ydyw i chwi gael pob anogaeth a chefnogiad.
+Byddwch yn ddiwyd a gofalus. Gochelwch bob difrod a diogi. Astudiwch
+eich cynlluniau yn fanylaidd. Cyn dechreu ar unrhyw orchwyl, eisteddwch
+yn gyntaf i fwrw y draul. Cedwch eich cyfrifon yn llawn ac yn eglur.
+Ymgedwch gartref hyd y gellwch. Telwch eich ffordd yn gyflawn yn mhob
+man wrth fyned yn mlaen. Gochelwch ddechreu rhedeg i ddyled. Na
+phrynnwch byth ar y coel. Gochelwch arfer benthyca arian na dim arall.
+Cedwch eich buarthau yn gryno, eich cloddiau yn lan, eich cwterydd yn
+agored, eich gwrychoedd yn gyfain, eich ffyrdd yn gelyd, eich llwybrau yn
+sychion, eich to yn ddiddos, a'ch holl adeiladau mewn trwsiad cyfaddas.
+Colled i chwi, yn gystal ag i'ch meistr, fyddai i chwi beidio gwneyd
+hynny. Gwn am ddwy neu dair o ysguboriau lle y cafodd tunelli o wair ei
+ddrygu y gaeaf diweddaf am fod y to yn gollwng defni. Naw mlynedd yn ol,
+darfu i'ch arglwydd tir fyned i draul fawr i wneuthur ffordd newydd drwy
+Glyn y Bedw Gleision. Bu bron iawn i mi gorsio mewn mwy nag un man ar y
+ffordd honno yn mis Mawrth diweddaf. Nid wyf yn meddwl i neb drwsio dim
+arni, nac ar ei phyllau, nac ar ei ffosydd, nac ar ei routs, nac ar y
+cloddiau o'i hamgylch, er y dydd y cafodd ei gorffen. Nis gwn yn sicr ar
+bwy y mae bai mwyaf yr esgeulusdod, pa un ai ar arolygwyr ffyrdd y dre
+ddegwm ai ar denantiaid yr ardal; ond yr wyf yn sicr pe buasai eich
+meistr tir yn dyfod ar hyd-ddi yn y Gwanwyn diweddaf, a phe buasai yn
+gweled ol teyrnasiad gwlawogydd naw gaeaf ar bob rhan o honi, y buasai yn
+gwylltio gymaint fel y buasai yn ysgubo tenantiaid yr ardal honno i
+ffwrdd bob un oddiar ei etifeddiaeth. A gwelais hefyd wrychoedd mawr
+ceimion cysgodfawr canghenog, heb gael eu torri er dyddiau y Frenhines
+Ann, yn lledu eu gwraidd a'u brigau ar draws ac o amgylch rhai o'r dolydd
+mwyaf cysgodol yn yr holl wlad. Peidiwch er dim ag aredig mwy o dir nag
+a fedrwch wrteithio. Bydd hynny yn sicr o achosi colled. Yr wyf yn
+meddwl y gwnai gwisg go dda yn awr ac eilwaith o bridd a chalch, neu o
+bridd a thail, i'ch porfeydd a'ch gweirgloddiau dalu yn well O lawer yn y
+wlad oer fas wleb anwastad yma nag i chwi lafurio i droi gormod. Gwelais
+y dydd o'r blaen, wrth fyned ar draws gyda'r cwn, hen domenydd llydain o
+dywyrch ffosydd ar ganol y gweirgloddiau gwair, yn y mannau goreu arnynt;
+ac yr oedd argoelion digon eglur fod y tomennau hynny wedi bod yno ar
+ffordd y bladur er's degau o flynyddoedd. A gwelais hefyd y cloddiau a'r
+ffosydd oddeutu amryw gaeau gwlybion wedi llawn gau, a'r man-ffrydiau sly
+yn ymlithro yn ddistaw drwy'r dydd a thrwy'r nos o'r clawdd i'r cae i
+andwyo y tir. Yr oeddwn bron gwylltio wrth weled hynny, eisiau fod y
+cloddiau a'r ffosydd yn cael eu hagor, a'r tywyrch yn cael eu cymysgu a'r
+hen domenydd gorsychion, a'r cyfan yn ol hynny yn cael eu cymysgu a
+chalch neu a thail i'w daenu dros y caeau. Gellid dyblu cynnyrch rhosydd
+a chaeau gwlybion yn y dull hynny. Y mae rhai yn meddwl y gellid gwneyd
+defnydd da o glai drwy ei olosgi. Er mwyn pob peth ymdrechwch ddyfeisio
+rhyw foddion er atal egriad, a llifiad ymaith yr ammonia o'ch tomennydd:
+neu, mewn geiriau eraill, er atal colli nodd y rhinwedd o'r tail, yr hyn
+yw ei nerth fel gwrtaith. Gwelais ddoe, wrth fyned heibio, amryw
+domennydd yn bur wasgarog, ar dapiau moelion, llechweddog, digysgod, heb
+fod yn agos mor gryno ac mor amddiffynedig ag y buasai yn hawdd iddynt
+fod. Yr oedd holl domennydd yr hen Farmwr Clout ar lethr craig, ar fin y
+nant; ac yr oedd eu brasder goreu yn llifo ymaith i nychu y brithylliaid
+oedd yn y llyn du oddidanynt: ac yr oedd pistyll trystfawr Ffarmwr
+Careless yn gwyllt-ffrydio ar draws buarth y ty, a thrwy fuarth yr
+ysgubor, a thros ochr yr ydlan, ac i lawr dros y ffordd i'r afon. Y mae
+y fferyllwyr craffaf yn dysgu i ni fod llawer iawn o nerth gwrteithiau
+cartrefol ein gwlad ni yn cael ei golli trwy fod y tomennydd yn cael eu
+gadael yn agored i'r tes ac i'r tymhestloedd. Dyfal astudiwch bob
+cynllun a osodir ger eich bron er ysgoi y colledion hynny. Y mae yr hen
+dai, a'r hen ysguboriau, ar lawer tyddyn wedi cael eu hadeiladu yn y
+mannau mwyaf anfanteisiol. Nid eich bai chwi oedd hynny. Gwn fod lle a
+dull adeiladau rhai ffermydd go fychain yn achosi colled o dros ugain
+punt yn y flwyddyn. Er pob peth astudiwch a chwiliwch am ryw foddion er
+atal i rinwedd eich tomennydd gael ei sugno gan y tes i'r wybren, na
+chael ei olchi gan y tywydd i'r mor. Gwn am amryw hen ffarmwyr a
+wnaethant lawer o arian yn eu dydd, ac nid wyf yn gwybod eu bod yn enwog
+am ddim ond am ruglo y buarthau, a chludo y cyfan i'r domen er ei mwyhau,
+ac am ei chadw yn gryno er ei hamddiffyn. Gwnewch eich goreu ymhob modd
+i frashau a chynyddu eich gwrtaith cartrefol. Cedwch oriau rheolaidd, yn
+enwedig wrth godi ac wrth noswylio, a chyda'ch prydiau bwyd. Dysgwch
+eich gweinidogion i fod yn ddiwyd, ac yn gynnil, ac yn onest. Erfyniwch
+arnynt er pob peth i fod yn eirwir, ac yn ffyddlon yn eich absenoldeb.
+Gwnewch eich goreu ar i bawb drwy'r ardal gael digon o waith. Peth
+ofnadwy ydyw meddwl am fechgyn neu ferched ieuainc mawrion cryfion iachus
+yn ymsegura mewn syrthni heb ddim i'w wneyd. Y mae llaweroedd drwy
+seguryd felly wedi cael eu handwyo am byth. Rhoddwch gymaint o ysgol ag
+a fedrwch i'ch plant. Ni fynnwn i er dim, ac yr wyf yn sicr nas mynnai
+eich meistr tir er dim, eich rhwymo na'ch gorfodi mewn un modd gyda golwg
+ar eich Sabbathau. Y mae yr addoli i fod yn hollol yn ol barn eich deall
+a theimlad eich calon eich hun; ond goddefwch i mi ddweyd na welais i
+ddim daioni yn dyfod erioed o'r bobl sy'n treulio eu Sabbathau i gysgu a
+dylyfu gen a rhodianna a hel cleber. Os byddwch chwi am ryw welliantau
+ag y dylai eich meistr tir eich cynorthwyo i'w gyflawni, ystyriwch eich
+cynlluniati gyda manylrwydd, a gadewch imi wybod eich cynygion. Yr oedd
+yn dda iawn gennyf eich gweled yma mor brydlawn bore heddyw. Y mae eich
+cinio yn awr yn barod; ac y mae gennyf i'w hysbysu i chwi y bydd eich
+arglwydd tir caredig yn eich dysgnyl oll i giniawa gydag ef yn y Castell
+Wyl Fair nesaf. Bydd yno y pryd hynny amryw foneddigion profiadol
+dysgedig i esbonio i chwi ryw egwyddorion newyddion gyda golwg ar ansawdd
+gwahanol briddoedd, a gwahanol wrteithiau, a gwahanol lysiau, yn nghydag
+amryw bethau eraill cysylltiedig a llwyddiant amaethyddiaeth. Gadewch i
+ni fyned oddiyma yn awr i'r ystafell ginio. Ni gawn ar ol cinio yfed
+iechyd da ein brenhines a'ch meistr tir; ac yna ymwasgarwn bob un i'w
+gartref."
+
+"Aros, John, aros; yr wyt ti yn awr yn pregethu dyledswydd i dy uwchradd,
+a hynny mewn dull pur gyfrwys. Yr wyf wrth dy wrando wedi colli adeg i
+weled cychwyniad y llwynog; yr wyf eisus yn rhy ddiweddar, ac mi gollaf
+hynny o sport."
+
+"Yr wyf yn deisyf eich pardwn, my lord; yr oeddwn yn rhy ddifeddwl wrth
+gymeryd eich amser chwi felly; ond yn wir, ni buaswn i byth yn dweyd
+cymaint oni buasai eich bod chwi yn gwenu mor isel ac mor garedig wrth
+wrando. Mi af fi adref gynted ag y gallaf bellach."
+
+"Aros, John, aros--paid a myned yn union eto. Yr wyf fi yn hoffi clywed
+hen denant fel tydi yn dweyd ei feddwl a'i brofidd yn rhydd ac yn eglur.
+Ychydig iawn yn wir wyf fi yn hidio yn awr am golli rhyw dipyn o sport ac
+o lafur yr hela llwynog. Nid oes gennyf fi yn awr ddim cymaint o flys at
+bethau felly ag a fu gennyf unwaith; ac yn wir yr wyf yn ofni ein bod ni
+ar ddyddiau hela fel hyn yn gwneyd cryn niwaid i borfeydd a gwrychoedd a
+chaeau yd ein tenantiaid. Y mae ein mintai heddyw rhwng cwn a meirch a
+dynion yn un bur fawr. Yr wyf yn ofni fod ein blys ni am sport yn costio
+yn lled ddrud iddynt hwy. Yr ydym, yn gyntaf, yn diygu eu meusydd hwy ar
+ddyddiau ein helwriaeth. Yn ail, eu gwellt a'u hegin a'u hyd hwy sydd yn
+porthi ac yn pesgi ein cwningod a'n hysgyfarnogod a'n hadar tewion ni. Yn
+drydydd, y maent hwy yn lled fynych yn gorfod lletya a byrddio ein milgwn
+a'n bytheuaid ieuainc ni, pan y bydd tymor sport yr hela drosodd. Ac yn
+bedwerydd, os digwydd iddynt hwy rywdro, yn rhyw ddull, ddyfod ar draws
+petrisen, neu gyffologyn, neu gyw pheasant, neu gwningen, neu ysgyfarnog,
+dyna, hwy ar unwaith wedi ymddyrysu yn rhwydau ein deddfau helwfiaeth ni;
+ac wrth ymwingo i geisio dianc yn rhydd, y maent y rhan amlaf yn colli eu
+tymherau, ac wedi hynny yn colli llywodraeth eu tafodau, ac bob yn dipyn
+ar ol hynny yn colli eu ffermydd. Atolwg, John, a fedri di ddweyd i mi
+pa faint o gost i denant ydyw cadw bytheuad neu filgi ieuanc?"
+
+"Na fedraf, my lord, ddim dweyd hynny yn fanwl. Byddai yn drueni
+creulawn hanner newynu ci ieuanc. Os caiff ei gadw yn dda, costia
+gymaint a chadw mochyn; ac y mae y gofal o gadw ci ieuanc yn rhywbeth. Y
+mae helgi ieuanc cryf gwresog weithiau yn bur chwareus, braidd yn rhy
+chwareus ar adeg yr wyn bach; ac y mae yn anhawdd iawn gennyf feddwl am
+gi ieuanc wrth ei gadwyn ddydd a nos, ac edrych arno yn neidio o'm deutu
+gan ymbil arnaf a'i wen, ac a'i ddeigryn, ac a'i lygaid, ac a'i ochenaid,
+am ei ollwng yn rhydd o'i gadwyn i gael rhoddi mymryn bach o dro gyda mi
+drwy y coed a'r caeau."
+
+"Ond, John, wyt ti yn golygu fod ein game ni, sef ein hadar a'n
+hysgyfarnogod ni, yn peri colled i'r tenantiaid?"
+
+"Byddai yn well gennyf, my lord, beidio ateb y gofyniad yna."
+
+"Yn enw dyn, John, pam?"
+
+"Am nad yw y tenant byth ar ei ennill wrthsiarad ar bwnc fel yna."
+
+"Twt, twt, John; yr oeddwn i wedi clywed dy fod di bob amser yn barod i
+ddweyd dy feddwl yn eglur a didderbynwyneb ar bob pwnc. Y mae fy
+ngofyniad i yn un digon dealladwy--A ydyw ein hysgyfarnogod a'n hadar ni
+yn achosi colled i'n tenantiaid?"
+
+"Wel, ydynt, my lord, y maent; y maent yn sicr. Y mae y tenant yn cael
+rhy fach yny dyddiau yma am besgi beef a mutton; ac nid yw yn cael dim am
+besgi cwningod ac ysgyfarnogod, ond rhyw ychydig o wenwyn ac o ddrwg
+ewyllys yn awr a phryd arall. Ni chefais i ddim cymaint o golled
+oddiwrth game ag a gafodd rhai tenantiaid; ond mi wn i am rai mannau lle
+y mae game yn cael brasder y porfeydd, a defnydd bara y tylwyth. Dyna'r
+gwir, my lord; ond yr wyf yn ofni fy mod yn eich digio wrth ei ddweyd."
+
+"Nac wyt yn wir, John, nac wyt yn wir. Paid a meddwl fy mod wedi
+tramgwyddo o herwydd yr hyn a ddywedaist heddyw. Da iawn gennyf fy mod
+wedi cael cyfle i glywed dy farn a'th deimlad am y pethau yma. Byddai yn
+burion peth i ni gael adegau mynychach i glywed ein tenantiaid yn adrodd
+tipyn o'u helyntion; ac yn wir yr wyf fi bron iawn a blino ar bryder a
+rhwysg a rhodres bywyd uchel cyhoeddus, a rhyw ffurf-ddefodau swyddogol
+diddarfod. Yr wyf yn bwriadu edrych i mewn dipyn manylach rhagllaw i
+amgylchiadau fy etifeddiaeth, ac i gyfleusderau a chysuron y rhai sydd yn
+byw ac yn llafurio danaf. Y mae rhyw ddyledswyddau yn perthyn i bob
+meddiannau. Y mae rhyw rwymedigaethau yn nglyn a phob eiddo; ac yn wir
+yr wyf fi am wneuthur mwy o hyn allan tuag at gynorthwyo fy nhenantiaid
+ymdrechgar. Yr wyf yn ofni yn fawr; ac yn wir, yr wyf yn gorfod hollol
+gredu ein bod ni, arglwyddi tiroedd, wedi bod yn llawer rhy esgeulus o
+ddyledswyddau blaenaf cylchoedd pwysig ein sefyllfa gymdeithasol; a bod
+hynny wedi bod yn golled fawr i ni ein hunain, yn gystal ag i eraill. Y
+mae arglwyddi y gweithiau haearn yn gwybod maint a nerth a thraul eu
+ffwrneisiau. Y mae arglwyddi y mwnau yn gwybod hanes traul a chynnyrch
+eu cloddfeydd. Y mae y manufacturers yn dyfal ymgais o hyd am
+berffeithio eu peiriannau. Y mae y masnachwr yn astudio yn barhaus y
+dulliau goreu i drefnu cistau a shelffydd a byrddau gwerthu ei fasnachdy.
+Y mae y marsiandwr yn gwybod yn dda am dunelliad ei longau:--ond nid ydym
+ni, y meistri tiroedd, wedi rhoddi bron ddim o'n meddwl erioed ar
+gyfansoddiad gwrtaith, nac ar drefniad lleoedd tomennau, nac ydlanau, na
+chyfansoddiad cutiau, nac ysguboriau, nallaethdai, na ffyrnau, na ffyrdd,
+na ffosydd, na gwrychoedd, na buarthau, na nemawr o ddim o gyfleusderau
+ein ffarmdai; ac y mae yr esgeulusdra cywilyddus yma wedi bod yn achos o
+golledion trymion i ni ein hunain, ac i'n tenantiaid. Ond yn wir, yr wyf
+fi o hyn allan yn bwriadu talu mwy o sylw i'r pethau hyn."
+
+"Wel, yn wir, my lord, y mae yn dda iawn genyf fi eich clywed chwi yn
+dywedyd hynny, oblegid yr wyf yn gwybod y bydd eich sylw a'ch cyngor a'ch
+cefnogiad chwi yn sicr o fod o les anrhaethol i'ch tenantiaid a'u
+teuluoedd, ac yn elw mawr hefyd i'ch etifeddiaeth yn ei holl
+gysylltiadau. Bum i yn meddwl lawer gwaith, my lord, pe buasai
+perchenogion etifeddiaethau llydain fel eich un chwi, ac un Marshall
+Victor, ac un Countess Southland, ac un Duke Northland, yn cyduno i dalu
+i ddarlithydd dawnus, dysgedig, profiadol, am esbonio i'r tenantiaid
+wahanol ganghennau amaethyddiaeth, y buasai hynny yn ateb dibenion
+gwerthfawr, ond cynnal y cyfarfodydd mewn lleoedd cyfleus, ac ar adegau
+priodol. Ond dylai y darlithydd fod yn ddyn ymarferol yn gystal ag yn
+ddyn dysgedig; a dylai fod ganddo ddigon o dymer dda, ac o amynedd gwr
+boneddig, i gymeryd ei holi a'i groesholi gan yr hen Ffarmwr Grey, a'r
+ffarmwr ieuanc ymchwilgar Dicky Price, yn niwedd pob darlith, gyda golwg
+ar draul a holl gysylltiadau eraill y gwelliantau a fyddai y darlithydd
+am gynnyg i sylw y tenantiaid. Oblegid yr wyf fi yn credu, my lord, fod
+llaweroedd o'r scriblwyr barfog Llundeinaidd fu'n ysgrifennu yn ddiweddar
+i'r newyddiaduron ynghylch gwelliantau amaethyddol llechweddi a rhosydd
+Cymru wedi gwneuthur cam mawr a thenantiaid craffus ac ymdrechgar. Y mae
+yn ddigon hawdd gwybod mai ar ol cinio go fras, a diod go gref, yr oedd y
+scriblwyr barfog hynny yn dychymygu eu cynlluniau, ac yn gwneyd i fyny eu
+cyfrifon; ond nis gwn i ddim nad oedd rhyw grach-arglwydd go anghenog yn
+talu am eu cinio, er cael tipyn o logic cockney y papyr newydd yn esgus
+dros ei waith yn codi rhenti afresymol. Hoffwn i yn fawr iawn gael newid
+lle ag un o'r scriblwyr gwalltog hynny am dair blynedd. Cai ef ffarmio
+ochrau Cilhaul Uchaf, ac eisteddwn innau wrth ei ddesc yntau i gadw y
+cyfrifon. Yr wyf fi yn wir awyddus, my lord, am welliantau. Y mae yr
+oes yma yn oes am welliantau, a diwygiadau, a dyfeisiau. Gellir dichon
+ddyfod o hyd i egwyddorion a chynlluniau ag a all fod o les mawr i
+ffarmwyr. Nid oes gennyf fi ddim cydymdeimlad a'r ffarmwyr musgrell diog
+llygad-gauad ag ydynt ding-dong yn yr un man o hyd, yn esgeuluso neu yn
+gwrthod pob gwelliant profedig er teced y byddo yn cael ei osod ger eu
+bron, ac er taered y byddo yn cael ei gymhell i'w hystyriaeth; ond yr wyf
+ar yr un pryd yn protestio yn erbyn cynlluniau gwylltion, a chyfrifon
+bylchog gwallus, y scriblwyr menyddboeth penfeddal sy'n ysgrifenu
+llythyrau i'r newyddiaduron am geiniog y line gan y swyddfa, neu am gig
+rhost a grog gan arglwydd y tyddyn: peth ofnadwy ydyw ysgrifenu am gyflog
+er mwyn boddhau pobl nad ydynt am wybod y gwirionedd."
+
+"Eh, oh, John, yr wyt ti yn dechreu twymo mymryn yrwan, ac yn myned
+braidd yn ddoniol. Rhaid i mi fyned yn awr. Glywi di swn gwyllt y
+bytheuaid? Y maent yn fyw ar eu full cry. Yr wyf yn gobeithio cael dy
+weled yn fuan eto; ac fel y dywedais o'r blaen, byddaf yn sicr o gofio am
+dy achos pan ddaw diwrnod yr Audit."
+
+Daeth dydd yr Audit, a gofynnodd y lord i'r steward paham yr oedd John
+Careful yn ymadael o'r Cilhaul Uchaf. Atebodd y steward mai o herwydd ei
+fod o hyd yn achwyn ar y codiad diweddar, a'i fod wedi dywedyd drachefn a
+thrachefn nad allai ddim talu y rhent presennol; ac am fod pobl ieuainc
+cryfion, newydd briodi, pur gyfrifol, yn gwbl barod i gymeryd y ffarm am
+y rhent presennol.
+
+"Ond dywedir i mi," meddai'r lord, "fod John Careful wedi gwario llawer
+iawn mewn gwelliantau yno, a bod ei blant oll yn rhai sobr, deallus, a
+gweithgar, dros ben, a'u bod wedi llafurio llawer yno. Byddai yn dda
+iawn gennyf pe medrem ddyfod i ryw gytundeb yn eu hachos. Byddai yn
+ofidus gennyf golli y fath denantiaid."
+
+"Yr wyf yn ofni, my lord, os gwnawn blygu i ostwng y rhent iddynt hwy, y
+deuwn ni i ddyryswch diderfyn gyda thenantiaid eraill."
+
+"Wel, dichon y dylem ni adystyried achos yr holl denantiaid, ac y dylem
+gymeryd rhyw sylw neillduol o'r rhai sydd wedi gwario a llafurio fwyaf
+mewn gwelliantau."
+
+"Na, yn wir, nid yn awr, my lord, os gallwn mewn modd yn y byd osgoi
+hynny. Buasai yn dda iawn pe buasai mwy o ystyriaeth ac o bwyll yn bod
+yn yr amser a aeth heibio, a phe buasai mwy o ymchwiliad yn cael ei wneyd
+i draul a llafur tenantiaid mewn gwelliantau yn amserau rhai o'r
+prisiadau a wnaethpwyd yn y blynyddoedd a aethant heibio,--ond nis gallwn
+ni ddim galw yn ol yn awr yr adegau hynny. Y mae'r camgymeriadau a
+wnaethpwyd yn awr yn hen. Y maent yn hen bethau wedi myned heibio. Nid
+ellir dim eu galw yn ol yn awr. Y mae yn rhy ddiweddar yn awr i feddwl
+am eu hadystyried. Y mae yr ymwthio am ffermydd yn parhau o hyd, yn
+enwedig yr ymwthio am y ffermydd ag ydynt mewn trefn weddol o dda; ac yn
+wir, nid wyf fi ddim yn meddwl, pe baem ni yn gostwng, ac yn gostwng
+llawer i'r Carefuls, y gofynnent byth eto am Gilhaul Uchaf. Y mae cryn
+ysbryd ymsymud ac ymfudo yn awr yn y wlad. Nis gwn yn sicr beth ddaw o
+honi. Mae rhai tenantiaid yn dechreu myned braidd yn ystyfnig, ac yn wir
+weithiau yn dafodog."
+
+"Ydych chwi wedi addaw Cilhaul i ryw un?"
+
+"Na, nac ydwyf, my lord, ddim wedi ei haddaw; ond yr ydwyf, my lord, bron
+cystal a bod wedi ei haddaw i Mr. a Mrs. Jacob Highmind. Y maent yn bobl
+ieuainc bywiog, boneddigaidd, gwetlhgar, diolchgar, yn geraint i
+deuluoedd Eglwysig, o egwyddorion ystwyth, plygadwy, conserva-toriaidd. Y
+mae ganddynt ddigon o arian at eu llaw, ac y maent yn debyg o drin yn dda
+ragorol, mewn dull fydd yn enw ac yn elw i'r estate: a'r hyn sydd o
+braidd fwy pwys na dim ydyw, y cawn ni glywed yn ddistaw o bryd i bryd yr
+oll fydd yn cael ei ddweyd a'i wneyd yn yr ardal. Gallaf sicrhau i chwi,
+my lord, fod yr Highminds yn bobl barchus iawn. Y maent yn perthyn dipyn
+i deulu dylanwadol y Sliminds. Yr wyf yn addef fod y Carefuls yn bobl
+ddiwyd, geirwir, ymdrechgar, cymydogol; ond y maent yn GAPELWYR pur
+dynion."
+
+"Wel, beth er hynny, yr oedd eu hynafiaid yn gapelwyr tynion, ond yr
+oeddynt yn denantiaid rhagotol."
+
+"Ie, dichon eu bod, my lord, ond nid oedd y tadau ddim mor ystyfnig, ddim
+yn agos mor dynion, a'r bobl yma. Nid yw y bobl yma ddim yn myned i'r
+Eglwys hyd yn nod a'r wyl y Groglith, nac ar Sul y Pasg, nac ar ddydd lau
+y Dyrchafael, nac ar ddydd Nadolig ein Harglwydd, na dydd puredigaeth y
+fendigedig; forwyn, na dydd y santeiddlan wirioniaid, na dydd cydfrad y
+Papistiaid, na dydd merthyrolaeth y brenin Siarles, na dydd adferiad y
+brenhinol deulu, na dydd St. Bartholomeus, na dydd St. Andreas, nac un
+dydd gwyl arall."
+
+"Da iawn genyf eich bod chwi a'm stewardiaid eraill yn meddwl mor barchus
+am ordinhadau crefydd, ac yn dwyn y fath sel dros yr Eglwys. Diau eich
+bod yn cael ymgeledd gwerthfawr i'ch cyflwr ar ei gwyliau santaidd.
+Attolwg, a fuoch chwi yn yr Eglwys ar y gwyliau a enwasoch?"
+
+"Beth, my lord, ddarfu i chwi ofyn yn awr?"
+
+"Gofyn a fuoch chwi yn yr Eglwys ar wyl y Groglith, ac ar wyl y Pasg?"
+
+"Y Groglith a'r Pasg ydych chwi yn ddweyd, my lord?"
+
+"Wel, ie, y Groglith a'r Pasg. A fuoch chwi yn yr Eglwys y dyddiau
+hynny?"
+
+"Y Groglith a'r Pasg! jaist,--gadewch i mi gofio? Yn--yn--yn yr
+Eglwys;--naddo, jaist, my lord, darfu i mi ddarllen y llithiau a'r
+gweddiau gartref foreu Sul y Pasg; ac yr oedd acw dipyn o'r tannau ac o'r
+dawns gan y bobl ieuainc acw ddydd y Groglith; ac yr oedd eu mam am i mi
+aros gartref gyda hwy."
+
+"Wel, fuoch chwi yn yr Eglwys wyl y Dyrchafael?"
+
+"Yn wir, my lord, y mae hynny yn rhy anhawdd i mi gofio yn awr."
+
+"Wel, fuoch chwi yn yr Eglwys y Sul diweddaf?"
+
+"Y Sul diweddaf--aroswch chwi, pryd yr oedd hynny hefyd;--na, jaist, my
+lord, yr oeddwn i yn bur gwla gan gur yn fy mhen ar ol cinio lled hwyr y
+dydd Sadwrn o'r blaen. Yn wir-ionedd-i, my lord, yr oeddwn i wedi hollol
+fwriadu myned i'r biegeth fore gwyl merthyrolaeth Sant Siarles, oblegid
+yr oeddwn i am gael clywed pregeth yn iawn ar y testun hynny; ond yr oedd
+hi mor ofnadwy o oer, fel y gwyddoch chwi, yn niwedd Ionawr, fel y buasai
+yn ddigon am fywyd undyn i fyned i'n Heglwys ni y bore hwnnw. Yr wyf fi,
+my lord, yn ceisio myned i'r Eglwys bob amser ag y gallaf, ond gwyddoch
+ei bod yn llawer haws i'r tenantiaid fyned nag ydyw i mi fyned. Nid oes
+ganddynt hwy ddim gofalon i'w rhwystro, ac y maent yn ddigon cryfion i
+ddal pob tywydd; ac y maent yn medru myned i'w cyrddau eu hunain pan y
+mynnant."
+
+"Dywedasoch chwi gynnau nad oedd tadau y Careful ddim yn gapelwyr mor
+dynion ag ydynt hwy."
+
+"Do, my lord, mi ddywedais hynny, ac yr wyf fi yn credu hynny; ac y mae
+eich lady chwi a gwraig y person hefyd yn dweyd ac yn meddwl yr un peth,
+ac y maent am i mi arfer awdurdod fy sefyllfa i'w plygu i fyned i'r
+Eglwys: ac yn wir, yr wyf fi yn credu, my lord, y dylid eu plygu --eu bod
+hwy yn llawer mwy cyndyn nag oedd eu tadau."
+
+"Nid doeth fyddai i ni fyned i ddadl ar beth fel hyn; ond yr wyf fi yn
+credu eich bod chwi yn cam-gredu. Yr wyf fi yn credu fod y tadau yn
+llawn mor dynned anghydffurfwyr a neb sydd i'w cael yn awr. Y mae yn
+ffaith, yn ffaith ag sydd ar gof a chadw hyd heddyw, i geidwad parc fy
+hen-hen-dad cu gyduno a bwtler Judge Jeffry i gasglu mob o hogiau, hogiau
+mawrion; ac yr oedd rhai o honynt yn hogiau penlas, clun-gloff, a
+gwargam, i luchio hen-hen-dad cu y Carefuls ag wyau gorllyd, pan oedd yr
+hen wr yn myned i'w gapel bychan wrth Droed y Foel un bore Sabbath; ac yr
+ydys yn gwybod hefyd i geidwad y parc a'r bwtler gael eu cymhell a'u
+cynhyrfu i fynnu y sport hynny gan rywbeth a ddywedwyd ar frecwast yn nhy
+y Judge y bore hwnnw; a gallaf ddywedyd i chwi yn mhellach fod capelydd y
+Judge, a rector y plwyf, a'u gwragedd, yn brecwesla gyda'r Judge y bore
+hwnnw: ac yr oedd y tair lady yn llawn bywyd, ac wrth eu bodd yn
+cynorthwyo i dynnu cynllun sport yr wyau gorllyd; ac yr oeddynt oll ar y
+pryd yn disgwyl y cerbyd i'w cario at gymun sanctaidd corff a gwaed y
+Ceidwad wrth fwrdd allor yr Eglwys: ond aeth yr hen wr i'r capel drwy y
+mob, a'r poeredd, a'r llaid, a'r wyau, a heibio i gerbyd y Judge, a bu
+fyw a marw yn denant Cilhaul, ac yn gapelwr hefyd. Yr wyf fi yn credu
+fod oes yr wyau gorllyd yn un llai creulawn tuag at anghydffurwyr nag
+ydyw yr oes wengar foneddigaidd athrodaidd hon, pan y mae dynion da,
+gonest, diwyd, dirodres, yn cael eu cyfrwyswthio o'u ffermydd o herwydd
+eu syniadau crefyddol. Yr oedd y ceinioca gynt i brynnu wyau gorllyd yn
+beth llawn mor deg ag ydyw defnyddio arian treth i rannu torthau gwynion;
+ac yr wyf fi yn sicr ei fod yn dro llai bawaidd o'r hanner i luchio yr
+hen-hen-dad cu ag wyau nag ydyw yn awr i wthio ymaith ei orwyr o'r ffarm.
+Yr wyf yn deisyf arnoch ddyfod i ryw gytundeb a'r Carefuls. Y mae eu
+tadau wedi bod yn ffyddlon i ni, ac yn ymdrechgar ar yr estate am lawer
+oes. Ni fynnwn er dim golli y fath hen deulu. Er mwyn pob peth peidiwch
+a gadael iddynt fyned i America."
+
+Y newydd nesaf a glywodd teulu y Carefuls oedd fod y ffarm wedi ei gosod
+i Mr. Jacob Highmind; ac felly darfu iddynt barotoi yn ddiwyd, ond yn
+ddistaw, tuag at eu mordaith; a darfu i dros bymtheg ar hugain o
+grefftwyr a llafurwyr goreu y gymydogaeth ymfudo ymaith gyda hwy.
+
+Ychydig ddyddiau cyn eu hymadawiad, galwodd Mr. Careful yn swyddfa y
+steward ar y Green; ond pan ydoedd yn sefyll wrth y drws, ac yn curo,
+gwelodd y steward ochr ei wyneb drwy gil y ffenestr, a chyflym ymguddiodd
+allan o'r swyddfa, gan roddi awgrym a'i fys ac a'i lygad i'r clercod i
+ddweyd wrth John Careful ei fod ef oddicartref. Wrth glywed fod y
+steward oddicartref, gofynnodd John Careful i'r clercod a oedd Mrs.
+Steward gartref? Atebodd y clerc uchaf ei bod, ond ei bod wedi cael yr
+influenza mor ddrwg fel nas medrai ddyfod o'i hystafell.
+
+"Yr wyf yn meddwl eich bod yn camgymeryd," ebe'r hen ffarmwr dan ledwenu,
+"oblegyd mi welais i ei gefn ef, ac mi welais ei hwyneb hithau y foment
+yma i lawr yn y breakfast-room."
+
+"Yn enw pob dyn," ebe'r clerc, "ond os ydynt hwy yn y breakfast-room,
+dichon y daw ef i mewn yma bob yn dipyn: ellwch chwi aros nes y daw?"
+
+"Nac allaf; nid oes genyf fi ddim busnes o ddim pwys ag ef yn awr. Yr
+wyf fi wedi talu fy holl gyfrifon iddo, a'u talu oll yn eu diwrnod. Nid
+oeddwn i ddim ond galw wrth y drws i roi fy nghompliments iddo with
+ymadael. Gellwch chwi, os gwelwch yn dda, wneuthur hynny drosof fi; a
+dywedwch wrtho, os pery business y stewardiaid i fyned wysg ei din, ac ar
+i lawr, yn y wlad yma, fel y mae yn myned yn awr, y gwnaf fi fy ngoreu i
+gael gwaith neu ffarm iddo yn America. Y mae business y stewardio wedi
+gweithio ei hun allan yn hollol mewn parthau helaeth o'r Iwerddon, ac
+mewn rhai conglau o Gymru a Lloegr hefyd; ac os bydd y steward, neu ei
+hen weddw, neu rai o'i blant, yn dymuno i mi a'm plant chwilio am ffarm
+dda iddynt yn y gorllewin pell, y gwnawn i unrhyw gymwynas felly iddynt
+ag fydd yn ein gallu.
+
+Yr oedd y steward a'i wraig yn y passage yn clywed yr ymddiddan yma; a
+chydag i'r hen ffarmwr droi ei gefn o'r swyddfa, daeth y steward i mewn,
+a dywedodd gyda swn gofid ei bod yn ddrwg iawn ganddo na buasai yn gofyn
+i'r hen ddyn ddyfod i mewn i'r ty i gael gwydriad ffarwel. "Oblegid,"
+meddai'r steward, "y mae John Careful mewn gwirionedd yn ffarmwr da, ac y
+mae ei blant yn rhai pur weithgar, a'r unig beth oedd yn eu gwneyd mor
+atgas yn ein ty ni, gyda Mrs. Steward, a'r plant yn enwedig, oedd eu bod
+mor ystyfnig, a braidd yn dafodog, os tybient eu bod yn cael eu gwasgu."
+
+Gydag i'r Carefuls gymeryd llong a hwylio ymaith, gwahoddodd Mrs. Steward
+y tenant newydd a'i wraig i ddyfod i'r Green i de. Yr amcan o hynny,
+mewn enw, oedd i'r steward a'i deulu gael cyfle i roddi cyfarwyddiadau i
+Mr. a Mrs. Highmind gyda golwg ar driniad dyfodol Cilhaul Uchaf; ond yr
+amcan mewn gwirionedd oedd i deulu y steward gael gwybod teimladau a
+syniadau a dywediadau y cymydogion gyda golwg ar wthiad ymaith y Carefuls
+o'u ffarm. Adroddodd Mr. a Mrs. Highmind wrthynt bob peth oeddynt wedi
+glywed gan bawb; a threuliwyd dwy awr a hanner felly yn bur ddifyr i
+redeg dros holl helynt yr holl gymydogion. Gwyddai Jacob Highmind yn bur
+dda am ragfarn teulu y steward yn erbyn rhyw bump neu chwech o'r
+cymydogion, a gwyddent hefyd yn eithaf da pa fodd i borthi y rhagfarn
+hwnnw; a buont yn bur llwyddianus i goginio i'r stewart a'i deulu wledd o
+athrod o'r fath a garent; a phan oeddynt ar gychwyn adref o'r Green,
+crybwyllodd y steward yn bur siriol wrthynt ei fod ef am ailwneyd aelwyd
+y parlwr a phapuro y muriau, a'i fod am seilio y lofft wely oreu, a
+helaethu ei ffenestr; a'i fod am wneuthur back-kitchen newydd iddynt, a
+symud y grisiau o ochr y kitchen i dalcen uchaf y back-kitchen; a'i fod
+am wneyd ffwrn a chodi boiler yn nhalcen isaf y back-kitchen; ac y mynnai
+fflagio y seler; ac y caent dy bach mawr y tuhwnt i'r twyn ffebrins
+pellaf yn yr ardd; ac y mynnai droi y pistyll o'r tu wyneb i'r tu cefn
+i'r ty, heibio i ddrws y back-kitchen; a'i fod heblaw hynny yn cynllunio
+amryw gyfleusderau eraill iddynt; ac ychwanegodd gyda wyneb pur siriol ei
+fod yn disgwyl y gwnaent yn dda yn Nghilhaul Uchaf. "Oblegid," meddai
+ef, "y mae yn ffarm bur helaeth; ac, a dweyd y gwir i chwi yn ddistaw, y
+mae y Carefuls wedi ei gadael yn y drefn oreu, ac yn y galon oreu. Mewn
+un gair, yr oedd yn amhosibl iddynt ei gadael mewn cyflwr gwell."
+
+Ymadawodd Mr. a Mrs. Highmind o'r Green mewn ysbrydoedd pur uchel, a
+chydymroisant yn egniol i ddechreu ffarmio; ond buont dipyn yn anlwcus yn
+newisiad eu gwasanaeth-ddynion. Nid oedd y bugail ddim yn un rhy graff,
+na rhy gyflym, na rhy ofalus; ac nid rhyw law wastad iawn oedd gan yr
+aradrwr--byddai ei gwlltwr yn bur fynych ar wyneb y tir, wedi cael ei
+wthio allan gan garreg--neu ynte byddai yn glynu ac yn plygu ar y graig
+ddu ag oedd yn waelod i dros hanner tyddyn Cilhaul; ac yr oedd yn hoff
+iawn hefyd o we hir y pum ceffyl, ac o'r hwshings, a'r martingals, a'r
+mwng ribanawg, a'r cynffonau plethedig. Ac yr oedd y cow-man a'r laeth-
+forwyn yn bur hoff o fod gyda'u gilydd yn mhob man y gallent; a deallwyd
+bob yn dipyn ei bod hi yn colli gryn lawer o'r llaeth os digwyddai ef fod
+yn agos. A'r hyn oedd yn waeth na'r cyfan, dechreuodd Mrs. Highmind gael
+ei blino yn fawr yn y boreuau gan anhwylderau y cylla: a chafodd anwyd
+trwm iawn un bore wrth hebrwng y buchod o'r fuches i'w porfa, drwy fod ei
+hesgidiau braidd yn deneuon, a'r gwlith heb godi, a dichon iddi gael
+ychydig o gnau yn y gwrych wrth ddyfod adref. Beth hynnag, gorfu iddynt
+gyflogi nurse o gryn fedr ac o gryn brofiad, ac yr oedd galwad hefyd ar
+Mr. Highman i fod yn y ty y rhan fwyaf o'i amser ymhell cyn, ac ymhell
+wedi, gorweddiad i mewn Mrs. Highmind; a phan y daeth rhybudd am y
+diwrnod rhent, deallodd ei fod yn fyr o ddeg punt ar hugain, a galwodd yn
+union gyda'i hen ewythr Thomas ap Owen i ddweyd ei gwyn wrtho--ei fod
+wedi myned i gryn draul yn y chwe mis diweddaf i ddodrefnu y ty a phethau
+eraill; fod y steward wedi adnewyddu a chrynhoi llawer iawn ar y ty, a'i
+fod yntau wedi prynnu soffa, a bwrdd mahogani, a chadeiriau mahogani, i'r
+parlwr, a drych mawr uwchben y tan; a'i fod hefyd wedi cael gwely
+mahogani, a dodrefn gwely i gyfateb i'r ystafell uwchben y parlwr; a'u
+bod wedi cael gwely newydd, a chist-ddillad fawr dda iawn, i'w hystafell
+ei hunain, a llawer o bethau newyddion eraill. Gofynnodd ei hen ewythr
+iddo braidd yn sydyn a oedd efe wedi prynnu y pertiant torri gwellt, a'r
+peiriant chwalu clapiau, ag oedd ef wedi son am brynnu. Atebodd yntau
+nad oedd--nad oedd yn wir ddim wedi gallu eu prynnu, fod treuliau
+meddygol a theuluaidd wedi chwyddo i fyny i fwy nag oedd efe wedi allu
+rag gyfrif; a'i fod o herwydd hynny wedi methu prynnu amryw bethau ag yr
+oedd eu mawr eisiau tuag at wasanaeth y ffarm. Dywedodd ei hen ewythr
+wrtho y gallai roddi benthyg pum punt ar hugain iddo am bum mis, ond nad
+allai roddi dim ychwaneg iddo; ei fod ef yn fynych mewn prinder ei hun;
+ei fod yn gorfod rhoddi llog hynny o arian oedd ganddo wrth gefn i wneyd
+i fyny y rhent; a bod yn rhaid iddo gael y pum punt ar hugain yn ol cyn
+Gwyl Fair. Yr oedd Mr. Highmind yn ddiolchgar iawn i'w hen ewythr am ei
+gymwynas, a sicrhaodd wrtho y gofalai am dalu yn ol mewn amser prydlawn.
+Trwy gael benthyg fel hyn gan ei ewythr, casglodd ddigon rywfodd i dalu
+ei rent Gwyl Fihangel. A thoc, toc, toc, bion fel breuddwyd, dyma ddydd
+rhent Gwyl Fair yn dyfod ar ei warthaf, ac yr oedd Mr. Jacob Highmind
+druan yn gwbl amharod i dalu yn ol i'w ewythr, nac i dalu i'w arglwydd
+tir nac i'r gweision. Yr oedd wedi talu ei dreth tlodion, a'r degwm, a'r
+dreth Eglwys, a threth y gig a'r cwn, a dyna y cyfan; ac felly aeth
+eilwaith at ei hen ewythr, ac eglurodd ei amgylchiad iddo, ac erfyniodd
+arno fyned gydag ef i'r banc i fod yn feichiau yno drosto am bedwar ugain
+punt. Yr oedd yn bur anhawdd gan yr hen ewythr fyned gydag ef i'r banc,
+ond aeth o'i led anfodd; oblegid yr oedd yn gweled mai dyna oedd yr unig
+ffordd iddo gael ei bum punt ar hugain yn ol y pryd hynny. Pan oeddynt
+ill dau yn y banc, rhoddodd Highmind rywfodd na'i gilydd awgrym distaw
+i'r bancer i dynnu y draft am gant a deg, yn lle am bedwar ugain; a chyn
+pen yr hanner blwyddyn, yr oedd tymhor rhediad y drafft hwnnw ar ben, a'r
+trydydd dydd rhent wrth y drws; a gorfu Highmind druan werthu y pigion
+o'i stoc er ad-dalu y drafft hwnnw a'i logau yn y banc, ac er cyfarfod
+talion eraill yr hanner blwyddyn hynny. Daethstori y banc, a gwerthiad
+anamserol colledfawr cymaint o stoc Cilhaul, bob yn dipyn i glustiau y
+steward, a bu geiriau go uchel a go gas rhyngddo ef a Highmind; a than
+ddylanwad gofid a gwenwyn yn wyneb ei golledion, ac wrth gael ei drin,
+cynhyrfodd a sorrodd Highmind gymaint fel ag y dywedodd nad allai byth
+byth dalu am y ffarm yn ol y prisiau a'r talion presennol, a'i fod wedi
+hollol wneuthur i fyny ei feddwl i fyned o Gilhaul gynted byth ag y
+medrai; a'i bod yn ddrwg iawn ganddo fod y diwrnod iddo roddi notice am y
+flwyddyn honno wedi myned heibio: ei fod yn gallu rhagweled yn ddigon
+amlwg y byddai yn sicr o golli y 300 pounds goreu o'i 600 pounds cyn y
+medrai gael Cilhaul oddiar ei ddwylaw. A bu yn ol ei rag-gyfrif. Wrth
+arwerthu y stoc a'r offer ar derfyn y tair blynedd, cafodd ei fod wedi
+colli ymhell dros dri chant o bunnau.
+
+Deallwyd erbyn hyn mai cryn orchwyl i denant newydd--i'r mwyaf lwcus a
+llafurus--fyddai gwneyd y gofynion o Gilhaul; a thaenwyd y farn am hynny
+ar ol dydd ocsiwn Highmind ymhell ac agos. Gwyddai pawb nad oedd
+triniaethau tair blynedd Highmind wedi gwneuthur dim lles i'r ffarm; a bu
+ei henw, a "to be let," ar ei ol, am wythnosau lawer mewn llythyrenau
+mawrion yn y newyddiaduron, ac uwch y tan yn yr offices, a'r news-rooms
+a'r tap-rooms, ac ar byst y tollbyrth, ac ar dalcen y farchnadfa, a holl
+furiau y dref. "CILHAUL AR OSOD" oedd o flaen y llygaid pa le bynnag yr
+elid. Daeth pump neu chwech o ddynion dyeithr o bell i'w golwg, ond
+trodd pob un o honynt adref heb wneuthur unrhyw gynhygiad. O'r diwedd
+galwodd y steward y baili ato, a dywedodd,
+
+"Yr wyf yn ofni y rhaid i ni sefyll at Cilhaul am y flwyddyn yma; a rhaid
+i ni ymroi i ffarmio gystal ag y medrwn ni. Ni geisiwn borfau mwy o
+honi, ac aredig llai o honi, nag oedd Jacob Highmind yn wneyd. Rhai pur
+dibrofiad a diofal oedd Jacob a'i wraig. Mi ofynnaf fi i'm cyfaill
+craffus W. Wilful, Yswain, o Severn-mead, am fyned i lawr gyda chwi i
+ffair Midland i brynnu Herefords a Southdowns i ni; ac yr wyf yn bur
+hyderus y gwnawn yn dda iawn o'r ffarm."
+
+Tua diwedd yr haf gofynnodd y steward i'r baili pa fodd yi oedd yr
+Herefords a'r Southdowns yn troi allan.
+
+"Drwg iawn yn wir, syr; y mae y rhosydd a'r gweunydd yn rhy wlybion ac yn
+rhy frwynog iddynt, ac y mae y moelydd yn rhy oerion iddynt: dichon fod y
+tymor wedi bod yn fwy anfanteisiol nag arferol; ond beth bynnag am hynny,
+y maent yn edrych lawer gwaeth nag oeddynt pan ddaethant yma, ac y mae y
+prisiau yn awr yn bur isel; nid allwn ni ddim cael cymaint am danynt ag
+ydym ni wedi roddi, er eu bod wedi cael holl borfa llaeth ac ymenyn y
+ffarm i gyd."
+
+"Beth, baili, wyt ti yn dweyd nad allwn ni gael dim cymaint am danynt ag
+a roisom?"
+
+"Ydwyf, syr, yr wyf yn ofni hynny."
+
+"Wel, beth gawn i wneyd, baili? Y mae hyn yn beth braidd profoclyd. O
+dangio y free-traders yna
+
+"Y mae yn rhy ddiweddar i chwi eu dangio hwy yn awr, o leiaf am eleni.
+Nid oes gennym ni ddim arian mewn gafael tuag at y talion nesaf."
+
+"Wel, gwell i ni adael cyfrifon yr hanner blwyddyn yma heb eu talu, a
+chwilio am y cyfle goreu fedrir gael o hyn i ddiwedd y flwyddyn i werthu
+y cyfan gyda'u gilydd, a chawn weled y pryd hynny pa fodd y bydd y
+cyfrifon yn sefyll."
+
+Ar ddiwedd y flwyddyn dygodd y baili ei gyfrifon at y steward yn ol y
+gorchymyn.
+
+"Wel, baili," meddai'r steward "ydyw'r tenantiaid yn dal i gwyno?"
+
+"Ydynt yn wir, syr; ac y maent yn edrych yn bur ddigalon."
+
+"A fedri di ddweyd i mi pa rai o honynt sy'n cwyno fwyaf yn erbyn y
+prisiad a'r codiad diweddaf, a phrisiad y degwm; oblegid, yn wir, rhaid i
+mi wneyd rhyw sylw bellach o'r rhai sy'n tuchan o hyd. O ie, ydyw
+cyfrifon Cilhaul genyt ti?"
+
+"Ydynt, syr."
+
+"Wyt ti wedi gwneyd y balance i fyny i ni gael gweled pa fodd y maent yn
+sefyll."
+
+"Nac ydwyf, syr, ond gallaf wneyd mewn munud."
+
+"Aros, gad i mi gael gweled y prif bennau. O, dyma ddalen ein
+dyledion--gad weled beth ydynt?--1. Degwm. 2. Trethoedd. 3 Cyflogau.
+4. Casglu y cynhaeaf. 5. Calch. 6. Tanwydd. 7. Gof. 8. Seiri. 9.
+Porfa gaeaf. Aros di, pa le y mae'r hyn a dalasom am aredig a hau a
+llyfnu yn y gwanwyn? Nid yw y talion hynny ddim yma."
+
+"Nac ydynt, syr; darfu i ni, os ydych yn cofio, alw ar y tenantiaid
+cymydogaethol i aredig a hau a llyfnu i ni; a gwnaethant bob un ei ran yn
+bur rwydd i chwi, a hynny am ddim.
+
+"Gwir iawn, baili--gwir iawn yr wyf yn cofio hynny yn awr, ac y mae hynny
+erbyn heddyw yn gryn lwc i ni; ac eto mi welaf fod y balance yma yn ein
+herbyn."
+
+"Ydyw, syr, y mae."
+
+"Beth, oes genyt ti ddim arian mewn llaw tuagat rent y flwyddyn?"
+
+"Nac oes yn wir, syr, ac y mae y dreth dlodion, a rhai gofynion eraill,
+heb eu talu."
+
+"Dam it--rhaid fod rhyw dalion uchel cywilyddus yn dy gyfrif di."
+
+"Nac oes yn wir, syr: cefais wneuthur pob peth i chwi am y prisiau isaf;
+ond darfu i ni golli cryn dipyn o arian ar rai o'r ychen mwyaf, a rhai
+o'r defaid mawrion mwyaf: nid oeddynt ddim yn gweddu yma, ac y mae wedi
+bod yn dymor anfanteisiol o ran y tywydd a'r prisiau."
+
+"Wel, cawr gwyllt a'n cato ni, oes gennyt ti ddim tuag at y rhent?"
+
+"Nac oes yn wir, syr."
+
+"Wel, yn enw pob rheswm, pa fodd y mae yn bod felly?"
+
+Wel, syr, y mae'r ffarmwyr yn methu talu cyflogau, ac y mae llaweroedd o
+lafurwyr tlodion o ganlyniad allan o waith; ac y mae y trethoedd o
+herwydd hynny yn myned yn bur uchel, a'r tir ar yr un pryd yn gwaelu. Ac
+yn wir, y mae degwm Cilhaul yn bur uchel--yn ymyl pymtheg punt."
+
+"Beth! ydyw degwm Cilhaul yn bymtheg punt?"
+
+"Ydyw, syr, o fewn ychydig sylltau."
+
+"O dangio y personiaid a'u Heglwys; y maent hwy yn gallu dyfeisio i
+ennill ac i elwa drwy bob prisiad, a than bob trefn."
+
+"Atolwg, syr, peidiwch a dangio y personiaid fel yna, er eich mwyn eich
+hun, ac er mwyn eich ceraint sy' mewn urddau eglwysig hefyd. Ydych chwi
+yn cofio fel y darfu i chwi fwgwth troi Jonathan Noncony druan o'i ffarm
+am iddo ddigwydd dweyd dan ryw hanner cellwair yr hyn a ddywedasoch chwi
+yn awr--nad oedd y person byth yn colli dim drwy unrhyw gyfnewidiad."
+
+"Ydwyf, baili, yr wyf yn cofio fel y darfu i mi drin Jonathan, ac fel y
+darfu i mi yrru Jonathan a'r warden benben, fel y cawn i achlysur
+oddiwrth hynny i achwyn ar Jonathan wrth ei feistr tir:--ond dangio
+Jonathan a'r warden a'r person; ni wiw i ni syrthio allan a myned i
+gynhennu. Ein pwnc ni yn awr yw, beth gawn i wneyd o Gilhaul? Oes dim
+modd i ni gael neb i'w chymeryd oddiar ein llaw?"
+
+"Nac oes yn wir, syr, am y rhent ac yn ol y prisiau presennol; o leiaf,
+yr wyf yn ofni hynny. Y mae yn Hafod Hwntw, mhell bell tudraw i
+fynyddoedd Plumlimon, deulu mawr pur ddigrif. Y mae ganddynt lawer iawn
+iawn o ddefaid, ac o ddyniewyd ac o geffylau bach y mynydd; ac y mae rhyw
+air fod eu deadelloedd yn lluosogi weithiau mewn modd braidd dirgelaidd a
+gwyrthiol. Y mae yno ryw ddwsin o blant tewion, geirwon, pengrychion,
+llygadfawr; ac nid ydynt hwy na'r hen bobl byth yn myned i na llan na
+chapel; ond y maent yn rhyw ffordd, trwy eu bugeiliaeth rhyfeddol, wedi
+sparin llawer iawn o arian. A dywedir fod rhai o'r merched am ddyfod i
+fyw dipyn yn is i lawr er mwyn cael gweled tipyn mwy o'r byd; a'u bod ar
+brydiau yn bur daer am i'w tad chwilio am ffarm yn rhywle yn is i lawr."
+
+"Ond, wyt yn sicr, baili, fod yno arian? Dylai fod sicrwydd am hynny,
+oblegid dyna ein pwnc ni."
+
+"O oes, syr, y mae yno ddigon o arian. Ni raid dim ofni am hyny. Y mae
+ganddynt, heblaw y stoc fawr drom sydd yno, ddwy fil a hanner yn mortgage
+ar dyddyn Gwaun y Bwlch; a dywedir fod ganddynt fil a haner o hen guineas
+mewn darn o hen bridden yn y ddaear dan y fflagsen wrth draed gwely yr
+hen bobl yn y siamber bellaf."
+
+"Djail innau i, yr hen bridden honno fyddai y peth i ni yn awr, baili. Pe
+medrem ni unwaith gael teulu Hafod Hwntw i Gilhaul Uchaf, ni byddem ni
+ddim yn hir cyn cael adgyfodiad disglaer i'r hen guineas o'u bedd tywyll.
+Mynnem ni rai ohonynt yn bur doc i gael fresh air yngoleu'r dydd, yn lle
+bod yn llwydo ac yn magu y gout yn yr hen bridden."
+
+"Ond, syr, pe baent hwy yn dyfod i fyw yn agos yma, byddai plant y
+pentref yn sicr o redeg ar ol yr hen ddyn ar ddiwrnod rhent, ac ar bob
+diwrnod arall, i lygadu arno, ac i estyn bysedd ar ei ol. Y mae ganddo
+wasgod gron gwta gwta o wlan du y ddafad, a honno yn glytiau o bob lliw a
+llun; ac y mae dwy led llaw rhwng gwaelod honno a thop ei glos lledr,
+oblegid nid oes ganddo byth ddim straps i ddal ei glos i fyny. Wrth ei
+weled unwaith yn didol y defaid wrth y gorlan, yr oeddwn yn disgwyl bob
+munud gweled ei hen glos yn llithro i lawr dros ei grwper. Y mae ganddo
+fyclau pres mawrion wrth ben ei luniau, ac ar gefnau ei esgidiau. Nid
+oes ganddo ddim byd am ei wddf. Un od iawn ydyw o, ac y mae ei wraig yn
+odiach nag yntau; ac yn wir, y mae bechgyn a merched Hafod Hwntw yn bur
+debyg i'w tad a'u mam."
+
+"Pw, pw, baili, paid a phoeni dim ynghylch eu gwedd a'u gwisg a'u
+hymddangosiad. Pe caem ni unwaith olwg ar bridden yr hen guineas, dyna'r
+peth i ni. Yr oedd amryw briddenod o hen guineas yn y gymdogaeth yma
+ddeugain mlynedd yn ol, ond yr ydym ni wedi eu hadgyfodi oll o'u beddau.
+Da di, dyfeisia ryw ffordd i gael hen wr Hafod Hwntw i olwg Gilhaul.
+Gelli gychwyn ddiwrnod yn gynt wrth fyned i ffair Rhos. Galw heibio i
+Hafod Hwntw wrth fyned. Bydd yr hen wr yn sicr o fyned i'r ffair. Ceisia
+ganddo ddyfod i'r golwg wrth ddychwelyd adref; a throwch i orphwyso i'r
+Cross Keys, a dyro iddo iugaid cynnes o gwrw wedi ei speisio yn bur neis
+cyn ei gymeryd i edrych y ffarm. Gelli ddangos iddo fod yr adeiladau oll
+yn bur gryno ac yn bur gyfleus, a bod y mynydd defaid yn bur helaeth. Ni
+bydd dim eisiau crybwyll wrtho y nifer o ddefaid sydd gennym ni yno yn
+awr, na dim am fethiant ein cynnyg am y Southdowns. Cymer et ar draws y
+ddwy weirglodd, a'r ddol wenith y tuhwnt iddynt. Ni byddai waeth heb ei
+gymeryd dros Rhos y Waun; ond gellil grybwyll wrtho fod y ffriddoedd oll
+yn rhai sychion a gwelltog, a da ragorol i wartheg hespion a merlod.
+Astudia ryw gynllun i gael yr hen wr drosodd i olwg y ffarm."
+
+Galwodd y baili heibio i Hafod Hwntw fel yr addysgwyd ef: a thrwy lawer o
+gymell ac o daerni a son gryn dipyn am degwch haelfrydig Lord Protection,
+a gwerth ffafraeth teulu y Green, a chroesawder y gymdogaeth, ac eangder
+y ffarm; a thrwy i rai o ferched Hafod Hwntw gefnogi ei a raeth,
+llwyddodd y baili i gael gan yr hen wr ddyfod gydag ef heibio i Gilhaul
+wrth ddychwelyd adref o'r ffair. Ond erbyn eu dyfod at y Cross Keys nid
+oedd ar yr hen wr eisiau na bwyd na diod. Nid oedd ond newydd orffen
+bwyta y bara a'r cig oedd ganddo yn ei boced, ac yr oedd newydd drachtio
+yn o ddwfn o ffynnon y Graigwen wrth ddyfod heibio. Rhoddodd gwart o
+flawd ceirch a dwfr i'w ferlyn, a gyrrodd i fynu ar unwaith tua Chilhaul;
+a thaflodd ei olwg o'i amgylch ryw ddwywaith wrth yrru i fynu tua'r ty,
+ac aeth yn bur syth drwy y buarth, ac i fyny tua'r ffriddoedd, a
+gofynnodd ryw ddau neu dri o gwestiynau i'r baili yn nghylch y rhent a'r
+trethoedd, a'r tenant diweddaf a'r un a fuasai yno o'i flaen. Dywedodd y
+baili y cai yr holl hanes i gyd gan deulu y steward, ac erfyniodd yn daer
+iawn arno alw yn y Green.
+
+"Na," meddai'r hen ddyn, "byddai yn beth hollol ddiles i mi fyned cyn
+belled a'r Green. Yr wyf yn gwybod yn barod gymaint ag sydd arnaf eisieu
+wybod am hanes ac am ragorion Cilhaul. Y mae yn ddrwg genyf i mi deithio
+cyn belled o'm ffordd wrth ddyfod adref o'r ffair. Yr wyf am frysio yn
+awr heb golli dim amser pellach i mi gael cyrraedd adref cyn nos."
+
+Dywedodd y baili wrtho y byddai yn hollol anmhosibl iddo gyrraedd adref
+erbyn nos; a thaer erfyniodd arno drachefn a thrachefn i alw yn y Green i
+gael ychydig luniaeth a feed i'w ferlyn; a lletya y noson honno yn y
+Green neu yn Nhgilhaul; ac y cai gychwyn adref gyda'r wawr bore
+drannoeth.
+
+"Na thanci," meddai'r hen wr, "mi af fi adref yn burion heno. Gallaf
+gyrraedd adref dros y mynyddau yn lled agos erbyn nos. Bydd tipyn o
+leuad yn y dechreunos. Yr wyf fi mor gyfarwydd a llwybrau y mynyddoedd
+ag ydwyf a ffyrdd y gwaelodion. Y mae aderyn yn y llaw yn Hafod Hwntw yn
+werth dau yn y llwyn yn Nghilhaul." Ac ar hynny, trodd yr hen wr ben ei
+ferlyn broc caled tua'i gartref, a gyrrodd yn bur fywiog dros y
+ffriddoedd, ac ni welodd y baili mo'i wyneb caled sych garw byth mwyach.
+
+Ymboenodd y steward a'i deulu lawer am i'r hen wr ddychwelyd felly heb
+iddynt gael ei weled; a danghosent eu nwydau drwg tuag at bawb o'u deutu
+mewn edrychiad, gair, a gweithred. Yr oedd colli pob gobaith am bridden
+yr hen guineas, ar ol unwaith glywed cymaint am dani, yn eu gwneyd yn
+beevish ofnadwy, ac yr oeddynt dros bob mesur o wenwynllyd wrth y baili.
+Aethant o'r diwedd mor gas wrtho nes y gwylltiodd yntau i'w natur ddrwg,
+a dyna fe a'i galon yn berwi, a'i wefusau mawrion yn crynnu, yn torri
+allan i ddweyd yn wyneb y steward a'i deulu,--
+
+"Ni safaf fi mo hyn ddim yn hwy. Yr wyf fi wedi gwneyd fy ngoreu i chwi
+bob amser, a gwyddoch chwithau hynny yn bur dda. Y mae Cilhaul wedi
+costio i mi lawer iawn o ludded ac o ofid. Nid fy nghynllun i oedd
+cyrchu yr Herefords a'r Southdowns yma. Cyflawnais eich eirchion yn mhob
+dim yn y dull llawnaf a manylaf. Aethum yr holl ffordd i Hafod Hwntw fel
+yr oeddych wedi ceisio gennyf. Collais fy ffordd yn y niwl, a bu agos
+iawn i mi golli fy mywyd ar y mynydd wrth groesi Rhyd du Cors Rheidol. Yr
+oedd llif y nant yn bur wyllt, ac yn bur ddwfn, ar ol y gwlawogydd.
+Llwyddais i gael yr hen ddyn i lawr yn ol eich dymuniad. Gwyddech yn
+burion yr amser yr oeddym i fod wrth y Cross Keys, a buasai yn hawdd iawn
+i chwi neu un o'ch meibion fod yno, neu wrth Gilhaul, i gyfarfod yr hen
+wr. Buasai yn rhyw foddhad i chwi eich bod wedi cael ei weled, er na
+buasai hynny o ddim lles yn y byd. Yr oedd yn ddigon eglur o'r foment
+gyntaf y daeth yr hen wr i olwg Cilhaul na wnai ymdroi dim yn ei gylch,
+ond y dychwelai yn unionsyth ar draws y bryniau cyn gynted ag y medrai
+tua'i hen Hafod Hwntw. Y mae yr hen wr, er ei fod yn gwisgo gwasgod
+gron, a byclau dyddiau Bess, yn bur graff a hirben, ac yr wyf yn gwbl
+sicr na buasai dau ddwsin o stewardiaid byth yn ei droi hanner chwarter
+modfedd o'i lwybr; a byddai yn hollol wallgofrwydd i ddisgwyl i un dyn yn
+ei bwyll, os bydd ganddo hanner gronyn o'r synwyr mwyaf cyffredin,
+gymeryd Cilhaul dan ei beichiau presennol."
+
+"Wel, beth wnawn ni?" meddai'r steward, dan ollwng hir ochenaid allan o
+waelod ei galon. "Yr ydym ni wedi gwneyd cam trwm cas brwnt iawn a'r
+Carefuls. Yr wyf yn clywed eu bod hwy yn awr wedi prynnu section hyfryd
+o dir bras ffrwythlawn ar lan y Missouri."
+
+"Ydynt, syr, y maent yn gwneyd yn rhagorol yno. Y mae ganddynt ffarm
+fawr ardderchog heb ddim beichiau i'w llwytho. Y maent yn cael yno y
+cnydau mwyaf godidog, heb brynnu na guano na dim arall, ac y maent yn awr
+ar brynnu y sections cysylltiedig a hi. Y maent i'w cael, a theitl y
+llywodraeth iddynt, am lai na chwe swllt y cyfair; ac y mae un o
+railffyrdd mawrion y gorllewin yn rhedeg yn awr drwy gwrr isaf eu
+tiroedd.'
+
+"Yr wyf yn ofni felly nad oes dim gobaith i ni eu cael hwy byth yn ol, ac
+y bydd Cilhaul ar ein llaw am flwyddyn eto."
+
+"Bydd, syr, bydd Cilhaul ar eich llaw hyd ddydd brawd, os na wnewch chwi
+gynnyg rhyw gyfnewidiad."
+
+"Pa fodd y gallaf fi gynnyg unrhyw gyfnewidiad yn awr ar ol i ni ymddwyn
+fel y gwnaethom tuag at y Carefuls? Pa fodd byth y wynebaf yr Audit
+nesaf? Pa fodd y meiddiaf ddangos fy wyneb i'm lord? Pa beth a wnaf,
+neu a ddywedaf, nis gwn yn y byd. Yn boeth ulw y bo yr hen Gilhaul yna.
+Pe medrid ei gwthio i rywle o'r golwg, byddai yn drugaredd i mi. Gwynfyd
+pe ceid rhyw wrach i'w rheibio."
+
+"Yr ydych chwi wedi gwneyd hynny yn barod," ebe y baili. "Byddai yn
+eithaf peth i chwi gyflogi llong fawr fawr i'w chludo draw ymhell i'r
+gorllewin dros y tonnau ar ol y Carefuls. Dichon y gwnaent hwy rywbeth o
+honi. Neu pe digwyddai i'r llong a hithau suddo ar fanciau tywod
+Newfoundland, byddai hynny yn well fyth. Yr wyf yn gwybod y byddai yn
+llawer gwell i chwi ac i'r meistr tir ei hanfon felly dros y mor nag i
+chwi ei chadw ymlaen ar eich llaw i'w thrin. Costiai ei phacio i fyny
+dipyn o drafferth i chwi, a byddai ei mudiad ymaith yn dipyn bach o
+golled i'r Frenhines ac i'r Eglwys, i'r person ac i'r cardotyn; ond
+byddai yn fendith fawr i chwi, os nad ellwch ei gosod."
+
+"O dangio di, baili, y rascal dwbl pan; paid di a cracio dy jokes
+creulawn fel yna i'm diraddio i."
+
+"Wel, syr, mi beidiaf fi yn rhwydd iawn; ond yr ydych chwi a'ch teulu yn
+ddiweddar wedi cracio pethau bryntach na jokes yn fy erbyn i, ac ni
+chymeraf fi ddim yn chwaneg o'r pethau hynny oddiwrth neb o honoch. Y
+mae yn gwaedu fy nghalon y funud yma i gofio am y triniaethau creulawn a
+gwarthus a gafodd y Carefuls pan dan eich stewardiaeth chwi. Yr wyf fi
+wedi gwneyd i fyny fy meddwl i fyned ar eu hol i America y gwanwyn nesaf.
+Y mae yn ofid mawr gennyf yn awr na buaswn wedi myned gyda hwy.
+Cymydogion teg, caredig, a boneddigaidd oeddynt. Os oeddynt yn cwyno
+weithiau yn erbyn gorthrymder, cawsant ddigon o achos i gwyno; ac heblaw
+bod yn foddlon i bawb gael eu hawliau gwladol a chrefyddol, yr oeddynt yn
+bur barod eu cymwynasau a'u helusenau. Yr wyf yn benderfynol i fyned ar
+eu hol yn ddioed. Y mae lle ardderchog yn America i failiaid ffermydd
+ymdrechgar a medrus. Gellwch chwilio am baili newydd yn fy lle pan y
+mynnoch; ac yr wyf yn gobeithio y caiff hwnnw fwy o gysur, a gwell lwc,
+yn Nghilhaul nag a gefais i."
+
+Dyna ychydig o hanes helyntion diweddar Cilhaul Uchaf. Ni cheisiaf ar
+hyn o bryd mo'u holrhain ddim pellach. Yr oedd helbul a gofidiau y
+steward wrth fethu gosod Cilhaul, a rhai ffermydd eraill a ddaethant ar
+ei law, yn ei boeni ddydd a nos. Yr oedd yr adgofion o'i ymddygiad at
+rai o'r tenantiaid ffyddlonaf i'w meistr a welwyd erioed yn llosgi
+ddyfnach ddyfnach yn ei fynwes. Yr oedd ei ddanodion ef a'i deulu i'w
+gilydd o'u barbareidddra dirmygus tuag at y Carefuls yn ennyn yn bur
+fynych fwy na llonaid y ty o fflamau annedwyddwch a chynnen. Yr oedd
+croes-esboniadau y steward wrth ei lord yn ddamniol i'w gymeriad fel
+goruchwyliwr. Glyn yr anfri wrth ei enw tra bydd byw, a glyn wrth ei
+goffadwriaeth am oesoedd ar ol iddo farw. Byddai darlunio y cynhennau fu
+yn ei deulu, a danodion ei gydoruchwylwyr, a'r modd y bu rhyngddo a'i
+arglwydd, a'r sport fyddai rhai o'i hen gyfeillion yn wneyd o hono o
+gylch bar y Cross Keys, yn bethau rhy anhawdd i mi eu llawn ddarlunio. Y
+mae y rhan fwyaf o'r pethau hynny wedi cael eu cadw yn secrets. Gellir
+dychmygu, a dychmygu yn bur gywir, ond nid doeth adrodd dim heb fod sail
+eglur a diamheuol iddo.
+
+Yr wyf yn clywed fod fy nghefnder awenyddol Twm Edward o'r Nant wedi
+rhoddi ei ffarm i fyny, a'i fod a'i fryd ar ymfudo i ryw Canterbury
+Settlement yn ynysoedd y de; a'i fod wedi parotoi hanesion manylaidd am
+stewardiaeth y Green, a thenantiaeth y cwr uchaf o estate Lord
+Protection, i'w cyhoeddi yn llyfr go fawr cyn iddo ymadael o'r wlad. Y
+mae Twm wedi cael y cyfleusderau mwyaf manteisiol i sylwi a deall fel y
+mae pethau wedi myned yn mlaen er's llawer blwyddyn yn y Green, ac yn yr
+Hall, ac ar hyd yr holl estate; ac yr wyf yn sicr y bydd hanesion ac
+adroddiadau Twm yn rhai cryfion ac addysgiadol, yn enwedig ei adroddiadau
+o gyfrwys ddichellion y steward a'i deulu i lunio a derbyn a thraethu
+clep ac athrod, ac i chwythu cynnen rhwng cymydogion, er mwyn i'r steward
+drwy hynny gael achlysur i feirniadu yn yr Hall, yn nghlyw y lord a'i
+gymdeithion, ar dymherau y tenantiaid, a chael achlysur hefyd i ddifrio a
+gwthio ymaith y tenant ymdrechgar fydd yn rhy onest i werthu ei gydwybod
+am bris dirmygol tylwyth y steward. Bydd llyfr Twm o hanes teulu y
+steward yn werth ei gael, a gwnaiff les.
+
+Yr wyf finnau yn bwriadu, pan gaf hamdden i grynhoi at eu gilydd, gyda
+thipyn o ofal a manylder, fy adgofion o hanes Nant y Dderwen, a'r Clawdd
+Melyn, a'r Caeau Llwydion, a'r Ffos Fach, a'r Bryn Tew, a Than yr Wtra,
+a'r Berth Lwyd, a'r Gro Arw, a Glyn Carfan, a'r Coed Crin, a Llwyn y
+Pryfaid, a Maes y Brwyn, a'r Gelli Lwyd, a Bryndu, a'r Bryniau Mawr, a
+Thal y Bont, a'r Ty Uchel, a Garth y Drain, a Math y Dafarn; ac amryw o
+ffermydd eraill oddeutu y gymydogaeth. Yn y rhan fwyaf o'r mannau a
+nodwyd, cyflawnwyd anghyfiawnderau o'r fath greulonaf tuag at hen
+denantiaid o'r cymeriad mwyaf ymdrechgar a ffyddlon; a dangoswyd at rai o
+honynt, yn enwedig tuag at weddwon a phlant amddifaid, fath o
+flagardiaeth ag y buasai yn gywilydd gan grach-stewardiaid Novogorod
+feddwl am ei gyflawni.
+
+Yr wyf fi yn gwresog garu hen wlad fy ngenedigaeth, a gwn fod y rhan
+fwyaf o'm cymydogion yn hoff iawn fel finnau o'u gwlad, er tloted ydyw,
+a'u bod wedi gwneuthur ymdrechion anghredadwy i geisio byw ynddi: ond pan
+feddyliwyf am yr addewidion anogaethol o dal sicr am eu llafur i
+amaethwyr a llafurwyr diwyd a gofalus sy'n cael eu dal allan iddynt gan
+ddyffrynoedd llydain breision cyfoethog taleithiau gorllewin America, a
+holl wastadedd y ddwy Canada, a phorfeydd gwelltog anherfynol
+Australasia, a gwastad-diroedd iachus rhai o wledydd hyfryd Asia Leiaf a
+gororau Affrica, a deniadau y Canterbury Settlements, a'r Sydney Herbert
+Settlements, a hyd yn nod rai o dywysogaethau yr Ynys Werdd yn ein
+hymyl;--pan feddyliwyf, meddaf, am y deniadau a'r gwahoddiadau taerion
+cryfion ac anogaethol sy'n cyrraedd y ffarmwyr a'r gweithwyr o'r holl
+fannau hyn; a phan gofiwyf am luosogiad cyflym y cyfleusderau i deithio
+ar bob llaw, ac am y niferoedd sydd wedi ymfudo yn barod o'n gwlad fach
+dlawd lethedig; a phan feddyliwyf am y dull barbaraidd yr ydys yn baeddu,
+ac yn beichio, ac yn athrodi, ac yn hustyngio, ac yn diraddio, ac yn
+mathru dan draed y ffarmwyr mwyaf diwyd ac ymdrechgar a welodd ein hen
+gymoedd erioed,--yr wyf yn ofni yn wir yr ymfuda pob rhinwedd a
+diwydrwydd ymaith ym mhell oddiyma, a hynny yn bur fuan, os na bydd i
+arglwyddi tiroedd a'u crach-stewardiaid, ynghyda'u ceraint eglwysig,
+ymddwyn yn decach ac yn foneddigeiddiach tuag at denantiaid cydwybodol a
+llafurus
+
+
+
+
+BYWYDAU DISTADL.
+
+
+DONAWR 18, 1850. MARY WILLIAMS, Garsiwn. Bu yn dra diwyd yn holl
+gynhulliadau yr eglwys drwy hir dymor ei haelodaeth; ac yr oedd yn hyfryd
+sylwi ar ei llygaid llawn pan y byddai yn gwrando "yr ymadrodd am y
+groes." Un o dlodion y tir ydoedd; ac wrth ei gweled weithiau yn y tes,
+ac weithiau yn y tywydd, yn cerdded o amgylch i geisio elusen, bu yn alar
+gennym lawer tro na buasai hyfforddiad boreuol wedi ei roddi i un o lygad
+mor graff i drin gardd lysiau gryno wrth ymyl ei bwthyn. Buasai yn
+hyfryd ei gweled yn gwrteithio, ac yn chwynnu, ac yn priddo ei gryniau;
+ac yn cynhaeafu camamil, chwerwlys lwyd, troed y dryw, cwmffre, dant y
+llew, cribau Sant Ffraid, y gemi goch, a llysiau rhinweddol eraill.
+Buasai rhyw wasanaeth bychan felly, nid yn unig yn elw i gymdeithas, ond
+yn ddifyrrwch i'w mheddwl, ac yn gymorth i'w myfyrdod a'i gweddi, drwy ei
+chadw o gymaedd lludded a phrofedigaethau rhodianna aflesol. Y mae
+llawer-oedd wedi treulio rhan fawr o'u dyddiau i gerdded o dy i dy, pan y
+gallasent, ond rhoddi eu dyfais ar waith, gael rhyw oruchwylion difyrrus
+a buddiol i'w cyflawni gartref. Y mae rhy fach yn cael ei wneyd gan
+flaenoriaid cymydogaethau i hyfforddi a gwobrwyo diwydrwydd ac ymdrech
+mewn pethau bychain.
+
+Chwefror 1, 1850. THOMAS EVANS, Aber. Un isel "hawdd ei drin" ydoedd;
+distaw yn y teuluoedd lle y gweinyddai; o ymadrodd byrr sylweddol yn y
+gymdeithas grefyddol; ac o nerth taerineb anarferol mewn gweddi.
+
+
+
+***END OF THE PROJECT GUTENBERG EBOOK GWAITH SAMUEL ROBERTS***
+
+
+******* This file should be named 14354.txt or 14354.zip *******
+
+
+This and all associated files of various formats will be found in:
+https://www.gutenberg.org/dirs/1/4/3/5/14354
+
+
+
+Updated editions will replace the previous one--the old editions
+will be renamed.
+
+Creating the works from public domain print editions means that no
+one owns a United States copyright in these works, so the Foundation
+(and you!) can copy and distribute it in the United States without
+permission and without paying copyright royalties. Special rules,
+set forth in the General Terms of Use part of this license, apply to
+copying and distributing Project Gutenberg-tm electronic works to
+protect the PROJECT GUTENBERG-tm concept and trademark. Project
+Gutenberg is a registered trademark, and may not be used if you
+charge for the eBooks, unless you receive specific permission. If you
+do not charge anything for copies of this eBook, complying with the
+rules is very easy. You may use this eBook for nearly any purpose
+such as creation of derivative works, reports, performances and
+research. They may be modified and printed and given away--you may do
+practically ANYTHING with public domain eBooks. Redistribution is
+subject to the trademark license, especially commercial
+redistribution.
+
+
+
+*** START: FULL LICENSE ***
+
+THE FULL PROJECT GUTENBERG LICENSE
+PLEASE READ THIS BEFORE YOU DISTRIBUTE OR USE THIS WORK
+
+To protect the Project Gutenberg-tm mission of promoting the free
+distribution of electronic works, by using or distributing this work
+(or any other work associated in any way with the phrase "Project
+Gutenberg"), you agree to comply with all the terms of the Full Project
+Gutenberg-tm License (available with this file or online at
+https://gutenberg.org/license).
+
+
+Section 1. General Terms of Use and Redistributing Project Gutenberg-tm
+electronic works
+
+1.A. By reading or using any part of this Project Gutenberg-tm
+electronic work, you indicate that you have read, understand, agree to
+and accept all the terms of this license and intellectual property
+(trademark/copyright) agreement. If you do not agree to abide by all
+the terms of this agreement, you must cease using and return or destroy
+all copies of Project Gutenberg-tm electronic works in your possession.
+If you paid a fee for obtaining a copy of or access to a Project
+Gutenberg-tm electronic work and you do not agree to be bound by the
+terms of this agreement, you may obtain a refund from the person or
+entity to whom you paid the fee as set forth in paragraph 1.E.8.
+
+1.B. "Project Gutenberg" is a registered trademark. It may only be
+used on or associated in any way with an electronic work by people who
+agree to be bound by the terms of this agreement. There are a few
+things that you can do with most Project Gutenberg-tm electronic works
+even without complying with the full terms of this agreement. See
+paragraph 1.C below. There are a lot of things you can do with Project
+Gutenberg-tm electronic works if you follow the terms of this agreement
+and help preserve free future access to Project Gutenberg-tm electronic
+works. See paragraph 1.E below.
+
+1.C. The Project Gutenberg Literary Archive Foundation ("the Foundation"
+or PGLAF), owns a compilation copyright in the collection of Project
+Gutenberg-tm electronic works. Nearly all the individual works in the
+collection are in the public domain in the United States. If an
+individual work is in the public domain in the United States and you are
+located in the United States, we do not claim a right to prevent you from
+copying, distributing, performing, displaying or creating derivative
+works based on the work as long as all references to Project Gutenberg
+are removed. Of course, we hope that you will support the Project
+Gutenberg-tm mission of promoting free access to electronic works by
+freely sharing Project Gutenberg-tm works in compliance with the terms of
+this agreement for keeping the Project Gutenberg-tm name associated with
+the work. You can easily comply with the terms of this agreement by
+keeping this work in the same format with its attached full Project
+Gutenberg-tm License when you share it without charge with others.
+
+1.D. The copyright laws of the place where you are located also govern
+what you can do with this work. Copyright laws in most countries are in
+a constant state of change. If you are outside the United States, check
+the laws of your country in addition to the terms of this agreement
+before downloading, copying, displaying, performing, distributing or
+creating derivative works based on this work or any other Project
+Gutenberg-tm work. The Foundation makes no representations concerning
+the copyright status of any work in any country outside the United
+States.
+
+1.E. Unless you have removed all references to Project Gutenberg:
+
+1.E.1. The following sentence, with active links to, or other immediate
+access to, the full Project Gutenberg-tm License must appear prominently
+whenever any copy of a Project Gutenberg-tm work (any work on which the
+phrase "Project Gutenberg" appears, or with which the phrase "Project
+Gutenberg" is associated) is accessed, displayed, performed, viewed,
+copied or distributed:
+
+This eBook is for the use of anyone anywhere at no cost and with
+almost no restrictions whatsoever. You may copy it, give it away or
+re-use it under the terms of the Project Gutenberg License included
+with this eBook or online at www.gutenberg.org
+
+1.E.2. If an individual Project Gutenberg-tm electronic work is derived
+from the public domain (does not contain a notice indicating that it is
+posted with permission of the copyright holder), the work can be copied
+and distributed to anyone in the United States without paying any fees
+or charges. If you are redistributing or providing access to a work
+with the phrase "Project Gutenberg" associated with or appearing on the
+work, you must comply either with the requirements of paragraphs 1.E.1
+through 1.E.7 or obtain permission for the use of the work and the
+Project Gutenberg-tm trademark as set forth in paragraphs 1.E.8 or
+1.E.9.
+
+1.E.3. If an individual Project Gutenberg-tm electronic work is posted
+with the permission of the copyright holder, your use and distribution
+must comply with both paragraphs 1.E.1 through 1.E.7 and any additional
+terms imposed by the copyright holder. Additional terms will be linked
+to the Project Gutenberg-tm License for all works posted with the
+permission of the copyright holder found at the beginning of this work.
+
+1.E.4. Do not unlink or detach or remove the full Project Gutenberg-tm
+License terms from this work, or any files containing a part of this
+work or any other work associated with Project Gutenberg-tm.
+
+1.E.5. Do not copy, display, perform, distribute or redistribute this
+electronic work, or any part of this electronic work, without
+prominently displaying the sentence set forth in paragraph 1.E.1 with
+active links or immediate access to the full terms of the Project
+Gutenberg-tm License.
+
+1.E.6. You may convert to and distribute this work in any binary,
+compressed, marked up, nonproprietary or proprietary form, including any
+word processing or hypertext form. However, if you provide access to or
+distribute copies of a Project Gutenberg-tm work in a format other than
+"Plain Vanilla ASCII" or other format used in the official version
+posted on the official Project Gutenberg-tm web site (www.gutenberg.org),
+you must, at no additional cost, fee or expense to the user, provide a
+copy, a means of exporting a copy, or a means of obtaining a copy upon
+request, of the work in its original "Plain Vanilla ASCII" or other
+form. Any alternate format must include the full Project Gutenberg-tm
+License as specified in paragraph 1.E.1.
+
+1.E.7. Do not charge a fee for access to, viewing, displaying,
+performing, copying or distributing any Project Gutenberg-tm works
+unless you comply with paragraph 1.E.8 or 1.E.9.
+
+1.E.8. You may charge a reasonable fee for copies of or providing
+access to or distributing Project Gutenberg-tm electronic works provided
+that
+
+- You pay a royalty fee of 20% of the gross profits you derive from
+ the use of Project Gutenberg-tm works calculated using the method
+ you already use to calculate your applicable taxes. The fee is
+ owed to the owner of the Project Gutenberg-tm trademark, but he
+ has agreed to donate royalties under this paragraph to the
+ Project Gutenberg Literary Archive Foundation. Royalty payments
+ must be paid within 60 days following each date on which you
+ prepare (or are legally required to prepare) your periodic tax
+ returns. Royalty payments should be clearly marked as such and
+ sent to the Project Gutenberg Literary Archive Foundation at the
+ address specified in Section 4, "Information about donations to
+ the Project Gutenberg Literary Archive Foundation."
+
+- You provide a full refund of any money paid by a user who notifies
+ you in writing (or by e-mail) within 30 days of receipt that s/he
+ does not agree to the terms of the full Project Gutenberg-tm
+ License. You must require such a user to return or
+ destroy all copies of the works possessed in a physical medium
+ and discontinue all use of and all access to other copies of
+ Project Gutenberg-tm works.
+
+- You provide, in accordance with paragraph 1.F.3, a full refund of any
+ money paid for a work or a replacement copy, if a defect in the
+ electronic work is discovered and reported to you within 90 days
+ of receipt of the work.
+
+- You comply with all other terms of this agreement for free
+ distribution of Project Gutenberg-tm works.
+
+1.E.9. If you wish to charge a fee or distribute a Project Gutenberg-tm
+electronic work or group of works on different terms than are set
+forth in this agreement, you must obtain permission in writing from
+both the Project Gutenberg Literary Archive Foundation and Michael
+Hart, the owner of the Project Gutenberg-tm trademark. Contact the
+Foundation as set forth in Section 3 below.
+
+1.F.
+
+1.F.1. Project Gutenberg volunteers and employees expend considerable
+effort to identify, do copyright research on, transcribe and proofread
+public domain works in creating the Project Gutenberg-tm
+collection. Despite these efforts, Project Gutenberg-tm electronic
+works, and the medium on which they may be stored, may contain
+"Defects," such as, but not limited to, incomplete, inaccurate or
+corrupt data, transcription errors, a copyright or other intellectual
+property infringement, a defective or damaged disk or other medium, a
+computer virus, or computer codes that damage or cannot be read by
+your equipment.
+
+1.F.2. LIMITED WARRANTY, DISCLAIMER OF DAMAGES - Except for the "Right
+of Replacement or Refund" described in paragraph 1.F.3, the Project
+Gutenberg Literary Archive Foundation, the owner of the Project
+Gutenberg-tm trademark, and any other party distributing a Project
+Gutenberg-tm electronic work under this agreement, disclaim all
+liability to you for damages, costs and expenses, including legal
+fees. YOU AGREE THAT YOU HAVE NO REMEDIES FOR NEGLIGENCE, STRICT
+LIABILITY, BREACH OF WARRANTY OR BREACH OF CONTRACT EXCEPT THOSE
+PROVIDED IN PARAGRAPH F3. YOU AGREE THAT THE FOUNDATION, THE
+TRADEMARK OWNER, AND ANY DISTRIBUTOR UNDER THIS AGREEMENT WILL NOT BE
+LIABLE TO YOU FOR ACTUAL, DIRECT, INDIRECT, CONSEQUENTIAL, PUNITIVE OR
+INCIDENTAL DAMAGES EVEN IF YOU GIVE NOTICE OF THE POSSIBILITY OF SUCH
+DAMAGE.
+
+1.F.3. LIMITED RIGHT OF REPLACEMENT OR REFUND - If you discover a
+defect in this electronic work within 90 days of receiving it, you can
+receive a refund of the money (if any) you paid for it by sending a
+written explanation to the person you received the work from. If you
+received the work on a physical medium, you must return the medium with
+your written explanation. The person or entity that provided you with
+the defective work may elect to provide a replacement copy in lieu of a
+refund. If you received the work electronically, the person or entity
+providing it to you may choose to give you a second opportunity to
+receive the work electronically in lieu of a refund. If the second copy
+is also defective, you may demand a refund in writing without further
+opportunities to fix the problem.
+
+1.F.4. Except for the limited right of replacement or refund set forth
+in paragraph 1.F.3, this work is provided to you 'AS-IS', WITH NO OTHER
+WARRANTIES OF ANY KIND, EXPRESS OR IMPLIED, INCLUDING BUT NOT LIMITED TO
+WARRANTIES OF MERCHANTIBILITY OR FITNESS FOR ANY PURPOSE.
+
+1.F.5. Some states do not allow disclaimers of certain implied
+warranties or the exclusion or limitation of certain types of damages.
+If any disclaimer or limitation set forth in this agreement violates the
+law of the state applicable to this agreement, the agreement shall be
+interpreted to make the maximum disclaimer or limitation permitted by
+the applicable state law. The invalidity or unenforceability of any
+provision of this agreement shall not void the remaining provisions.
+
+1.F.6. INDEMNITY - You agree to indemnify and hold the Foundation, the
+trademark owner, any agent or employee of the Foundation, anyone
+providing copies of Project Gutenberg-tm electronic works in accordance
+with this agreement, and any volunteers associated with the production,
+promotion and distribution of Project Gutenberg-tm electronic works,
+harmless from all liability, costs and expenses, including legal fees,
+that arise directly or indirectly from any of the following which you do
+or cause to occur: (a) distribution of this or any Project Gutenberg-tm
+work, (b) alteration, modification, or additions or deletions to any
+Project Gutenberg-tm work, and (c) any Defect you cause.
+
+
+Section 2. Information about the Mission of Project Gutenberg-tm
+
+Project Gutenberg-tm is synonymous with the free distribution of
+electronic works in formats readable by the widest variety of computers
+including obsolete, old, middle-aged and new computers. It exists
+because of the efforts of hundreds of volunteers and donations from
+people in all walks of life.
+
+Volunteers and financial support to provide volunteers with the
+assistance they need, is critical to reaching Project Gutenberg-tm's
+goals and ensuring that the Project Gutenberg-tm collection will
+remain freely available for generations to come. In 2001, the Project
+Gutenberg Literary Archive Foundation was created to provide a secure
+and permanent future for Project Gutenberg-tm and future generations.
+To learn more about the Project Gutenberg Literary Archive Foundation
+and how your efforts and donations can help, see Sections 3 and 4
+and the Foundation web page at https://www.gutenberg.org/fundraising/pglaf.
+
+
+Section 3. Information about the Project Gutenberg Literary Archive
+Foundation
+
+The Project Gutenberg Literary Archive Foundation is a non profit
+501(c)(3) educational corporation organized under the laws of the
+state of Mississippi and granted tax exempt status by the Internal
+Revenue Service. The Foundation's EIN or federal tax identification
+number is 64-6221541. Contributions to the Project Gutenberg
+Literary Archive Foundation are tax deductible to the full extent
+permitted by U.S. federal laws and your state's laws.
+
+The Foundation's principal office is located at 4557 Melan Dr. S.
+Fairbanks, AK, 99712., but its volunteers and employees are scattered
+throughout numerous locations. Its business office is located at
+809 North 1500 West, Salt Lake City, UT 84116, (801) 596-1887, email
+business@pglaf.org. Email contact links and up to date contact
+information can be found at the Foundation's web site and official
+page at https://www.gutenberg.org/about/contact
+
+For additional contact information:
+ Dr. Gregory B. Newby
+ Chief Executive and Director
+ gbnewby@pglaf.org
+
+Section 4. Information about Donations to the Project Gutenberg
+Literary Archive Foundation
+
+Project Gutenberg-tm depends upon and cannot survive without wide
+spread public support and donations to carry out its mission of
+increasing the number of public domain and licensed works that can be
+freely distributed in machine readable form accessible by the widest
+array of equipment including outdated equipment. Many small donations
+($1 to $5,000) are particularly important to maintaining tax exempt
+status with the IRS.
+
+The Foundation is committed to complying with the laws regulating
+charities and charitable donations in all 50 states of the United
+States. Compliance requirements are not uniform and it takes a
+considerable effort, much paperwork and many fees to meet and keep up
+with these requirements. We do not solicit donations in locations
+where we have not received written confirmation of compliance. To
+SEND DONATIONS or determine the status of compliance for any
+particular state visit https://www.gutenberg.org/fundraising/donate
+
+While we cannot and do not solicit contributions from states where we
+have not met the solicitation requirements, we know of no prohibition
+against accepting unsolicited donations from donors in such states who
+approach us with offers to donate.
+
+International donations are gratefully accepted, but we cannot make
+any statements concerning tax treatment of donations received from
+outside the United States. U.S. laws alone swamp our small staff.
+
+Please check the Project Gutenberg Web pages for current donation
+methods and addresses. Donations are accepted in a number of other
+ways including including checks, online payments and credit card
+donations. To donate, please visit:
+https://www.gutenberg.org/fundraising/donate
+
+
+Section 5. General Information About Project Gutenberg-tm electronic
+works.
+
+Professor Michael S. Hart was the originator of the Project Gutenberg-tm
+concept of a library of electronic works that could be freely shared
+with anyone. For thirty years, he produced and distributed Project
+Gutenberg-tm eBooks with only a loose network of volunteer support.
+
+Project Gutenberg-tm eBooks are often created from several printed
+editions, all of which are confirmed as Public Domain in the U.S.
+unless a copyright notice is included. Thus, we do not necessarily
+keep eBooks in compliance with any particular paper edition.
+
+Most people start at our Web site which has the main PG search facility:
+
+ https://www.gutenberg.org
+
+This Web site includes information about Project Gutenberg-tm,
+including how to make donations to the Project Gutenberg Literary
+Archive Foundation, how to help produce our new eBooks, and how to
+subscribe to our email newsletter to hear about new eBooks.
+